Cyflenwad cynaliadwy o feddyginiaethau: datganiad sefyllfa Mawrth 2026
Pwysigrwydd cyflenwi meddyginiaethau cynaliadwy o fewn fferylliaeth gymunedol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Datganiad sefyllfa
Mae Pwyllgor Fferyllol Cymru o'r farn bod datblygu rôl glinigol fferyllwyr a thechnegwyr fferyllfa ymhellach yn y sector fferylliaeth gymunedol yn dibynnu ar sicrhau bod y rhwydwaith fferylliaeth gymunedol yn parhau i fod y prif lwybr ar gyfer cyflenwi meddyginiaethau mewn gofal sylfaenol yng Nghymru.
Mae'r pwyllgor o'r farn y dylai sicrhau cynaliadwyedd hirdymor trefniadau ar gyfer cyflenwi meddyginiaethau gan fferyllfeydd cymunedol fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru oherwydd ei fod yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan gleifion, mae'n darparu manteision ariannol sylweddol i'r GIG a threthdalwyr, ac o ystyried amlder y cyswllt rhwng cleifion a fferyllfeydd, mae'n cyflwyno cyfle heb ei ail i hyrwyddo'r defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau gan gleifion a'r cyhoedd yng Nghymru.
Cefndir
Mae'r sector fferylliaeth gymunedol yng Nghymru mewn cyfnod o ddiwygio sylweddol. Ers cyhoeddi Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach yn 2019, mae'r rôl y mae fferyllfeydd cymunedol yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau'r GIG wedi ehangu'n fawr, yn fwyaf nodedig drwy argaeledd cynyddol gwasanaethau clinigol ychwanegol sy'n hyrwyddo mynediad at ofal GIG o ansawdd uchel yn nes at gartrefi pobl.
Wedi'u hategu gan y diwygiadau cytundebol eang i'r GIG a ddisgrifir yn Presgripsiwn Newydd, mae fferyllfeydd cymunedol bellach yn darparu ymhell dros hanner miliwn o ymgyngoriadau gwasanaeth clinigol bob blwyddyn gan leihau'r galw am wasanaethau eraill y GIG, gan gynnwys practis cyffredinol ac adrannau achosion brys mewn ysbytai. Mae llawer o'r gwasanaethau hyn yn cynnwys y gwasanaeth fferylliaeth gymunedol glinigol cenedlaethol, gwasanaeth brechu rhag ffliw y GIG a gwasanaethau rhagnodi annibynnol fferyllwyr, yn adeiladu ar rôl graidd ‘cyflenwi meddyginiaethau’ fferyllfeydd cymunedol drwy alluogi fferyllwyr a thechnegwyr fferyllfa i asesu, cynghori a darparu triniaeth heb yr angen i gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.
Ochr yn ochr ag ehangu gwasanaethau clinigol, rhoddodd fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru fwy nag 80 miliwn o bresgripsiynau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac mae tystiolaeth o rannau eraill o'r DU yn awgrymu mai cael presgripsiwn yw'r rheswm mwyaf cyffredin i bobl ymweld â'u fferyllfa gymunedol. Mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Lloegr wedi canfod yn flaenorol bod y trefniadau ar gyfer ad-dalu fferyllfeydd am roi meddyginiaethau ar ran y GIG wedi arwain at brisiau meddyginiaethau is i'r GIG.
Sail Resymegol
Yn cyd-fynd â gweledigaeth y Pwyllgor a nodir yn Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach, mae mynediad at wasanaethau clinigol sy'n bodoli eisoes a gwasanaethau newydd gan fferyllfeydd cymunedol wedi ehangu ac wedi dod yn fwy cyson. Fodd bynnag, bu gostyngiad o 3.6% yn nifer cyffredinol y fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Rhwng 2022 a 2024 roedd tuedd gynyddol yn nifer y problemau cyflenwi meddyginiaethau y DU ac er bod y duedd hon wedi'i gwrthdroi ychydig yn fwy diweddar, mae prinder meddyginiaethau proffil uchel yn parhau.
Mae'r ffactorau hyn yn achosi pryder, er bod mynediad at ofal fferyllol i lawer wedi gwella, y gallai mynediad at wasanaethau traddodiadol a diogelwch cyflenwad meddyginiaethau gan fferyllfeydd cymunedol, fod wedi lleihau i eraill.
Mae newidiadau i addysg a hyfforddiant cychwynnol ac ôl-gofrestru wedi'u cefnogi gan newidiadau i ddeddfwriaeth a diwygiadau cytundebol yn galluogi fferyllwyr a thechnegwyr fferyllfa i ehangu eu cyfraniad at ofal cleifion drwy rolau estynedig. O ganlyniad, mae cleifion a'r cyhoedd yng Nghymru yn cael budd o fynediad at ofal yn nes at y cartref a ddarperir gan fferyllfeydd cymunedol fel y pwynt mynediad mwyaf hygyrch a ddefnyddir yn aml i wasanaethau'r GIG. Yn nodweddiadol, mae'r rolau estynedig hyn wedi datblygu i adeiladu ar rôl draddodiadol fferyllfeydd cymunedol o ddarparu cyflenwad dibynadwy, gwydn a diogel o feddyginiaethau.
Casgliad
Mae'r Pwyllgor o'r farn bod rôl fferyllfeydd cymunedol wrth gyflenwi meddyginiaethau yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan gleifion a'u gofalwyr; mae'n eu gosod ar wahân i ddarparwyr eraill mewn gofal sylfaenol mewn ffordd unigryw; a dylai ddarparu'r sylfaen ar gyfer cyflawni'r dyheadau a ddisgrifir yn Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach.
Mae'r Pwyllgor o'r farn y dylai optimeiddio cyfraniad y sector at wella iechyd a llesiant gael ei adeiladu'n bennaf ar gydnabod pwysigrwydd y trefniadau cynaliadwy hirdymor ar gyfer cyflenwi meddyginiaethau o fferyllfeydd cymunedol.
