Llyr Gruffydd AS, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am nifer yr hawliadau sydd wedi dod i law ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) – yr Haen Gyffredinol a Chynllun y Taliad Sylfaenol (BPS), yn dilyn cau cyfnod Ffurflen Cais Sengl (SAF) 2026.
Gwnaed hawliadau ar gyfer yr SFS – yr Haen Gyffredinol a'r BPS, drwy'r SAF. Ar gyfer blwyddyn hawlio 2026, daeth cyfanswm o 16,310 o ffurflenni SAF i law. O'r rhain, cyflwynodd ffermwyr 8,104 o hawliadau ar gyfer yr SFS – yr Haen Gyffredinol, a hawliodd 8,038 o ffermwyr o dan y BPS. Arwynebedd y tir fferm a ddatganwyd o dan yr SFS – yr Haen Gyffredinol yw 905,545 o hectarau, a chafodd 384,399 o hectarau eu datgan o dan y BPS. Mae rhagor o wybodaeth am y cynlluniau ar gael yn Atodiad A.
Hoffwn i ddiolch yn ddiffuant i'r undebau ffermio a'r asiantau annibynnol am eu cefnogaeth barhaus drwy gydol cyfnod ymgeisio'r SAF. Mae eu harweiniad a'u cymorth wedi chwarae rhan bwysig wrth helpu ffermwyr i ddeall gofynion y cynllun, i lenwi ceisiadau ac i gyflwyno hawliadau o fewn y dyddiadau cau perthnasol.
Bydd Taliadau Gwledig Cymru nawr yn cynnal cyfres o wiriadau i ddilysu a gwirio pob hawliad. Mae'r gwaith hwn yn rhan allweddol o baratoi ar gyfer taliadau o dan Haen Gyffredinol yr SFS a'r BPS yn ddiweddarach eleni, gan sicrhau bod hawliadau'n gywir, yn cydymffurfio ac yn cael eu prosesu mewn modd effeithlon er mwyn gwneud taliadau mor brydlon â phosibl.
