Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Croeso i Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays. Mae'r ddogfen hon yn egluro'r hyn sydd i'w ddisgwyl pan fyddwch yn cyrraedd yr adeilad ac yn ei adael. Rydym yn gobeithio y bydd yr wybodaeth yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich ymweliad, boed hwnnw i fynychu cyfarfod neu i gael cyfweliad.

Mae'r wybodaeth yn sôn am ddod i mewn i'r adeilad, mynd drwy'r system ddiogelwch, ac aros am y person a fydd yn gofalu amdanoch ac yn eich tywys i'ch cyfweliad/cyfarfod. Mae'r ddogfen hon hefyd yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â gadael yr adeilad.

Cofiwch na chaniateir ichi ddod â rhai eitemau penodol i mewn i'r adeilad, ac y bydd y staff diogelwch yn mynd ag unrhyw eitemau a waherddir oddi wrthych. Gan ddibynnu ar natur yr eitemau hynny, cânt eu rhoi yn ôl ichi fel arfer ar ddiwedd eich ymweliad. Mae'r eitemau a waherddir yn cynnwys cyllyll ac eitemau miniog neu sydd â llafn, yn ogystal â thân gwyllt, unrhyw fath o ffrwydron, unrhyw arfau tanio, neu unrhyw beth sy'n debyg i arf tanio.

Nid oes lle i gadw cotiau neu fagiau, felly bydd angen ichi gadw eich eiddo gyda chi bob amser. Mae cyfleusterau toiled ar gael ar y safle, gan gynnwys cyfleusterau hygyrch, cyfleusterau neillryw, a man i newid clytiau babanod. Nodwch: ni chewch ddefnyddio'rcyfleusterau hyn nes bod y person sy'n gofalu amdanoch wedi dod i gyfarfod â chi.

Hefyd, mae cyfleusterau arlwyo ar y safle, lle cewch brynu diodydd poeth neu oer, byrbrydau, brechdanau, neu bryd o fwyd, cyn belled â bod y person sy'n gofalu amdanoch gyda chi.

Cyrraedd yr adeilad

Fe welwch fod adeilad Parc Cathays wedi ei rannu'n ddau. Mae'r adeilad hŷn, sef Parc Cathays 1 (CP1), yn sefyll o flaen yr adeilad mwy modern, Parc Cathays 2 (CP2). Byddwch yn dod i mewn drwy CP2.

Mae mynedfeydd ar ochr dde ac ar ochr chwith yr adeilad, ond fel arfer dim ond un fynedfa fydd ar agor i gerbydau (a bydd conau traffig yn dangos pa fynedfa yw honno). Os oes lle parcio ar y safle wedi ei neilltuo ar eich cyfer, dylech stopio o flaen y rhwystr diogelwch; bydd swyddog yn gofyn am gael gweld eich cadarnhad bod lle parcio wedi ei neilltuo ar eich cyfer.

Ar adegau pan fydd diogelwch ar lefel uwch, mae'n bosibl y bydd swyddogion yn gwneud rhagor o wiriadau ar eich cerbyd. Unwaith y bydd y swyddog diogelwch wedi clirio eich cerbyd, bydd yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd eich lle parcio. Bydd y rhwystr yn cael ei godi, ond rhaid aros nes bod y golau'n wyrdd cyn mynd heibio iddo. Mae'r holl leoedd parcio wedi eu marcio gyda rhif ar y llawr; bydd yr wybodaeth sy'n cadarnhau eich lle hefyd yn nodi'r rhif perthnasol. Ar ôl ichi barcio, byddwch yn gweld arwyddion at y grisiau a'r lifftiau, y ddau'n arwain at y man dan do y tu allan i CP2.

Os nad ydych am yrru i mewn i'r maes parcio, cewch ddod at yr adeilad o'r ochr dde neu o'r ochr chwith, gan ddilyn y palmant heibio'r rhwystrau diogelwch a'r swyddogion diogelwch, i gyrraedd y brif fynedfa wydr yn y man dan do. Os byddwch yn teithio ar f eic, rhowch wybod i'r dderbynfa pan fyddwch yn cyrraedd er mwyn ichi gael tag coch i glymu eich beic yn ddiogel yn ystod cyfnod eich ymweliad. Gallwch ei glymu wrth y bariau o flaen CP2. Hefyd, mae parcio talu ac arddangos ar y ffyrdd gerllaw’r adeilad, er y gall fod yn anodd cael lle ar adegau prysur.

Bob ochr i fynedfa'r adeilad, fe welwch ddrysau gwydr, a chewch agor y rhain naill ai drwy eu gwthio, neu drwy wasgu ar y botwm mawr crwn wrth ochr y drws. Bydd y drws yn agor tuag i mewn. Ewch drwy hwn, ac wedyn bydd angen ichi droi a cherdded drwy ddrws llithro crwm a fydd yn agor yn awtomatig.

