Gwrthdrawiadau ffordd ac anafusion a gofnodwyd gan yr heddlu: 2025
Data am ddifrifoldeb yr anafiadau a'r math o ddefnyddiwr ffordd ar gyfer 2025.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r datganiad hwn yn cyfuno dau gyhoeddiad blaenorol ar wrthdrawiadau ffyrdd ac anafusion a gofnodwyd gan yr heddlu i un adroddiad. Mae'r dull integredig hwn yn golygu y ceir dadansoddiad mwy cynhwysfawr o wrthdrawiadau ffyrdd ac anafiadau sy'n digwydd o ganlyniad i hynny.
Mae'r holl ddata sylfaenol yn cael ei gyhoeddi ar StatsCymru, ac ar ein dangosfwrdd gwrthdrawiadau ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys manylion ychwanegol am:
- wrthdrawiadau ac anafusion yn ôl ardal
- terfyn cyflymder
- difrifoldeb
- math o gerbyd.
Caiff gwybodaeth fanwl am ansawdd ei chyhoeddi yn yr adroddiad ansawdd cysylltiedig.
Oherwydd y cynnydd yn y diddordeb mewn data am wrthdrawiadau ers cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar 17 Medi 2023, cyhoeddon ni ddiweddariad y Prif Ystadegydd ar 24 Mai 2024 ar ‘ddeall ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafusion ffyrdd’. Mae'r datganiad hwn yn cwmpasu’r ail flwyddyn galendr o ddata ers cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya.
Dylid bod yn ofalus wrth ymdrin â thueddiadau diweddar o ran nifer yr anafusion a anafwyd yn ddifrifol gan fod newid wedi bod ym mhrosesau adrodd rhai heddluoedd (gweler adran ar ansawdd).
Prif bwyntiau
- Bu gostyngiad cyffredinol yn nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru dros y tri deg mlynedd diwethaf.
- Yn ystod 2025, cofnododd yr heddlu 3,004 o wrthdrawiadau ffyrdd yng Nghymru, gyda 4,078 o anafusion o ganlyniad i hynny.
- Mae anafusion wedi cynyddu 2% o’u cymharu â 2024 ac maent 8% yn is na 2022 (y flwyddyn galendr olaf cyn cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya).
- O'r 4,078 o bobl a anafwyd, lladdwyd 91, cafodd 1,116 o bobl anafiadau difrifol a chafodd 2,871 o bobl fân anafiadau.
- Cofnododd heddluoedd yng Nghymru gyfanswm o 3,004 o wrthdrawiadau ar y ffyrdd, cynnydd o 3% o'i gymharu â 2024, a 9% yn llai nag yn 2022. Dros yr un cyfnod, cynyddodd traffig ffordd yng Nghymru o 2%, i'r lefel uchaf a gofnodwyd erioed yng Nghymru.
- O'r 3,004 o wrthdrawiadau, roedd 83 yn angheuol, 979 yn ddifrifol a 1,942 yn fân wrthdrawiadau.
Ffigur 1: gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu, Cymru, 1995 i 2025
Disgrifiad o ffigur 1: mae'r siart linell yn dangos cyfres amser gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru gyfan rhwng 1995 a 2025. Yn dangos gostyngiad cyffredinol mewn gwrthdrawiadau ffordd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru dros y tri deg mlynedd diwethaf.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Ansawdd a chwmpas y data
Mae'r data a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn dangos y gwrthdrawiadau ffyrdd lle cafwyd anafiadau personol a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru. Er mai'r data hwn yw'r wybodaeth fanylaf a mwyaf dibynadwy am wrthdrawiadau ac anafusion ar y ffyrdd, nid ydynt yn gofnod llawn o bob digwyddiad o'r fath - er enghraifft, mae data ysbytai, arolygon a hawliadau iawndal yn dangos nad yw'r heddlu'n cael gwybod am lawer o wrthdrawiadau nad oeddynt yn angheuol, ac yn dangos nad yw rhai yn cael eu cofnodi gan yr heddlu.
Yn gyffredinol, mae'r ffynonellau sydd ar gael yn dangos mai dim ond is-set o'r holl wrthdrawiadau lle ceir anaf personol yw'r rheini y rhoddir gwybod i heddluoedd amdanynt ac a gofnodir gan heddluoedd, ond bod lefel yr anafiadau difrifol a'r marwolaethau wedi'u cofnodi'n dda. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd cysylltiedig.
Mae 2 newid wedi effeithio ar ddata gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu ers 2024. Mae'r newidiadau fel a ganlyn.
Cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya
Ar 17 Medi 2023, newidiwyd y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru o 30mya i 20mya. Mae'r rhain fel arfer yn golygu strydoedd preswyl neu strydoedd lle mae llawer o gerddwyr, gyda goleuadau stryd. Effeithiodd y newidiadau ar y rhan fwyaf o'r ffyrdd a oedd yn 30mya cyn 17 Medi, ond nid pob un. Rydym wedi cyhoeddi map ar MapDataCymru sy'n dangos pa ffyrdd sydd wedi aros yn rhai 30mya.
Addasiadau o ran adrodd am ddifrifoldeb anafiadau
Yn ein cyhoeddiad nesaf, byddwn yn cyflwyno methodoleg newydd a fydd yn effeithio ar sut yr adroddir am ddata am ddifrifoldeb anafiadau a gwrthdrawiadau. Mae difrifoldeb anafusion yn cael eu cofnodi fel bod pobl wedi eu lladd, wedi eu hanafu'n ddifrifol, neu wedi cael mân anafiadau. Yn hanesyddol, mae hyn wedi ei selio ar farn y swyddogion heddlu sy'n adrodd am y gwrthdrawiad, ond mewn blynyddoedd diweddar mae heddluoedd dros Brydain Fawr wedi addasu dull newydd o adrodd am anafiadau, lle pennir difrifoldeb o restr penodol o anafiadau. Mae hyn yn dileu'r elfen o farn o’r broses o godio difrifoldeb a disgwylir y bydd yn ddull mwy cywir a chyson ar draws heddluoedd.
Arweiniodd cyflwyno systemau adrodd ar sail anafiadau (IBRS) yn Lloegr at newid o ran adrodd am ddifrifoldeb anafusion ffyrdd, gyda chyfran uwch o anafiadau yn cael eu cofnodi fel rhai difrifol ar ôl cyflwyno IBRS. Yng Nghymru, symudodd Dyfed-Powys i system IBRS ym mis Mai 2023 a symudodd Heddlu De Cymru at IBRS ym mis Tachwedd 2025, sy'n golygu fod dau lu yng Nghymru yn defnyddio IBRS i adrodd bellach. Oherwydd yr anghysondeb mewn dulliau adrodd rhwng heddluoedd yng Nghymru (gyda dau yn defnyddio IBRS, a dau ddim yn defnyddio IBRS), rhaid addasu data heddluoedd nad ydynt yn defnyddio systemau adrodd ar sail anafiadau i amcangyfrif beth fyddai'r niferoedd pe bai'r holl heddluoedd yn defnyddio IBRS er mwyn sicrhau y gellir cymharu rhwng heddluoedd a thros amser.
Gan fod dau o'r heddluoedd bellach wedi symud i system adrodd ar sail anafiadau, rydym yn bwriadu addasu data a gofnodwyd heb ddefnyddio IBRS o'r cyhoeddiad chwarterol nesaf ym mis Gorffennaf. Bydd hyn yn sicrhau bod adroddiadau am wrthdrawiadau ac anafusion yn gyson ar draws heddluoedd yng Nghymru. Mae hyn oherwydd bod y ddau lu sydd ar IBRS yn debygol o fod â chynnydd yn nifer yr anafusion a gwrthdrawiadau sydd wedi eu cofnodi fel rhai difrifol o'r adeg pan wnaethon nhw symud i IBRS.
Nid yw'r symud i system adrodd ar sail anafiadau yn effeithio ar gyfanswm nifer y gwrthdrawiadau, na chyfanswm nifer y marwolaethau.
Trafodir hyn ymhellach yn ein hadroddiad ansawdd.
Cyn y cyhoeddiad chwarterol, byddwn yn cyhoeddi blog y Prif Ystadegydd yn darparu rhagor o wybodaeth ar:
- addasiadau difrifoldeb
- y fethodoleg a’i heffaith debygol
- llinell amser o'r broses hyd yma a'n cynlluniau ar gyfer cyhoeddiadau'r dyfodol er mwyn helpu defnyddwyr i ddeall y newidiadau hyn
Gwrthdrawiadau ar y ffyrdd
Gall un gwrthdrawiad ar y ffordd arwain at lawer o anafusion a gall difrifoldeb eu hanafiadau amrywio. Caiff difrifoldeb gwrthdrawiad ei bennu ar sail yr unigolyn sydd wedi cael yr anafiadau mwyaf difrifol yn y gwrthdrawiad. Er enghraifft, os bydd 5 unigolyn wedi'u hanafu ac 1 wedi'i ladd, caiff y gwrthdrawiad ei ystyried yn un angheuol.
Yn ystod 2025, cofnodwyd 3,004 o wrthdrawiadau ffyrdd lle cafwyd anafiadau personol gan yr heddlu yng Nghymru. O'r gwrthdrawiadau hyn:
- roedd 83 yn angheuol
- roedd 979 yn ddifrifol
- roedd 1,942 yn rhai mân
Mae Ffigur 2 yn dangos y gwahaniaeth rhwng y duedd am i lawr mewn gwrthdrawiadau ar ffyrdd yng Nghymru ers 1993 a'r cynnydd graddol mewn traffig ar y ffyrdd.
Mae'n debygol bod ei gwneud hi'n orfodol i bobl wisgo gwregys diogelwch yn yr 1980au a gwelliannau i dechnoleg cerbydau wedi cyfrannu at y lleihad yn nifer y gwrthdrawiadau lle cafwyd anafiadau personol.
Ffigur 2: gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd a maint y traffig ar ffyrdd Cymru, 1995 i 2025
Mae ffigur 2 yn dangos y cyferbyniad rhwng y duedd am i lawr mewn gwrthdrawiadau ffyrdd yng Nghymru ers 1995 a'r cynnydd graddol mewn traffig ar y ffyrdd.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), bu gostyngiadau sylweddol mewn traffig ac mewn gwrthdrawiadau ffyrdd yng Nghymru. Mae traffig yn 2025 wedi cynyddu uwch lefelau 2019 i'w lefel uchaf erioed, ond nid yw gwrthdrawiadau ffyrdd wedi dychwelyd i'r lefelau a welwyd yn 2019.
Gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yn ôl ardal yr heddlu
Yn 2025, roedd swyddogion yr heddlu yn bresennol ym mhob un o'r gwrthdrawiadau angheuol (gan gynnwys marwolaethau a ddigwyddodd 30 diwrnod ar ôl y gwrthdrawiad), 92% o'r gwrthdrawiadau difrifol ac 81% o'r mân wrthdrawiadau a gofnodwyd gan yr heddlu.
Heddlu Dyfed-Powys a gofnododd y nifer mwyaf o wrthdrawiadau yn 2025, sef cyfanswm o 1,089 (6% yn fwy na'r flwyddyn flaenorol), ac yna Heddlu De Cymru a gofnododd 799 o wrthdrawiadau ar y ffyrdd yn ystod yr un cyfnod (nifer tebyg i'r flwyddyn flaenorol). Cofnododd Gwent 580 o wrthdrawiadau yn 2025 (2% yn fwy na'r flwyddyn cynt), a Heddlu Gogledd Cymru gofnododd y nifer lleiaf o wrthdrawiadau ar y ffyrdd, sef 536 (cynnydd o 2% o'r flwyddyn cynt).
Ffigur 3: gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd yn ôl ardal yr heddlu, 2024 a 2025
Disgrifiad o ffigur 3: mae'r siart bar yn dangos cyfanswm y gwrthdrawiadau sydd wedi digwydd ar ffyrdd Cymru yn ôl ardal yr heddlu yn 2024 a 2025. Yn y ddwy flynedd, Heddlu Dyfed-Powys a gofnododd y nifer fwyaf o wrthdrawiadau a Heddlu Gogledd Cymru a gofnododd y nifer isaf.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yn ôl terfyn cyflymder
Ar ôl y newid mewn terfyn cyflymder, mae rhai problemau ag ansawdd y data wedi'u nodi mewn perthynas â therfyn cyflymder cofnodedig y ffyrdd lle digwyddodd y gwrthdrawiadau. Mae archwiliadau dilysu ychwanegol wedi'u cynnal gyda chymorth awdurdodau lleol i sicrhau bod data terfyn cyflymder ar gyfer gwrthdrawiadau ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder 20mya neu 30mya arnynt yn gadarn. Oherwydd y problemau hyn â'r data, rhaid wrth ofal wrth ddehongli'r data hyn. Disgrifir y problemau'n fanylach yn adran materion ansawdd data gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr Heddlu: Bwletin 2023.
Wrth ystyried nifer y gwrthdrawiadau yn ôl terfyn cyflymder y ffordd y digwyddon nhw arni, mae rhai ffactorau pwysig i'w hystyried.
- Yn 2022, roedd 870km o ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya. Ar 17 Medi 2023, cynyddodd hyn i oddeutu 13,000km oherwydd y newid yn y terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya. Cafodd y rhan fwyaf o ffyrdd a oedd yn 30mya eu newid i 20mya.
- Roedd 13,100km o ffyrdd â therfyn cyflymder o 30mya yn 2022. Gostyngodd hynny i 980km yn 2023.
- Ar hyn o bryd, nid oes ffynonellau data swyddogol ar lefel y traffig ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder gwahanol.
Ffigur 4: gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd, yn ôl terfyn cyflymder ffyrdd, 2025
Disgrifiad o ffigur 4: mae'r siart bar yn dangos cyfanswm gwrthdrawiadau yn ôl terfyn cyflymder, 2025. Gwrthdrawiadau KSI (sef gwrthdrawiadau lle mae pobl wedi eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol) a ddigwyddodd ar ffyrdd 60mya oedd i gyfrif am y gyfran uchaf (37%) o'r holl wrthdrawiadau KSI yr adroddwyd amdanynt yn 2025 o'u cymharu â ffyrdd â therfynau cyflymder eraill.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Gwrthdrawiadau ar ffyrdd â therfynau cyflymder 20mya a 30mya (wedi’u cyfuno)
Mae'r adran hon yn ystyried y gwrthdrawiadau a ddigwyddodd ar bob ffordd 20mya a 30mya (wedi'u cyfuno) er mwyn gallu eu cymharu â'r un set o ffyrdd cyn ac ar ôl newid y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig.
Ar hyn o bryd dim ond gwerth llai na thair blynedd o ddata sydd ar gael ar gyfer data gwrthdrawiadau ffyrdd ar ôl y newid i 20mya. Rhaid bod yn ofalus wrth ddehongli'r data hyn dros gyfnod byr. Byddwn yn parhau i fonitro hyn dros amser wrth i fwy o ddata ddod ar gael. Mae diweddariad ein Prif Ystadegydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
Yn 2025, roedd 1,469 o wrthdrawiadau ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder 20mya a 30mya (wedi’u cyfuno) sydd 2% yn uwch nag yn 2024 (pan fu 1,445 o wrthdrawiadau) ond dyma'r ail rif isaf a gofnodwyd yng Nghymru (bu'r isaf yn 2024). Roedd gwrthdrawiadau 22% yn is nag yn 2022 (pan fu 1,886 o wrthdrawiadau), y flwyddyn galendr lawn ddiwethaf cyn cyflwyno'r terfynau cyflymder diofyn.
Yn gyffredinol mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder is (20mya a 30mya) wedi bod yn gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.
Ffigur 5: Gwrthdrawiadau ffyrdd, ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya a 30mya (wedi'u cyfuno) yng Nghymru, 2011 tan 2025
Disgrifiad o ffigur 5: mae'r siart linell yn dangos cyfres amser y gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi'u cyfuno) yng Nghymru, o 2011 hyd at 2025. Mae nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20mya neu 30mya (o'u cyfuno) wedi gostwng yn gyson dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Anafusion ar y ffyrdd
Mae'r adran hon yn cyflwyno crynodebau lefel uchel ar gyfer yr holl anafusion yng Nghymru, gan gynnwys rhai dadansoddiadau yn ôl oedran a rhyw. Mae'r adrannau diweddarach yn y bwletin hwn yn canolbwyntio ar anafusion a oedd yn feicwyr modur, yn feicwyr pedal, yn gerddwyr ac yn bobl ifanc. Mae dadansoddiad pellach o'r anafusion hyn ar gael yn y dangosfwrdd Gwrthdrawiadau ffyrdd cysylltiedig o dan y pennawd anafusion ac o dablau StatsCymru.
Yn ystod 2025, cofnododd heddluoedd yng Nghymru gyfanswm o 3,004 o wrthdrawiadau ffyrdd yn ymwneud ag anafiadau personol, a arweiniodd at 4,078 o anafusion. O'r marwolaethau a'r anafiadau hyn:
- lladdwyd 91 (2%)
- cafodd 1,116 (27%) o bobl eu hanafu’n ddifrifol
- cafodd 2,871 (70%) o bobl fân anafiadau
Cafodd 91 o bobl eu lladd mewn gwrthdrawiadau yng Nghymru yn 2025, 7 yn fwy o bobl nag yn 2024 (84) ond 5 yn llai o bobl na'r flwyddyn galendr ddiwethaf cyn cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn 2022 (96). Mae nifer y gwrthdrawiadau angheuol a gofnodwyd wedi bod yn sefydlog ar y cyfan ers 2010.
Rhaid bod yn ofalus wrth ddehongli newidiadau i niferoedd bach, megis nifer yr anafusion a laddwyd y flwyddyn.
Cafodd 1,207 (30%) o anafusion eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol (KSI) yn 2025. Roedd hyn 10% yn uwch na 2024 a 19% yn uwch nag yn 2022. Fodd bynnag, oherwydd cyflwyno adrodd ar sail anafiadau yn Heddlu Dyfed-Powys ym mis Mai 2023 ac yn Heddlu De Cymru ym mis Tachwedd 2025, ni allwn ddweud a yw'r cynnydd hwnnw yn gynnydd gwirioneddol neu os yw o ganlyniad i'r newid yn y dull o adrodd. Mae hyn gan y byddem yn disgwyl gweld cynnydd mewn anafusion difrifol yr adroddwyd amdanynt, a gostyngiad mewn anafusion â mân anafiadau yr adroddwyd amdanynt o fewn y ddau Heddlu hwn o'r pwynt pan wnaethon nhw symud i IBRS. Unwaith y byddwn yn cyflwyno ein addasiadau IBRS yn ein datganiad Ch1 2026 ym mis Gorffennaf, byddwn yn gallu darparu asesiad pellach ynghylch a yw KSIs wedi bod yn cynyddu go iawn, a chyfradd y cynnydd hwnnw.
Nid ydym wedi dadansoddi gwrthdrawiadau yn ôl difrifoldeb yn y bwletin hwn gan fod y newidiadau dros amser yn debyg i'r newidiadau a welwyd mewn anafusion. Mae data am wrthdrawiadau yn dal i fod ar gael i'w dadansoddi ar StatsCymru.
