Cylchlythyr Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru (IEPAW): Gwanwyn 2026
Mae’r IEPAW wedi ymrwymo i gyhoeddi cylchlythyrau ar eu gwaith.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Beth sy’n newydd ym AIDAC
Mae’n bleser gennym groesawu ein dirprwy diweddaraf, sef William Wilson, a ymunodd â’n tîm ym mis Rhagfyr 2025. Mae William yn cymryd lle ein cyn-ddirprwy, Anna Heslop, a’n gadawodd ym mis Medi 2025. Mae William yn gyfreithiwr profiadol ym maes yr amgylchedd, ynni a’r hinsawdd. Bu’n gweithio i’r llywodraeth, mewn practis preifat ac fel ymgynghorydd.
Mae’n bleser gennym groesawu Isabelle Metcalfe hefyd, sy’n aelod newydd o dîm yr ysgrifenyddiaeth. Mae gan Isabelle radd MSc mewn ethnobotaneg a chefndir ym maes cydymffurfio o ran plaladdwyr, ac mae’n darparu cymorth yn lle Tim Morris y daeth ei gontract i ben yn ystod haf y llynedd.
Yn dilyn craffu gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethu a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) ym mis Tachwedd y llynedd, gyda nifer o'n hargymhellion wedi'u hadlewyrchu yn y ddeddfwriaeth, gan ddangos effaith gadarnhaol cyfraniad yr AIDAC at gryfhau llywodraethu amgylcheddol yng Nghymru.
Ers ein llythyr newyddion diwethaf, rydym wedi cyhoeddi mwy o adroddiadau ac wedi cael ymatebion cadarnhaol ar y cyfan gan y Gweinidog dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Mr Huw Irranca Davies, a gan y gymuned o randdeiliaid.
Coedwigaeth
Mae ein Hadroddiad ynghylch Coedwigaeth, a gyhoeddwyd fis Hydref y llynedd, yn argymell diwygiadau brys er mwyn cau bylchau difrifol yn y ddeddfwriaeth a’r fframwaith gorfodi sy’n gwarchod coed a choetiroedd yng Nghymru. Gwnaethom argymell diwygiadau brys a oedd yn cynnwys y canlynol:
- Camau gorfodi llymach yng nghyswllt achosion o gwympo coed heb awdurdod
- Gwell trefniadau monitro cenedlaethol yng nghyswllt colli coed
- Gwell trefniadau ar gyfer gwarchod coetiroedd hynafol
- Cymorth arbenigol mewn cynghorau
- Archwilio gwarchodaeth awtomatig ar gyfer coed hynafol.
Nod yr argymhellion hyn yw cryfhau trefniadau gwarchod cyfreithiol a diogelu rhai o asedau naturiol mwyaf gwerthfawr Cymru rhag deddfwriaeth sydd wedi dyddio a chamau gorfodi gwan.
Safleoedd Gwarchodedig
Roedd ein Hadroddiad ynghylch Safleoedd Gwarchodedig, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn galw am gymryd camau gweithredu ar frys i fynd i’r afael â phryderon sylweddol ynghylch monitro Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru a’u cyflwr. Roedd ein hadroddiad yn nodi’r bwlch o 17 mlynedd rhwng 2020 a 2003 pan gafodd safleoedd gwarchodedig eu hasesu’n llawn, a oedd wedi arwain at sefyllfa lle nodwyd bod cyflwr tua hanner nodweddion Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn “anhysbys” oherwydd tystiolaeth annigonol. Dim ond 20% o’r safleoedd a aseswyd oedd i’w gweld mewn cyflwr ffafriol, roedd 30% mewn cyflwr anffafriol ac nid oedd 50% yn y cyflwr a ddymunid.
