Mae'r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth wedi dweud heddiw y bydd gweithwyr Cymru a'u cymunedau yn elwa ar newid pwysig yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn llunio polisïau.
Y bore yma, mewn prif araith i Gyngres TUC Cymru a gynhelir bob dwy flynedd, amlinellodd y Prif Weinidog raglen sy'n rhoi lleisiau gweithwyr wrth wraidd y llywodraeth — o gaffael a sgiliau i adfer diwydiannol a'r trawsnewid gwyrdd.
Ar hyn o bryd, mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gwario mwy na £8 biliwn y flwyddyn ar gaffael. Nod Llywodraeth Cymru yw cynyddu cyfran y contractau cyhoeddus a ddyfernir i gwmnïau yng Nghymru o tua 55% i dros 70%, gyda'r potensial i gefnogi degau o filoedd o swyddi.
Ymhlith prif bolisïau Llywodraeth newydd Cymru bydd Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd, a sefydlir i ddenu swyddi gwaith teg o safon uchel i Gymru. Bydd ymrwymiad i bartneriaeth gymdeithasol newydd ag undebau llafur, cyflogwyr a'r llywodraeth hefyd yn llywio atebion i heriau cymhleth, gan gynnwys y trawsnewid cyfiawn i ynni glân.
Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Gyngres:
"Fel aelod o'r undeb fy hun, dw i'n bersonol wedi cymryd rhan mewn gweithredu ar y cyd. A chafodd y gred honno yng ngrym undebau llafur ei meithrin ynof drwy gael, nid un, ond dau riant a oedd yn llywyddion ar undebau llafur cenedlaethol.
"Efallai fy mod i wedi sefyll ar linellau piced gyda rhai ohonoch chi yn y gorffennol. Dw i wedi sefyll gydag addysgwyr, gweithwyr iechyd a gofal, staff trafnidiaeth ac eraill i wneud safiad dros degwch, dros urddas, ac er mwyn dyfodol cynaliadwy i'n gwasanaethau cyhoeddus.
"A nawr fy mod i yn y sefyllfa freintiedig o fod yn Brif Weinidog arnoch chi, fy nyletswydd i yw cofio'r gwersi o'r undod hwnnw.
"Dw i am sicrhau bod lleisiau gweithwyr yn ganolog i lunio polisïau o'r cychwyn cyntaf. Dw i'n gwybod y bydd eich grymuso chi, manteisio ar eich profiadau bywyd a rhoi sedd i chi wrth y bwrdd o fudd mawr i Gymru.
"Dw i'n gobeithio y bydd ein haddewidion i estyn prydau ysgol am ddim, cyflwyno'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn unrhyw le yn yr ynysoedd hyn, a threialu Taliad Plant i Gymru yn helpu'r aelwydydd hynny sy'n profi tlodi er eu bod yn gweithio.
"Mi allwn ni greu gweithleoedd lle mae parch a thegwch yn norm, nid yn eithriad. Mi allwn ni sicrhau bod ffyniant yn cael ei rannu ar draws pob rhan o'n gwlad. Ond, bydd cyflawni'r weledigaeth honno yn gofyn i bob un ohonom ni - y Llywodraeth, undebau, cyflogwyr, a chymunedau - weithio gyda'n gilydd.
"Dyna'r bartneriaeth dw i wedi ymrwymo iddi."
