Neidio i'r prif gynnwy

1. Croeso (2:30pm i 2:35pm)

Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau a nododd mai hwn fyddai cyfarfod olaf y Grŵp Llywio ar ei ffurf bresennol, gan fyfyrio bod y Grŵp wedi cyflawni ei Gylch Gorchwyl o ran helpu i lunio dull newydd o ymdrin â buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru.

Diolchodd y Cadeirydd i'r aelodau am eu cyfraniadau dros y flwyddyn ddiwethaf a nododd bod adborth o gyfarfodydd y Grŵp Llywio ac ymatebion i'r ymgynghoriad wedi helpu i lywio Cynllun Buddsoddi'r Gronfa Twf Lleol a oedd bellach wedi'i gyhoeddi.

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r cyfarfod yn canolbwyntio ar y Cynllun Buddsoddi a'r camau nesaf, diweddariad ar waith cynllunio pontio rhanbarthol ar gyfer 2026-27, a thrafodaeth ar rôl y Grŵp Llywio yn y dyfodol.

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau bod y cyfarfod yn cael ei recordio at ddibenion trawsgrifio i gefnogi gwaith drafftio'r cofnodion, a fyddai'n cael eu cylchredeg drwy e-bost i'w cymeradwyo.

Cymeradwywyd cofnodion drafft cyfarfod mis Ionawr i'w cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

2. Cynllun Buddsoddi'r Gronfa Twf Lleol (2:35pm i 2:55pm)

Gwahoddodd y Cadeirydd Tom Smithson (TS), y Dirprwy Gyfarwyddwr dros Strategaeth Economaidd a Rheoleiddio yn Llywodraeth Cymru, i roi diweddariad ar y datblygiadau ers y cyfarfod diwethaf.

Nododd TS fod Cynllun Buddsoddi'r Gronfa Twf Lleol wedi'i gytuno gan Gabinet Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a'i fod wedi'i gyhoeddi yn gynharach yn ystod yr wythnos. Roedd yr aelodau wedi cael eu hysbysu ac roedd dolen wedi'i rhannu â nhw. 

Cadarnhaodd TS hefyd fod Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi'i gytuno, yn nodi'r priod rolau, gyfrifoldebau, drefniadau atebolrwydd a mecanweithiau adolygu blynyddol, ac y byddai'n cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Mae'r Memorandwm yn cynnwys yr opsiwn i estyn trefniadau pe bai Adolygiad Gwariant yn y dyfodol yn cadarnhau cyllid pellach. 

Nododd TS y byddai Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer y Gronfa Twf Lleol, â Gweinidogion yn atebol i'r Senedd. Byddai adolygiadau blynyddol gyda Llywodraeth y DU yn digwydd cyn rhyddhau cyllid bob blwyddyn a bydd Bwrdd Cynghori Cymreig yn cael ei sefydlu yn benodol ar gyfer y Gronfa yng Nghymru.

Esboniodd TS fod y Cynllun Buddsoddi yn adlewyrchu adborth gan y Grŵp Llywio ac ymatebion i'r ymgynghoriad, gan gynnwys ceisio cael ffocws cliriach trwy gyfyngu'r Gronfa i dair blaenoriaeth a llai o amcanion, gan gadw hyblygrwydd ar gyfer dulliau wedi'u teilwra ar lefel ranbarthol a lleol.

Cafodd y tair blaenoriaeth y cytunwyd arnynt eu hamlinellu fel hyn: 

  • Busnesau mwy cynhyrchiol a chystadleuol, gan ganolbwyntio ar fusnesau newydd a mentrau cymdeithasol â photensial uchel, cymorth busnes wedi'i dargedu, buddsoddiad cyfalaf, a lefelau uwch o ymchwil, datblygu ac arloesi.
  • Cynyddu sgiliau a chefnogi pobl i gael gwaith, gan gyfyngu'r amcanion i ganolbwyntio ar sgiliau sy'n ymateb i'r galw a mynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd, gan gydnabod y cyllid refeniw mwy cyfyngedig sydd ar gael.
  • Gwella seilwaith rhanbarthol, gan ddisgwyl y bydd trefniadau pontio yn golygu seilwaith mwy strategol yn y blynyddoedd diweddarach, yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig â chynlluniau rhanbarthol presennol neu sy'n datblygu.

