Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliwyd digwyddiad arfer gorau ar gyfer Cynhyrchion Diogelu Planhigion (PPPs) yn Hafan yr Afon, Y Drenewydd, Powys.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 11 Tachwedd 2025, cynhaliwyd digwyddiad arfer gorau i hyrwyddo defnyddio, storio a gwaredu PPPs yn ddiogel. Fe'i cynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ac Is-adran Rheoleiddio Cemegau yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

Y nod oedd:

  • dod â chynrychiolwyr Awdurdodau Lleol Cymru at ei gilydd i ddysgu am ddefnyddio, storio a gwaredu PPPs yn ddiogel
  • i bawb ddeall eu cyfrifoldebau fel defnyddwyr proffesiynol PPPs. Mae hyn yn berthnasol o dan Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020

Roedd y diwrnod yn cynnwys:

  • cyflwyniad gan y Cynllun Profi Chwistrellwyr Cenedlaethol (NSTS) (ar nsts.org.uk). Roedd hyn yn cynnwys:
  • cyflwyniad gan Swyddogion Gorfodi Plaladdwyr yr HSE (PEOs). Mae'r tîm yn monitro cydymffurfiaeth ymhlith gweithgynhyrchwyr, dosbarthwyr, gwerthwyr, a defnyddwyr proffesiynol PPPs. Maent yn cynnal arolygiadau a gwiriadau cydymffurfio. Maent hefyd yn rhoi cyngor ar faterion iechyd a diogelwch. Pan nodir diffyg cydymffurfio, mae swyddogion yn cyhoeddi cyngor ysgrifenedig ac yn gosod terfynau amser ar gyfer camau adferol. Bu y tîm yn atgoffa cynrychiolwyr bod yn rhaid iddynt gofrestru fel rhan o Reoliad Rheolaethau Swyddogol 2020. Darganfyddwch mwy yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020
     
  • gweithdy Arfer Gorau rhyngweithiol dan arweiniad HSE. Bu cynrychiolwyr yn archwilio arfer gorau trwy sleidiau, cwisiau, a thrafodaethau grŵp. Ymhlith y pynciau allweddol roedd cadw cofnodion, ardystio cymhwysedd, a storio diogel. Atgoffwyd y cynrychiolwyr o bwysigrwydd y canlynol:
    • arwyddion clir a mesurau diogelwch
    • osgoi bod yn agos at ddraeniau
    • rheoli risgiau gollyngiadau
    • sicrhau llif aer digonol mewn ardaloedd storio
       
  • cinio rhwydweithio, gan roi cyfle i gynrychiolwyr a siaradwyr rannu profiadau. Fe wnaethant hefyd awgrymu syniadau ar gyfer sesiynau yn y dyfodol

Derbyniodd y sesiwn adborth cadarnhaol gan gynrychiolwyr. Roedd y rhai fu'n bresennol yn teimlo ei fod yn addysgiadol ac yn ddefnyddiol. Roedden nhw'n gwerthfawrogi gallu clywed gan yr NSTS a'r HSE ar faterion cydymffurfio. Ac roedden nhw'n gwerthfawrogi'r cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod y digwyddiad.

Digwyddiadau yn y dyfodol

Os hoffech fynychu digwyddiadau fel hyn yn y dyfodol, cysylltwch â ni: pesticides.plaladdwyr@llyw.cymru.