Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddiwch y canllaw hwn i wirio os yw adeilad newydd arfaethedig yn cael ei gynnwys o dan gynllun adeiladau mwy peryglus yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut i benderfynu a yw adeilad newydd sy'n cael ei ddylunio a'i adeiladu yn "adeilad risg uwch". Ar gyfer gwaith adeiladu ar adeilad sy'n bod eisoes a fydd yn ei wneud yn adeilad risg uwch (er enghraifft ychwanegu llawr) neu ar gyfer newid defnydd adeilad, gweler y canllaw ar y meini prawf ar gyfer ystyried bod adeilad yn risg uwch yn ystod gwaith adeiladu ar adeilad sy'n bod eisoes. Mae adeiladau risg uwch yn dod o dan ofynion y drefn risg uwch newydd sy'n cael ei goruchwylio'n uniongyrchol gan awdurdod rheolaeth adeiladu (sef fel arfer yr awdurdod lleol lle saif yr adeilad ynddo) yng Nghymru.

Diffinnir adeiladau risg uwch, at ddiben y gofynion dylunio ac adeiladu, yn adran 120I o Ddeddf Adeiladu 1984 (Deddf 1984) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Deddf 2022) a Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023 (Rheoliadau 2023).

Er mwyn deall a yw adeilad newydd arfaethedig yn adeilad risg uwch, mae angen ystyried Deddf 1984 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 2022, a Rheoliadau 2023 gyda'i gilydd.

Ar gyfer rhan dylunio ac adeiladu'r drefn, diffinnir adeiladau risg uwch fel adeiladau sydd o leiaf 18 metr o uchder neu sydd ag o leiaf 7 llawr ac sy’n cynnwys o leiaf un uned breswyl, cartref gofal neu ysbyty. Fe welwch y diffiniad llawn yn rheoliad 3 o Reoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023

Mae'r canllaw hwn yn nodi 3 phrif faen prawf i'w hystyried ac mae'n cynnwys y testun perthnasol o Ddeddf 1984 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 2022 ac o Reoliadau 2023 gydag esboniadau a diagramau. Bydd yn helpu darpar ddeiliaid dyletswyddau (hynny yw, y cleient, dylunydd, prif ddylunydd, contractwr, a phrif gontractwr) i benderfynu a fydd yr adeilad newydd arfaethedig yn adeilad risg uwch. Dylid defnyddio'r canllaw hwn ar y cyd â chanllawiau eraill sy'n ymdrin ag adeiladau, mesur uchder a/neu rifo lloriau i benderfynu a yw'ch adeilad yn cyd-fynd â'r diffiniad o adeilad risg uwch a nodir yn y gyfraith. Mae angen i chi ystyried y canllaw hwn ac amgylchiadau penodol eich adeilad wrth ichi wneud eich dyletswyddau o dan y rheoliadau adeiladu.

Mae diagramau yn y canllaw hwn yn dangos enghreifftiau o adeiladau posibl, hynny at ddibenion darluniadol yn unig. Bydd angen i chi ystyried y ddeddfwriaeth yn ofalus i ddeall ai chi sy'n gyfrifol am adeilad risg uwch arfaethedig o dan y drefn risg uwch. Efallai y dylech ofyn am farn gyfreithiol.

Fe welwch ddiffiniadau o brif dermau'r canllaw hwn yn yr Eirfa.

Canllaw i ddeall a yw'ch adeilad newydd arfaethedig yn adeilad risg uwch yng nghyfnod dylunio ac adeiladu'r drefn

Dyma'r prif feini prawf i'w hystyried wrth benderfynu a yw adeilad newydd arfaethedig yn adeilad risg uwch:

  1. Meini prawf defnyddio: Beth fydd pwrpas yr adeilad newydd arfaethedig? A yw'n bodloni unrhyw un o'r categorïau o adeiladau sydd wedi'u cynnwys neu sydd wedi'u heithrio?
  2. Diffiniad cyfreithiol o adeilad: Sut mae cyfeiriad at adeilad (strwythur) yn rheoliad 3 o Reoliadau 2023 yn berthnasol i fy adeilad newydd arfaethedig?
  3. Uchder a lloriau: Sut mae'r dulliau ar gyfer mesur uchder a lloriau yn Rheoliadau 2023 yn berthnasol i fy adeilad newydd arfaethedig? A yw fy adeilad newydd arfaethedig yn bodloni'r trothwy uchder 18 metr neu 7 llawr o'i fesur gan ddefnyddio'r dulliau hyn?