Ffigur 6: Anafusion KSI, yn ôl difrifoldeb, 1995 i 2025
Disgrifiad o ffigur 6: mae'r siart linell yn dangos y duedd mewn anafusion KSI yn ôl difrifoldeb, 1995 i 2025. Ym mis Mai 2023, symudodd Heddlu Dyfed Powys i system cofnodi ar sail anafiadau ar gyfer cofnodi gwrthdrawiadau ffyrdd lle mae anafusion yn fwy tebygol o gael eu cofnodi fel rhai difrifol nag yn y system casglu data flaenorol. Symudodd Heddlu De Cymru draw i'r system ym mis Tachwedd 2025.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Anafusion ar draws Prydain Fawr
Ar 28 Mai, cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth (DfT) ddatganiad ystadegol ar ddata dros dro blynyddol am anafusion ffyrdd ar draws Prydain Fawr ar gyfer 2025. Roedd y datganiad hwn yn cynnwys anafusion ffyrdd yn ôl difrifoldeb ac yn ôl rhanbarth, sy'n ein galluogi i gymharu anafusion Cymru â gweddill Prydain Fawr.
Data dros dro yw data gan y DfT. Ar hyn o bryd mae'r Adran Drafnidiaeth yn adrodd nifer ychydig yn is o anafusion na Llywodraeth Cymru. Disgwylir y bydd ffigur yr Adran Drafnidiaeth (DfT) yn cael ei adolygu'n unol â ffigur Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf.
Mae'r ffigur yn natganiad y DfT ar gyfer anafusion a laddwyd ac a anafwyd yn ddifrifol yn seiliedig ar addasu ffigurau yr adroddwyd amdanynt gan yr heddlu er mwyn cyfrif am y newidiadau o ran adrodd ar ddifrifoldeb anafiadau gan rai heddluoedd dros y blynyddoedd diweddar. Mae hyn yn golygu eu bod yn wahanol i'r dull a ddefnyddir yng ngweddill y datganiad hwn. Y defnydd gorau ar gyfer ffigurau a addaswyd gan y DfT yw cymharu tueddiadau dros amser ledled y DU yn ddibynadwy. Mae rhagor o fanylion yng nghanllaw'r DfT ar addasiadau difrifoldeb.
Dros y tymor hwy, mae cyfanswm nifer yr anafusion oherwydd gwrthdrawiadau a gofnodwyd gan yr heddlu wedi gostwng yng Nghymru ac yn yr Alban (47% a 49% yn y drefn honno) yn gyflymach nac yn Lloegr (29%) ers 2015 (Ffigur 7). Fodd bynnag, ers 2024, mae cyfanswm nifer yr anafusion yng Nghymru wedi cynyddu 2%. Mae hwn yn newid mwy na'r newid ar gyfer Prydain Fawr lle bu gostyngiad bychan o lai na 1%. Mae hyn o'i gymharu â gostyngiad o 3% yn yr Alban a gostyngiad bach o lai na 1% yn Lloegr.
Y cynnydd mewn anafusion yng Nghymru yw'r ail uchaf o'r 11 o siroedd a rhanbarthau Prydeinig.
Dim ond yn Nwyrain Canolbarth Lloegr y bu cynnydd mwy. Mae nifer y bobl a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol (KSI) yng Nghymru wedi codi 9% rhwng 2024 a 2025. Mae hyn o'i gymharu â chynnydd o 4% yn Lloegr a Phrydain Fawr, a gostyngiad o 5% yn yr Alban.
Y cynnydd hwn mewn anafusion KSI yng Nghymru oedd yr ail gynnydd mwyaf o 11 o siroedd a rhanbarthau Prydain. Dim ond Dwyrain Lloegr welodd gynnydd mwy.
Ffigur 7: Mynegai o anafusion ffyrdd yn ôl gwledydd, 2015 - 2025 (2015 = 100)
Disgrifiad o ffigur 7: mae'r siart linell yn dangos y duedd mewn anafusion ffyrdd ar gyfer defnyddwyr ffyrdd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban rhwng 2015 a 2025. Mae'r data wedi eu mynegeio i 2015 (2015=100) er mwyn gallu cymharu rhwng gwledydd dros amser. Mae'r siart yn dangos gostyngiad dros y degawd diwethaf, a Chymru a'r Alban yn gweld gostyngiad cynt nag a welir yn Lloegr.
Ffynhonnell: Anafusion ffyrdd yr adroddwyd amdanynt ym Mhrydain Fawr, DfT
Anafusion ar y ffyrdd yn ôl math o ddefnyddiwr ffordd
Mae Ffigurau 8 ac 9 yn dangos y tueddiadau yn nifer yr anafusion ar y ffyrdd ar gyfer gwahanol fathau o ddefnyddwyr ffyrdd. Mae pob categori o ddefnyddiwr ffordd wedi gweld gostyngiad cyffredinol mewn anafusion ffyrdd dros amser.
Ffigur 8: anafusion ar y ffyrdd a oedd yn teithio mewn ceir, tacsis a bysiau mini, 1995 i 2025
Disgrifiad o ffigur 8: mae'r siart linell yn dangos y duedd mewn anafusion ffyrdd ar gyfer defnyddwyr ffyrdd mewn ‘ceir, tacsis a bysiau mini’ yng Nghymru rhwng 1995 a 2025. Mae'r siart yn dangos gostyngiad cyffredinol dros y ddau ddegawd diwethaf.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Ffigur 9: anafusion ar y ffyrdd yn ôl math o ddefnyddiwr ffordd ac eithrio mewn ‘ceir, tacsis a bysiau mini’, 1995 i 2025 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 9: mae'r siartiau llinell yn dangos y tueddiadau mewn anafusion ffyrdd ar gyfer beicwyr modur, beicwyr pedal, cerddwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill dros amser. Mae'r siartiau yn dangos gostyngiad cyffredinol mewn anafusion ffyrdd a gofnodwyd ar gyfer pob math o ddefnyddiwr ffordd.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
[Nodyn 1] Beic modur: Yn cynnwys mopeds, sgwteri modur, beiciau modur a chyfuniadau. Cerbydau eraill: Yn cynnwys bysiau/coetsys, faniau a cherbydau nwyddau.
Bu gostyngiad sylweddol yn nifer yr anafusion KSI ar ffyrdd Cymru ers y 1970au ar gyfer pob math o ddefnyddiwr ffordd.
Mae gan bob categori o ddefnyddiwr ffordd siawns wahanol o gael anaf difrifol. Mae cerddwyr, beicwyr pedal a beicwyr modur yn cael eu hystyried yn ddefnyddwyr ffyrdd sy'n agored i niwed gan eu bod yn wynebu risg uwch o fod mewn gwrthdrawiad (o gymharu â'r pellter a deithiwyd) neu'n fwy agored i niwed o ran cael eu hanafu neu eu lladd, os ydynt mewn gwrthdrawiad.
