Cyfarfod y Cabinet: 16 Mawrth 2026
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 16 Mawrth 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Dawn Bowden AS
- Vikki Howells AS
- Jack Sargeant AS
Ymddiheuriadau
- Sarah Murphy AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa'r Prif Weinidog a Chyflawni
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
- Luke Young, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
- Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Tal Michael, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Katie Mason, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol
- Kath Hallett, Swyddfa'r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Strategaeth
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Phil Elkin, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Alex Slade, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Gofal Sylfaenol a'r Blynyddoedd Cynnar
- Tom Nicholls, Prif Economegydd (eitem 4)
Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 9 Mawrth 2026.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Gwrthdaro yn y Dwyrain Canol
2.1 Cynghorodd y Prif Weinidog y Cabinet, wrth i'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol ddwysáu, y byddai eitem yn ddiweddarach yn y cyfarfod ar yr effaith economaidd a'r goblygiadau o ran costau byw.
Datganoli Cyfiawnder Ieuenctid, y Gwasanaeth Prawf a Phlismona
2.1 Rhoddodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ddiweddariad i'r Cabinet ar ddatganoli Cyfiawnder Ieuenctid, y Gwasanaeth Prawf a Phlismona, cyn gwneud cyhoeddiad yn ddiweddarach yr wythnos honno.
2.2 Ym mis Rhagfyr, cymeradwyodd y Cabinet y dull o gynnal trafodaethau parhaus â Llywodraeth y DU ar Gyfiawnder Ieuenctid a'r Gwasanaeth Prawf. Yn dilyn cyfarfod Gweinidogol â'r Dirprwy Brif Weinidog ddydd Gwener, roedd swyddogion bellach yn gweithio ar gyflymder i gadarnhau geiriad cytundeb.
2.3 O ran Cyfiawnder Ieuenctid, roedd cytundeb wedi'i sicrhau i drosglwyddo cyllid ar gyfer ymyrraeth gynnar a remánd, gydag ymrwymiad i ystyried a fyddai'r grant craidd mwy yn dilyn.
2.4 Roedd Llywodraeth y DU hefyd wedi ymrwymo i sicrhau rôl glir a sylweddol i Lywodraeth Cymru mewn trefniadau goruchwylio Cyfiawnder Ieuenctid yn y dyfodol.
2.5 Fel rhan o'r cyhoeddiad, byddai'r Llywodraeth hefyd yn cyhoeddi'r prif amcanion ar gyfer Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd ar y Gwasanaeth Prawf.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Nododd y Cabinet fod sawl newid i grid y Cyfarfodydd Llawn. Nid oedd un gwelliant wedi'i waredu yn ystod y ddadl Cyfnod 3 ar Fil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) y dydd Mawrth blaenorol. Er mwyn cywiro hyn, byddai angen i'r Llywodraeth geisio atal Rheolau Sefydlog ddydd Mawrth, yn syth ar ôl y cwestiynau i'r Prif Weinidog, er mwyn cynnal Cyfnod Adrodd ar gyfer y Bil yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw.
3.2 Y nod oedd symud yn uniongyrchol i Gyfnod 4 y Bil y diwrnod hwnnw. Byddai fersiwn ddiwygiedig o grid y Cyfarfodydd Llawn, gydag amseroedd gorffen wedi'u hamserlennu, yn cael ei rhannu â swyddfeydd preifat unwaith y byddai trefn yr eitemau ar yr agenda wedi'i chadarnhau.
Eitem 4: Diweddariad Llafar – Cymorth ar gyfer Costau Byw / Goblygiadau economaidd y Gwrthdaro yn y Dwyrain Canol
4.1 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Prif Economegydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am oblygiadau economaidd diweddaraf y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.
4.2 Nid oedd unrhyw beth positif i'w adrodd yn y tymor byr oherwydd y gwrthdaro. Roedd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi adrodd ei fod, heb os, yn newyddion drwg ar gyfer safonau byw yn y DU ac y byddai'n effeithio ar gynhyrchiant, gyda maint y dirywiad pellach posibl yn anhysbys.
4.3 I ddechrau, roedd y gwrthdaro wedi achosi argyfwng ynni, gyda phrisiau olew i fyny 45% a phrisiau nwy i fyny 67% ers 27 Chwefror. Byddai hyn yn cael effaith ar y gymdeithas ledled Cymru, gan gynnwys costau busnes uwch, yn enwedig ar gyfer ein diwydiannau ynni-ddwys ac ar gyfer yr economi wledig, yn sgil cynnydd mewn tanwydd a gwrtaith. Byddai hefyd yn golygu cynnydd mewn costau byw i deuluoedd, yn enwedig y rhai sy'n dibynnu ar olew gwresogi.
4.4 Roedd hyn yn debygol o gynyddu pwysau chwyddiannol, ac arwain, o bosibl, at gynnydd mewn cyfraddau llog neu oedi newidiadau o'r fath, gan rwystro gweithgarwch economaidd a buddsoddiad. Byddai hefyd yn cynyddu ansicrwydd economaidd, gyda llai o ddefnydd a gwariant, yn erbyn marchnad lafur a oedd yn gwanhau.