Bydd angen i chi ystyried y 3 maen prawf.

Meini prawf defnyddio

Er mwyn cael ei ystyried yn adeilad risg uwch yn ystod cyfnod dylunio ac adeiladu'r drefn, rhaid i adeilad newydd arfaethedig fodloni set benodol o feini prawf defnyddio. Mae hyn yn ychwanegol at y trothwy uchder neu loriau.

Os yw adeilad newydd arfaethedig yn bodloni'r trothwy uchder neu loriau ac y ceir ynddo hefyd o leiaf un uned breswyl, neu ysbyty gydag o leiaf un gwely y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio gan berson sydd wedi ei dderbyn i'r safle ar gyfer arhosiad dros nos, neu gartref gofal neu gartref plant, yna mae'n adeilad risg uwch. Mae hyn yn berthnasol oni bai bod yr adeilad cyfan yn cael ei ddefnyddio fel sefydliad preswyl diogel, gwesty, neu farics milwrol, neu os y ceir yn yr adeilad unrhyw lety byw a ddarperir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer personél milwrol. Mae'r adeiladau hyn wedi'u heithrio.

Disgrifiad o adeilad risg uwch

Rheoliad 3(a) a (b) o Reoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023  

At ddibenion adran 120I(2) o Ddeddf Adeiladu 1984 adeilad risg uwch yw adeilad (gan gynnwys strwythur) 

(a) sydd

o leiaf 18 metr o uchder (pan gaiff ei fesur yn unol â rheoliad 4), neu

sydd ag o leiaf 7 llawr (o'u cyfrifo yn unol â rheoliad 5), a

(b) sy'n cynnwys—

(i) o leiaf un uned breswyl,

(ii) ysbyty sydd ag o leiaf un gwely y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio gan berson sydd wedi ei dderbyn i'r fangre ar gyfer arhosiad dros nos,

(iii) cartref gofal, neu

(iv) gartref plant, ac

(c) nad yw’n adeilad sydd wedi'i eithrio (gweler rheoliad 6).

Mae rheoliad 6 yn nodi'r adeiladau sydd wedi'u heithrio o ran dylunio ac adeiladu y drefn risg uwch.

Adeiladau a eithrir

Mae adeilad yn adeilad a eithrir—

(a) os yw’n cynnwys yn gyfan gwbl —

(i) sefydliad preswyl diogel,

(ii)gwesty,

(iii)barics milwrol,

(iv) llety byw a ddarperir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, neu

(v)llety byw  ar gyfer—

(aa)lluoedd ei Fawrhydi, neu

(bb)unrhyw lu ar ymweliad neu bencadlys rhyngwladol neu sefydliad amddiffyn a ddynodir at ddiben Deddf Pencadlys Rhyngwladol a Sefydliadau Amddiffyn 1964(9);

(b) os yw’n cynnwys defnydd preswyl a defnydd amhreswyl, lle y darperir yr holl lety byw gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae hyn yn golygu bod adeiladau newydd y bwriedir iddynt fod yn ddefnydd cymysg ond a fydd yn cynnwys un neu fwy o'r defnyddiau a nodwyd yn rheoliad 3(b) ac yn bodloni'r trothwy uchder neu loriau yn dod o dan ofynion y drefn risg uwch. Er enghraifft, os yw adeilad newydd arfaethedig yn cynnwys canolfan siopa ond bod ganddo hefyd un neu fwy o unedau preswyl, yna mae'n adeilad risg uwch, os yw'n cwrdd â'r trothwy uchder neu loriau. Byddai adeiladau newydd arfaethedig sydd wedi'u cynllunio i fod yn llety preswyl mewn ysgolion a llety prifysgol hefyd yn cael eu hystyried yn adeiladau risg uwch, cyn belled â'u bod yn cwrdd â'r trothwy uchder neu loriau ar gyfer adeilad risg uwch, gan fod ynddynt unedau preswyl.

Bydd adeiladau newydd a fydd yn cynnwys llety gwarchod ac â chymorth yn cael eu hystyried yn adeiladau risg uwch os ydynt yn cwrdd â'r trothwy uchder neu loriau, ac y ceir ynddynt unedau preswyl. Gall llety gwarchod a llety â chymorth a allai ddod o dan y drefn risg uwch gynnwys llochesi cam-drin domestig, cartrefi plant, cartrefi gwarchod neu gartrefi â chymorth i bobl hŷn a phobl ag anghenion gofal ychwanegol.

Unedau preswyl

Mae uned breswyl yn annedd neu'n unrhyw fath arall o uned llety byw ac yn cael ei ddiffinio yn rheoliad 2.

Mae fflat, fflat stiwdio, cartref amlfeddiannaeth, llety a rennir o fewn neuadd prifysgol (e.e. ystafell wely gyda chegin ac ystafell ymolchi a rennir) neu uned o fewn adeilad llety â chymorth i gyd yn enghreifftiau o unedau preswyl.

Gall uned breswyl fod yn rhan o unrhyw fath o adeilad a gallai fod ag unrhyw ddeiliadaeth. Mae unedau preifat, unedau rhent preifat ac unedau rhent cymdeithasol i gyd yn cael eu hystyried yn unedau preswyl o dan y drefn risg uwch.

Cartrefi gofal ac ysbytai

Mae cartrefi gofal yn darparu llety, ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol, i bobl am eu bod yn agored i niwed neu oherwydd eu hanghenion e.e. pobl sydd neu sydd wedi bod yn sâl, yn feddyliol sâl, neu'n ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau neu sy'n anabl neu'n fethedig.

Mae ysbytai yn sefydliadau sy'n derbyn ac yn trin pobl sâl, pobl sy'n ymadfer neu sy'n cael eu hadsefydlu'n feddygol, neu gartref mamolaeth.

Nid yw ysbyty sydd heb o leiaf un gwely ar gyfer arhosiad dros nos yn dod o dan y drefn risg uwch. Er enghraifft, ni fyddai meddygfa meddyg teulu nad yw'n caniatáu cleifion i aros dros nos yn bodloni'r diffiniad o ysbyty at ddiben Rheoliadau 2023. 

Eithriadau

Sefydliadau preswyl diogel

Mae adeiladau newydd y bwriedir eu defnyddio'n gyfan gwbl fel sefydliadau preswyl diogel wedi'u heithrio o'r drefn risg uwch. Mae sefydliadau preswyl diogel yn cynnwys carchardai, sefydliadau troseddwyr ifanc, canolfannau cadw, canolfannau hyfforddi diogel, dalfeydd, canolfannau cadw tymor byr, ysbytai diogel a llety diogel awdurdodau lleol ar gyfer pobl 18 oed a mwy. Os yw adeilad arfaethedig yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl at un o'r dibenion hyn, yna mae’n adeilad eithriedig.

Gwestai a llety arall â gwasanaeth

Mae adeiladau newydd y bwriedir eu defnyddio'n gyfan gwbl fel gwestai wedi'u heithrio o'r drefn risg uwch. Ni fydd gan westai fel arfer unrhyw unedau preswyl, yn hytrach, maent yn darparu llety dros nos i gwsmeriaid sy'n aros at ddibenion hamdden neu fusnes.

Rydym yn ystyried bod hosteli sy’n darparu llety dros nos i gwsmeriaid at ddibenion hamdden neu fusnes yn debyg i westai ac felly os yw adeilad yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl fel y math hwn o hostel, yna nid yw'n cael ei ystyried yn adeilad risg uwch. Mae gwestai wedi'u heithrio, waeth pa mor hir y mae'r adeiladau hyn yn cael eu meddiannu gan unigolion neu grwpiau o gwsmeriaid.

Nid yw fflatiau â gwasanaeth yn dod o fewn ystyr gwesty ac rydym yn ystyried eu bod yn adeiladau risg uwch os ydynt yn cwrdd â'r trothwy uchder neu loriau.

Ystyrir bod llety gosod tymor byr (er enghraifft, eiddo rhent tymor byr a osodir ar-lein) yn uned breswyl.

Adeiladau milwrol

Mae adeiladau newydd y bwriedir eu defnyddio'n gyfan gwbl fel barics milwrol wedi'u heithrio o'r drefn risg uwch.

Mae adeiladau newydd y cynigir eu bod yn cynnwys unrhyw lety byw naill ai ar gyfer lluoedd Ei Mawrhydi, unrhyw luoedd ymweld neu bencadlys rhyngwladol neu sefydliad amddiffyn hefyd wedi'u heithrio.