Byddwch wedyn yn ardal y dderbynfa, a bydd swyddogion diogelwch yn bresennol yn yr ardal hon. Bydd angen ichi roi gwybod i'r staff ar ddesg y dderbynfa eich bod wedi cyrraedd. Bydd y staff yn gwybod i'ch disgwyl, a byddant yn gofyn i chi dangos ID ffotograffig fel pasbort neu trwydded gyrru ac i chi gwblhau ffurflen cofrestru fel ymwelydd. Byddwch yn cael pàs ymwelydd, a bydd yn rhaid ichi wisgo hwn drwy gydol eich ymweliad. Bydd staff y dderbynfa'n cysylltu â'r sawl yr ydych yn ymweld â nhw i roi gwybod eich bod wedi cyrraedd.

Nodwch: ar adegau, gall yr ardal hon fod yn brysur ac yn swnllyd. Mae'n bosibl y byddwch yn clywed seiniau peiriannau, pobl, neu'r t eledu ar y wal. Mae croeso ichi wisgo clustffonau i leihau lefel y sŵn os bydd angen. Mae system dolen sain ar y ddesg i'r rheini sy'n gwisgo cymorth clyw. Bydd staff y dderbynfa'n hapus i helpu, neu i ateb unrhyw gwestiynau yn ystod eich ymweliad.

Efallai y bydd angen ichi giwio am amser byr wrth ddesg y dderbynfa. Os ydych chi, neu rywun yn eich grŵp, ar y sbectrwm awtistiaeth, neu os oes gennych unrhyw gyflwr iechyd arall sy'n golygu eich bod chi, neu aelod arall o'ch grŵp, yn ei chael yn anodd mynd drwy'r archwiliad neu giwio, siaradwch ag aelod o'r staff diogelwch, ac mae'n bosibl y bydd hwnnw'n gallu hwyluso eich ffordd drwy'r broses ddiogelwch. Cyn dyddiad eich ymweliad, byddai'n ddefnyddiol pe gallech roi gwybod i'r sawl a fydd yn gofalu amdanoch os ydych chi, neu rywun yn eich grŵp, ar y sbectrwm awtistiaeth, neu os oes gennych chi neu berson arall gyflwr iechyd, er mwyn iddo allu trefnu gyda'r staff diogelwch.

Eiddo personol

Ar ôl ichi gael eich pàs ymwelydd, byddwch yn cael eich cyfeirio at yr ardal ar ochr chwith y dderbynfa, lle byddwch yn mynd drwy archwiliad diogelwch, a byddwch yn cael cyfarwyddyd i fynd drwy broses archwilio diogelwch fel sy'n cael eu defnyddio mewn meysydd awyr. Ar adegau prysur, hwyrach y bydd angen ichi giwio i wneud hyn, felly dylech ganiatáu digon o amser ar gyfer hyn i gyd.

Bydd angen ichi anfon eich bagiau a'ch eiddo personol drwy beiriant pelydr-x. Rhaid i bob eitem sydd wedi ei gwneud o fetel ac eitem drydanol – ee allweddi, arian, camerâu, gliniaduron, dyfeisiau tabled, ffonau symudol, etc. – gael eu tynnu o bocedi a'u rhoi yn y blwch a ddarperir.

Rhaid ichi hefyd dynnu eich côt. Bydd eich holl eitemau'n mynd drwy'r sganiwr, cyn cael eu rhoi yn ôl ichi. Os bydd angen cymorth arnoch i wneud hyn, bydd y swyddogion diogelwch wrth law i'ch helpu. Wrth i’ch bagiau a'ch blwch fynd drwy'r sganiwr, bydd y staff yn gofyn ichi symud tuag at y fynedfa fwaog sy'n canfod eitemau metel.

Y bwa canfod metel

Bydd y swyddog diogelwch yn gofyn ichi gerdded drwy fwa canfod metel, sy'n gwneud cyfres o seiniau byr uchel os bydd yn canfod unrhyw fetel. Peidiwch â phryderu. Bydd yn dangos i'r swyddog diogelwch eich bod yn gwisgo neu'n cario rhywbeth y bydd angen ei archwilio ymhellach. Os bydd hyn yn digwydd, bydd y swyddog diogelwch yn defnyddio sganiwr bach y mae'n ei ddal yn ei law, gan ei chwifio o'ch cwmpas i weld beth sydd wedi achosi i'r larwm seinio. Ni ddylai'r sganiwr bach gyffwrdd â'ch corff. Bydd y sganiwr yn gwneud sain i dynnu sylw at yr hyn sydd wedi achosi i l arwm bwa seinio. Yn aml, rhywbeth bach, fel wats neu fwcl, fydd wedi gwneud hynny. (Gweler y paragraff ar archwilio isod.)

