Ymgynghoriad ar y datganiad egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd drafft
Mae Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026 yn gofyn i Weinidogion Cymru baratoi ac ymgynghori ar Ddatganiad Egwyddorion Amgylcheddol ac Integreiddio Diogelu'r Amgylchedd.
Ar y dudalen hon
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2026
Camau i’w cymryd: Ymatebion erbyn 11 Medi 2026
Trosolwg
Nod yr ymgynghoriad hwn yw casglu adborth ar y Datganiad Egwyddorion Amgylcheddol ac Integreiddio Diogelu’r Amgylchedd drafft (“y Datganiad”). Mae’n ofynnol i’r Datganiad hwn gael ei baratoi a’i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 6 a 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026 (“y Ddeddf Llywodraethiant Amgylcheddol”).
Mae Rhan 1 o’r Ddeddf Llywodraethiant Amgylcheddol yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) ac awdurdodau cyhoeddus penodol i roi sylw i’r Datganiad, neu i ganllawiau yn y Datganiad, wrth gymhwyso eu priod ddyletswyddau i gymhwyso’r egwyddorion ac i integreiddio diogelu’r amgylchedd.
Ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben, cyhoeddir crynodeb o’r sylwadau a ddaeth i law ac ymateb Gweinidogion Cymru. Bydd y Datganiad hefyd yn cael ei gyflwyno ar ffurf drafft gerbron y Senedd, gyda dogfen yn nodi manylion yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ac yn crynhoi’r sylwadau a gafwyd ac ymateb Gweinidogion Cymru iddynt.
Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn llywio geiriad terfynol y Datganiad i sicrhau ei fod yn gynhwysfawr ac yn effeithiol. Mae pawb yn cael eu hannog i gyfrannu.
Sut i ymateb
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 11 Medi 2026. Ymatebwch gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein neu ysgrifennwch atom yn y cyfeiriad neu’r cyfeiriad e-bost isod:
Y Tîm Newid Hinsawdd a Strategaeth Amgylcheddol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
neu drwy e-bost i cces.strategyandchangeteam@llyw.cymru
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Manylion cyswllt
Y Tîm Newid Hinsawdd a Strategaeth Amgylcheddol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: cces.strategyandchangeteam@llyw.cymru
Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd
Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth i chi ymateb i’r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y byddant yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill hefyd. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach ar ymatebion yr ymgynghoriad, yna mae’n bosibl y bydd y gwaith hwn yn cael ei gomisiynu i’w gynnal gan drydydd parti awdurdodedig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Ymgymerir â gwaith o’r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn hefyd. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech fod yn ymwybodol hefyd o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gallai Llywodraeth Cymru fod o dan ymrwymiad cyfreithiol i ddatgelu rhywfaint o wybodaeth.
Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Your rights
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a’u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael mwy o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac at ba ddiben, neu os hoffech arfer eich hawl o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/
Cefndir a chyd-destun
Cafodd Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026 (“y Ddeddf Llywodraethiant Amgylcheddol”) Gydsyniad Brenhinol ar 27 Ebrill 2026.
Mae Rhan 1 o’r Ddeddf Llywodraethiant Amgylcheddol yn nodi amcan ac egwyddorion amgylcheddol, gan sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd, cryfach ar gyfer llywodraethiant amgylcheddol yng Nghymru. Mae’n gwneud hyn drwy osod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) ac awdurdodau cyhoeddus penodol eraill i gymhwyso pedair egwyddor amgylcheddol ac i integreiddio diogelu’r amgylchedd.
Mae’r ddyletswydd a osodir ar Weinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddynt, at ddibenion cyfrannu at yr amcan amgylcheddol, roi sylw arbennig i’r egwyddorion amgylcheddol wrth lunio polisi mewn perthynas â Chymru ac integreiddio diogelu’r amgylchedd wrth lunio polisi o’r fath (adran 3(1)).
Gosodir dyletswydd debyg ar CNC, fel bod rhaid i CNC roi sylw arbennig i’r egwyddorion amgylcheddol wrth lunio polisi mewn perthynas â Chymru ac integreiddio diogelu’r amgylchedd wrth lunio polisi o’r fath (erthygl 4A(1) Gorchymyn Corff Adnoddau Cenedlaethol Cymru (Sefydlu) 2012, a fewnosodwyd gan adran 4(2)).
Rhaid i rai awdurdodau cyhoeddus, at ddibenion cyfrannu at yr amcan amgylcheddol, roi sylw i’r egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd wrth gyflawni swyddogaethau mewn cysylltiad ag asesu cynlluniau a rhaglenni o dan Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”) (adran 5(1)).
