Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae'r datganiad hwn yn rhoi gwybod i Aelodau am gynnyrch ystadegol newydd a ddatblygwyd yn dilyn adolygiad o ystadegau economaidd dan arweiniad y Prif Economegydd a'r Prif Ystadegydd.

Daeth yr adolygiad i'r casgliad y byddai'n fanteisiol datblygu a chyhoeddi set fach o ddangosyddion i fonitro perfformiad economi Cymru mewn ffordd gynhwysfawr sy'n osgoi canolbwyntio'n ormodol ar un agwedd. Yn dilyn hynny, mae cynnyrch ystadegol newydd wedi'i gyhoeddi heddiw, o’r enw Economi Cymru: mewn rhifau.  Caiff y cynnyrch hwn ei gyhoeddi ar ffurf gwefan ac mae'n rhoi darlun eang, hygyrch o ganlyniadau economi Cymru, a chaiff ei ddiweddaru wrth i ddata newydd gael ei gyhoeddi.

Mae'r ystadegau a'r dadansoddiadau a gyflwynir yn canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer unigolion yng Nghymru, a chânt eu cyflwyno dan bedair thema wahanol:  Incwm, Allbwn, Gwaith, a Thlodi a Chyfoeth. O fewn y pedair thema, cyflwynir wyth dangosydd allweddol.

Dyma'r wyth dangosydd;

  • Incwm Gros Aelwydydd y pen;
  • Prif Incwm y pen;
  • Gwerth Ychwanegol Gros y pen;
  • Gwerth Ychwanegol Gros fesul awr o waith;
  • Cyfradd Cyflogaeth;
  • Enillion Wythnosol Cyfartalog;
  • Cyfradd Tlodi; 
  • Cyfoeth Cyfartalog Aelwydydd.

Mae hafan y wefan ryngweithiol yn rhoi cipolwg ar yr ystadegau ar gyfer pob dangosydd. Pan fydd defnyddwyr yn clicio ar unrhyw un o'r dangosyddion neu'r botymau thema, cânt eu tywys i dudalen newydd yn cynnwys sylwadau a dadansoddiadau yn cymharu Cymru â gwledydd a rhanbarthau eraill y DU. Bydd dolenni at fwletinau ystadegol perthnasol, lle gellir gweld mwy o wybodaeth fanwl am bobl, busnesau a sectorau yn economi Cymru, hefyd yn cael eu darparu.

Mae'r dadansoddiad yn dangos bod economi Cymru wedi bod yn perfformio'n weddol dda dros y tymor canolig o gymharu, gan aros ar lefel weddol debyg i economi ehangach y DU ar y rhan fwyaf o ddangosyddion, gan gynnwys Gwerth Ychwanegol Gros ac enillion; a thyfu ar gyfradd gyflymach na'r DU mewn rhai dangosyddion eraill, fel Incwm Gwario Gros Aelwydydd. Mae dadansoddiadau ar ddangosyddion eraill yn dangos bod y bwlch hanesyddol yn y gyfradd cyflogaeth rhwng y DU a Chymru wedi lleihau dros amser, a bod aelwydydd Cymru yn cymharu'n arbennig o dda o ran eu cyfoeth cyfartalog gyda nifer o wledydd a rhanbarthau eraill y DU.

Bydd y Prif Economegydd a'r Prif Ystadegydd yn parhau i ystyried opsiynau ar gyfer gwella pa mor ddefnyddiol a hygyrch yw’r data ar yr economi, a beth sydd ei angen i gefnogi ein pwerau treth newydd, a byddant yn parhau i gydweithio â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a rhanddeiliaid eraill. Cynhelir ymgynghoriad llawn ar economeg ac ystadegau'r farchnad lafur yn yr hydref, pan fydd materion am ddata yr economi a'r farchnad lafur yn cael eu trafod gydag amrywiaeth eang o bobl sydd â diddordeb ac arbenigwyr.