Cyfarfod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru:19 Tachwedd 2025
Cofnodion cyfarfod Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Aelodau
- Ruth Glazzard, Cadeirydd
- Mary Champion, Aelod Anweithredol
- Jim Scopes, Aelod Anweithredol
- Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
- Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredu / Darparu Gwasanaethau
- Dave Matthews, Cyfarwyddwr Strategaeth a Gallu
- Indee Dehal, Aelod Staff Etholedig (SEM)
Ymddiheuriadau
- Jocelyn Davies, Is-gadeirydd
Agor y cyfarfod
- Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Roedd cynrychiolwr o Drysorlys Cymru (TC) a chyflwynwyr a sylwedyddion o ACC yn bresennol. Ni ddatganwyd unrhyw wrthdrawiad buddiannau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jocelyn Davies, byddai Indee Dehal yn cyrraedd am 11am Wedi'i olygu
- Ni ddatganwyd unrhyw wrthdrawiad buddiannau.
- Nodwyd y byddai cynrychiolwyr Cowshed, yr asiantaeth gyfathrebu integredig sy'n gweithio gyda thimau Cyfathrebu ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid ACC, yn ymuno â’r cyfarfod i roi cyflwyniad ar y gwaith y maeny yn ei wneud i ACC mewn perthynas â’r Ardoll Ymwelwyr a Chofrestriad Cenedlaethol.
Cofnod gweithredoedd
- A25-01-01 – O ran effeithiolrwydd pwyllgorau a hyfforddi, y bwriad oedd gwneud hyn yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Byddai'r Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu yn trafod hyn ymhellach gyda'r Swyddfa Breifat a Chadeirydd y Bwrdd er mwyn cael eu mewnbwn ar gyfer sesiwn y Bwrdd. Byddai sesiynau yn cael eu cynnal ar gyfer Tîm Arwain (TA) a grwpiau llywodraethiant eraill hefyd.
- A25-03-02 – Roedd sgyrsiau cychwynnol am Ddiwrnod Cwrdd i Ffwrdd y Bwrdd wedi’u cynnal, ac awgrymwyd y gallai fod yn fuddiol pe gwahoddwyd cynrychiolwyr Kainos i gyflwyno eitem ar AI.
- BC A25-04-02 – Mewn perthynas â'r cynllun seiberddiogelwch, byddai Cadeirydd y Pwyllgor Sicrwydd a Rheoli Risg (ARAC) yn trafod hyn gyda Phennaeth Gweithrediadau Seiber a Diogelwch ACC, ond ddim ar-lein.
- Yn dilyn recriwtio diweddar, llongyfarchodd y Bwrdd Rebecca Godfrey am gael ei phenodi’n Brif Weithredwr parhaol ACC. Roedd y broses AD ar gyfer y penodiad hwn yn cael ei chwblhau.
Adroddiadau
Adroddiad Pennaeth y Staff
Adroddiad ar Berfformiad
- Cyflwynodd Swyddog Ystadegol ACC ddata Ch2 ar gyfer y dangosyddion perfformiad. Dywedodd fod y dangosfwrdd yn dal i gael ei fireinio, a gofynnodd am adborth gan aelodau'r Bwrdd os oedd unrhyw wybodaeth yn aneglur.
- Wedi'i olygu
- Byddai Tîm Data ACC yn adrodd ar ddata'r arolwg staff yng nghyfarfod chwarterol nesaf y Bwrdd ym mis Chwefror 2026.
Adroddiad Cyllid a’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)
- Dywedodd Cadeirydd ARAC ei bod wedi dweud wrth y tîm archwilio mewnol nad oedd yr adroddiadau archwilio mewnol ar eu newydd wedd yn cynnwys y manylder y byddai ARAC yn ei ddisgwyl fel arfer. Byddai'r Cadeirydd a staff ACC cyfrifol yn cwrdd â'r tîm archwilio mewnol i drafod ymhellach.
- Roedd ARAC wedi derbyn adroddiad manwl gan Reolwr Datrysiadau Busnes ACC ynghylch y broses gwneud cais am newid, a oedd yn sesiwn ddifyr a rhyngweithiol. Awgrymwyd y gallai sesiynau manwl tebyg fod yn ddefnyddiol i aelodau'r Bwrdd. Byddai Prif Weithredwr ACC a Chadeirydd y Bwrdd yn trafod adolygiadau manwl posibl yng nghyfarfodydd y Bwrdd yn y dyfodol.
