Neidio i'r prif gynnwy

Bwrw ymlaen â gwaith i gyflwyno cynnig gofal plant trawsnewidiol – penodi grŵp arbenigol. Cyhoeddi cyd-gadeirydd ar gyfer Cynnal – Taliad Plant Cymru - grŵp arbenigol. Cynllun uchelgeisiol a chyflawnadwy i fynd i'r afael â thlodi plant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Parch, undod a chwarae teg yw'r gwerthoedd sy'n bwysig i bobl Cymru, a dyma'r sylfeini sydd bellach yn sail i waith y llywodraeth i leihau tlodi, mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac adeiladu cymunedau tecach, mwy diogel ac unedig.

Dyna oedd neges y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams, yn ei Datganiad Llafar cyntaf i'r Senedd i amlinellu ei blaenoriaethau. 

Mae gwaith ar gynnig gofal plant trawsnewidiol eisoes wedi dechrau. Heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog y bydd Grŵp Llywio Arbenigol ar Ehangu'r Ddarpariaeth Gofal Plant yn cael ei sefydlu a fydd yn llywio'r broses o gyflwyno’r cynnig estynedig, ac sy'n un o'r ymrwymiadau yn y cynllun ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf.

Bydd y Grŵp Arbenigol hwn yn allweddol i gyflawni'r newid trawsnewidiol, a chenhadaeth ganolog y grŵp fydd gwreiddio'n gadarn y gwaith o gyflwyno'r cynnig gofal plant fesul cam, gyda chynllunio'r gweithlu, gwella mynediad a symleiddio’r broses ymgeisio fel blaenoriaethau clir.

Bydd y cynnig, a fydd y mwyaf hael yn y DU, yn helpu teuluoedd gyda chostau byw, yn rhoi hwb i incwm teuluoedd ac yn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn.

Mae gwaith ar y gweill gydag awdurdodau lleol i gyflymu'r broses o gyflwyno gofal plant a ariennir, gan gynnwys gyrru'r gwaith o ddarparu 12.5 awr i bob plentyn dwy oed wrth gynllunio a phrofi ar gyfer y camau ehangu nesaf, sef 20 awr o ofal plant wedi'i ariannu yr wythnos ar gyfer pob plentyn rhwng 9 mis a 4 oed yn y pen draw.

Mae cynnydd eisoes wedi'i wneud ar gynllun peilot Cynnal - Taliad Plant Cymru. Fel rhan o'r cynllun ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf, mae grŵp arbenigol yn cael ei sefydlu a fydd yn cael ei gyd-gadeirio gan y Dirprwy Brif Weinidog a Steffan Evans, prif weithredwr Sefydliad Bevan.

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynllun newydd uchelgeisiol i fynd i'r afael â thlodi plant, gan osod targedau, meincnodau a cherrig milltir clir. Bydd hyn yn ymdrin â bwlch allweddol y beirniadwyd y llywodraeth ddiwethaf amdano, gan gynnwys gan Gomisiynydd Plant Cymru.

Bydd gwaith yn digwydd ar draws y llywodraeth i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Wrth nodi Mis Balchder, fe wnaeth y Dirprwy Brif Weinidog hefyd ddathlu dewrder a chyfraniad pobl LHDTC+ a'r ymrwymiad i urddas, parch a chynhwysiant ledled Cymru.

Bydd y camau hyn yn cael eu hategu gan ymrwymiad cryf i hyrwyddo integreiddio a chydlyniant

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:

"Mae'r llywodraeth newydd hon wedi etifeddu lefelau ystyfnig o uchel o dlodi plant - rwy'n benderfynol o newid hynny.

"Rydym wedi ymrwymo i leihau tlodi a gwella cyfleoedd bywyd i blant a theuluoedd gyda strategaeth tlodi plant newydd uchelgeisiol sy'n adlewyrchu'r hyn y mae'r sector wedi bod yn gofyn amdanynt – targedau clir, meincnodau a cherrig milltir.

"Ein cynnig gofal plant ni yw'r cynnig mwyaf uchelgeisiol yn y DU gyfan ac rwy'n falch bod y gwaith i'w gyflawni yn unol â'n cynllun ar gyfer 100 diwrnod cyntaf yn mynd rhagddo'n dda, gan gynnwys sefydlu Grŵp Arbenigol a fydd yn gyrru'r gwaith ymlaen.

"Mae ein blaenoriaethau yn gosod camau gweithredu glir a chyflawnadwy a fydd yn arwain at ganlyniadau go iawn ar draws Cymru. Maent yn canolbwyntio'n glir ac yn uniongyrchol ar y pwysau y mae pobl sy'n byw yng Nghymru yn eu hwynebu, y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, a'r math o genedl rydym am ei chreu gyda'n gilydd ar draws pob rhan o Gymru."