Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog
Cyhoeddodd llywodraeth y DU ar 20 Mai (Saesneg yn unig) ei bod wedi cwblhau trafodaethau ar Gytundeb Masnach Rydd (FTA) gyda Chyngor Cydweithredol y Gwlff (GCC).
Mae'r GCC yn undeb rhanbarthol, rhynglywodraethol, gwleidyddol ac economaidd sy'n cynnwys chwe gwlad – Bahrain, Kuwait, Oman, Qatar, Saudi Arabia, a'r Emiradau Arabaidd Unedig.
Mae gwledydd y GCC yn bartneriaid masnachu pwysig i Gymru mewn sectorau fel peiriannau a chyfarpar trafnidiaeth. Gwerth y nwyddau a fasnachwyd rhwng y gwledydd sy'n aelodau o'r GCC a Chymru oedd £1.9bn yn 2025, ac roedd mewnforion ac allforion werth £968.4m a £899.6m yn y drefn honno.
