Mae Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026 yn gofyn i Weinidogion Cymru baratoi ac ymgynghori ar Ddatganiad Egwyddorion Amgylcheddol ac Integreiddio Diogelu'r Amgylchedd.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Rhan 1 o'r Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026 ("Deddf Llywodraethiant Amgylcheddol") yn gosod dyletswyddau newydd ar Weinidogion Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau cyhoeddus penodol mewn perthynas â'r egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu'r amgylchedd.
Mae adrannau 6 a 7 o'r Ddeddf Llywodraethiant Amgylcheddol yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio drafft o'r Ddatganiad Egwyddorion Amgylcheddol ac Integreiddio Diogelu'r Amgylchedd ("y Datganiad") ac ymgynghori arno cyn ei gyhoeddi.
Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn llywio geiriad terfynol y Datganiad i sicrhau ei fod yn gynhwysfawr ac yn effeithiol. Anogir pawb i gyfrannu.
Dogfennau ymgynghori
Datganiad Egwyddorion Amgylcheddol ac Integreiddio Diogelu’r Amgylchedd drafft , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 479 KB
Help a chymorth
Am fwy o wybodaeth amdano’r ymgynghoriad hwn, e-bostiwch: cces.strategyandchangeteam@gov.wales
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 11 Medi 2026, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
E-bost
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i: cces.strategyandchangeteam@gov.wales
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i:
Climate Change and Environmental Strategy Team
Welsh Government
Cathays Park
Cardiff
CF10 3NQ