Nododd ein hadroddiad hefyd fod 97% o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig wedi’u dynodi cyn i’r canllawiau a ddiweddarwyd gael eu cyflwyno yn 2013, sy’n golygu na chafodd y rhwydwaith cyfredol o safleoedd gwarchodedig ei ddylunio fel system gydlynus sy’n gallu hybu adferiad natur yn yr hirdymor. Mae’r adroddiad yn gwneud 19 o argymhellion, sydd wedi’u trefnu o amgylch pum thema allweddol:
- Gwell trefniadau monitro a chasglu tystiolaeth ar gyfer safleoedd gwarchodedig
- Sefydlu gwaelodlin gadarn ar gyfer adfer natur ar safleoedd a ddifrodwyd
- Datblygu cynllun gweithredu strategol, wedi’i gostio, i adfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig i gyflwr ffafriol, sy’n cyd-fynd â Bil yr Amgylchedd
- Ehangu’r graddau y mae sancsiynau sifil ar gael i’w defnyddio
- Ehangu Cytundebau Rheoli Tir a’u cyllido’n ddigonol er mwyn cynorthwyo i gyflawni canlyniadau cadwraeth hirdymor
Cyngor i Weinidogion: Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig
Cawsom gyflwyniad ynghylch rheoli Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig. Er nad ydym yn gallu ymchwilio i achosion o weithredu’n groes i gyfraith amgylcheddol neu achosion o ddiffyg cydymffurfio, darparwyd cyngor i Weinidogion Cymru am y mater hwn. At hynny, caiff Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig eu hystyried yn ein hadroddiad ynghylch y modd y mae cyfraith amgylcheddol yn gweithio yng nghyswllt rheoli a gwarchod safleoedd gwarchodedig yng Nghymru. Roeddem yn falch o glywed bod cyfeiriad at adolygiad barnwrol yn cael ei ychwanegu at y Memorandwm Esboniadol i'r Ddeddf.
Confensiwn Aarhus
Mae Confensiwn Aarhus yn rhoi hawliau cyhoeddus i wybodaeth amgylcheddol, cyfranogiad, a mynediad at gyfiawnder. Derbyniwyd cyflwyniad yn honni na fyddai Bil Amgylchedd Cymru yn cyflawni ei amcanion heb ymgorffori 'egwyddorion Aarhus.' Cynghorodd AIDAC Weinidogion i gynnwys hawliau adolygu barnwrol ac ymyrryd yn y Bil ac argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru gydweithio â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn nhymor nesaf y Senedd i ddiwygio'r Ddeddf, gan ganiatáu'n benodol i OEGW wneud cais am adolygiad barnwrol yng Nghymru. Roeddem yn falch o glywed bod cyfeiriad at adolygiad barnwrol yn cael ei ychwanegu at y Memorandwm Esboniadol i'r Ddeddf.
Gweithgarwch adrodd cyfredol
Dŵr
Mae gwaith yn dal i fynd rhagddo ar ein hadroddiad ynghylch Ansawdd Dŵr yng Nghymru. Bu’n ymchwiliad cymhleth gyda hyd a lled y gwaith yn ehangu wrth i dystiolaeth ddatblygu, sydd wedi arwain at ddarn amrywiol o waith sy’n ceisio edrych ar yr elfennau allweddol sy’n effeithio ar ddŵr croyw yng Nghymru. Ein nod yw cyhoeddi casgliadau ac argymhellion erbyn diwedd y flwyddyn.
Tir halogedig
Cawsom nifer o gyflwyniadau’n ymwneud â thir halogedig, ac rydym yn parhau i weithio ar yr adroddiad hwn gan ganolbwyntio’n gryf ar rôl cyfraith amgylcheddol wrth fynd i’r afael â’r materion a godwyd.
Yr amgylchedd morol
Rydym yn cynnal ymchwiliad i warchodaeth amgylcheddol forol yng Nghymru. Roedd cyflwyniad gan yr RSPB yn tynnu sylw at bryderon bod blaenoriaeth ac adnoddau annigonol wedi’u rhoi i sicrhau rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy’n gydlynus o safbwynt ecolegol. Mae materion penodol yn ymwneud â bylchau o ran yr hyn a gyflawnir gan ddeddfwriaeth, a chapasiti cyfyngedig yn nhimau morol Llywodraeth Cymru. Ein bwriad yw cyhoeddi adroddiad ynghylch y pwnc hwn maes o law.
Cyflwyniadau eraill
Cawsom gyflwyniad a oedd yn gofyn pam nad oedd y ddeddfwriaeth ynghylch Cyfamodau Cadwraeth wedi’i gweithredu yng Nghymru. Gwnaethom egluro bod y ddeddfwriaeth berthnasol yn cynnwys Cymru a Lloegr ond mai dim ond yn Lloegr y mae’n berthnasol. Gellid cyflwyno’r ddeddfwriaeth yng Nghymru ond byddai hynny’n benderfyniad polisi i Lywodraeth Cymru ac, felly, y tu allan i gylch gwaith AIDAC.
