Mae arteritis feirysol ceffylau (EVA) yn glefyd feirysol heintus sy'n effeithio ar geffylau, asynnod a cheffylau eraill.
Cynnwys
Mae'n cael ei achosi gan y feirws ffliw ceffylau. Mae'r feirws yn digwydd ledled y byd mewn poblogaethau pedigri a phoblogaethau nad ydynt yn bedigri. Nid yw'n effeithio ar bobl.
Amheuaeth a chadarnhad
Mae arteritis feirysol ceffylau yn glefyd hysbysadwy os caiff ei amau mewn:
- meirch (ceffylau gwrywaidd)
- cesyg (ceffylau benywaidd) sydd wedi paru neu wedi'u ffrwythloni o fewn 14 diwrnod
Os ydych yn credu bod yna achos o glefyd hysbysadwy, rhaid rhoi gwybod ar unwaith. Ffoniwch Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar 0300 303 8268.
Bydd methu â gwneud hyn yn drosedd.
Dylech hefyd ynysu'r ceffyl(au) dan sylw a rhoi'r gorau i'r holl weithgareddau bridio.
Arwyddion clinigol
Gall arwyddion clinigol amrywio'n fawr, gyda rhai ceffylau heintiedig ddim yn angos unrhyw arwyddion o gwbl.
Mae'r arwyddion clinigol yn cynnwys:
- twymyn
- syrthni
- iselder
- chwydd ar ran isaf y coesau, o amgylch y llygaid, neu'r sgrotwm neu'r chwarennau mamari
- conjunctivitis ("llygad pinc")
- llif o'r trwyn (trwyn yn rhedeg)
- erthyliad (colli beichiogrwydd mewn cesyg)
Mewn achosion prin, gall y clefyd achosi salwch difrifol neu farwolaeth mewn ebolion ifanc.
Trosglwyddo
Gall EVA ledaenu rhwng ceffylau:
- yn uniongyrchol yn ystod paru
- yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gyda cheffyl denu
- trwy ffrwythloni artiffisial
- cyswllt â ffetws neu ddeunyddiau geni sydd wedi'u herthylu
- cyswllt ag offer halogedig
- trwy ledaeniad anadlol (er enghraifft trwy ddiferion o anifeiliaid heintiedig)
Gall meirch:
- gario'r firws am gyfnodau estynedig heb ddangos arwyddion clinigol
- lledaenu'r feirws trwy baru
- lledaenu'r feirws os defnyddir eu semen ar gyfer ffrwythloni artiffisial
Gall cesyg ledaenu’r feirws:
- i'w hebolion, yn ystod beichiogrwydd neu trwy laeth
- i farch trwy baru
- i geffylau eraill trwy ledaeniad anadlol
Atal a rheoli
Mae brechu yn allweddol i atal a rheoli, yn enwedig ar gyfer meirch a cheffylau denu. Dylech sicrhau bod anifeiliaid yn rhydd o haint EVA cyn dechrau gweithgareddau bridio.
Gallwch helpu i atal y clefyd drwy:
- frechu eich anifeiliaid rhag y clefyd – siaradwch â'ch milfeddyg am gyngor
- profi'r holl feirch, ceffylau denu a chesig cyn paru
- ymarfer bioddiogelwch da ar eich safle, yn enwedig os ydych yn ymwneud â bridio
- dilyn canllawiau i ynysu a phrofi wrth fewnforio ceffylau
Mae canllawiau pellach ar atal a rheoli EVA ar gael yng Nghôd Ymarfer y Bwrdd Ardoll Betio Rasus Ceffylau (HBLB).
Os cadarnheir arteritis feirysol ceffylau
Os cadarnheir y clefyd bydd yr achos yn cael ei reoli yn unol â'r cynllun wrth gefn ar gyfer clefydau hysbysadwy egsotig.
Deddfwriaeth
Mae arteritis feirysol ceffylau yn cael ei reoli o dan Orchymyn Arteritis Firysol Ceffylau 1995.
