Neidio i'r prif gynnwy
Elin Jones AS

Gweinidog Cabinet dros Gyllid

Cyfrifoldebau

  • Trysorlys Cymru
  • Awdurdod Cyllid Cymru
  • Rhoi cyfeiriad strategol ar gyfer adnoddau Llywodraeth Cymru, a'u rheoli'n strategol
  • Polisi trethi, gan gynnwys Diwygio'r Dreth Gyngor, ardrethi annomestig, gostyngiadau'r dreth gyngor a Noddi gwasanaethau Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru
  • Polisi cyllid Llywodraeth Leol gan gynnwys diwygio ariannol
  • Ardoll Ymwelwyr
  • Monitro a rheoli'r gyllideb
  • Buddsoddi Strategol
  • Buddsoddi i Arbed
  • Cyfrifyddu Ariannol ac archwilio
  • Monitro a rheoli'r gyllideb yn ystod y flwyddyn
  • Gweithredu a datblygu'r setliad cyllid datganoledig a'r Datganiad Polisi Cyllido
  • Y berthynas â Thrysorlys EF a Chyllid a Thollau EF ar bob mater gwariant a threth
  • Polisi cyflogau'r Sector Cyhoeddus
  • Y dull strategol o gaffael, cynnal a gwaredu eiddo ac asedau eraill
  • Materion masnachol a chaffael ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus Cymru
  • Polisi grantiau
  • Cydgysylltu gwaith ar y Fframweithiau Cyffredin
  • Goruchwylio'r gwaith o archwilio, arolygu a rheoleiddio mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Elin Jones wedi byw yn Llanwnnen, Caerdydd, Aberystwyth a nawr Aberaeron. Mae hi'n mwynhau cerddoriaeth a'r celfyddydau. Mae wedi canu mewn corau amrywiol a bu’n aelod o’r grŵp harmoni clos, Cwlwm, am flynyddoedd lawer. Mae treftadaeth a diwylliant Cymru yn bwysig iawn iddi. Bu'n helpu i gydlynu’r cerflun o Granogwen yn Llangrannog ac yn helpu i amddiffyn wal Cofiwch Dryweryn. Bu hefyd yn rhan o Bwyllgor trefnu deiseb heddwch hanesyddol merched Cymru. Elin Jones oedd cadeirydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.

Hanes personol

Ganed Elin Jones ym 1966 ac fe’i magwyd ar fferm yn Llanwnnen, ger Llanbedr Pont Steffan. Aeth i Ysgol Gynradd Llanwnnen ac Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan. Ar ôl derbyn gradd BSc mewn Economeg o Brifysgol Caerdydd, dyfarnwyd gradd MSc mewn Economeg Wledig iddi o Brifysgol Aberystwyth.

Cefndir proffesiynol

Bu Elin Jones yn Swyddog Datblygu Economaidd i Fwrdd Datblygu Cymru Wledig, ac roedd yn gyfarwyddwr gyda Radio Ceredigion a chwmni cynhyrchu teledu Wes Glei Cyf.

Bu Elin Jones ar Gyngor Tref Aberystwyth o 1992 tan 1999, a hi oedd Maer ieuengaf Aberystwyth yn nhymor 1997-98. Hi oedd Cadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru rhwng 2000 a 2002.

Hanes gwleidyddol

Etholwyd Elin Jones i’r Cynulliad ym mis Mai 1999 ac, yn nhymor cyntaf y Cynulliad, hi oedd Gweinidog yr Wrthblaid dros Ddatblygu Economaidd. Yn dilyn etholiad 2003, llwyddodd i ddal gafael ar y portffolio hwn tan 2006, pan ddaeth yn Weinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad. Ar 9 Gorffennaf 2007, ffurfiwyd Llywodraeth Cymru’n Un a phenodwyd Elin Jones yn Weinidog dros Faterion Gwledig. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, enillodd wobr Aelod Cynulliad y Flwyddyn, a gwobr ‘Pencampwr Ffermio’r DU’ y Farming Weekly.

Yn 2016, etholwyd Elin Jones yn Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol. Yn ei rôl fel Llywydd, arweiniodd ar sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru, ymestyn yr etholfraint bleidleisio ar gyfer etholiadau Cymru i bobl ifanc 16 a 17 oed, newid enw’r Cynulliad Cenedlaethol i Senedd Cymru, a goruchwylio diwygio’r Senedd. Yn etholiad diwethaf y Senedd yn 2021, cafodd ei hethol am ail dymor i rôl Llywydd y Senedd.

Ar 13 Mai 2026 penodwyd Elin Jones yn Weinidog Cabinet dros Gyllid.

Ysgrifennu at Elin Jones