4.5 Nid oedd rhagolwg economaidd diweddar y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR), a gyhoeddwyd ochr yn ochr â Datganiad Gwanwyn Canghellor y Trysorlys, yn cynnwys unrhyw oblygiadau economaidd neu ariannol yn sgil y gwrthdaro. Fodd bynnag, nododd yr OBR ar 10 Mawrth ei bod yn disgwyl i chwyddiant fod yn agos at 3% erbyn diwedd y flwyddyn, i fyny o'r rhagolwg o 2%. Pe bai prisiau'n sefydlogi dros y 4 i 5 wythnos nesaf, byddai'r effaith yn llawer llai.
4.6 Adroddodd y Resolution Foundation, pe bai'r prisiau ynni uchel yn parhau, gallai'r cap ar brisiau ynni i ddefnyddwyr domestig yn codi tua £500 y flwyddyn ar gyfartaledd. Disgwyliwyd y penderfyniad nesaf ym mis Mai, a fyddai'n berthnasol i gostau ynni o fis Gorffennaf ymlaen. Gydag effeithiau chwyddiant eraill, amcangyfrifwyd y byddai chwyddiant yn cynyddu rhwng 0.5% ac 1.6%. Fodd bynnag, byddai'r effaith yn fwy ar ddefnyddwyr olew, teuluoedd incwm isel a defnyddwyr ynni-ddwys. Amcangyfrifwyd bod tua 340,000 o aelwydydd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd, gyda 304,000 hefyd yn agored i niwed.
4.7 Gallai pwysau ar gyllid cyhoeddus, fel chwyddiant uwch a chostau sy'n gysylltiedig ag ynni effeithio ar gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru.
4.8 Croesawodd y Cabinet y diweddariad a chytunodd ei bod yn bwysig ystyried yr effaith economaidd mewn cyd-destun Cymreig.
4.9 Nodwyd bod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi pecyn cymorth o £53m yn gynharach y diwrnod hwnnw, ar gyfer aelwydydd sydd fwyaf agored i brisiau olew gwresogi cynyddol. Byddai hyn yn arwain at £3.8m yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru yn 2026-27.
4.10 Cytunodd y Cabinet y dylid defnyddio'r holl gyllid i helpu'r rhai sy'n wynebu caledi ariannol oherwydd costau gwresogi cynyddol. Ar ben hynny, gan na fyddai'r cyllid ar gael tan fis Ebrill, byddai'r Llywodraeth yn ceisio dyrannu arian o danwariannau i sicrhau bod pobl yn cael cymorth cyn gynted â phosibl. Byddai cyllid o danwariannau a chan Llywodraeth y DU yn cael ei ddyrannu i'r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) a'r Sefydliad Banc Tanwydd (FBF).
4.11 Adroddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip fod rhwng 7-8% o Aelwydydd Cymru yn defnyddio olew gwresogi ar hyn o bryd. Bu trafodaethau hefyd â'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ynglŷn â chymryd camau i osgoi sefyllfa lle mae busnesau yn manteisio'n ariannol ar y farchnad gyfnewidiol.
4.12 O ran y cymorth sydd ar gael i ddefnyddwyr, byddai'r DAF yn parhau i ddarparu cymorth ar gyfer taliadau tanwydd oddi ar y grid. O'i gymharu, byddai'r FBF yn helpu'r rhai mewn argyfwng a oedd angen talu am danwydd ymlaen llaw ac a oedd mewn perygl o gael eu datgysylltu.
4.13 Anogwyd y rhai a oedd yn cael trafferth i gysylltu â llinell gymorth 'Hawliwch yr Hyn sy'n Ddyledus i Chi' AdviceLink Cymru i weld pa gymorth ariannol a oedd ar gael. Yn ogystal, gallai unrhyw un sy'n cael trafferth gysylltu â'r cynllun Nyth Cartrefi Cynnes i ofyn am gyngor ar fesurau effeithlonrwydd ynni. Roedd Canolfannau Clyd Diogel yn darparu mannau cynnes a diogel yn y gymuned, lle'r oedd cyngor ar gael hefyd. Roedd cefnogaeth hefyd i'r rhai sy'n wynebu tlodi bwyd, gan gynnwys drwy gymorth bwyd mewn argyfwng a phartneriaethau bwyd lleol.
4.14 Ar ben hynny, roedd y cynllun gostyngiad band i bobl anabl ar incwm isel yn darparu taliadau cymorth i garfan ddiffiniedig a oedd yn wynebu risg arbennig o uchel oherwydd anghenion ynni uwch. Roedd Ofgem wedi lansio cynllun peilot blwyddyn ar gyfer tariffau tâl sefydlog is ar gyfer defnyddwyr cymwys, i ddechrau o fis Ebrill ymlaen. Nodwyd y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ysgrifennu at holl Aelodau'r Senedd i amlinellu pa gefnogaeth a oedd ar gael.
4.15 Nododd y Cabinet y diweddariad.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mawrth 2026