Wrth gydymffurfio â phob un o’r dyletswyddau hyn, rhaid i Weinidogion Cymru, CNC neu awdurdod cyhoeddus (fel y digwydd) roi sylw i’r Datganiad, neu i ganllawiau yn y Datganiad.
Bwriad y dyletswyddau hyn yw darparu’r sylfaen ar gyfer rhoi lefel uchel o ddiogelu’r amgylchedd a gwella’r amgylchedd wrth wraidd y broses o lunio polisïau ac asesiadau amgylcheddol strategol yng Nghymru. Maent yn hanfodol i gyfrannu at ddiogelu a gwella’r amgylchedd, lliniaru newid hinsawdd ac addasu iddo ac atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Mae’r Ddeddf Llywodraethiant Amgylcheddol yn adeiladu ar ddarpariaethau presennol ac yn eu cryfhau mewn fframwaith deddfwriaethol ehangach i Gymru.
Diben yr ymgynghoriad hwn
Nod yr ymgynghoriad hwn yw casglu adborth ar y Datganiad Egwyddorion Amgylcheddol ac Integreiddio Diogelu’r Amgylchedd drafft (“y Datganiad”). Mae’n ofynnol i’r Datganiad hwn gael ei baratoi a’i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 6 a 7 o’r Ddeddf Llywodraethiant Amgylcheddol. Mae’r Datganiad drafft ar gael yn yr Atodiad. Byddem yn croesawu eich barn ar unrhyw agwedd ar y Datganiad drafft.
Gofynion deddfwriaethol ar gyfer y Datganiad
Mae adran 6(1) o’r Ddeddf Llywodraethiant Amgylcheddol yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi datganiad sy’n esbonio:
- sut y maent yn ystyried y dylid dehongli’r egwyddorion amgylcheddol;
- sut y maent yn cynnig cydymffurfio â’r ddyletswydd yn adran 3(1);
- sut y maent yn cynnig penderfynu, at ddiben adran 3(4), a fyddai polisi yn cael dim effaith neu effaith ddibwys ar yr amgylchedd;
- sut y mae’r egwyddorion amgylcheddol yn ymwneud â’i gilydd ac â’r ddyletswydd yn adran 3(1)(b);
- sut y mae’r egwyddorion amgylcheddol a’r ddyletswydd yn adran 3(1)(b) yn ymwneud â’r amcan amgylcheddol;
- sut y mae’r dyletswyddau yn adran 3(1), adran 5(1) ac erthygl 4A(1) o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 yn ymwneud â’i gilydd;
- sut y mae’r ddyletswydd yn adran 3(1) yn ymwneud â phwerau a dyletswyddau eraill;
- sut y maent yn cynnig dangos y cydymffurfiwyd â’r ddyletswydd yn adran 3(1).
Mae adran 6(2) o’r Ddeddf Llywodraethiant Amgylcheddol yn ei gwneud yn ofynnol i’r datganiad gynnwys canllawiau i CNC ynglŷn â’r canlynol:
- sut i gydymffurfio â’r ddyletswydd yn erthygl 4A(1) o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 a sut i wneud hynny mewn ffordd sy’n rhoi effaith i’w ddiben cyffredinol yn erthygl 4 o’r Gorchymyn hwnnw.
- sut y mae’r egwyddorion amgylcheddol yn ymwneud â’i gilydd ac â’r ddyletswydd yn erthygl 4A(1)(b) o’r Gorchymyn hwnnw.
- sut y mae’r ddyletswydd yn erthygl 4A(1) o’r Gorchymyn yn ymwneud â phwerau a dyletswyddau eraill.
Mae adran 6(3) o’r Ddeddf Llywodraethiant Amgylcheddol yn ei gwneud yn ofynnol i’r datganiad gynnwys canllawiau i awdurdodau cyhoeddus ynglŷn â’r canlynol:
- sut i gydymffurfio â’r ddyletswydd yn adran 5(1).
- sut y mae’r egwyddorion amgylcheddol yn ymwneud â’i gilydd ac â’r ddyletswydd yn adran 5(1)(b).
- sut y mae’r egwyddorion amgylcheddol a’r ddyletswydd yn adran 5(1)(b) yn ymwneud â’r amcan amgylcheddol.
- sut y mae’r ddyletswydd yn adran 5(1) yn ymwneud â phwerau a dyletswyddau eraill.
Mae’r Datganiad drafft hwn yn bwriadu mynd i’r afael â phob un o’r materion hyn ac mae hefyd yn cynnwys materion eraill y mae Gweinidogion Cymru o’r farn eu bod yn briodol yn unol ag adran 6(4) o’r Ddeddf Llywodraethiant Amgylcheddol.
