Heddiw, mae'r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth wedi penodi ei Gabinet, gan ddweud y bydd yn un a fydd yn rhoi “pwyslais diflino ar wneud yr hyn sydd orau i Gymru”.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Rwy'n hyderus y bydd y Cabinet hwn yn dod ag egni newydd, syniadau newydd a chyfeiriad newydd i'r ffordd mae ein cenedl yn cael ei harwain.
“Mae fy llywodraeth yn un unedig, llawn doniau a phrofiad sy’n barod i wasanaethu. Bydd yn mynd ati i gyflawni ar sail yr hyn sy’n bosibl, gan weithio fel un tîm bob dydd i wella bywydau pobl Cymru.
“Byddwn yn cael ein llywio gan ein hegwyddorion wrth inni chwilio am atebion ymarferol i'r materion sy'n wynebu cymunedau ar hyd a lled ein gwlad – a byddwn yn bwrw ati i gyflawni ein hamcanion gydag egni yn ddi-ymdroi.
"Mae ein haddewid yn syml – ad-dalu’r ymddiriedaeth y mae pobl wedi’i rhoi ynom cyn gynted ag y gallwn, gan ddod â'r genedl ynghyd. Mae cyfnod newydd o arweinyddiaeth yn dechrau heddiw.”
Cabinet Llywodraeth Cymru yn llawn:
- Prif Weinidog: Rhun ap Iorwerth
- Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb: Sioned Williams
- Gweinidog Cabinet dros Gyllid: Elin Jones
- Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon: Heledd Fychan
- Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad: Dafydd Trystan Davies
- Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal: Mabon ap Gwynfor
- Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Adam Price
- Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg: Anna Brychan
- Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Llyr Gruffydd
- Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Siân Gwenllian
- Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Atalioll: Nerys Evans
- Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod: Delyth Jewell
- Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth: Mark Hooper
- Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol: Cefin Campbell
- Darpar Gwnsler Cyffredinol: Elfyn Llwyd
Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog Sioned Williams:
“Rwy’n ei theimlo’n fraint cael fy mhenodi'n Ddirprwy Brif Weinidog gan Brif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ac rwy'n ymgymryd â'r rôl hon gydag ymdeimlad dwfn o bwrpas.
“Mae hon yn Llywodraeth i bawb sydd wedi ymrwymo i droi addewid yn weithredu ar unwaith i bobl Cymru, gyda phwyslais clir ar fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu pob cymuned.
“Rwy'n benderfynol o weithredu ar ein blaenoriaethau o'r diwrnod cyntaf, yn enwedig o ran cyflwyno ein cynnig gofal plant a thaclo tlodi plant ar frys, fel bod pob plentyn yn cael y diogelwch a'r cyfle mae’n ei haeddu.”