Yn anffodus, rydym yn parhau i gael cyflwyniadau ar faterion eraill sydd y tu allan i’n cylch gwaith, sy’n aml yn ymwneud ag achosion posibl o weithredu’n groes i ddeddfwriaeth a/neu achosion unigol nad oes gennym bwerau i ymchwilio iddynt. Er hynny, rydym yn croesawu cyflwyniadau trwy ein proses ar-lein, yn unol â’r cylch gwaith a eglurir yn ein Cylch Gorchwyl sydd ar gael i’w weld drwy’r dolenni cyswllt a ddarperir.
Telerau Cyfeirio a dyletswydd IEPAW wedi'u hesbonio
Nodwedd: Gwaith llosgi dan reolaeth
Ym mis Mawrth 2026 , cyfarfu AIDAC a’r RSPB â rhanddeiliaid yn Llyn Efyrnwy yn dilyn cyflwyniad gan Cymru Wyllt, er mwyn ymchwilio i arferion llosgi dan reolaeth a gaiff eu rheoleiddio dan Reoliadau Llosgi Grug a Glaswellt etc. (Cymru) 2008. Roedd yr ymweliad yn gyfle i feithrin dealltwriaeth allweddol o broblemau’n ymwneud â chasglu data a rhoi’r ddeddfwriaeth ar waith, megis gwahaniaethu rhwng achosion o gynnau tanau’n fwriadol a gwaith llosgi dan reolaeth sydd wedi mynd allan o reolaeth.
Amlygodd y drafodaeth amrywiadau rhanbarthol yn yr hyn sy’n achosi tanau gwyllt ledled Cymru, ac archwiliwyd sut y gall gwaith llosgi dan reolaeth droi’n danau gwyllt. Bu’r cyfranogwyr yn adolygu’r ddeddfwriaeth bresennol, yn ystyried gwelliannau posibl i brosesau rheoleiddiol, ac yn cymharu’r dulliau gweithredu a ddefnyddir mewn rhannau eraill o’r DU. Roedd y sesiwn hefyd yn cydnabod gwerth dull cydweithredol Cymru o weithredu, a llwyddiant y mentrau a ariennir gan gymunedau i leihau’r perygl o danau gwyllt.
Ddydd Gwener 17 Mawrth 2026, cynhaliodd AIDAC gyfarfod i randdeiliaid a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Defra, Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd ar gyfer Lloegr, a Llywodraeth Cymru. Bu’r trafodaethau yn canolbwyntio ar gadwraeth forol ac ar alinio strategol ar draws sefydliadau. Taflodd y gweithdy oleuni gwerthfawr ar brosesau llywodraethau, ac roedd o blaid cydweithio ar draws ffiniau. Gwnaeth y gweithdy ein cynorthwyo hefyd i fireinio hyd a lled ein hymchwiliad cyfredol i ansawdd dŵr.
Edrych ymlaen
Bydd AIDAC hefyd yn bresennol yn y Sioe Frenhinol ddydd Iau 23 Gorffennaf 2026. Byddwn yn cynnal trafodaeth gyda phanel o arbenigwyr a fydd yn cynnwys Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, aelodau o’n tîm, ac arbenigwyr eraill y mae eu henna i’w cadarnhau. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar ein hymchwiliad cyfredol i ansawdd dŵr a’r uchelgais cyffredin i gael dŵr glanach yng Nghymru. ongoing water quality investigation and shared ambitions for cleaner water in Wales.
Yn yr Hydref, mae AIDAC yn gobeithio bod yn rhan o ddigwyddiad yn seiliedig ar yr adroddiad gwrychoedd, a gynhelir gan Sefydliad Cyfraith Amgylcheddol a Phrifysgol Caerdydd. Rydym hefyd yn gweithio gyda gweithgor UKELA Cymru ar drafodaeth hyd yn oed ar ein gwaith parhaus ar yr adroddiad dŵr.
Manylion cyswllt
Os oes gennych bryderon ynghylch gweithrediad cyfraith amgylcheddol yng Nghymru, dewch o hyd i wybodaeth am sut i godi eich pryder drwy chwilio: AIDAC
