Diweddariadau fframwaith.
Rhannau cerbydau, nwyddau traul ar gyfer gweithdai a rheoli storfeydd dewisol
Mae ein fframwaith rhannau cerbydau, nwyddau traul ar gyfer gweithdai a rheoli storfeydd dewisol bellach yn fyw.
Mae wedi'i drefnu'n dri lot rhanbarthol, pob un wedi'i ddyfarnu i un cyflenwr:
- Lot 1: Gogledd Cymru – Truckparts North Wales
- Lot 2: De-orllewin Cymru – Fleetwheel
- Lot 3: De-ddwyrain Cymru – Fleetwheel
Ni dderbyniodd y lot Cymru Gyfan unrhyw gynigion. Mae canllawiau i gwsmeriaid sydd â gofynion daearyddol ehangach ar gael ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi).
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru
