Crynoadau adar: amodau trwydded benodol
Amodau trwydded ar gyfer y Crynoadau adar: amodau trwydded benodol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
1. Mae'r trwyddedai yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn cydymffurfio ag amodau'r drwydded hon.
2. Rhaid cadw anseriformes sy'n mynd i grynhoad o dan y drwydded hon ar safle yng Nghymru.
3. Rhaid i'r trwyddedai hysbysu APHA am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth ganlynol cyn y crynhoad:
- manylion y milfeddyg, gan gynnwys enw llawn, cyfeiriad cyswllt, e-bost a rhif ffôn
Rhaid anfon yr hysbysiad drwy e-bost i: APHAWalesAGO@apha.gov.uk.
4. Rhaid i'r trwyddedai gydymffurfio ag unrhyw geisiadau rhesymol y gall arolygydd ofyn amdanynt i sicrhau bod gofynion y drwydded hon yn cael eu bodloni.
5. Rhaid i'r trwyddedai gymryd pob cam rhesymol i atal clefyd adar hysbysadwy rhag lledaenu i’r safle, o fewn y safle, neu oddi ar y safle lle mae'r crynhoad yn cael ei gynnal, ac os bydd achos neu amheuaeth o glefyd, fod modd olrhain yr holl adar sydd yn y crynhoad.
6. Rhaid i drwyddedai unrhyw sioe neu arddangosfa ddarparu cyngor am fioddiogelwch cyn y crynhoad i bob cyfranogwr sy'n mynd i'r crynhoad. Rhaid i'r cyngor hwn gynnwys:
(a) argymhelliad y dylai adar gael archwiliad iechyd cyn teithio i'r crynhoad; a
(b) argymhelliad y dylai unrhyw adar sy'n teithio o'r crynhoad i unrhyw safle (p'un a ydynt yn dychwelyd i'r safle lle daethant ohono neu'n mynd i leoliad newydd), am o leiaf 14 diwrnod:
- gael eu hynysu oddi wrth adar a mamaliaid eraill yn y safle hwnnw, a'u
- hiechyd wedi'i fonitro
7. Rhaid i'r trwyddedai sicrhau:
(a) bod unrhyw gawell, crât, basged, lloc, daliedydd neu gynhwysydd arall:
(i) ddim yn cael ei ganiatáu ar safle'r crynhoad lle mae'r cynhwysydd wedi'i halogi'n amlwg â baw adar neu ddeunydd arall sy'n tarddu o adar, ac eithrio ysgarthion a gynhyrchir wrth gludo'r adar i'r crynhoad
(ii) sy'n gadael crynhoad yn cael ei lanhau a'i ddiheintio'n drylwyr cyn gadael
(iii) cyn gynted ag y bydd yn rhesymol ymarferol ar ôl y cynulliad, naill ai’n cael:
- ei symud o'r safle, neu
- ei lanhau a'i diheintio cyn iddo gael ei ddefnyddio eto
(b) sicrhau bod unrhyw ardaloedd ar y safle (lle bydd y crynhoad) sydd wedi'u halogi â thail adar, ysgarthion, neu ddeunydd gwely ar ôl eu dadlwytho yn cael eu glanhau'n brydlon, a bod yr holl arwynebau caled yn cael eu glanhau a'u diheintio'n drylwyr; ac
(c) hysbysu pob cyfranogwr am amod 7(a) a (b) cyn y crynhoad drwy lenyddiaeth hysbysebu, ar ffurflenni cofrestru neu drwy unrhyw gyfrwng priodol arall.
8. Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod yr holl arwynebau solet sy'n agored i adar neu ddeunydd ysgarthol yn cael eu glanhau a'u diheintio'n drylwyr cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol:
(a) ar ôl i adar adael y crynhoad a ganiateir o dan y drwydded hon, a
(b) mewn unrhyw achos cyn y crynhoad nesaf yn y safle.
(c) os na, yna ni chaniateir cynnal crynhoad pellach nes ei fod wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan APHA.
9. Rhaid i'r trwyddedai sicrhau nad yw'r adar yn dod i gysylltiad ag unrhyw adar gwyllt yn ystod y crynhoad.
10. Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod yr holl adar yn y crynhoad yn cael eu cadw o leiaf 50m o dda byw bob amser.