Roedd defnyddwyr ceir, tacsis a bysiau mini yn cyfrif am 61% o gyfanswm yr anafusion ond 46% o anafusion KSI yn 2025.
Beicwyr modur oedd 13% o gyfanswm yr anafusion, fodd bynnag, roedden nhw'n cyfrif am 24% o anafusion KSI. Roedd cerddwyr hefyd yn cyfrif am gyfran uwch o anafusion KSI nag y gwnaethant am gyfanswm yr anafusion, gan adlewyrchu eu bod yn fwy tebygol o gael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol os ydynt mewn gwrthdrawiad.
Mae rhagor o ddadansoddiad o'r anafusion hyn ar gael o'r dangosfwrdd Gwrthdrawiadau ffyrdd cysylltiedig o dan y pennawd anafusion ac o dablau StatsCymru: Ffyrdd.
Anafusion ar y ffyrdd yn ôl rhyw ac oedran
Roedd anafusion ar y ffyrdd yn fwy tebygol o fod yn ddynion na menywod. Dynion oedd 61% o'r holl anafusion a 68% o anafusion KSI yng Nghymru yn 2025.
Ffigur 10: anafusion ar y ffyrdd yn ôl rhyw a difrifoldeb, 2025
Disgrifiad o ffigur 10: mae'r siart golofn yn cymharu nifer yr anafusion gwrywaidd a benywaidd yn ôl difrifoldeb yn 2025. Mae'r siart yn dangos bod anafusion ar y ffyrdd yn fwy tebygol o fod yn ddynion na menywod ar draws gwahanol ddifrifoldeb.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Mae Ffigur 11 yn dangos y duedd hirdymor yn nifer yr anafusion KSI yn ôl grŵp oedran. Ers 1995, mae'r niferoedd wedi gostwng ar draws pob grŵp oedran. Gwelwyd y gostyngiad canrannol mwyaf (71%) gyda phlant (dan 16), ac yna'r grŵp oedran 16 i 24 (55%). Ar gyfer y grŵp oedran rhwng 45 a 69 oed, mae'r nifer wedi gostwng 9% ers 1995.
Bydd nifer yr anafusion KSI yr adroddwyd amdanynt yn cael ei effeithio gan y ffaith fod Heddlu Dyfed Powys a Heddlu De Cymru wedi symud i system adrodd ar sail anafiadau o fis Mai 2023 a mis Tachwedd 2025. Byddem yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer yr anafusion difrifol a gofnodwyd yn ardaloedd yr heddluoedd hyn, a gostyngiad mewn mân anafusion a gofnodwyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr Adroddiad Ansawdd cysylltiedig.
Ffigur 11: Anafusion KSI yn ôl grŵp oedran, 1995 i 2025
Disgrifiad o ffigur 11: mae'r siart linell yn dangos y duedd mewn anafusion KSI yn ôl grŵp oedran yng Nghymru rhwng 1995 a 2025. Ers 1995, mae'r niferoedd wedi gostwng ar draws pob grŵp oedran. Gwelwyd y gostyngiad canrannol mwyaf (71%) gyda phlant (dan 16), ac yna'r grŵp oedran 16 i 24 (55%)
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Un ffordd o archwilio pa ddefnyddwyr ffyrdd yw'r rhai mwyaf agored i niwed yw edrych ar nifer yr anafusion fel cyfran o'r boblogaeth. Mae'r adrannau canlynol o'r bwletin hwn yn dangos nifer yr anafusion ar y ffyrdd a gofnodwyd fel cyfradd fesul 100,000 o bobl yn y boblogaeth yng Nghymru yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer 2024. Mae amcangyfrifon poblogaeth Cymru yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru.
Yn 2025, pobl ifanc (rhwng 16 a 24 oed) oedd y grŵp oedran oedd yn perygl mwyaf o gael eu hanafu mewn gwrthdrawiad ffordd, gyda 265 o anafusion fesul 100,000 o bobl ifanc yn y boblogaeth.
Mae Ffigur 12 yn dangos yr anafusion KSI a gofnodwyd fel cyfradd fesul 100,000 o bobl yn y boblogaeth. Mae'n tynnu sylw at y gyfradd anghymesur o uchel o anafusion KSI ymhlith pobl ifanc (rhwng 16 a 24 oed) yn 2025, lle roedd 80 o anafusion KSI fesul 100,000 o bobl yn y grŵp oedran.
Mae dosbarthiad anafusion KSI yn ôl grŵp oedran yn debyg i'r blynyddoedd blaenorol yng Nghymru.
Ffigur 12: Anafusion KSI fesul 100,000 o'r boblogaeth, yn ôl grŵp oedran, 2025
Disgrifiad o ffigur 12: mae'r siart far yn dangos nifer yr anafusion KSI fesul 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru yn 2024 yn ôl grŵp oedran. Pobl ifanc (rhwng 16 a 24 oed) oedd â'r gyfradd uchaf o anafusion, sef 80 fesul 100,000 o'r boblogaeth.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Cyfraddau anafusion yn ôl grŵp oedran a defnyddwyr ffyrdd
Mae ffigurau 13 a 14 yn dangos anafusion fel cyfradd fesul 100,000 o bobl yn y boblogaeth (yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn 2024), yn ôl grŵp oedran a math o ddefnyddiwr ffordd. Nid yw'r cyfraddau hyn o reidrwydd yn adlewyrchu'r risg fesul taith neu fesul cilometr a deithiwyd oherwydd gall fod gwahaniaethau o ran nifer y defnyddwyr ffyrdd ym mhob categori yn ôl oedran.
- Pobl ifanc yw'r grŵp oedran mwyaf tebygol o fod yn anafusion a oedd yn ddefnyddwyr ceir (169 fesul 100,000), anafusion a oedd yn feicwyr modur (45 fesul 100,000), ac anafusion a oedd yn feicwyr pedal (17 fesul 100,000).
- Plant (rhwng 0 a 15 oed) oedd y cerddwyr mewn mwyaf o berygl yn 2025 gyda chyfradd anafusion o 18 fesul 100,000, ac yna pobl rhwng 16 a 24 oed (17 fesul 100,000).