Diffiniad o adeilad

Cyfeirir at adeilad risg uwch at ddibenion y drefn risg uwch yn rheoliad 3 o Reoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023 fel adeilad (gan gynnwys strwythur) sy'n bodloni'r gofynion uchder neu loriau a ddisgrifir uchod, sydd ag o leiaf un uned breswyl ac nad yw'n adeilad eithriedig (fel y'i diffinnir yn Rheoliad 6). Bydd y diagramau yn yr adran hon yn eich helpu i benderfynu a yw rheoliad 3 yn berthnasol i'ch adeilad arfaethedig.

Ar gyfer dylunio ac adeiladu adeiladau newydd, ni ellir rhannu strwythur cyffredinol yn adrannau annibynnol. Os yw adeilad arfaethedig yn cynnwys nifer o strwythurau cysylltiedig, mae'r strwythurau hynny gyda'i gilydd wedi'u cyfuno yn un adeilad risg uwch. Mae hyn yn golygu y gall adeilad risg uwch fod yn ddatblygiad neu gomplecs ehangach. Hynny hyd yn oed pan nad yw un neu fwy o'r strwythurau ynghlwm yn bodloni'r gofynion o ran uchder neu nifer y lloriau neu'r defnydd. Cyn belled â bod y trothwy uchder neu loriau a'r meini prawf defnydd yn cael eu bodloni o fewn y set gyffredinol honno o strwythurau, yna mae'r set honno o strwythurau yn adeilad risg uwch. Ar ôl cwblhau'r adeilad arfaethedig, efallai y gallwch rannu'r strwythur yn adrannau annibynnol ar gyfer rhan feddiannu'r drefn risg uwch.

Enghraifft o adeiladau a ddiffinnir o dan y diffiniad o adeilad

Mae diagramau 1 - 3 yn dangos enghreifftiau o wahanol fathau o adeiladau a sut y dylid eu hystyried o dan y diffiniad yn y Rheoliadau. Mae'r enghreifftiau hyn wedi'u cynnwys i'ch helpu i asesu'ch adeilad arfaethedig; fodd bynnag, maent yn ddarluniadol ac nid ydynt yn cynrychioli pob math o adeilad.

 

Image

 

Mae Diagram 1 yn dangos tŵr preswyl 7 llawr newydd arfaethedig (tŵr 1A) nad yw ynghlwm wrth unrhyw strwythur arall. Mae Tŵr 1A yn cael ei ystyried yn un adeilad.

 

Image

 

Mae Diagram 2 yn dangos adeilad newydd arfaethedig sy'n cynnwys nifer o strwythurau preswyl cysylltiedig, amrywiol eu nifer o loriau. Cysylltir tŵr 2A a thŵr 2B gan faes parcio a rennir. Cysylltir tŵr 2B a thŵr 2C gan lwybrau cerdded. Cysylltir Tŵr 2C a 2D gan wahanfur. Mae Ardal 2E o fewn tŵr 2D. At ddibenion dylunio ac adeiladu adeilad newydd, ystyrir bod tyrau 2A, 2B, 2C a 2D ac ardal 2E yn un strwythur ac felly yn un 'adeilad'.

Mae Tŵr 2A a thŵr 2C yn bodloni'r trothwy lloriau ac yn bodloni'r meini prawf defnydd gan eu bod yn cynnwys o leiaf ddwy uned breswyl. Felly, ystyrir bod y set o strwythurau yn un adeilad risg uwch.

 

Image

 

Mae Diagram 3 yn dangos adeilad newydd arfaethedig sy'n cynnwys un tŵr preswyl 7 llawr ac un tŵr preswyl 5 llawr sy'n rhannu'r un sylfeini. Mae Tŵr 3A a 3B wedi'u cysylltu ar lefel y sylfeini. At ddibenion dylunio ac adeiladu adeilad newydd, ystyrir bod tŵr 3A a thŵr 3B yn un strwythur ac felly yn un 'adeilad'.

Cyfrif lloriau a mesur uchder

Er mwyn i adeilad newydd arfaethedig fod yn adeilad risg uwch, mae angen iddo fodloni'r trothwy uchder neu loriau - nid oes angen iddo fodloni'r ddau (er y gall). Mae'r trothwy uchder wedi'i osod ar 18 metr neu uwch. Mae'r trothwy lloriau wedi'i osod ar 7 llawr neu fwy.

