Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig: canllawiau cynllun rheoli iechyd defaid
Sut i greu eich cynllun rheoli iechyd defaid, gan gynnwys rheoli trogod defaid.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Diben a chwmpas
Mae'r canllawiau hyn yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i gynorthwyo llunio Cynllun Rheoli Defaid eich Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig (INRS) a ddylai nodi'n glir eich cynlluniau gwyliadwriaeth a rheoli trogod mewn defaid i fonitro, rheoli a lleihau effaith trogod mewn poblogaethau defaid sy'n pori mynyddoedd.
Dylai eich cynllun gydnabod y cysylltiad rhwng iechyd anifeiliaid, iechyd pobl, a'r amgylchedd, a dylai alinio â gweithgarwch gwyliadwriaeth trogod cenedlaethol a gynhelir yn y DU. Dylai hefyd weithredu mewn partneriaeth â gweithwyr milfeddygol proffesiynol, porwyr, Swyddogion Prosiectau Defaid, a systemau gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd, gan gynnwys Cynllun Gwyliadwriaeth Trogod Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA).
Mae trogod yn lledaenu clefydau sy'n effeithio ar dda byw a phobl, ac mae rhaglenni gwyliadwriaeth y DU yn parhau i olrhain ble maen nhw'n digwydd a'r pathogenau maen nhw'n eu cario ledled y wlad.
2. Y cyd-destun polisi
Deddfwriaeth Cymru, a dyletswyddau iechyd a lles anifeiliaid:
- Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016: Dyletswydd i gynnal a gwella bioamrywiaeth, a gwneud ecosystemau'n fwy cydnerth
- Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023: Darpariaethau ar gyfer rheoli tir yn gynaliadwy
- Deddf Lles Anifeiliaid 2006: Gosod dyletswydd gofal gyfreithiol ar unrhyw un sy'n gyfrifol am anifeiliaid i sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag poen, dioddefaint, anaf a chlefydau ac yn derbyn gofal a thriniaeth briodol
- Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y'i diwygiwyd): Yn ei gwneud yn ofynnol i geidwaid da byw archwilio anifeiliaid yn rheolaidd, darparu triniaeth brydlon pan fyddant yn sâl neu wedi'u hanafu, a chynnal amodau sy'n diogelu eu lles
- Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981: Yn darparu pwerau cyfreithiol i reoli ac atal lledaeniad clefydau anifeiliaid trwy wyliadwriaeth, cyfyngiadau symud, ac ymyrraeth y llywodraeth lle bo angen
- Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013: Yn llywodraethu'r defnydd cyfreithlon o feddyginiaethau milfeddygol, sy'n gofyn am bresgripsiwn cywir, gweinyddu a chadw cofnodion cywir, a glynu at gyfnodau cadw o'r gadwyn fwyd
- Fframwaith Gwyliadwriaeth Iechyd Anifeiliaid ac Iechyd y Cyhoedd y DU (gan gynnwys Cynllun Gwyliadwriaeth Trogod UKHSA): Cefnogi gwaith monitro cydgysylltiedig o ran risgiau clefydau anifeiliaid a phobl, gan gynnwys gwyliadwriaeth trogod, i lywio ymdrechion rheoli clefydau cenedlaethol Iechyd Cyfunol
3. Amcanion
Dylai'r cynllun anelu at:
- fonitro presenoldeb trogod, eu dosbarthiad ac amrywiad tymhorol mewn diadelloedd defaid mynydd
- nodi ardaloedd pori risg uchel a ffactorau amgylcheddol sy'n cyfrannu at blâu trogod
- lleihau baich trogod trwy strategaethau trin a rheoli cydgysylltiedig
- gwella'r broses o ganfod clefydau da byw a gludir gan drogod yn gynnar
- cyfrannu at waith gwyliadwriaeth cenedlaethol o ran rhywogaethau trogod brodorol ac anfrodorol
- cefnogi'r gwaith o gyfnewid gwybodaeth rhwng porwyr, timau milfeddygol, ac asiantaethau iechyd cyhoeddus
4. Strwythur llywodraethu a chyflenwi
4.1 Cydlynu prosiect
Dylai'r cynllun nodi sut y bydd y gwaith yn cael ei gyflawni trwy fodel partneriaeth cydgysylltiedig sy'n sicrhau atebolrwydd clir, goruchwyliaeth filfeddygol, a chyflenwi cyson ar draws yr holl ddaliadau sy'n cymryd rhan.
