Neidio i'r prif gynnwy
Llyr Gruffydd AS

Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd

Cyfrifoldebau

  • Mesurau trawsbynciol ar gyfer lliniaru ac addasu yn sgil newid hinsawdd, gan gynnwys dŵr; draenio tir; risg llifogydd a risg arfordirol; a rheoli llygredd morol a llygredd aer
  • Sero Net, newid hinsawdd, targedau lleihau allyriadau a chyllidebau carbon
  • Rheoli Adnoddau Naturiol, gan gynnwys goruchwylio a gweithredu Deddf yr Amgylchedd (Cymru), a Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Dŵr
  • Polisi a deddfwriaeth coedwigaeth, gan gynnwys ailstocio, iechyd coed a deunydd atgynhyrchu coedwigoedd, a'r Goedwig Genedlaethol
  • Cynllunio morol a chynllunio dŵr croyw, bioamrywiaeth, cadwraeth a thrwyddedu
  • Polisi bioamrywiaeth, gan gynnwys gweithredu'r Cynllun Adfer Natur
  • Rheoli adnoddau a gwastraff yn gynaliadwy
  • Ansawdd yr amgylchedd lleol, gan gynnwys polisi sŵn, sbwriel, tipio anghyfreithlon, y Cynllun Dychwelyd Ernes a Chyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr
  • Gwarchod a rheoli bywyd gwyllt, gan gynnwys rheoli plâu, chwyn niweidiol a fermin a rheoleiddio iechyd planhigion, hadau a phlaladdwyr
  • Diogelwch Cronfeydd Dŵr
  • Arwain yn strategol ar randiroedd a seilwaith gwyrdd trefol
  • Mannau Gwyrdd Cymunedol a thir comin
  • Mynediad at gefn gwlad, yr arfordir, hawliau tramwy a dyfrffyrdd/cyrff dŵr
  • Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
  • Cofrestru, Gwerthuso, Awdurdodi a Chyfyngu ar Gemegau (REACH) a'r polisi Cemegau
  • Diogelwch tomenni glo
  • Adfer mwyngloddiau brig
  • Cynaliadwyedd cymunedau gwledig
  • Prawfesur polisïau o safbwynt anghenion cefn gwlad
  • Cefnogi Amaethyddiaeth – diogeledd bwyd, materion economaidd, materion cymdeithasol
  • Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
  • Datblygu'r sector amaethyddol, gan gynnwys cyflogau a sgiliau
  • Y Rhaglen Datblygu Gwledig
  • Y polisi tir gorau a mwyaf amlbwrpas, cyngor ar adfer safleoedd mwynau i ôl-ddefnydd amaethyddol, Dosbarthiad Tir Amaethyddol a gweithredu'r Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth)
  • Newydd-ddyfodiaid i ffermio
  • Iechyd a lles anifeiliaid
  • Y Cynllun Dileu TB Buchol
  • Polisi adnabod a symud da byw
  • Polisi cofrestru daliadau
  • Cnydau a addaswyd yn enetig
  • Pŵer i'w gwneud yn ofynnol i ddarparu gwybodaeth am bris cnydau
  • Pysgodfeydd mewndirol, arfordirol a morol: rheoleiddio a gorfodi polisïau, a rheoli harbyrau pysgota
  • Yr economi gylchol
  • Datblygu'r sector bwyd-amaeth, cadwyni cyflenwi cysylltiedig, hyrwyddo a marchnata bwyd a diod o Gymru

Ysgrifennu at Llyr Gruffydd