- Wedi'i olygu
Adroddiad Trysorlys Cymru
Trafodaeth y Bwrdd
Datganiad archwaeth risg
- Dywedodd Pennaeth y Staff fod y Datganiad Archwaeth Risg (RAS) wedi'i drafod yng nghyfarfodydd y Grŵp Arwain Cyflawni Corfforaethol (CDLG), TA, ac ARAC yr wythnos diwethaf. Nodwyd y newidiadau i'r Datganiad, a darparwyd fersiwn i'r aelodau gyda’r newidiadau wedi'u nodi.
- Roedd seiberdroseddu bellach wedi ei grybwyll yn benodol yn y RAS, yn dilyn adborth gan ARAC.
- Mewn perthynas â diwylliant a phobl, nodwyd anghysondeb iaith. Byddai Pennaeth y Staff yn diwygio hyn.
A25-04-02: Pennaeth y Staff i ddarparu disgrifiad o seiberdroseddu i'w gynnwys yn yr RAS a'i gylchredeg i Aelodau'r Bwrdd drwy e-bost. Byddai hefyd yn cywiro'r anghysondeb iaith a nodwyd yn yr adran diwylliant a phobl.
D25-04-01: CYMERADWYODD Aelodau'r Bwrdd y Datganiad Archwaeth Risg (RAS), yn amodol ar ychwanegu cynnwys ac egluro’r adrannau am seiberdroseddu a phobl a diwylliant.
Cylch gorchwyl y Bwrdd Adolygu
Cyflwyniad gan Cowshed Communications
- Cyflwynodd y Pennaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Wedi'i olygu a Wedi'i olygu gan Cowshed Communications. Rhoddwyd cyflwyniad i'r aelodau a oedd yn manylu ar gyfathrebu a gweithgareddau rhanddeiliaid ar gyfer yr ymgyrch cofrestriad cenedlaethol a llety ymwelwyr.
- Byddai timau Cyfathrebu ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid ACC yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd ar y gweithgareddau hyn yn y cyfarfod ym mis Chwefror 2026.
Llinell amser gweithgarwch (Allbwn Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd y Bwrdd)
- Wedi'i olygu
- Wedi'i olygu
- Wedi'i olygu
- Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategaeth a Gallu y gallai llythyr partneriaeth (cylch gorchwyl) ACC gan Weinidogion gael effaith ar y cynllun busnes hefyd, a byddai angen ei ail-werthuso pe bai, er enghraifft, llywodraeth newydd yn gwneud newidiadau sylweddol i gylch gwaith ACC neu'n gosod disgwyliadau gwahanol o ran cyflawni. Nodwyd y byddai cynllunio busnes yn digwydd bob tair mlynedd yr un pryd â pharatoi cynllun corfforaethol ACC, a fyddai’n cynyddu'r pwysau ar y tîm strategaeth i gyflawni'r ddau gyda'i gilydd.
- Nododd y Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu yr angen i ystyried y llif gwaith pobl yn unol â'r amserlen strategol ymhellach, a pha bryd y maent yn ymgysylltu â staff. Byddai camau gweithredu Gateway 0 yn cael eu hychwanegu at agenda cyfarfod Sgwrs y Bwrdd ym mis Rhagfyr 2025 i drafod yr aliniad hwn ymhellach.
A25-04-04: Byddai'r camau gweithredu Gateway 0 yn cael eu hychwanegu at agenda Sgwrs y Bwrdd mis Rhagfyr.
Cau’r cyfarfod
Myfyrdodau ar risg a’r goblygiad ariannol
- Myfyriodd yr aelodau ar drafodaethau'r dydd, a oedd ag ystyriaethau risg eang.
Unrhyw Faterion Eraill
- Nid oedd unrhyw faterion eraill.
- Sgwrs Bwrdd fyddai’r cyfarfod nesaf ar 17 Rhagfyr 2025. Nodwyd bod cyfarfod Chwefror y Bwrdd wedi'i drefnu yn ystod wythnos hanner tymor, a byddai angen ei aildrefnu ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau 23 Chwefror 2026.
Gwybodaeth wedi’i golygu
Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.
