Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru
  • Lisa Taylor, Yr Eglwys yng Nghymru
  • Dr Lowri Jones, Estyn
  • Jeff Fish, ALl Abertawe / Cadeirydd Grŵp Swyddogion Cymorth Llywodraethwyr
  • Cerys Furlong, Cadeirydd y Llywodraethwyr, Ysgol Uwchradd Fitzalan
  • Trystan Edwards, Pennaeth, Ysgol Garth Olwg / Grŵp Cynghori Gweinidogol ar gyfer Penaethiaid
  • Sue Walker, Cyfarwyddwr Addysg, ALl Merthyr Tudful / Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru
  • Peter Knight, Caerdydd a Mynyw, yn cynrychioli'r Gwasanaeth Addysg Gatholig
  • Emyr Harries, Seilwaith, Llywodraethiant a Chyllid Addysg, Llywodraeth Cymru (Cadeirydd)
  • Claire Horton, Llywodraethiant, Trefniadaeth a Derbyniadau i Ysgolion, Llywodraeth Cymru
  • Wendy Westlake, Llywodraethiant, Trefniadaeth a Derbyniadau i Ysgolion, Llywodraeth Cymru
  • Sian Jones, Diogelu mewn Addysg, Llywodraeth Cymru

Ymgysylltu â rhanddeiliaid: Llywodraeth Cymru

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Grŵp am weithgareddau ymgysylltu a wnaed yn ddiweddar gyda’r rhanddeiliaid a nodwyd yn flaenorol. Roedd y rhain yn cynnwys gweithdai, trafodaethau bord gron a chyflwyniadau.

Mae gwaith ar y gweill i geisio barn dysgwyr, ac i hynny gyd-fynd â'r gwaith y mae Comisiynydd Plant Cymru yn ei wneud yn yr un maes. Mae opsiynau digidol i gefnogi swyddogaethau cyrff llywodraethu hefyd yn cael eu hystyried, gan gynnwys y posibilrwydd o gynnwys llwyfannau ar-lein presennol.

Trafododd y Grŵp ddulliau o ymgysylltu â'r grwpiau mawr sydd wedi teimlo effaith hyn, gan gynnwys llywodraethwyr, staff, dysgwyr a rhieni. Cytunwyd y byddai gwaith ymgysylltu ehangach yn fwy effeithiol pe cai ei wneud yn hwyrach, pan fydd mwy o eglurder o ran dewisiadau a gwybodaeth. Yn y cyfamser, byddai'n rhaid rheoli disgwyliadau. Felly, gallai grwpiau ffocws llai, wedi'u targedu, o’r cynulleidfaoedd hyn fod yn ddefnyddiol ar y dechrau.

Trafodwyd adolygiad cysylltiedig ynghylch trin cwynion. O ystyried rôl llywodraethwyr mewn prosesau cwyno, bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ynghylch sesiwn bwrpasol ar y pwnc hwn yn y dyfodol.

Ymgysylltu â rhanddeiliaid: aelodau'r grŵp cyfeirio

Rhannodd y Grŵp adborth y trafodaethau a gafwyd ers y cyfarfod blaenorol, gyda'r nod o nodi materion newydd a chamau dilynol posibl. Ar y cyfan, clywyd bod cwmpas a phwrpas yr adolygiad wedi cael derbyniad cadarnhaol.

Fe wnaeth gwaith ymgysylltu ar lefel leol dynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod safbwyntiau ysgolion gwledig, ysgolion bychain ac ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cael digon o gynrychiolaeth. Roedd yr adborth gan ysgolion ffydd yn awgrymu bod cyrff llywodraethu’n cael eu hystyried yn alluogwyr effeithiol ar y cyfan, ond bod heriau wrth recriwtio categorïau penodol o lywodraethwyr.