Esboniodd TS fod Cabinet Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar ddyraniadau thematig ar draws y blaenoriaethau a bod Llywodraeth y DU wedi'u cadarnhau. Yn unol ag adborth gan y grŵp ac yn yr ymgynghoriad, mae rhywfaint o refeniw ar gael ar draws pob blaenoriaeth ac mae'r rhan fwyaf yn cael ei gyfeirio at sgiliau ac anweithgarwch economaidd. Gellir defnyddio hyd at 4 y cant o'r cyllid ar gyfer gweinyddu.

O ran dyraniadau gofodol, cadarnhaodd TS y byddai dyraniadau'r flwyddyn bontio yn adlewyrchu cyfrannau cyfredol y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gais llywodraeth leol.

O Flwyddyn 2 ymlaen, byddai dyraniadau gofodol yn cael eu llywio gan fodel sy'n defnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (60 y cant), amrywiadau o ran cynhyrchiant (30 y cant), a 10 y cant i adlewyrchu'r diffyg cydgrynhoi a'r heriau ychwanegol sy'n wynebu ardaloedd gwledig, ymylol a phrin eu poblogaeth.

Mae'r pwyslais ar gyfer y cyllid felly ar ardaloedd sydd ar eu hôl hi neu ardaloedd nad ydynt yn denu lefelau uchel o fuddsoddiad yn naturiol. Bydd angen adlewyrchu'r targedu hwn ymhellach mewn cynlluniau rhanbarthol. 

Nododd TS fod pontio ysgafnach i'r Gronfa Twf Lleol yn digwydd yng Nghymru o'i gymharu â gweddill y DU, ond pwysleisiodd y byddai'r Gronfa yn wahanol i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin gydag amcanion gwahanol, cymysgedd cyllido gwahanol, a ffocws cryfach ar ddull rhanbarthol sy'n mynd i'r afael â bylchau ac sy'n gweithio ochr yn ochr â rhaglenni rhanbarthol eraill fel Parthau Buddsoddi.

Cododd yr aelodau gwestiynau ynglŷn â'r fethodoleg dyrannu, gan gynnwys sut y cafodd dangosyddion a gwledigrwydd eu pennu, ac fe wnaethant ofyn am eglurhad ar y broses gwneud penderfyniadau a threfniadau cyflawni yn ystod y flwyddyn bontio.

Fel ymateb, cadarnhaodd TS y byddai nodyn technegol yn esbonio'r fethodoleg dyrannu yn cael ei gyhoeddi a'i rannu, ac y byddai awdurdodau arweiniol rhanbarthol y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn parhau fel cyrff cyflawni yn ystod y flwyddyn bontio, gan ddarparu parhad o ran cysylltiadau a threfniadau partneriaeth. Byddai hyn yn darparu ar gyfer proses bontio a reolir i fodel y Cyd-bwyllgor Corfforedig (CJC) ar gyfer y Gronfa Twf Lleol, a hynny dros y flwyddyn. 

3. Cynlluniau pontio rhanbarthol 2026-27 (2:55pm i 3:40pm)

Gwahoddwyd Nadine Young (NY), Pennaeth Buddsoddi Rhanbarthol, gan y Cadeirydd i roi diweddariad ar y gwaith cynllunio pontio rhanbarthol.

