Y Gwir Anrh Elfyn Llwyd Cwnsler Cyffredinol
Cynnwys
Cwnsler Cyffredinol
Cynnwys
Cyfrifoldebau
- Rhoi cyngor cyfreithiol i'r Llywodraeth
- Goruchwylio Deddfwriaeth y DU a'r broses cydsyniad deddfwriaethol
- Cyngor cyfreithiol ar gryfhau datganoli a newid cyfansoddiadol
- Goruchwylio gwaith yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol a Swyddfa'r Cwnsleriaid Deddfwriaethol
- Tribiwnlysoedd Cymru
- Goruchwylio erlyniadau ar ran Llywodraeth Cymru
- Goruchwylio cynrychiolaeth Llywodraeth Cymru yn y llysoedd
- Ystyried a oes angen i Filiau a basiwyd gan y Senedd gael eu cyfeirio at y Goruchaf Lys er mwyn penderfynu a ydynt o fewn cymhwysedd y Senedd (gwneir hyn yn annibynnol ar y Llywodraeth)
- Cyflawni swyddogaethau eraill er budd y cyhoedd gan gynnwys, pan fo'r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried ei bod yn briodol, cychwyn, amddiffyn neu ymddangos mewn unrhyw achosion cyfreithiol sy'n ymwneud â swyddogaethau Llywodraeth Cymru (gwneir hyn yn annibynnol ar y Llywodraeth)
- Cydlynu â'r Sector Cyfreithiol a Chyngor Cyfraith Cymru
- Hygyrchedd Cyfraith Cymru
- Mynediad at Gyfiawnder
Bywgraffiad
Hanes personol
Bargyfreithiwr a gwleidydd yw’r Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd. Cafodd ei eni ym Metws-y-Coed a’i fagu yn Llanrwst, ac yn ddiweddarach aeth i Brifysgol Cymru, Aberystwyth a Choleg y Gyfraith Caer.
Mae'n briod â'r gantores werin Eleri Llwyd, ac mae ganddynt ddau o blant. Ymysg ei ddiddordebau mae bridio colomennod, darllen, teithio a rygbi.
Cefndir a hanes proffesiynol a gwleidyddol
Bu Elfyn Llwyd yn gweithio fel cyfreithiwr ac wedyn bargyfreithiwr, gan gael ei alw i'r bar yn 1997, cyn cael ei ethol i swydd gyhoeddus. Rhwng 1990 a 1991 bu'n Llywydd Cymdeithas y Gyfraith Gwynedd.
Roedd yn Aelod Seneddol dros Feirionnydd Nant Conwy yn Nhŷ'r Cyffredin o etholiad cyffredinol 1992 hyd at ddiddymu’r etholaeth yn 2010, ac yna dros y brif etholaeth a’i holynodd, sef Dwyfor Meirionnydd, o 2010 tan ei ymddeoliad yn 2015. Ef oedd arweinydd grŵp seneddol Plaid Cymru yn San Steffan.
Ar 16 Mai 2011, penodwyd ef i’r Cyfrin Gyngor.
Ym mis Awst 2021, cyhoeddwyd ei benodi’n Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.Ym mis Awst 2025, penodwyd ef yn Gyfreithiwr Mygedol i Orsedd y Beirdd.
Ar 13 Mai 2026, penodwyd Elfyn Llwyd yn Gwnsler Cyffredinol.