Ymgynghori a chydweithio
Mae adran 7 o’r Ddeddf Llywodraethiant Amgylcheddol yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â CNC, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru (“SLlAC”) a phersonau eraill y maent yn eu hystyried yn briodol wrth baratoi drafft o’r datganiad egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd.
Mae Gweinidogion Cymru yn ymgynghori â’r personau hyn ynghylch paratoi’r Datganiad drafft hwn drwy’r ymgynghoriad hwn ac mae’r rhestr o ymgyngoreion a nodir isod wedi’i pharatoi gan ystyried y gofynion hyn. Mae croeso hefyd i aelodau’r cyhoedd ac eraill ymateb.
Ni ymgynghorir â SLlAC gan nad yw’r gofyniad i ymgynghori â SLlAC mewn grym eto, nes ei bod yn gwbl weithredol.
Mae’r Datganiad drafft wedi’i baratoi ar ôl cydweithio â rhanddeiliaid allanol a mewnol.
Fel y nodwyd uchod, ar ôl ymgynghori, bydd copi o’r Datganiad drafft yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd yn unol â gofynion adran 7 o’r Ddeddf Llywodraethiant Amgylcheddol.
Y Gymraeg
Mae rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth lawn i effeithiau ein gwaith ar y Gymraeg. Mae hyn yn golygu y dylai unrhyw bolisi gan Lywodraeth Cymru ystyried sut mae ein polisïau yn effeithio ar yr iaith a sut y gallant orau gefnogi ei hyrwyddo a’i hwyluso. Mae deall yr effaith nid yn unig ar y rhai sy’n siarad Cymraeg, ond hefyd ar y rhai sy’n ei dysgu neu’n dymuno ei dysgu yn y dyfodol yn ein helpu i nodi goblygiadau polisi iaith Gymraeg sy’n gadarnhaol, yn negyddol a niwtral.
Mae amgylchedd naturiol Cymru wedi dylanwadu’n sylweddol ar yr iaith. Mae’r tirweddau garw, sy’n cynnwys mynyddoedd, dyffrynnoedd, ac arfordiroedd, wedi ynysu cymunedau’n hanesyddol, gan ganiatáu i’r Gymraeg ddatblygu tafodieithoedd unigryw a chynnal ei hynodrwydd. Yn ogystal, mae prydferthwch naturiol Cymru wedi ysbrydoli traddodiad cyfoethog o farddoniaeth a llenyddiaeth Cymraeg, sy’n ymwreiddio’r iaith o fewn hunaniaeth ddiwylliannol y rhanbarth ymhellach. Mae’r ymdrechion i warchod y Gymraeg wedi’u cysylltu’n agos â pholisïau amgylcheddol, oherwydd ystyrir bod rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn hanfodol er mwyn cynnal a chadw hunaniaeth a llesiant diwylliannol cymunedau ledled Cymru gan gynnwys cymunedau sy’n siarad Cymraeg.
Ni fydd y cynigion sy’n ymwneud â chyflwyno egwyddorion amgylcheddol yng nghyfraith Cymru yn cefnogi nac yn tynnu oddi wrth Thema 2 Cymraeg 2050. Mae’r dyletswyddau ar Weinidogion Cymru a rhai awdurdodau cyhoeddus eraill i gymhwyso’r egwyddorion amgylcheddol, ac i integreiddio diogelu’r amgylchedd, yn eistedd ochr yn ochr â’u dyletswyddau a’u cyfrifoldebau ehangach, gan gynnwys y rhai mewn perthynas â’r Gymraeg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y bydd yr holl ddogfennaeth sy’n deillio o’r cynigion yn y Ddeddf Llywodraethiant Amgylcheddol yn cyd-fynd â Safonau’r Gymraeg. Bu swyddogion polisi yn ymgysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg drwy’r holl waith o ddatblygu’r Ddeddf Llywodraethiant Amgylcheddol.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
Ydych chi’n meddwl bod y Datganiad drafft yn esbonio’r amcan amgylcheddol yn glir?
- Ydw
- Nac ydw
- Arall
Sylwadau ychwanegol ac unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella:
Cwestiwn 2
Ydych chi’n meddwl bod y Datganiad drafft yn esbonio’r egwyddorion amgylcheddol yn glir?
- Ydw
- Nac ydw
- Arall
Sylwadau ychwanegol ac unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella:
Cwestiwn 3
Ydych chi’n meddwl bod y Datganiad drafft yn esbonio’n glir sut i integreiddio diogelu’r amgylchedd wrth lunio polisi a gwneud penderfyniadau?