11. Rhaid i'r trwyddedai sicrhau:
(a) na fydd adar yn cael mynediad i grynhoad oni bydd y cyfranogwr yn datgan nad ydynt yn dod o safle neu ardal sydd o dan gyfyngiadau sy’n gysylltiedig â chadarnhad o bresenoldeb clefyd adar hysbysadwy, gan gynnwys o unrhyw barth rheoli clefyd dros dro sydd wedi’i osod gan Weinidogion; a darparu rhif CPH dilys i gadarnhau hyn;
(b) bod milfeddyg yn bresennol tra bod adar yn cyrraedd, sydd â chyfrifoldeb am archwilio'r adar cyn iddynt ymuno â'r crynhoad;
(c) pan fydd aderyn yn cyrraedd y safle lle mae'r crynhoad, bod yr aderyn yn cael ei ynysu oddi wrth yr holl adar a mamaliaid eraill yn y safle nes bod yr aderyn ynysig wedi cael ei archwilio'n unigol gan y milfeddyg enwebedig;
(d) bod APHA yn cael ei hysbysu'n syth am unrhyw adar sy’n methu’r archwiliad a/neu sy’n dangos arwyddion clinigol clefyd adar hysbysadwy yn ystod y crynhoad. Rhaid ynysu unrhyw aderyn o'r fath oddi wrth bob aderyn arall yn y crynhoad nes ei fod wedi'i archwilio gan arolygydd milfeddygol APHA a bod awdurdod ysgrifenedig wedi'i gael gan APHA sy'n caniatáu i'r aderyn adael y safle;
(e) bod milfeddyg ar gael i fod yn bresennol ar fyr rybudd, yn ystod yr holl amser y mae adar yn bresennol yn y crynhoad;
(f) ei fod yn ymgynghori â'r milfeddyg hwnnw os yw aderyn yn y crynhoad yn dangos arwyddion o salwch neu broblemau lles;
(g) bod deunydd gwastraff, gan gynnwys unrhyw fwyd y gall unrhyw adar fod wedi mynd ato, deunydd gwely, tail, carcas adar a/neu ddeunydd arall sy’n dod o adar ac sydd wedi’i adael ar ôl ar ddiwedd y crynhoad, yn cael eu:
- gwaredu fel na all adar (yn cynnwys adar gwyllt) fynd atynt (dylai hyn gynnwys defnyddio bagiau dwbl, a’u cludo ymaith yn ddiogel gan gwmni gwastraff trwyddedig addas), neu
- eu trin er mwyn cael gwared â’r risg o drosglwyddo clefyd
(h) bod cyfleusterau glanhau a diheintio (er enghraifft cyfleusterau golchi dwylo, matiau diheintio a dipiau traed) ar gael i gyfranogwyr ac ymwelwyr ar y safle;
(i) bod cyfranogwyr yn cadw at arferion bioddiogelwch da;
(j) nad oes neb y gellir gweld ei fod wedi’i heintio â thail, plu neu ddeunydd arall sy’n dod o adar yn cael dod i mewn i ardal yr adar nes y ceir gwared â’r cyfryw halogiad.
12. Rhaid peidio â lleoli’r crynhoad mewn unrhyw Barth Gwarchod, Parth Gwyliadwriaeth, Parth Rheoli Dros Dro, Parth Rheoli (Monitro) Adar Caeth, Parth Cyfyngu ar Symud Dros Dro, Ardal o dan Gyfyngiadau Ffliw Adar Pathogenig Isel, neu unrhyw barth rheoli clefyd adar hysbysadwy. Os caiff y cyfryw barth ei ddatgan yn ystod y crynhoad, rhaid rhoi’r cynllun wrth gefn ar waith yn syth (gweler amod 20 isod) a gofyn am gyngor gan APHA.
13. Rhaid i'r trwyddedai beidio â chaniatáu i unrhyw gyfranogwr fynd i mewn i'r crynhoad oni bai bod y person wedi cwblhau a darparu datganiad ysgrifenedig wedi'i lofnodi i'r trwyddedai sy'n cadarnhau:
(a) ei fod wedi darllen a deall y cyngor bioddiogelwch a ddarparwyd cyn y crynhoad a'i fod yn cydymffurfio ag ef;
(b) nad yw’r holl adar y mae wedi dod â hwy i'r crynhoad hyd eithaf ei wybodaeth wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw gyfrwng clefyd adar hysbysadwy ac nad ydynt yn dangos unrhyw arwyddion eu bod wedi’u heintio;
(c) cyfeiriad a rhif CPH y safle lle daeth yr adar ohono, gyda chadarnhad nad yw'r adar yn tarddu o safle sy'n ddarostyngedig i gyfyngiadau o dan ddeddfwriaeth ffliw adar, neu o fewn Parth Gwarchod, Parth Gwyliadwriaeth, Parth Rheoli Dros Dro, Parth Rheoli (Monitro) Adar Caeth, Parth Cyfyngu ar Symud Dros Dro, Parth Cyfyngedig Ffliw Adar Pathogenig Isel, neu unrhyw barth rheoli clefydau adar hysbysadwy arall;
(d) nad oes unrhyw aderyn y mae'n dod ag ef i'r crynhoad wedi mynychu crynhoad arall o fewn y 14 diwrnod blaenorol;
(e) bod y safle lle daeth yr holl adar o'r fath ohono (gyda manylion rhif CPH) wedi'i gofrestru ar y Gofrestr Adar a Gedwir (ar gyfer safleoedd yng Nghymru a Lloegr) neu Gofrestr Adar a Gedwir yr Alban (SKBR) ar gyfer safle yn yr Alban a bod yn cynnwys tystiolaeth o gofrestru;
(f) bod unrhyw aderyn sy'n mynd i'r crynhoad yn mynd yno at yr unig ddiben o ddangos neu arddangos yr aderyn. Bydd yr holl adar sy'n mynd i'r casgliad yn dychwelyd i'r safle lle daethant ohono ar ôl y crynhoad.