Esboniodd NY mai bwriad y flwyddyn bontio oedd helpu i reoli'r broses o symud oddi wrth y Gronfa Ffyniant Gyffredin i'r Gronfa Twf Lleol, gan osgoi diwedd sydyn o ran colli capasiti cyflawni a chaniatáu i brosiectau sy'n cyd-fynd ag amcanion y Gronfa Twf Lleol barhau heb doriad sylweddol.

Nododd NY y byddai'r flwyddyn bontio hefyd yn rhoi amser i gynllunio a pharatoi ar gyfer symud i fodel CJC o Flwyddyn 2 ymlaen, yn seiliedig ar wersi a ddysgwyd o raglenni blaenorol.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos â phedwar arweinydd rhanbarthol y Gronfa Ffyniant Gyffredin i ddatblygu cynlluniau pontio, sy'n cwmpasu ffit strategol â'r Cynllun Buddsoddi, portffolios a llwybrau buddsoddi sy'n cael eu cynnig, cerrig milltir cyflawni a phontio, a threfniadau partneriaeth. 

Cadarnhaodd NY y byddai £200,000 o gyllid refeniw fesul CJC yn cael ei ddarparu o'r Gronfa Twf Lleol yn 2026-27 i gefnogi meithrin capasiti, datblygu cynlluniau twf rhanbarthol, a pharatoi ar gyfer cyfrifoldebau cyflawni yn y dyfodol.

Amlinellodd NY y byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn datblygu canllawiau ar gyfer y Gronfa Twf Lleol, yn cynnwys allbynnau, deilliannau a dangosyddion wedi'u teilwra i Gymru, ac y byddai'n cydweithio â phartneriaid cyflawni ar fonitro a gwerthuso.

Amlinellwyd cynlluniau ar gyfer buddsoddi ledled Cymru gyfan ac ar draws rhanbarthau, gan gynnwys clustnodi 20 y cant o'r cyllid cyfalaf ym Mlynyddoedd 2 a 3 a sefydlu grwpiau gorchwyl a gorffen i gwmpasu cyfleoedd, datblygu achosion busnes amlinellol a sicrhau cysondeb â blaenoriaethau rhanbarthol.

Nododd NY fod y meysydd cychwynnol i'w datblygu gyda phrosiectau Cymru gyfan neu draws-ranbarthol yn cynnwys ymchwil, datblygu ac arloesi, safleoedd strategol, a buddsoddiad cyfalaf mewn busnesau. Efallai y bydd cyfleoedd hefyd i gydlynu prosiectau yn ymwneud â chyflogadwyedd, mynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd a mapio cymorth busnes.

Cododd yr aelodau bwyntiau ar bwysigrwydd canllawiau amserol, gweithio cynhwysol mewn partneriaeth, a chydbwyso hyblygrwydd gyda chyfarwyddyd digonol i sicrhau y gellir gwneud penderfyniadau effeithiol a chynrychioladol.

Cadarnhaodd NY fod canllawiau a dangosyddion yn cael eu datblygu gyda'r bwriad o'u cwblhau erbyn diwedd mis Ebrill.

Ychwanegodd TS fod cyflymder y datblygiad yn adlewyrchu'r angen i sicrhau y gallai cyllid lifo'n gyflym a bod disgwyl i rai elfennau gael eu mireinio dros amser. Byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn pennu safonau gofynnol ar lywodraethu a gwneud penderfyniadau ar gyfer y Gronfa Twf Lleol, gan gydnabod adborth yr ymgynghoriad bod angen i bartneriaethau fod yn fwy cynrychioliadol ac i benderfyniadau fod yn fwy tryloyw.t partnerships need to be more representative and decisions more transparent.

4. Camau nesaf a dyfodol y Grŵp Llywio (3:40pm i 3:55pm)

Nododd TS y byddai Bwrdd Cynghori ar wahân ar gyfer y Gronfa Twf Lleol yn cael ei sefydlu i ganolbwyntio ar lywodraethu, cyflawni a pherfformiad y Gronfa Twf Lleol.