- Ydw
- Nac ydw
- Arall
Sylwadau ychwanegol ac unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella:
Cwestiwn 4
Ydych chi’n meddwl bod y Datganiad drafft yn esbonio’n glir sut y mae Gweinidogion Cymru yn cynnig cydymffurfio â’u dyletswydd, at ddibenion cyfrannu at yr amcan amgylcheddol, i roi sylw arbennig i’r egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd wrth lunio polisïau?
- Ydw
- Nac ydw
- Arall
Sylwadau ychwanegol ac unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella:
Cwestiwn 5
Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar sut y mae Gweinidogion Cymru yn cynnig penderfynu a yw polisi yn cael dim effaith neu effaith ddibwys ar yr amgylchedd? Os felly, nodwch nhw isod.
Cwestiwn 6
Ydych chi’n meddwl bod y Datganiad drafft yn esbonio’n glir sut i gydymffurfio â’r ddyletswydd ar CNC i roi sylw arbennig i’r egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd wrth lunio polisïau, a sut mae hyn yn ymwneud â diben cyffredinol CNC?
- Ydw
- Nac ydw
- Arall
Sylwadau ychwanegol ac unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella:
Cwestiwn 7
Mae’r Ddeddf Llywodraethiant Amgylcheddol yn ei gwneud yn ofynnol i rai awdurdodau cyhoeddus, at ddiben cyfrannu at yr amcan amgylcheddol, roi sylw i’r egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd wrth gyflawni swyddogaethau mewn cysylltiad ag asesu cynlluniau a rhaglenni o dan Reoliadau 2004.
Ydych chi’n meddwl bod y Datganiad drafft yn esbonio’n glir sut i gydymffurfio â’r ddyletswydd honno?
- Ydw
- Nac ydw
- Arall
Sylwadau ychwanegol ac unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella:
Cwestiwn 8
Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y Datganiad drafft ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
- Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Nodwch unrhyw sylwadau yn y blwch isod.
Cwestiwn 9
Yn eich barn chi, a ellid ffurfio neu newid y Datganiad drafft er mwyn:
- sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu
- liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg?
Os felly, darparwch fwy o wybodaeth yma:
Cwestiwn 10
Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar y Datganiad drafft nad ydynt wedi’u cynnwys yn y cwestiynau uchod?
Nodwch unrhyw sylwadau yn y blwch isod.
Ffurflen Ymateb i’r Ymgynghoriad
Eich enw:
Sefydliad (os yw’n berthnasol):
E-bost/rhif ffôn:
Eich cyfeiriad:
Mae’n bosibl y caiff ymatebion i ymgynghoriadau eu cyhoeddi. Bydd eich ymateb yn ddienw.
Fodd bynnag, os hoffech i’ch enw gael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’ch ymateb, rhowch x yn y blwch.
Rwy’n cytuno i fy enw gael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’m hymateb i’r ymgynghoriad hwn.
Consultee list
Rhestr o ymgyngoreion
- Amgueddfa Cymru
- Archwilydd Cyffredinol Cymru
- Arolygiaeth Dŵr Yfed
- Arolygiaeth Gynllunio Cymru
- Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru
- Asiantaeth Safonau Bwyd
- Awdurdod Harbwr Caerdydd
- Awdurdodau lleol yng Nghymru
- Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru
- Awdurdodau tân ac achub yng Nghymru
- Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned
- Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
- Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
- Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
- Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
- Comisiynydd Plant Cymru
- Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
- Comisiynydd y Gymraeg
- Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur
- Cyfeillion y Ddaear
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cymdeithas Cyfraith Amgylcheddol Cymru
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Cynghorau Iechyd Cymuned
- Cyngor Celfyddydau Cymru
- Cyngor Chwaraeon Cymru
- Cyswllt Amgylchedd Cymru
- Dŵr Cymru
- Gofal Cymdeithasol Cymru
- Gweinyddwr Annibynnol Cwynion Dŵr Daear
- Hafren Dyfrdwy
- Hybu Cig Cymru
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Network Rail
- Ofwat
- Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
- Place Research Institute
- Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
- Pwyllgor Cynghori Cymru a sefydlwyd o dan adran 5 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999
- Pwyllgor Cynghori Gwyddonol Cymru
- Pwyllgor Fferyllol Cymru
- Rheolydd Hawliau Amrywogaethau Planhigion
- Swyddfa Archwilio Cymru
- Trafnidiaeth Cymru
- Undeb Amaethwyr Cymru
- Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru
- World Wide Fund for Nature
- Y Gynghrair Werdd
- Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar
- Y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru
- Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol
- Ymddiriedolaeth y GIG a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y GIG (Cymru) 2006
Derbynwyr copi
- Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
- Llywodraeth yr Alban
- Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon
- Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd
- Safonau Amgylcheddol yr Alban