14. Rhaid i’r trwyddedai gadw cofnod o’r holl bobl sy’n dod ag adar i’w grynhoad, neu sy’n mynd â’r cyfryw adar o’r crynhoad, a chadw’r cofnod hwnnw am o leiaf dri mis ar ôl y crynhoad.
15. Rhaid i’r trwyddedai gyflwyno’r cofnodion hyn ar gais arolygydd APHA neu arolygydd Awdurdod Lleol. Rhaid i'r cofnod gynnwys o leiaf yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â phob person o'r fath:
- enw llawn
- cyfeiriad cartref y person gan gynnwys cod pos;
- manylion y safle lle daeth yr adar ohono os yw'n wahanol i'r cyfeiriad cartref, gan gynnwys rhif CPH y safle hwn
- rhifau ffôn (llinell dir a/neu symudol)
- cyfeiriad e-bost (os oes un)
- nifer a math(au) yr adar sy'n cael eu harddangos, eu rasio, eu prynu neu eu gwerthu
- manylion y safle y mae'r adar yn cael eu symud iddo, ar ôl y crynhoad os ydynt yn wahanol i'r safle lle daeth yr adar ohono
16. Rhaid cadw'r datganiad(au) wedi'i lofnodi y cyfeirir ato yn amod 13 ochr yn ochr â'r cofnod am yr un cyfnod.
17. Fel amod ar gyfer cael mynediad i bob grynhoad, rhaid i’r trwyddedai fynnu bod yr holl gyfranogwyr yn archwilio’u hadar am unrhyw haint cyn ymadael â’r crynhoad.
18. Rhaid i'r trwyddedai gadw'r drwydded neu gopi ohoni gydag ef bob amser yn ystod y crynhoad trwyddedig. Ar gais gan arolygydd milfeddygol, neu swyddog arall i Weinidogion Cymru, neu gan arolygydd, rhaid i'r trwyddedai ddangos y drwydded neu'r copi a chaniatáu i gopi neu echdyniad gael ei wneud ac, ar gais o'r fath, ddarparu ei enw a'i gyfeiriad.
19. Pan fo'n ofynnol defnyddio diheintydd o dan y drwydded hon, rhaid cymeradwyo'r diheintydd o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007 (fel y'i diwygiwyd) a'i ddefnyddio ar y gyfradd a argymhellir yng Ngorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003, a Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006.
20. Rhaid i'r trwyddedai gael cynllun wrth gefn ysgrifenedig yn ei le sy'n gwneud trefniadau ar gyfer yr hyn a fydd yn digwydd os oes amheuaeth neu gadarnhad o glefyd adar hysbysadwy yn y crynhoad. Rhaid iddo ei gyflwyno i APHA ynghyd â'i gais, a sicrhau bod y cynllun hwnnw ar gael i'w archwilio yn ystod y crynhoad. Rhaid i'r cynllun gwmpasu:
- sut y bydd adar yr amheuir bod clefyd adar hysbysadwy arnynt yn cael eu gwahanu oddi wrth adar eraill
- lle amheuir clefyd adar hysbysadwy yn y crynhoad, sut y bydd adar yn cael eu cadw yn y safle nes bod Arolygydd Milfeddygol APHA wedi rhoi cyfarwyddiadau i adar adael y safle
- trefniadau i sicrhau bod adar yn aros yn safle’r crynhoad os yw symudiadau oddi ar y safle yn cael eu cyfyngu oherwydd bod y crynhoad, yn sgil hynny, yn dod yn barth rheoli clefyd adar hysbysadwy
- datganiad ysgrifenedig a llofnod sy'n cadarnhau bod y cynllun wedi'i drafod a'i gymeradwyo gan filfeddyg
