Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn cadeirio cyfarfod cyntaf Cabinet newydd Llywodraeth Cymru, gan roi pwyslais ar ganlyniadau, bod yn agored a gweithredu ar flaenoriaethau pobl ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mai 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r cyfarfod yn nodi dechrau rhaglen lywodraethu newydd i wella gwasanaethau cyhoeddus, cefnogi teuluoedd a thyfu economi Cymru.

Cyn y cyfarfod, dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth:

“Mae’r Llywodraeth hon yn llywodraeth weithredol, yn llywodraeth i bawb ac yn llywodraeth sy’n dod â syniadau newydd. Mae'r gwaith caled bellach wedi dechrau.

“Ein pwyslais yw ar y materion sydd bwysicaf i bobl ym mhob rhan o Gymru – torri rhestrau aros, cefnogi teuluoedd gyda chostau byw, creu swyddi da, codi safonau mewn addysg a mynd i'r afael â thlodi plant.

“Fel Prif Weinidog, rwy’n benderfynol o roi diwedd ar weithio ar wahân a dileu dyblygu diangen ar draws y llywodraeth. Bydd y Cabinet hwn yn gweithio fel un tîm, gyda gweinidogion yn gweithio gyda'i gilydd er budd pobl Cymru.

“Byddwn yn arwain gyda didwylledd a phwrpas, gan feithrin ymddiriedaeth drwy gamau ymarferol a chanlyniadau gweladwy.

“Mae pobl Cymru yn disgwyl llywodraeth sy’n gwrando, sy’n sefyll dros Gymru ac sy’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau canlyniadau. Dyna’n union y mae’r Cabinet hwn yn benderfynol o’i wneud.”