- mae Swyddogion Prosiect yn darparu cydlyniant ar draws mynyddoedd diffiniedig, gan sicrhau cwmpas cyson ac ymgysylltu â phorwyr
- bydd swyddog(ion) dynodedig yn gyfrifol am weinyddu, rheoli data, sicrhau ansawdd, ac adrodd am allbynnau gwyliadwriaeth
4.2 Goruchwyliaeth filfeddygol
- milfeddyg arweiniol i ddarparu arweinyddiaeth glinigol, cydlynu hyfforddiant, goruchwylio safonau iechyd anifeiliaid, a dilysu data caeau
- mewnbwn milfeddygol arbenigol i gefnogi dehongli canfyddiadau'r gwaith gwyliadwriaeth ac asesu'r risg o glefyd a gludir gan drogod
4.3 Cymorth ymarferol
- Gweithwyr hyfforddedig a medrus i gefnogi'r broses o gyflawni'r gwaith, gan gynnwys:
- trin diadelloedd a chymorth yn ystod helfeydd defaid
- adnabod, casglu a chofnodi presenoldeb trogod
- casglu data iechyd a gwyliadwriaeth oddi ar gaeau
5. Fframwaith gwyliadwriaeth a chasglu data
Dylai'r cynllun weithredu rhaglen wyliadwriaeth strwythuredig sy'n gyson â systemau monitro trogod y DU.
5.1 Ffynonellau data
- awgrymir cynnal archwiliadau yn ystod y cyfnodau canlynol:
- cneifio
- helfeydd canol y tymor
- helfeydd yr hydref
- adroddiadau Pori a chofnodion iechyd diadell
- Mapio ardaloedd pori yn amgylcheddol
- Trogod a gyflwynir gan y cyhoedd neu gan weithwyr yn y maes lle bo'n berthnasol
5.2 Adnabod trogod ac adrodd amdanynt
- gellir cyflwyno trogod i Gynllun Gwyliadwriaeth Trogod UKHSA ar gyfer adnabod rhywogaethau a gwaith monitro cenedlaethol
- mae eu cyflwyno yn golygu y bydd haws canfod:
- dosbarthiad rhywogaethau trogod brodorol
- risgiau rhywogaethau newydd neu rywogaethau estron
- tueddiadau tymhorol a daearyddol
Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) sydd yn cynnal gwaith gwyliadwriaeth da byw yng Nghymru
Mae APHA yn casglu data o gynnal profion diagnostig (ar gov.uk) ac archwiliadau post-mortem (ar gov.uk) ar anifeiliaid fferm fel rhan o'i waith gwyliadwriaeth clefydau.
Mae rhwydwaith cenedlaethol APHA hefyd yn darparu cyngor a chefnogaeth i filfeddygon i wneud diagnosis, rheoli ac atal clefydau mewn anifeiliaid fferm.
Yn ogystal â hynny, mae'r Ganolfan Arbenigedd mewn Da Byw a Reolir yn Helaeth (CoEEML) yn cael ei harwain trwy Ganolfan Ymchwilio Filfeddygol (VIC) Caerfyrddin (ar gov.uk) ac mae'n rhan o'r system gwyliadwriaeth filfeddygol ehangach a weithredir gan APHA.
'Da byw a reolir yn helaeth' yw'r da byw sy'n cael eu cadw yn y fath fodd nad ydynt yn hawdd eu harchwilio am arwyddion o salwch neu newid sylweddol yn eu cynhyrchiant, er enghraifft anifeiliaid sy'n cael eu cadw ar dir comin, ucheldiroedd, mynyddoedd neu rostiroedd. Gwartheg a defaid yw prif ffocws y ganolfan.
Nod y CoEEML yw datblygu:
- gwaith ymgysylltu â cheidwaid da byw a reolir yn helaeth i hyrwyddo gweithgarwch gwyliadwriaeth clefydau a gwella prosesau casglu data gwyliadwriaeth
- cyfathrebu a rhannu gwybodaeth gyda ffermwyr a milfeddygon, i hyrwyddo da byw iach, ac i hyrwyddo cynhyrchiant a ffermio cynaliadwy mewn systemau helaeth
- canolfan rithwir o arbenigedd gwyliadwriaeth da byw a reolir yn helaeth i ategu'r grwpiau rhywogaethau arbenigol o fewn APHA
Cysylltwch â coeeml@apha.gov.uk
6. Gofynion monitro iechyd anifeiliaid
Yn unol ag egwyddorion sefydledig o ran iechyd da byw, mae monitro rheolaidd yn hanfodol i sicrhau lles a chynhyrchiant.
6.1 Monitro clinigol
Dylai porwyr fonitro defaid ar gyfer:
- anifeiliaid sy’n gloff neu sy’n cerdded yn annormal
- cyflwr corff gwael neu golli pwysau
- llid y croen, crafu, neu golli gwlân
- syrthni neu anifail sydd wedi gwahanu oddi wrth ddiadell
- arwyddion sy'n gyson â chlefyd a gludir gan drogod
6.2 Uwchgyfeirio milfeddygol
Dylid rhoi gwybod yn brydlon i'r arweinydd milfeddygol os amheuir unrhyw achosion o glefydau a gludir gan drogod, er mwyn gallu ymchwilio iddynt, a chynnal profion labordy lle bo hynny'n briodol.