Ffigur 13: cyfraddau anafusion yn ôl grŵp oedran ar gyfer defnyddwyr ceir, tacsis a bysiau mini, 2025
Disgrifiad o ffigur 13: mae'r siart golofn yn dangos cyfradd yr anafusion fesul 100,000 o bobl yn y boblogaeth, yn ôl grŵp oedran, ar gyfer defnyddwyr ffyrdd mewn ‘ceir, tacsis a bysiau mini’ yn 2025. Cofnodwyd mai pobl ifanc (rhwng 16 a 24 oed) sydd â'r gyfradd uchaf gyda 169 o anafusion fesul 100,000.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Ffigur 14: cyfraddau anafusion yn ôl grŵp oedran yn ôl defnyddwyr ffyrdd a oedd yn feicwyr modur, beicwyr pedal, a cherddwyr, 2025 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 14: mae'r siart golofn yn dangos cyfradd yr anafusion fesul 100,000 o bobl yn y boblogaeth, yn ôl grŵp oedran, ar gyfer defnyddwyr ffyrdd sy'n feicwyr modur, beicwyr pedal a cherddwyr yn 2025. Ar gyfer defnyddwyr beiciau modur, cofnodwyd mai pobl ifanc (rhwng 16 a 24 oed) sydd â'r gyfradd uchaf gyda 45 o anafusion fesul 100,000 o'r boblogaeth.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
[Nodyn 1] Beic modur: yn cynnwys mopeds, sgwteri modur, beiciau modur a chyfuniadau
Gallwn hefyd edrych ar y cysylltiad â risg, wedi'i fynegi fel nifer yr anafusion fesul biliwn o gilometrau cerbyd a deithiwyd. Mae'r cyfraddau yn yr adran hon ac yn nhabl 1 yn cael eu cyfrifo drwy rannu, ar gyfer pob math o ddefnyddiwr ffordd, nifer yr anafusion a gofnodwyd â'r amcangyfrif cyfatebol o lefel y traffig yn 2025. Mae amcangyfrifon traffig ffyrdd Cymru yn cael eu rhyddhau gan DfT fel rhan o'u gwaith casglu ystadegau traffig ffyrdd.
Mae hyn yn dangos, ar gyfer y pellter cyfatebol a deithiwyd:
- er bod defnyddwyr ceir yn cyfrif am y mwyafrif helaeth o anafusion, mae'r risg gymharol i feicwyr modur a beicwyr pedal yn llawer uwch
- yn 2025, roedd beicwyr modur 25 gwaith yn fwy tebygol na'r rhai mewn ceir a thacsis o fod yn anafusion a 63 gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol
- roedd beicwyr pedal 15 gwaith yn fwy tebygol na'r rhai mewn ceir a thacsis o fod yn anafusion ac roeddent 21 gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol
| Difrifoldeb | Beiciau modur | Ceir a thacsis | Beiciau pedal |
|---|---|---|---|
| Lladdwyd | 160 | 2 | 11 |
| Difrifol | 1,310 | 22 | 468 |
| Mân anafiadau | 1,120 | 81 | 1,116 |
| Cyfanswm | 2,590 | 104 | 1,595 |
Disgrifiad o dabl 1: mae'r tabl yn dangos cyfradd yr anafusion fesul biliwn o gilometrau o lefel y traffig ffyrdd, yn ôl math o ddefnyddiwr ffordd a difrifoldeb, yn 2025.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru. Amcangyfrifon traffig ffyrdd, Yr Adran Drafnidiaeth
[Nodyn 1] Efallai na fydd y ffigurau unigol gyda'i gilydd yn dod i'r cyfanswm oherwydd talgrynnu ffigurau.
Anafusion ffyrdd yn ôl defnyddwyr ffyrdd agored i niwed
Mae'r adrannau isod yn ystyried defnyddwyr ffyrdd agored i niwed (beicwyr modur, beicwyr pedal a cherddwyr) yn ogystal ag yn edrych ar anafusion a oedd yn bobl ifanc yn fanylach.
Mae gwybodaeth fanwl arall am anafusion ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu, megis dadansoddiadau awdurdodau lleol, ar gael o'r dangosfwrdd gwrthdrawiadau ffyrdd cysylltiedig a thablau StatsCymru: fyrdd.
Anafusion a oedd yn feicwyr modur
Prif bwyntiau
- Cofnodwyd 518 o anafusion a oedd yn feicwyr modur gan yr heddlu yn 2025, sy'n cynrychioli 13% o'r holl anafusion yng Nghymru.
- O'r 518 o anafedigion hyn, roedd 294 yn KSI a chafodd 224 fân anafiadau. Mae nifer y KSI a'r mân anafusion yn 22% yn uwch a 8% yn is nag yn 2024 yn y drefn honno. Bydd nifer yr anafusion KSI yr adroddwyd amdanynt ers 2023 yn cael ei effeithio gan y ffaith fod Heddlu Dyfed Powys wedi symud i adrodd ar sail anafiadau ym mis Mai 2023 a Heddlu De Cymru wedi symud ym mis Tachwedd 2025. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr Adroddiad Ansawdd cysylltiedig.
- Gostyngodd nifer yr anafusion a oedd yn feicwyr modur 7% o'i gymharu â 2024. Mae cyfanswm yr anafusion a oedd yn feicwyr modur wedi bod yn gostwng yn gyffredinol dros amser (ffigur 15).
- Yn 2025, dydd Sadwrn oedd y diwrnod o'r wythnos â'r nifer fwyaf o anafusion a oedd yn feicwyr modur (19% o'r holl anafusion a oedd yn feicwyr modur).
Ffigur 15: anafusion a oedd yn feicwyr modur yn ôl difrifoldeb, 2005 i 2025
Disgrifiad o ffigur 15: mae'r siart linell yn dangos y tueddiadau mewn anafusion a oedd yn feicwyr modur yn ôl difrifoldeb, rhwng 2005 a 2025. Mae cyfanswm yr anafusion a oedd yn feicwyr modur wedi bod yn gostwng yn gyffredinol dros amser.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Anafusion a oedd yn feicwyr pedal
Prif bwyntiau
- Cynyddodd nifer yr anafusion a oedd yn feicwyr pedal yn 2025 o 39% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ond dim ond cynnydd o 2% oedd o'i gymharu â 2023. Roedd nifer yr anafusion a oedd yn feicwyr pedal yn anarferol o isel yn 2024. Mae hyn yn dangos y gall y nifer blynyddol o anafusion a oedd yn feicwyr pedal fod yn anwadal, felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli newidiadau tymor byr.
- Roedd 303 o anafusion a oedd yn feicwyr pedal yn 2025 (ffigur 16), sy'n 7% o'r holl anafusion yng Nghymru: o'r anafusion hyn, roedd 91 yn anafusion KSI a 212 wedi cael mân anafiadau.
- Yn 2025, roedd y mwyafrif helaeth o anafusion a oedd yn feicwyr pedal yn ddynion, gan gyfrif am 87% o'r cyfanswm.