Os yw adeilad newydd arfaethedig yn bodloni'r trothwy 7 llawr ac yn bodloni'r meini prawf defnydd a nodir yn y canllaw hwn yna mae'n adeilad risg uwch ac nid oes angen ei fesur yn erbyn y trothwy uchder. Os yw'r adeilad newydd arfaethedig yn 18 metr o uchder ac yn bodloni'r meini prawf defnydd, yna mae'n adeilad risg uwch ac nid oes angen iddo fodloni'r trothwy lloriau.

Os nad yw adeilad newydd arfaethedig yn bodloni'r trothwy uchder 18 metr na'r trothwy 7 llawr (er enghraifft, mae'n 17 metr a 6 llawr o uchder), yna nid yw'n adeilad risg uwch, hyd yn oed os yw'n bodloni'r meini prawf defnydd.

Disgrifir y dull rhagnodedig o fesur uchder a chyfrif lloriau yn rheoliad 4 yn Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023.

(1) Mesurir uchder adeilad o lefel y ddaear hyd at ben uchaf arwyneb llawr llawr uchaf yr adeilad.

(2) Ond anwybyddir unrhyw lawr sy’n ardal peiriannau pen to neu gyfarpar pen to neu sy’n cynnwys ystafelloedd peiriannau pen to neu gyfarpar pen to yn unig.

Mae rheoliad 5 yn nodi'r dull ar gyfer cyfrif lloriau.

  1. (1) Cyfrifir nifer y lloriau mewn adeilad yn y safle sy'n rhoi'r nifer fwyaf o loriau, cyn belled â

(a) bod unrhyw loriau sydd o dan lefel y ddaear yn cael eu hanwybyddu;

(b) bod unrhyw lawr sy’n ardal peiriannau pen to neu gyfarpar pen to neu sy’n cynnwys ystafelloedd peiriannau pen to neu gyfarpar pen to yn unig yn cael eu hanwybyddu;

(c) yr ystyrir unrhyw lawr mesanîn yn llawr os yw ei arwynebeddau llawr mewnol yn o leiaf hanner arwynebedd llawr mewnol y llawr mwyaf yn yr adeilad nad yw o dan lefel y ddaear.

(2) bod llawr o dan lefel y ddaear os yw arwyneb gorffenedig nenfwd y llawr o dan lefel y ddaear.

Mae rheoliad 2 yn diffinio lefel y ddaear ar gyfer y Rheoliadau hyn.

ystyr “lefel y ddaear” (“ground floor”), mewn perthynas ag adeilad, yw—

(a) pan fo lefel arwyneb y ddaear y lleolir yr adeilad arno yn unffurf, lefel arwyneb y ddaear yn union gyfagos i’r adeilad; neu

(b) pan nad yw lefel arwyneb y ddaear y lleolir yr adeilad arno yn unffurf, lefel y rhan isaf o arwyneb y ddaear yn gyfagos i’r adeilad;

Dylid cyfrif lloriau o'r llawr ar lefel y ddaear i'r llawr uchaf. Dylid mesur uchder adeilad o lefel y ddaear hyd at ben uchaf arwyneb llawr llawr uchaf yr adeilad. Dylid defnyddio'r dull a nodir yn Rheoliadau 2023 ac yn y canllaw hwn wrth benderfynu a yw eich adeilad arfaethedig yn adeilad risg uwch, yn hytrach na dulliau a nodir mewn dogfennau eraill.

Lefel y ddaear

Wrth gyfrif lloriau a mesur uchder, dylech eu mesur o lefel y ddaear. Bydd angen i chi ystyried yn ofalus ble mae lefel daear eich adeilad arfaethedig. Mewn ambell sefyllfa, efallai y bydd mannau bach wedi'u creu yn gyfagos i'r adeilad arfaethedig sydd o dan lefel mynediad arferol y llawr gwaelod fel ffynhonnau golau. Mae'n annhebygol y bydd yn briodol ystyried ardaloedd o'r fath at ddiben nodi lefel y ddaear.

Os yw'r adeilad arfaethedig sy'n cael ei fesur yn sefyll ar dir gwastad unffurf, yna lefel y ddaear yw wyneb y ddaear sy'n union gyfagos i'r adeilad. Dangosir hyn yn Niagram 4.

