Tai a gafodd eu dymchwel: Ebrill 2024 i Fawrth 2025
Data blynyddol sy'n cynnwys gwybodaeth am nifer yr anheddau a gafodd eu dymchwel yng Nghymru ar gyfer Ebrill 2024 i Fawrth 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Prif bwyntiau
Gall nifer yr anheddau a ddymchwelir amrywio’n fawr o’r naill flwyddyn i’r llall. Bydd yn dibynnu ar faint o waith datblygu a gwaith clirio a wneir ym mhob awdurdod yn ystod y cyfnod dan sylw.
- Yn 2024 i 2025, dymchwelwyd 67 o anheddau ledled Cymru, gostyngiad o 37% o'i gymharu â 2023 i 2024. [troednodyn 1]
- Yn yr 16 o awdurdodau lleol lle dymchwelwyd anheddau, roedd y niferoedd uchaf yn Caerdydd (13), a Gwynedd (11). [troednodyn 2]
- Roedd 12 achos o ddymchwel mewn ardaloedd adnewyddu (8 yn Sir y Fflint a 4 ym Mhowys). [troednodyn 3]
- Dymchwelwyd 1 annedd mewn ardal glirio ym Mhowys. [troednodyn 4]
Troednodiadau
[1] Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i gyfrifo amcangyfrifon ar gyfer y stoc anheddau yng Nghymru.
[2] Yn cynnwys ffigurau amcangyfrifedig ar gyfer Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2023 i 2024 a 2024 i 2025.
[3] Mae cynlluniau adnewyddu tai sy’n seiliedig at ardaloedd yn galluogi'r awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar weithredu a buddsoddi mewn ardaloedd y mae angen cymorth arnynt ac sydd hefyd yn addas i'w hadnewyddu.
[4] Ardaloedd clirio yw ardaloedd lle’r ystyrir bod y tai yn anaddas i bobl fyw ynddynt neu eu bod yn beryglus neu'n niweidiol i iechyd y preswylwyr. Bydd yr awdurdod lleol yn datgan ardal glirio pan fydd yn fodlon mai'r ffordd fwyaf addas o ymdrin ag amodau o’r fath yw dymchwel yr holl adeiladau yn yr ardal honno.