- Cafodd 66% o'r holl anafusion a oedd yn feicwyr pedal eu hanafu ar gyffyrdd.
Ffigur 16: anafusion a oedd yn feicwyr pedal yn ôl difrifoldeb, 2005 i 2025
Disgrifiad o ffigur 16: mae'r siart linell yn dangos nifer yr anafusion a oedd yn feicwyr pedal rhwng 2005 a 2025. Yn 2025 cynyddodd anafusion a oedd yn feicwyr pedal 39% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Bu gostyngiad sylweddol yn nifer yr anafusion a oedd yn feicwyr pedal o ddiwedd y 1980au ymlaen, gyda'r cyfanswm isaf wedi'i gofnodi yn 2009 cyn cynyddu rhwng 2010 a 2014 a gostwng ers hynny. Mae nifer yr anafusion KSI a gofnodwyd wedi aros yn fras yr un fath dros y cyfnod cyfan.
Anafusion a oedd yn gerddwyr
Prif bwyntiau
- Yn 2025 cafwyd 452 o anafusion a oedd yn gerddwyr, sy'n cynrychioli 11% o'r holl anafusion yng Nghymru; o'r anafusion hyn, cafodd 13 o gerddwyr eu lladd, cafodd 150 anafiadau difrifol a chafodd 289 fân anafiadau.
- Gostyngodd cyfanswm yr anafusion a oedd yn gerddwyr 5% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
- Yn 2025, roedd dros hanner yr anafusion a oedd yn gerddwyr yn ddynion, gan gyfrif am 57% o'r anafusion.
Ffigur 17: anafusion a oedd yn gerddwyr yn ôl difrifoldeb, 2005 i 2025
Disgrifiad o ffigur 17: mae'r siart linell yn dangos cyfres amser o anafusion a oedd yn gerddwyr yn ôl difrifoldeb yng Nghymru rhwng 200 a 2025. Bu gostyngiad ym mhob difrifoldeb dros amser.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Ffigur 18: anafusion a oedd yn gerddwyr yn ôl grŵp oedran, 2024 i 2025
Disgrifiad o ffigur 18: mae'r siart golofn yn dangos cymhariaeth o anafusion a oedd yn gerddwyr yn ôl grŵp oedran yng Nghymru yn 2024 a 2025. Yn 2025, roedd mwy o anafusion a oedd yn gerddwyr rhwng 45 a 69 oed (26% o'r holl anafusion a oedd yn gerddwyr), mwy nag unrhyw grŵp oedran arall.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Anafusion a oedd yn bobl ifanc
Prif bwyntiau
- Yn 2025, cafwyd 896 o anafusion ar y ffyrdd rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru, cynnydd bach o'i gymharu â 2024. Roedd 269 o anafusion rhwng 16 a 24 oed yn KSI.
- Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o fod yn anafusion mewn gwrthdrawiadau ffyrdd, a hynny'n anghymesur. Maent yn ffurfio 11% o'r boblogaeth (yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth 2024) ond 22% o'r holl anafusion ar y ffyrdd yn 2025. Yn benodol, roedd pobl ifanc yn cyfrif am 29% o'r holl anafusion a oedd yn feicwyr modur, llawer uwch na'r gyfran o'r boblogaeth o 11%.
- Yn 2025, o'r anafusion a oedd yn bobl ifanc, roedd 66% ohonynt yn ddynion a 34% yn fenywod.
- Mae dynion rhwng 16 a 24 oed yn fwy tebygol na menywod o fod yn anafusion ym mhob categori defnyddiwr ffordd, ac eithrio cerddwyr. Ar gyfer beicwyr modur, roedd 5 gwaith cymaint o anafusion a oedd yn ddynion ifanc na menywod ifanc (ffigur 19).
- Roedd y mwyafrif o anafusion a oedd yn bobl ifanc (64%) yn y categori defnyddiwr ffordd mewn ceir, tacsis a bysiau mini.
Ffigur 19: anafusion ar y ffyrdd rhwng 16 a 24 oed yn ôl rhyw a math o ddefnyddiwr ffordd, 2025
Disgrifiad o ffigur 19: mae'r siart golofn yn dangos cymhariaeth o nifer yr anafusion a oedd yn bobl ifanc yn ôl rhyw a math o ddefnyddiwr ffordd yn 2025. Roedd mwyafrif yr anafusion yn ddefnyddwyr mewn ‘ceir, tacsis a bysiau mini’ (64%).
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Ffactorau diogelwch ffyrdd (RSFs)
Eleni rydym wedi newid o gyhoeddi ffactorau sy'n cyfrannu at RSFs yn dilyn argymhellion yr adolygiad STATS19. Mae hyn yn gyson â'r newid a wnaed hefyd gan yr Adran Drafnidiaeth yn eu cyhoeddiadau.
Y Ffactorau Diogelwch Ffyrdd (RSFs) mewn gwrthdrawiad ffordd yw'r prif weithredoedd a diffygion a arweiniodd yn uniongyrchol at y gwrthdrawiad. Maen nhw'n dangos pa ffactorau yr oedd y swyddog heddlu presennol yn meddwl a gyfrannodd at achosi'r gwrthdrawiad. Gall swyddogion yr heddlu sy'n bresennol gofnodi hyd at chwe ffactor sy'n cyfrannu at bob gwrthdrawiad, o restr o 35 o ffactorau posibl.
Mae RSFs wedi'u cynllunio i gofnodi ffactorau mewn ardal lle gellir cymryd camau i wneud ffyrdd yn fwy diogel, ac i leihau'r rhestr o ffactorau posibl, gyda set newydd o godau. Mae rhagor o fanylion am RSFs, gan gynnwys gwybodaeth am drosi data a gofnodwyd fel ffactorau sy'n cyfrannu at RSFs, i'w gweld yn adroddiad blynyddol yr Adran Drafnidiaeth, ‘Reported road casualties Great Britain’.
Mae'r dadansoddiad hwn yn canolbwyntio ar wrthdrawiadau lle y cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol, gan fod swyddogion yr heddlu yn bresennol mewn mwy o'r gwrthdrawiadau hyn.
Yn 2025, cofnodwyd cyfanswm o 2,262 o RSFs a arweiniodd at wrthdrawiadau KSI yng Nghymru. Caiff ffactorau eu nodi ar sail tystiolaeth, a all ddod o amrywiaeth o ffynonellau, megis datganiadau gan dystion ac archwiliadau o gerbydau a safleoedd. Gall RSFs fod yn oddrychol a gallant ddibynnu ar sgìl a phrofiad y swyddog ymchwilio o ran ail-greu'r digwyddiadau a arweiniodd yn uniongyrchol at y gwrthdrawiad. Maent yn adlewyrchu barn y swyddog adrodd adeg llunio'r adroddiad ac nid ydynt o reidrwydd yn deillio o ymchwiliad helaeth.
