Nerys Evans AS Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol
Cynnwys
Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol
Cynnwys
Cyfrifoldebau
- Arweinydd Trawslywodraethol ar Iechyd Ataliol
- Iechyd y cyhoedd
- Atal argyfyngau, parodrwydd ar eu cyfer ac ymateb iddynt o ran iechyd gan gynnwys parodrwydd ar gyfer pandemig
- Diogelu Iechyd
- Gwella Iechyd
- Gwasanaethau caethiwed
- Effaith gamblo cymhellol ar iechyd
- Tybaco a Fepio
- Camddefnyddio sylweddau
- Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, gan gynnwys diogelwch bwyd
- Gweithgarwch corfforol a hamdden egnïol yng Nghymru
- Gwasanaethau gwella iechyd a llesiant
- Gordewdra
Bywgraffiad
Etholwyd Nerys Evans AS i gynrychioli Sir Gaerfyrddin yn 2026. Cafodd ei magu yn Llangain, a mynychodd Ysgol Bro Myrddin cyn graddio o Brifysgol Manceinion a Phrifysgol Caerdydd.
Cafodd ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn 2007 fel Aelod Cynulliad rhanbarthol dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn ystod cytundeb clymbleidiol Cymru'n Un, lle bu'n gweithio fel y cyswllt rhwng y Gweinidogion a'r meinciau cefn. Yn ystod ei thymor cyntaf, sefydlodd enw da fel cynrychiolydd ystyriol ac egnïol, gan weithio ar faterion fel datblygu economaidd gwledig, cysylltedd digidol a thrais yn erbyn menywod.
Ar ôl gadael y Cynulliad yn 2011, fe'i penodwyd i nifer o swyddi gweinidogol a chyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethu fel Aelod o Gomisiwn Williams ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, fel Comisiynydd Addysg, ac ar Bwyllgor Cynghori Cymru Ofcom. Mae hi hefyd wedi arwain ar bolisi ar gyfer Elusen Ganser, gan gefnogi eu gwaith a'u hymgysylltiad â Byrddau Iechyd Lleol ledled Cymru, ac wedi sefydlu a datblygu asiantaeth materion cyhoeddus lwyddiannus - gan weithio gydag ystod o sefydliadau ar draws iechyd a gofal ar ddatblygu polisi cyhoeddus, ac ymgyrchu.
Yn adnabyddus am ei sgiliau cyfathrebu cryf, ei dull cydweithredol a'i dealltwriaeth ddofn o faterion cyhoeddus Cymru, dychwelodd Nerys Evans i'r Senedd yn 2026 a chafodd ei phenodi'n Ddirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol yn Llywodraeth Cymru, lle bydd ei ffocws ar sicrhau dull trawslywodraethol o weithredu ar iechyd ataliol.
