Heledd Fychan AS Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Cynnwys
Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Cynnwys
Cyfrifoldebau
- Rheoli Busnes y Llywodraeth yn y Senedd yn unol â'r Rheolau Sefydlog
- Darparu'r Datganiad Busnes wythnosol
- Cynrychioli'r Llywodraeth yn y Pwyllgor Busnes
- Prif Chwip y Llywodraeth
- Diwylliant a'r celfyddydau
- Polisi darlledu a'r cyfryngau
- Y Strategaeth Diwylliant, gan gyfeirio at y Gymraeg a'r Diwydiannau Creadigol
- Noddi Cyngor Celfyddydau Cymru, a'i gylch gwaith
- Amgylchedd hanesyddol Cymru
- Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru
- Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
- Amgueddfeydd a chasgliadau lleol
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Llyfrgelloedd cyhoeddus
- Gwasanaethau archifau lleol
- Datblygu Archif Genedlaethol Cymru
- Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
- Chwaraeon Elît
- Chwaraeon cymunedol, gan gynnwys noddi Cyngor Chwaraeon Cymru
- Digwyddiadau Mawr
Bywgraffiad
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Fel Aelod o’r Senedd, mae Heledd Fychan wedi ymgyrchu ar nifer o bynciau amrywiol gan gynnwys mwy o weithredu ar yr argyfwng hinsawdd a chefnogaeth i gymunedau sy’n wynebu risg parhaus o lifogydd; cau chwarel Craig yr Hesg; rhan fwy canolog i ddiwylliant, hanes, treftadaeth, y celfyddydau a chwaraeon yn rhaglenni’r llywodraeth; dyfodol y Gymraeg; taclo tlodi; gwell cefnogaeth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, a chludiant i’r ysgol.
Hanes personol
Cafodd ei magu yn Ynys Môn, lle mynychodd Ysgol Gynradd y Talwn ac Ysgol Uwchradd David Hughes. Astudiodd Hanes a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn, gan ddod yn Swyddog Sabathol Addysg yn Undeb Myfyrwyr Coleg y Drindod ac yna yn Swyddog Sabathol Addysg Undeb Myfyrwyr Iwerddon. Mae ganddi radd meistr mewn Hanes Canoloesol o Brifysgol Bangor. Mae’n byw ym Mhontypridd gyda’i gŵr, a’u mab.
Cefndir proffesiynol
Cyn cael ei hethol, roedd Heledd Fychan wedi bod yn gweithio ers deuddeg mlynedd i Amgueddfa Cymru fel Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus gan arwain ar lywodraethiant, strategaeth, cyfathrebu mewnol, cysylltiadau rhyngwladol a ymgysylltu gyda rhanddeiliaid. Bu’n aelod o Fwrdd y Museums Association gan gadeirio’i Bwyllgor Moeseg mewn Amgueddfeydd a’i Bwyllgor Cenhedloedd. Bu hefyd yn cynrychioli’r sefydliad fel siaradwraig wadd mewn nifer o gynadleddau rhyngwladol. Cyn hynny, bu’n gweithio i grŵp Plaid Cymru yn San Steffan.
Hanes gwleidyddol
Yn 2017, cafodd ei hethol i gynrychioli ward Tref Pontypridd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf a hefyd Cyngor Tref Pontypridd. Fel Cynghorydd, fe wnaeth hi gefnogi nifer o ymgyrchoedd blaenllaw yn lleol gan gynnwys galw am Ymchwiliad Annibynnol i lifogydd dinistriol 2020, achub yr Uned Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a gwrthwynebu ad-drefnu ysgolion yn ardal Pontypridd.
Ar 13 Mai 2026 penodwyd Heledd Fychan yn Drefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon.