Pan fydd adeilad arfaethedig yn sefyll ar dir gwastad unffurf, wrth gyfrif lloriau, ni ddylid cyfrif unrhyw lawr sydd o dan lefel y ddaear. Ystyrir bod llawr yn is na lefel y ddaear ac ni ddylid ei gyfrif os yw unrhyw ran o arwyneb nenfwd gorffenedig y llawr yn is na lefel y ddaear.  Yn yr un modd, wrth fesur uchder, ni ddylid mesur rhannau o'r adeilad sydd o dan lefel y ddaear. Dangosir hyn yn Niagram 4.

 

Image

 

Mae diagram 4 yn dangos un tŵr 7 llawr.

Ar gyfer yr adeilad arfaethedig a ddangosir yn Niagram 4, dylid mesur lloriau o'r llawr cyntaf uwchben lefel y ddaear, fel y dangosir gan y saeth ar y chwith. Ni ddylid cyfrif y llawr o dan lefel y ddaear. Dylid mesur uchder o lefel y ddaear i wyneb llawr y llawr uchaf, fel y nodir gan y saeth ar y dde.
O ran yr adeilad arfaethedig a ddangosir yn Niagram 4, ar sail y dull cyfrif lloriau a ddisgrifir yn Rheoliadau 2023, mae'r strwythur arfaethedig hwn yn 7 llawr.

Wrth gyfrif lloriau a mesur uchder, os yw'r adeilad arfaethedig sy'n cael ei fesur yn sefyll ar dir anwastad (er enghraifft, tir ar oleddf), yna lefel y ddaear yw'r rhan isaf o arwyneb y ddaear sydd union gyfagos i’r adeilad. Dangosir hyn yn Niagram 5.

 

Image

 

Mae Diagram 5 yn dangos tŵr preswyl 7 llawr ar dir ar oleddf.

Yn yr enghraifft hon, dylid mesur ei uchder o lefel isaf y ddaear sy'n union gyfagos i'r adeilad, fel y dangosir gan y saeth. Dylid cyfrif lloriau o'r llawr cyntaf uwchlaw lefel y ddaear. Ni ystyrid bod llawr cyntaf yr adeilad arfaethedig yn Niagram 5 o dan lefel y ddaear gan fod arwyneb gorffenedig y nenfwd o dan lefel y ddaear.

Yn yr enghraifft hon, ar sail y dull cyfrif lloriau a ddisgrifir yn Rheoliadau 2023, mae'r strwythur arfaethedig hwn yw 7 llawr.

Toeau

Wrth gyfrif lloriau adeilad arfaethedig, ni ddylid cyfrif unrhyw lawr sy'n cynnwys mannau cadw peiriannau pen to neu gyfarpar pen to yn unig. Mae peiriannau pen to yn beiriannau sy'n gwasanaethu'r adeilad (er enghraifft, system aerdymheru). Mae ystafelloedd peiriannau'n ardaloedd sy'n cynnwys peiriannau neu offer sy'n gwasanaethu'r  adeilad. Dim ond ystafelloedd ac ardaloedd cyfarpar pen to sy'n cynnwys dim ond peiriannau pen to sydd wedi'u heithrio - er enghraifft, os yw llawr 3 adeilad 7 llawr yn cynnwys dim ond ystafelloedd cyfarpar a pheiriannau, dylid ei gyfrif fel llawr.

Wrth fesur uchder adeilad arfaethedig, dylid mesur yr adeilad hyd at ben uchaf arwyneb llawr y llawr uchaf nad yw'n ystafell peiriannau pen to neu gyfarpar pen to yn unig. Dangosir hyn yn Niagram 6.

 

Image

 

Os yw'r llawr uchaf yn ystafelloedd peiriannau pen to neu gyfarpar pen to yn unig, yna dylid mesur uchder yr adeilad arfaethedig hyd at ben wyneb llawr uchaf y llawr islaw. Dangosir hyn yn Niagram 7.

 

Image

 

Mae diagram 7 yn dangos tŵr preswyl 7 llawr ar dir ar oleddf gydag ystafell cyfarpar pen to.

