Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

O 30 Medi 2025 ymlaen, daw data gweithlu practisau cyffredinol o System Wybodaeth y Gweithlu Gofal Sylfaenol (PCWIS), sy'n disodli System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS) a fu'n ffynhonnell ddata ers 2020. 

Gan fod patrymau recriwtio tymhorol, dylid gwneud cymariaethau dros amser gyda'r un dyddiadau cyfeirio yn y blynyddoedd blaenorol yn unig. Mae gwaith dilysu helaeth wedi dangos bod data PCWIS yn gymaradwy â data WNWRS. 

Mae PCWIS yn cael ei gynnal gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. 

Y prif bwyntiau

  • Ar 30 Medi 2025, roedd 1,602 o feddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn (FTE) yn darparu gofal iechyd o 368 o bractisau cyffredinol yng Nghymru.
  • Roedd gostyngiad blynyddol o 6 (0.4%) yn nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig ac roedd gostyngiad o 3 (0.8%) yn nifer y practisau cyffredinol ers 30 Medi 2024. 

Ar ôl dadansoddi yn ôl mathau penodol o feddygon teulu, roedd:

  • 994 o feddygon teulu sy’n bartneriaid FTE, sef gostyngiad blynyddol o 2.9%
  • 480 o feddygon teulu cyflogedig FTE, sef cynnydd blynyddol o 9.7%
  • 117 o feddygon teulu locwm FTE odd wedi gweithio yn ystod y chwarter, sef gostyngiad blynyddol o 12.5%
  • 11 o feddygon teulu wrth gefn FTE, sef gostyngiad blynyddol o 2

Ochr yn ochr â meddygon teulu cwbl gymwysedig, roedd:

  • 461 o gofrestryddion mewn practis cyffredinol (meddygon teulu dan hyfforddiant) FTE, sef gostyngiad blynyddol o 0.5%
  • 981 o nyrsys cofrestredig FTE, sef gostyngiad blynyddol o 4.5%
  • 950 o staff gofal uniongyrchol i gleifion FTE (staff and ydynt yn feddygon teulu na nyrsys ond sy’n darparu gwasanaethau iechyd i gleifion megis cynorthwywyr gofal iechyd, cyflenwyr meddyginiaeth a fferyllwyr), sef gostyngiad blynyddol o 2.1%
  • 3,842 o staff gweinyddol neu staff practis anghlinigol eraill FTE, sef gostyngiad blynyddol o 2.7%

Os nad oes cytundeb rhwng bwrdd iechyd lleol a phartner meddygaeth deulu, gall y bwrdd iechyd reoli practis meddyg teulu yn uniongyrchol. Mae’r bwrdd iechyd yn cyflogi staff yn uniongyrchol, ac mae’r practisau’n cael eu harwain fel arfer gan feddygon teulu ar gyflog neu feddygon teulu locwm.

  • Ar 30 Medi 2025, roedd 24 o bractisau’n cael eu rheoli gan fwrdd iechyd lleol, sef cynnydd blynyddol o 5. Roedd y practisau hyn yn cyflogi 96 o feddygon teulu cwbl gymwysedig FTE a 410 o staff practis ehangach FTE. Mae’r staff hyn wedi’u cynnwys yn y cyfansymiau ar gyfer staff.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r ystadegau hyn yn cyfeirio at weithlu practisau cyffredinol sy'n gweithredu o dan gontract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) o fewn y GIG. Nid yw'n cynnwys unrhyw ddata o bractisau preifat.

Mae rhagor o wybodaeth am brosesau casglu data ac ansawdd ystadegol ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Manylion cyswllt

Ystadegau Gweithlu'r GIG a Gofal Sylfaenol
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099