7. Strategaeth trin a rheoli trogod
7.1 Protocol triniaeth arferol
Dylid trin pob diadell ar gyfer parasitiaid allanol:
- cyn eu troi allan i bori mynyddoedd (Ebrill iMehefin fel arfer)
- triniaeth yng nghanol y tymor lle bo angen, yn seiliedig ar ganlyniadau monitro
- cyn dychwelyd o bori mynyddoedd
- gellir cynghori ynghylch triniaeth ychwanegol yn seiliedig ar asesiad risg
7.2 Dull rheoli integredig
Dylai mesurau rheoli gael eu llywio gan gyngor milfeddygol a gallant gynnwys:
- defnydd strategol o ectoparasitleiddiaid awdurdodedig
- addasiadau rheoli pori
- ymyrraeth wedi'i dargedu mewn ardaloedd risg uchel a nodwyd
- monitro parhaus i leihau dibyniaeth ar driniaethau cemegol lle bo hynny'n bosibl
8. Cynllun Gweithredol Blynyddol
Blwyddyn 1 (2026): sefydlu llinell sylfaen
- cyfarfodydd rhanddeiliaid cychwynnol a hyfforddiant ar gyfer yr holl borwyr sy'n cymryd rhan
- cynnwys pynciau iechyd defaid ehangach (ee ymwybyddiaeth o glafr defaid)
- mapio ardaloedd pori gyda llystyfiant a thopograffeg amrywiol
- dau arolwg gwyliadwriaeth strwythuredig (gwanwyn/haf a hydref)
- casgliad data llawn o ddigwyddiadau trin defaid
- nodi parthau baich trogod uchel
- cyfarfod adolygu blynyddol cyntaf i asesu canfyddiadau llinell sylfaen
Blwyddyn 2 (2027): monitro a mireinio
- parhau â gweithgarwch llawn y cynllun
- samplu diadell yn seiliedig ar ganran yn ystod helfeydd
- gweithredu'r newidiadau y cytunwyd arnynt o ganfyddiadau Blwyddyn 1
- parhau i drin cyn ac ar ôl cyfnodau'n pori mynyddoedd
- gwell dadansoddiad data o ddosbarthiad trogod, a phatrymau tymhorol
- cyfarfod adolygu blynyddol i asesu cynnydd ac addasu'r strategaeth
Blwyddyn 3 (dechrau 2028): gwerthuso a chydgrynhoi
- monitro parhaus yn seiliedig ar brotocolau sefydledig
- gweithredu unrhyw welliannau y cytunwyd arnynt
- gwerthusiad llawn o:
- dueddiadau baich trogod
- effeithiolrwydd triniaethau
- canlyniadau iechyd diadell
- ffactorau risg amgylcheddol
- datblygu argymhellion hirdymor ar gyfer rheoli trogod yn barhaus
9. Cyfarfodydd, hyfforddiant, a chyfnewid gwybodaeth
Dylai'r cynllun gynnwys cyfarfod strwythuredig amserol, gan ddarparu:
- sesiynau hyfforddi dan arweiniad milfeddygol
- adolygiad o ddata a thueddiadau gwyliadwriaeth
- trafodaethau lles a hwsmonaeth
- yr wybodaeth ddiweddaraf am fioddiogelwch ac atal clefydau
- cyfleoedd ar gyfer gweminarau a chydweithio allanol
- ymgysylltu â mentrau gwyliadwriaeth ac ymchwil trogod ehangach
10. Bioddiogelwch ac arferion da
Disgwylir i borwyr gynnal safonau uchel o fioddiogelwch, gan gynnwys:
- symud da byw, pobl ac offer, o dan reolaeth
- gweithdrefnau glanhau a diheintio offer fferm
- trefniadau cwarantin ac arolygu ar gyfer anifeiliaid sy'n dod i'r daliad lle bo'n berthnasol
- cynllunio iechyd ac ymgynghori milfeddygol arferol
Mae'r mesurau hyn yn gyson â safonau atal clefydau da byw ac maent yn hanfodol ar gyfer lleihau'r risg o glefydau a gludir gan drogod.
11. Canlyniadau disgwyliedig
Dylai'r cynllun gyflawni’r canlynol:
- gwell dealltwriaeth o ecoleg trogod mewn systemau pori ucheldirol
- lleihau baich trogod mewn diadelloedd sy'n rhan o'r cynllun
- canfod risgiau clefydau a gludir gan drogod yn gynharach
- gwella lles a chynhyrchiant defaid mynydd
- cyfrannu at wyliadwriaeth genedlaethol o drogod a phathogenau cysylltiedig
- cydweithrediad cryfach rhwng sectorau amaethyddiaeth, milfeddygol ac iechyd cyhoeddus
12. Adolygu a llywodraethu
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu'n flynyddol yn seiliedig ar:
- ganlyniadau data gwyliadwriaeth
- argymhellion milfeddygol
- adborth porwyr
- newidiadau cenedlaethol mewn dosbarthiad trogod neu risg o glefydau
Bydd addasiadau'n cael eu gweithredu trwy strwythur llywodraethu'r cynllun.
