Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad tymhorol ar waith Bwrdd Rhaglen Gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyma’r cyntaf o ddiweddariadau tymhorol ar waith y Bwrdd. 

Cafodd Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 gydsyniad brenhinol ar 7 Gorffennaf 2025. Mae’r Ddeddf yn gosod targed Llywodraeth Cymru i gyrraedd o leiaf miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050 ar sail statudol. Mae’r Ddeddf yn darparu ar gyfer newidiadau yn y sector addysg a thu hwnt ac mae’n ei wneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol ac ysgolion a lleoliadau i gynllunio a gweithredu yn unol â’r newidiadau hynny. 

Cafodd Rhaglen Gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg ei sefydlu gan weision sifil is-adran Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru yn nhymor yr Hydref 2025 i ofalu am y gwaith o sefydlu’r trefniadau y mae’r Ddeddf yn gofyn amdanynt ar lefel Llywodraeth Cymru. Bydd y rhaglen yn goruchwylio’r gwaith o:

  • lunio a chyhoeddi Strategaeth y Gymraeg ddiwygiedig
  • llunio a chyhoeddi’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg (a rhoi trefniadau yn eu lle i’w weithredu)
  • llunio a chyhoeddi’r Cod i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg yn seiliedig ar y CEFR (a rhoi trefniadau yn eu lle i sefydlu ei ddefnydd)
  • sefydlu’r Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol i fod yn weithredol ar 1 Awst 2027

Cafodd Bwrdd Rhaglen Gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg ei sefydlu, a chynhaliwyd ei gyfarfod cyntaf ym mis Hydref 2025. Mae aelodau’r bwrdd, sy’n rhanddeiliaid allweddol, yn darparu cyfeiriad strategol, goruchwyliaeth, rheolaeth, sicrwydd a her i gefnogi gwaith y rhaglen.

Mae’r rhaglen yn cynnwys 5 prosiect:

  • Prosiect 1: Strategaeth y Gymraeg
  • Prosiect 2: Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg
  • Prosiect 3: Y Cod i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg
  • Prosiect 4: Gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg
  • Prosiect 5: Sefydlu’r Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Yn ogystal â’r prosiectau a nodir uchod, mae 2 ffrwd waith i gefnogi’r gwaith hwn, sef:

  •  y ffrwd waith is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â pharatoi gorchmynion cychwyn a rheoliadau, a’r
  • ffrwd waith cyfathrebu a rheoli rhanddeiliaid

Yn ei gyfarfod ar 21 Hydref 2025 cyflwynwyd y rhaglen i aelodau’r bwrdd gan gynnwys y ddogfen cychwyn rhaglen a’r cylch gorchwyl. 

Yn ystod yr ail gyfarfod ar 10 Rhagfyr 2025 cymeradwywyd y dogfennau hynny sy’n cynnwys strwythur lywodraethu’r rhaglen. Yn ogystal, rhoddwyd trosolwg strategol gan arweinydd y rhaglen a chyflwynwyd adroddiadau gan arweinwyr y prosiectau a’r ffrydiau gwaith. Y prif eitem yn y cyfarfod hwnnw oedd cyflwyniad ar gynllun cyfathrebu’r Ddeddf. 

Yng nghyfarfod 28 Ionawr 2026 cyflwynwyd cynllun lefel rhaglen gweithredu’r Ddeddf yn cynnwys y cerrig milltir allweddol. 

Yng nghyfarfod y bwrdd ar 5 Mawrth 2026 cafwyd diweddariadau gan arweinwyr y prosiectau a chafwyd cyflwyniad ar y llwybrau ystadegol ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Bydd y tri chyfarfod nesaf a gaiff eu cynnal rhwng mis Mehefin 2026 a mis Medi 2026 yn arwain at yr ymgynghoriad ar y strategaeth, y fframwaith a’r Cod a gaiff ei gynnal ym mis Tachwedd 2026. 

Dyddiad y cyfarfod nesaf yw 4 Mehefin 2026 a bydd cynnydd gwaith y prosiectau ymysg y prif eitemau ar yr agenda.