Mae Ffigur 20 yn dangos yr RSFs mwyaf cyffredin y barnwyd eu bod naill ai'n bosibl neu'n debygol iawn o fod wedi achosi gwrthdrawiadau lle y cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yn 2025. Y 3 ffactor mwyaf cyffredin oedd:
- diffyg sylw gan naill ai'r gyrrwr, y beiciwr neu'r cerddwr (defnyddiwyd 439 gwaith)
- y gyrrwr neu’r beiciwr yn ymosodol, yn beryglus neu'n ddi-hid (defnyddiwyd 271 gwaith)
- y gyrrwr neu’r beiciwr yn teithio'n rhy gyflym o ystyried yr amodau (gan gynnwys colli rheolaeth neu swerfio) (defnyddiwyd 261 gwaith)
Ffigur 20: achosion mwyaf cyffredin gwrthdrawiadau KSI, 2025
Disgrifiad o ffigur 20: mae'r siart bar yn dangos sawl gwaith y cofnodwyd pob un o'r RSFs mwyaf cyffredin ar gyfer gwrthdrawiadau KSI yn 2025 yn ôl tebygolrwydd. 'Diffyg sylw gan naill ai'r gyrrwr, y beiciwr neu'r cerddwr' oedd y ffactor a gofnodwyd amlaf.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Mae Ffigur 21 yn dangos cyfran y gwrthdrawiadau KSI sydd ag o leiaf un ffactor a gofnodwyd ym mhob adran RSF. Gellir priodoli nifer o ffactorau i wrthdrawiad ac felly gall y niferoedd yn Ffigur 21 fod yn werth mwy na 100%. Y 3 adran RSF â'r nifer fwyaf o wrthdrawiadau KSI oedd:
- ymddygiad neu ddiffyg profiad (59% o wrthdrawiadau KSI)
- yn ymwneud â chyflymder (49% o wrthdrawiadau KSI)
- colli sylw neu amhariad (31% o wrthdrawiadau KSI)
Ffigur 21: cyfran y gwrthdrawiadau KSI ag RSFs wedi'u neilltuo iddynt, yn ôl adran RSF, Cymru, 2025
Disgrifiad o ffigur 21: mae'r siart bar yn dangos cyfran y gwrthdrawiadau KSI sydd ag o leiaf un ffactor a gofnodwyd ym mhob adran RSF. 'Ymddygiad neu ddiffyg profiad' oedd yr adran a gofnodwyd amlaf fel ffactor.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Gwybodaeth am ansawdd
Caiff gwybodaeth fanwl am ansawdd ei chyhoeddi yn yr adroddiad ansawdd cysylltiedig.
Mae rhai prif bwyntiau isod.
Mae’r ystadegau’n cyfeirio’n unig at bobl a gafodd anafiadau personol mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd y rhoddwyd gwybod amdanynt i’r heddlu. Ceir rhywfaint o bosibilrwydd o dangofnodi achosion o’r fath, yn enwedig ar gyfer digwyddiadau llai difrifol lle nad oedd swyddogion yr heddlu yn bresennol.
Nid yw’r ystadegau hyn yn cynnwys gwrthdrawiadau:
- na roddwyd gwybod amdanynt i’r heddlu
- a ddigwyddodd ar dir preifat, hy meysydd parcio neu gaeau
- lle na chofnodwyd unrhyw anafiadau personol
- lle cadarnhawyd y gwrthdrawiad yn hwyrach gan weithiwr meddygol proffesiynol neu grwner i fod yn hunanladdiad neu episod meddygol
Darperir manylion y prosesau casglu a dilysu data, cryfderau a chyfyngiadau'r data, a'r polisi adolygu yn yr adroddiad ansawdd.
Statws ystadegau swyddogol
Dylai'r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU).
Ystadegau swyddogol achrededig yw'r rhain. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn ym mis Gorffennaf 2013. Maent yn cydymffurfio â’r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir ar gyfer achredu. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ar unwaith. Gellir canslo neu atal achrediad unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a'i adfer pan gaiff safonau eu hadfer.
Caiff ystadegau swyddogol achrededig eu galw’n Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Datganiad o gydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y OSR. OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.
Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) yn dangos y safonau a ddisgwylir mewn perthynas â dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.
Dibynadwyedd
Mae'r ystadegau hyn yn defnyddio data a gasglwyd gan Heddluoedd Cymru drwy system STATS19. Gellir gweld y data ar lefel y DU, ynghyd â disgrifiad llawn o ffynonellau'r data a sut ydym yn crynhoi'r data ar wefan GOV.UK (Ystadegau Diogelwch ar y Ffyrdd (DfT)).
Mae’r ystadegau hyn yn cael eu rhag-gyhoeddi yn adran Ystadegau ac Ymchwil gwefan Llywodraeth Cymru. Wrth ei brosesu, yr unig rai sy’n cael gweld y data yw’r rheini sy’n gysylltiedig â chynhyrchu’r ystadegau, sicrhau ansawdd a dibenion gweithredol. Dim ond y rheini sydd â hawl yn unol â’r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU) sy’n cael gweld y datganiad cyn ei ryddhau.
Ansawdd
Cafodd y ffigurau cyhoeddedig a gyflwynir eu llunio gan ddadansoddwyr proffesiynol yn seiliedig ar y data diweddaraf a oedd ar gael a chan ddilyn dulliau gan ddefnyddio eu sgiliau dadansoddi a'u barn broffesiynol. Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy'n ategu elfen ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU) ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.
Mae'r datganiad ystadegol wedyn yn cael ei ddrafftio, ei gymeradwy gan uwch ystadegwyr ac yn cael ei gyhoeddi'n unol â datganiad Llywodraeth Cymru ar gyfrinachedd a gweld data.
Caiff gwybodaeth fanwl am ansawdd ei chyhoeddi yn yr adroddiad ansawdd cysylltiedig.
Gwerth
Dibenion y datganiad ystadegol hwn a’r data cysylltiedig a gyhoeddir ar StatsCymru yw darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi a rhoi gwybod i’r cyfryngau a’r cyhoedd yn ehangach am y newidiadau i gofnodion yr heddlu am wrthdrawiadau ar y ffyrdd yng Nghymru.
Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu ag OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan OSR, a lywir gan golofn dibynadwyedd Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (WFG)
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru. Amcanion y nodau hyn yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) y Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, wneud y canlynol: (a) cyhoeddi’r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn Adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd gynnig naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

