Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cabinet newydd Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod am y tro cyntaf y prynhawn yma, ar ôl i’r gweinidogion gael eu penodi i’w rolau newydd yr wythnos diwethaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mai 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth siarad â’i gydweithwyr yn y Cabinet, dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth:

“Ar ddiwrnod hanesyddol i Gymru, braint yw eistedd o amgylch y bwrdd yma gyda chi. Mae'n fraint cael arwain tîm a fydd, dw i’n gwybod, yn gweithio’n galed bob dydd i wella bywydau pobl Cymru.

"Dw i am i’r pedair blynedd nesaf gael eu diffinio gan bedair egwyddor - proffesiynoldeb, uchelgais, hygrededd ac empathi. Dw i’n gofyn i bob un ohonoch chi gadw’r egwyddorion hynny mewn cof yn eich gwaith bob dydd, a dw innau’n addo gwneud yr un peth.

"Mae’r heriau’n fawr ac mae’r amser yn brin. Ond, dw i eisoes wedi fy nghalonogi gan y ffordd rydyn ni wedi symud mor gyflym i ddechrau troi ein gweledigaeth yn realiti ac i danlinellu’r holl ffyrdd mae’r weinyddiaeth hon yn dod ag egni newydd, syniadau newydd ac arweinyddiaeth newydd.”

Amlinellodd y Prif Weinidog ei chwe blaenoriaeth allweddol ar gyfer llywodraethu, a fydd yn cael eu defnyddio i fesur llwyddiant y llywodraeth yn ystod ei chyfnod mewn grym:

  • Torri rhestrau aros, a datblygu gwasanaeth iechyd a gofal sy’n addas ar gyfer y dyfodol
  • Helpu teuluoedd gyda chostau byw drwy ofal plant sy’n fforddiadwy ac o safon
  • Datgloi potensial economi Cymru, a chreu swyddi da sy’n talu’n dda
  • Codi safonau yn ein hysgolion a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu
  • Mynd i'r afael â thlodi plant
  • Sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan.