Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg a gasglodd farn a phrofiadau y gweithlu addysg yng Nghymru ar y defnydd o ffonau symudol gan ddysgwyr mewn ysgolion.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Prif ganfyddiadau
Er bod amrywiad yn y ffordd y caiff y defnydd o ffonau symudol ei reoli ar draws lleoliadau, nododd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr bolisi ysgrifenedig ffurfiol (66.3%), gyda chyfrannau llai yn adrodd rheolau a chanllawiau ysgrifenedig (18.0%) neu ganllawiau llafar (13.2%). Ar y cyfan mae'r dulliau gweithredu yn rhai cyfyngol, gan amlaf yn caniatáu ffonau ar y safle ond nid yn ystod y diwrnod ysgol (46.3%), er bod ymatebion ansoddol yn dangos amrywiad o ran y ffordd y caiff hyn ei gymhwyso yn ymarferol (ee y defnydd o drefniadau storio o gymharu â systemau casglu ar ddechrau'r diwrnod neu yn ystod gwersi).
Mae cysondeb o ran prosesau gorfodi yn gymysg: adroddodd 55.7% eu bod yn gyson iawn neu'n gyson gan amlaf, tra bod 44.3% yn adrodd prosesau gorfodi nad ydynt yn gyson iawn neu'n gyson o gwbl. Roedd ymatebwyr mewn ysgolion uwchradd yn fwy na dwywaith yn fwy tebygol na'r rhai mewn ysgolion cynradd i adrodd prosesau gorfodi cyson (95.6% o gymharu â 46.0%).
Roedd ymatebwyr ar y cyfan o'r farn bod cyfyngiadau ar ffonau symudol yn cael effeithiau cadarnhaol, yn enwedig ar gyfer cyfyngu ar unrhyw beth sy'n tynnu sylw'r dysgwyr (74.6%), ochr yn ochr â rheoli ymddygiad (65.0%), lleihau bwlio neu gamddefnydd (61.6%) a llesiant dysgwyr (60.8%).
Fodd bynnag, roedd yr effeithiau canfyddedig yn fwy cymysg ar gyfer llwyth gwaith staff (49.8% cadarnhaol; 18.5% negyddol; 31.8% dim newid amlwg) a phresenoldeb a phrydlondeb (39.3% cadarnhaol; 11.8% negyddol; 50.0% dim newid amlwg), gydag ymatebion ansoddol yn tynnu sylw at y ffaith y gall gweithredu gynyddu llwyth gwaith mewn rhai achosion.
Nodwyd ystod o heriau gweithredu, yn fwyaf cyffredin roedd cefnogaeth gyfyngedig gan fyfyrwyr (54.1%) a phrosesau gorfodi anghyson (50.5%), ochr yn ochr â chefnogaeth gyfyngedig gan rieni/gofalwyr. Mae canfyddiadau ansoddol yn tynnu sylw at faterion megis diffyg cydymffurfio, anghysondeb o fewn ysgolion a rhyngddynt, a heriau ymarferol fel storio a gorfodi.
Mae'r dystiolaeth o ran ar yr hyn sy'n cefnogi gweithredu effeithiol yn tynnu sylw at bwysigrwydd rhesymeg/rheswm cryf dros bolisi ffonau symudol (64.1%), negeseuon cyson (59.3%) a phrosesau gorfodi cyson (53.2%).
Mae cefnogaeth gadarn a chyson ar gyfer rhagor o gyfeiriad cenedlaethol, gyda mwy nag 8 o bob 10 ymatebydd (82.0%) o blaid cyfyngiadau statudol. Mae ymatebion ansoddol yn awgrymu bod hyn yn cael ei sbarduno'n bennaf gan awydd am fwy o gysondeb ar draws ysgolion ac awdurdodau lleol, disgwyliadau cliriach, a llai o wrthdaro â dysgwyr a rhieni. Roedd tua 1 o bob 7 ymatebydd (15.1%) o blaid darparu canllawiau statudol cenedlaethol yn argymell cyfyngiadau, gan adael penderfyniadau i leoliadau, cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol o dan y pwerau presennol. Dim ond 1.5% o'r ymatebwyr oedd yn teimlo na ddylid darparu canllawiau ac y dylid gadael penderfyniadau yn gyfan gwbl i leoliadau.
Adroddiadau
Arolwg o'r defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Cyfryngau
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