Yn yr enghraifft hon, dylid mesur ei uchder o lefel y ddaear i wyneb llawr arfaethedig y llawr uchaf, nad yw'n ystafell gyfarpar, fel y nodir gan y saeth. Dylid cyfrif lloriau o'r llawr cyntaf uwchlaw lefel y ddaear. Ni ystyrid bod y llawr cyntaf yn yr adeilad arfaethedig hwn o dan lefel y ddaear gan fod rhan o arwyneb gorffenedig nenfwd y llawr uwchlaw lefel y ddaear ar gyfer yr adeilad.

Ar sail y dull cyfrif lloriau a ddisgrifir yn Rheoliadau 2023, ystyrir bod yr adeilad hwn yn 7 llawr ac mae'n adeilad risg uwch gan ei fod yn cynnwys un neu fwy o unedau preswyl.

Lloriau mesanîn

Efallai y bydd gan rai adeiladau arfaethedig loriau mesanîn. Enw arall am lawr mesanîn yw llawr oriel (fel y cyfeirir atynt yn Rheoliadau 2023). Mae mesanîn yn ardal fewnol o fewn adeilad. Mae lloriau mesanîn yn ardaloedd rhannol rhwng dau brif lawr nad ydynt yn gorchuddio arwynebedd cyfan yr adeilad.

 

Image

 

Mae Diagram 8 yn dangos un tŵr preswyl 7 llawr gyda llawr mesanîn sydd ag arwynebedd sy'n fwy na 50% o'r llawr uwchben.

Dylid cyfrif lloriau mesanîn fel llawr dim ond os yw arwynebedd llawr mewnol llawr y mesanîn arfaethedig o leiaf 50% o arwynebedd llawr mewnol y llawr mwyaf uwchlaw'r ddaear sydd uwchben neu o dan y llawr mesanîn. Unwaith y bydd llawr mesanîn yn cyrraedd y trothwy o 50%, bydd yn dod yn llawr a dylid ei gyfrif fel y cyfryw. Er enghraifft, os oes gan lawr mesanîn arfaethedig, sy'n ffurfio llawr cyntaf adeilad, arwynebedd llawr mewnol sy'n hanner arwynebedd, neu fwy y llawr mwyaf arall, yna dylid cyfri'r llawr mesanîn hwn fel llawr ar wahân. Os yw'r llawr mesanîn yn llai na hanner arwynebedd y llawr mwyaf, yna ni ddylid ei gyfrif fel llawr ar wahân.  Rhoddir enghraifft o sut y dylid cyfrif lloriau mesanîn yn Niagram 8.  

Yn yr enghraifft hon, mae arwynebedd llawr mewnol y llawr mesanîn yn fwy na 50% o arwynebedd llawr mewnol y lloriau uwch ei ben. Ar sail y dull cyfrif lloriau a ddisgrifir yn y Rheoliadau, yn ein barn ni byddai llawr y mesanîn yn y strwythur arfaethedig hwn yn llawr, ac ystyrir bod yr adeilad yn 7 llawr.

Strwythurau lluosog

Wrth gyfrif lloriau a mesur uchder, os yw'r adeilad arfaethedig yn cynnwys mwy nag un strwythur dylid cyfri'r lloriau o lefel y ddaear (rhan isaf y ddaear sy'n cyffwrdd â'r adeilad arfaethedig) i bwynt uchaf y strwythurau cysylltiedig. Yn yr un modd, dylid mesur uchder o lefel y ddaear i wyneb llawr arfaethedig llawr uchaf y strwythur cyffredinol. Efallai na fydd rhan ucha'r adeilad yn union uwchben lefel y ddaear lle dechreuir cyfri'r lloriau, a lle dechreuir mesur yr uchder. Enghraifft o hyn yw os yw'r strwythurau lluosog arfaethedig wedi'u hadeiladu ar oleddf. Dangosir hyn yn Niagram 9.

 

Image

 

Mae Diagram 9 yn dangos tŵr preswyl 4 llawr sydd wedi'i gysylltu â thŵr preswyl 8 llawr trwy wahanfur ar dir ar oleddf.

Yn yr enghraifft hon, ar sail dull cyfri'r lloriau a ddisgrifir yn y Rheoliadau, ystyrir bod yr adeilad arfaethedig yn 8 llawr.

