Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Darparwr gweithredwr mesuryddion

Mae ein fframwaith darparwr gweithredwr mesuryddion (C365/2025/2026) bellach yn fyw ac ar gael i sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru.

Mae'r fframwaith yn rhoi mynediad cydymffurfiol i wasanaethau darparwr gweithredwr mesuryddion a chasglu data ar gyfer mesuryddion AMR nad ydynt yn anfon mesuriadau bob hanner awr, ac yn cefnogi'r trawsnewid i fesuryddion clyfar o dan y rhaglen setliad hanner awr ledled y farchnad. Mae'r cwmpas hefyd yn cynnwys gosod is-fesuryddion a gwasanaethau cofnodi data nwy.

Mae'r fframwaith wedi'i rannu'n ddwy lot ranbarthol, Gogledd Cymru a De Cymru, a bydd yn rhedeg tan 31 Mawrth 2030.

Bydd canllawiau i gwsmeriaid a dogfennau ategol ar gael trwy'r Cyfeiriadur Contractau ar GwerthwchiGymru yn fuan. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Cyfleustodau@llyw.cymru