Nododd TS fod fersiwn o'r Grŵp Llywio hwn wedi bodoli ar wahanol ffurfiau ers y penderfyniad i adael yr UE, gan gynnwys i edrych ar bolisi yn ei holl agweddau ac ar draws ffrydiau ariannu gwahanol. Gofynnodd TS am farn aelodau ar werth posibl cael fforwm cyfatebol ar fuddsoddi rhanbarthol yn parhau er mwyn llywio cyngor i Lywodraeth nesaf Cymru.

Cytunodd yr aelodau fod gwerth cadw fforwm sy'n dod â gwahanol sectorau at ei gilydd i ystyried y dirwedd buddsoddi rhanbarthol yn ei holl agweddau, yn enwedig yn ystod cyfnod cynnar llywodraeth newydd.

Pwysleisiodd yr aelodau bwysigrwydd cylch gwaith strategol clir ar gyfer unrhyw fersiwn o'r grŵp yn y dyfodol, gan ddysgu o waith yr OECD a rhaglenni buddsoddi rhanbarthol y gorffennol, a gwella cydlyniant ar draws gwahanol ffrydiau cyllido a threfniadau llywodraethu.

5. Unrhyw fater arall (3:55pm i 4:00pm)

Ni chodwyd unrhyw fater arall.

Diolchodd y Cadeirydd i'r aelodau am eu cyfraniadau drwy gydol oes y Grŵp Llywio a nododd y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi cyngor i Weinidogion newydd ar ymgysylltu â buddsoddi rhanbarthol, gan gynnwys unrhyw rôl i'r grŵp yn y dyfodol.

Diolchodd yr aelodau i'r Cadeirydd am ei harweinyddiaeth a'i gwaith ar y Gronfa Twf Lleol ers ffurfio'r Grŵp Llywio.

Rhestr o'r mynychwyr

Cadeirydd  

Carolyn Thomas AS

Aelodau

Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd: Nia Medi Williams, Rheolwr Gweithrediadau ac Adnoddau

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru: Chris Owen, Prif Swyddog Gweithredu

Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth: Eifion Evans, Prif Weithredwr

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: Tim Peppin, Cyfarwyddwr Corfforaethol

Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector: Natalie Zhivkova, Rheolwr Polisi a Mewnwelediadau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Y Trydydd Sector (Menter Gymdeithasol): Glenn Bowen, Cyfarwyddwr Menter, Cwmpas

Prifysgolion Cymru (Addysg Uwch): Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr

Cyfoeth Naturiol Cymru (Amgylcheddol): Clare Reeve, Ymgynghorydd Arbenigol Arweiniol: Cyllid Strategol    

Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil: Emma Mock, Pennaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd

Siambrau Masnach: Gus Williams, Prif Weithredwr, De a Chanolbarth Cymru 

CBI (Busnes): Leighton Jenkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Polisi

Rhwydwaith Gwledig Cymru (Datblygu lleol dan arweiniad y gymuned): Eirlys Lloyd, Cadeirydd, Rhwydwaith Gwledig Cymru

Banc Datblygu Cymru: Anna Morgans, Cyfarwyddwr Strategaeth

Grahame Guilford and Company: Grahame Guilford

Mynychwyr o Lywodraeth Cymru

Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth Economaidd a Rheoleiddio (ESR)

Nadine Young, Pennaeth Buddsoddi Rhanbarthol, ESR

Mike Richards, Rheolwr Cyfathrebu a Rhanddeiliaid, ESR

Eleri Carrington, Pennaeth Polisi Rhanbarthol, ESR

Benedict Watson, Uwch-reolwr Polisi,  ESR

Cheryl Jones, Rheolwr Polisi Rhanbarthol,  ESR

Claire McDonald, Dirprwy Gyfarwyddwr,  Polisi Economaidd

Ann Watkin, Pennaeth Strategaeth, Cydweddu Gweithrediadau a Chynllunio, Busnes a Rhanbarthau