Rhestr o'r prif dermau a ddefnyddir yn y canllaw hwn

Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Deddf 2022)

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Deddf 2022) ar 28 Ebrill 2022. Mae'n gweithredu'r argymhellion a wnaed yn adroddiad Adeiladu Dyfodol Mwy Diogel y Fonesig Judith Hackitt i greu system reoleiddio newydd fwy llym ar gyfer adeiladau risg uwch. Mae ei hargymhellion yn nodi dyletswyddau a chyfrifoldebau clir i'r rhai sy'n comisiynu, dylunio, adeiladu ac adnewyddu adeiladau risg uwch, a'r rhai sy'n gyfrifol am sicrhau bod adeiladau'n cael eu rheoli'n ddiogel pan fyddant yn cael eu meddiannu. Mae Rhan 3 o Ddeddf 2022 yn ymwneud â chyfundrefn deliad dyletswydd ar gyfer adeilad risg uwch yn ystod y cyfnod dylunio ac adeiladau ac mae’n gymwys yng Nghymru. I weld Deddf 2022, cliciwch ar Deddf Diogelwch Adeiladau 2022.

Cartrefi gofal

Mae cartrefi gofal yn darparu llety, ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol, i bobl am eu bod yn agored i newid neu oherwydd eu hanghenion, i'r rhai sydd neu sydd wedi bod yn sâl, yn feddyliol sâl, neu'n ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau neu sy'n anabl neu'n fethedig.

Deiliaid y dyletswyddau

Ystyr Deiliaid y dyletswyddau yng nghyfnod dylunio ac adeiladu'r drefn risg uwch yw'r cleient, dylunydd, prif ddylunydd, contractwr, a phrif gontractwr.

Bydd angen iddynt:

  • cynllunio, rheoli a monitro'r gwaith dylunio a'r gwaith adeiladu y maent yn ei wneud i sicrhau bod y gwaith adeiladu yn cydymffurfio â'r holl reoliadau adeiladu perthnasol.
  • cydweithredu a chyfathrebu â deiliaid dyletswyddau eraill (e.e. rhannu gwybodaeth, sefydlu llwybrau cyfathrebu effeithiol), cydlynu eu gwaith, a chael systemau ar waith i sicrhau bod gwaith adeiladu, gan gynnwys gwaith dylunio, yn cydymffurfio â'r holl reoliadau adeiladu perthnasol.

Bydd angen iddynt hefyd fod yn gymwys (meddu ar y sgiliau, y wybodaeth, y profiad a'r ymddygiad cywir) ar gyfer y gwaith y maent wedi'u cyflogi i'w wneud a sicrhau bod y rhai y maent yn eu penodi hefyd yn gymwys i wneud y gwaith hwnnw.

Adeilad risg uwch

Adeilad risg uwch yw'r term technegol ar gyfer adeiladau o fewn cwmpas y drefn risg uwch. Mae'r canllaw hwn wedi'i gynllunio i helpu defnyddwyr i ddeall a yw adeilad newydd arfaethedig yn bodloni'r meini prawf i gael ei ystyried yn adeilad risg uwch o dan ran dylunio ac adeiladu y drefn.

Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023 (Rheoliadau 2023) 

Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023 (Rheoliadau 2023) yw'r rheoliadau sy'n adeiladu ar y darpariaethau yn y Ddeddf i gwblhau'r diffiniad cyfreithiol o adeilad risg uwch. Maent i'w gweld yn Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023.

Ysbyty

Ystyr ysbyty at ddiben Rheoliadau 2023 yw sefydliad sydd â llety dros nos ar gyfer trin pobl sâl, pobl sy'n ymadfer neu sy'n cael eu hadsefydlu'n feddygol, neu gartref mamolaeth.

Ystafell gyfarpar

Ystyr ystafell gyfarpar  yw ardal sy'n cynnwys peiriannau neu gyfarpar sy'n gwasanaethu'r adeilad.

Preswylydd 

Ystyr Preswylydd yw person sy'n byw mewn uned breswyl, waeth beth fo'i ddeiliadaeth.

Uned breswyl 

Ystyr uned breswyl yw annedd neu unrhyw uned arall o lety byw. Enghreifftiau yw fflat, fflat stiwdio, llety a rennir mewn neuadd prifysgol neu uned o fewn adeilad llety â chymorth.

Peiriannau pen to

Ystyr peiriannau pen to yw peiriannau sydd wedi'u lleoli ar do adeilad sy'n gwasanaethu'r adeilad.