Mynegwyd pryderon am hyder llywodraethwyr, eu gallu i ddarparu her adeiladol, yr amser y maen nhw ei angen i reoli eu cyfrifoldebau, a gofynion emosiynol gwneud penderfyniadau. Gall pob un o’r rhain effeithio ar lesiant ac arwain at heriau o ran recriwtio a chadw. Mewn trafodaethau proffesiynol ehangach, nodwyd bod anghydraddoldebau o ran pa mor hawdd yw recriwtio llywodraethwyr ar draws gwahanol gymunedau, a thrafodwyd y syniad o gael rolau llywodraethwyr haenog neu arbenigol. Soniwyd y gallai modelau cydweithio ar draws cyd-destunau ysgol amrywiol fod yn ddefnyddiol.

Yn olaf, mynegwyd pryderon am ddiffyg eglurder rhwng gwahanol gyrff ynghylch awdurdod a chyfrifoldeb o ran trefniadau cyflogwyr. Cytunwyd bod angen egluro rolau a rhoi gwell cefnogaeth cyrff llywodraethu, yn enwedig mewn ysgolion sy'n wynebu heriau.

Diweddariad ar yr adolygiad diogelu

Cafodd y Grŵp y newyddion diweddaraf ynghylch yr adolygiad diogelu cysylltiedig, gan dynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod y ddau adolygiad yn cyd-fynd a bod diogelu dal yn rhan ganolog o’r trafodaethau. Mae cysylltiadau parhaus rhwng y ddau adolygiad yn cael eu cynnal fel rhan o’r gweithgarwch o ddydd i ddydd.

Materion allweddol ac adborth cyffredin

Adolygodd y Grŵp faterion allweddol ac adborth ailadroddus a ddaeth i'r amlwg o drafodaethau diweddar, wedi'u strwythuro o amgylch prif themâu'r adolygiad. Roedd cytundeb y gallai trefnu rolau llywodraethu i fod yn debycach i gyrff cyhoeddus eraill fod yn fuddiol, gan gynnwys ystyried tâl. Fodd bynnag, byddai angen rhoi ystyriaeth briodol i holl effeithiau unrhyw gynnig o'r fath.

Rhannwyd enghreifftiau o fodelau llywodraethu lle ceir ymdeimlad cryf o hunaniaeth a chydweithrediad ar draws ysgolion, gan alluogi i sgiliau, atebolrwydd a chymorth gael eu rhannu gan y ddwy ochr. Teimlwyd bod y dulliau hyn yn meithrin hyder ac ymdeimlad o berthyn ymysg y rhai sy’n cymryd rhan.

Pwysleisiwyd pwysigrwydd rhoi cefnogaeth o safon i lywodraethwyr, yn enwedig o ran trefniadau gweinyddol a chlercio effeithiol, a pha mor werthfawr yw cymorth allanol o ran helpu llywodraethwyr i ddeall a chyflawni eu rolau.

Cyflwynwyd tri model llywodraethu eang er mwyn strwythuro trafodaeth bellach:

  • un sy'n cyd-fynd yn agos â dull rhyngwladol presennol
  • un yn seiliedig ar grwpio ysgolion yn "glystyrau"
  • un sy'n cynnwys ychydig iawn o newid trwy leihau llwyth gwaith llywodraethwyr

Cydnabuwyd y byddai angen dadansoddiad manwl pellach o risgiau, buddion ac effeithiau ar bob model posibl, ac mae'n debygol y byddai angen newid deddfwriaethol, er y gallai fod lle i dreialu dulliau.

Symud pethau ymlaen

Cytunwyd y byddai cyfarfodydd yn y dyfodol yn cynnwys cyflwyniadau ar rwydweithiau proffesiynol trawsffiniol perthnasol a modelau arweinyddiaeth ysgolion cydweithredol a allai gynnig gwybodaeth ddefnyddiol. Hefyd, bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i adolygu gwaith ymchwil academaidd ar lywodraethu ysgolion, gan gynnwys safbwyntiau rhyngwladol, gan dynnu ar arbenigedd ymchwil i lywio trafodaethau'r Grŵp.