Os nad yw cerdded drwy'r bwa canfod metel yn addas ichi, bydd y swyddog diogelwch yn eich cyfeirio at le lle bydd yn defnyddio sganiwr bach sy'n cael ei ddal yn ei law.

Nodwch: os oes gennych ffon gerdded, bydd y swyddog diogelwch yn rhoi sedd ichi eistedd i lawr tra bo'r ffon yn cael ei harchwilio, cyn ei rhoi yn ôl ichi er mwyn ichi allu cerdded drwy'r bwa.

Archwilio

Bydd swyddog diogelwch yn gofyn ichi gamu i un ochr, ac wedyn bydd yn cynnal archwiliad. Bydd yn gwneud hynny drwy ddefnyddio'r sganiwr bach y mae'n ei ddal yn ei law, gan ei chwifio o'ch cwmpas nes iddo nodi'r hyn sydd wedi achosi i'r l arwm seinio.

Gan fod yr archwiliad yn cael ei wneud â sganiwr sy'n cael ei ddal yn llaw swyddog diogelwch, gall yr archwiliad hwnnw gael ei gynnal gan ddyn neu fenyw – a chewch chithau ddweud pa un f yddai'n well gennych os byddwch yn dymuno. Gellid cynnwys cadeiriau olwyn, sgwteri, cŵn cymorth, pramiau a bygis fel rhan o'r archwiliad. Cofiwch y bydd angen i'ch eiddo personol fynd drwy'r sganiwr priodol yn dal i fod.

Mae ein holl staff wedi eu hyfforddi'n llawn i ymateb i anghenion amrywiol y rheini sy'n ymweld â'r adeilad. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno, mae croeso ichi ofyn am gymorth, a bydd aelod o staff ar gael i'ch helpu.

Casglu eiddo personol

Ar ôl ichi fynd drwy'r bwa canfod metel, ac ar ôl i'ch eiddo personol gael eu sganio, cewch eu casglu o'r blwch.

Gadael yr ardal archwilio

Ar ôl ichi gwblhau'r gwiriadau diogelwch, bydd angen ichi fynd drwy'r glwyd droi electronig i gyrraedd yr ardal lle bydd ymwelwyr yn aros. I weithredu'r glwyd droi, rhowch eich pas ymwelydd ar y pad ar yr ochr dde, a bydd y glwyd yn agor - ewch drwodd gan fynd at y seddau i aros am y person a fydd yn gofalu amdanoch. Os bydd y glwyd yn methu agor, bydd swyddog diogelwch wrth law i'ch helpu.

Os bydd gennych gadair olwyn, sgwter, ci cymorth, pram, bygi, neu unrhyw eiddo/parseli mawr, byddwch yn cael eich cyfeirio drwy glwyd sydd ar yr ochr yn hytrach na thrwy'r glwyd droi electronig.

Bydd y larwm tân yn cael ei brofi ym mharc Cathays am 8:45yb bob dydd Mawrth; nid oes angen ymateb. Os bydd larwm yn seinio ar unrhyw adeg arall pan fyddwch yn yr adeilad, bydd y person sy'n gofalu amdanoch yn gyfrifol am sicrhau eich bod yn gadael yr adeilad yn ddiogel.

Ar ôl i'ch ymweliad ddod i ben

Ar ôl i'ch ymweliad/cyfweliad ddod i ben, bydd y person sydd wedi bod yn gyfrifol am ofalu amdanoch yn eich tywys yn ôl at y dderbynfa.

Mae'r ffordd allan ar ochr chwith desg y dderbynfa. Unwaith eto, rhowch eich pas ymwelydd ar y pad ar ochr dde'r glwyd droi electronig. Bydd honno'n agor yn awtomatig. Ewch drwyddo, gan roi eich pas ymwelydd yn y blwch pren ar y dde. Os bydd gennych gadair olwyn, sgwter, ci cymorth, pram, bygi, neu eiddo/parseli mawr, bydd swyddog diogelwch yn eich cyfeirio i adael drwy'r glwyd ar ochr dde desg y dderbynfa. Ar ôl ichi gyrraedd ardal allanol y dderbynfa, byddwch yn gadael drwy'r drws crwm awtomatig, neu bydd swyddog diogelwch yn agor drws lletach arall i chi. Os byddwch wedi parcio ym maes parcio'r safle, bydd angen i chi ofyn i'r swyddog diogelwch roi mynediad ichi at lifftiau'r maes parcio.

Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn eich helpu i ymbaratoi ar gyfer eich ymweliad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch eich ymweliad, cysylltwch â'r person a fydd yn gofalu amdanoch, a bydd hwnnw'n gallu eich helpu.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau eich ymweliad â Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays.