Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn gwaith i ddiwygio hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn o ddiwygiadau i hyfforddiant sgiliau galwedigaethol.
  • Mae archwiliad sgiliau ar y gweill, a disgwylir i'r canfyddiadau cynharaf lywio agenda Uwchgynhadledd Sgiliau'r Dyfodol sydd wedi'i chynllunio ar gyfer hydref 2026.
  • Bydd Uwchgynhadledd Sgiliau'r Dyfodol yn dod â chyflogwyr, addysgwyr, darparwyr hyfforddiant a llunwyr polisi ynghyd i lywio'r cynlluniau ar gyfer diwygio hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yng Nghymru.

Drwy ddatblygu system sgiliau yng Nghymru sy'n addas ar gyfer y dyfodol, bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyfleoedd addysg a hyfforddiant yn gydnaws ag anghenion gwirioneddol cyflogwyr a diwydiannau Cymru ac yn adlewyrchu'r cyfleoedd a fydd yn codi o fewn economi Cymru yn y dyfodol.

Gwnaeth y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol y cyhoeddiad mewn digwyddiad gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd heddiw. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys archwiliad sgiliau ac Uwchgynhadledd Sgiliau'r Dyfodol sydd wedi'i chynllunio ar gyfer hydref 2026.

Mae'r archwiliad sgiliau ar y gweill ar hyn o bryd ac mae tystiolaeth yn cael ei chasglu. Bydd y canfyddiadau cynharaf yn helpu i ffurfio'r agenda ar gyfer Uwchgynhadledd Sgiliau'r Dyfodol.

Bydd Uwchgynhadledd Sgiliau'r Dyfodol yn dod â chyflogwyr, addysgwyr, darparwyr hyfforddiant a llunwyr polisi ynghyd i lywio'r cynlluniau ar gyfer diwygio hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yng Nghymru. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cadarnhau maes o law.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell:

"Mae hon yn foment allweddol i sgiliau yng Nghymru. Mae gan Gymru gryfderau gwirioneddol, gweithlu talentog, cyflogwyr cryf a darparwyr hyfforddiant rhagorol. Mae angen inni wneud yn siŵr bod y cryfderau hynny'n cael eu defnyddio'n llawn. Bydd yr archwiliad sgiliau rydyn ni'n ei gynnal yn rhoi darlun cliriach inni o ble mae'r bylchau a ble mae'r cyfleoedd. Bydd Uwchgynhadledd Sgiliau'r Dyfodol yn gyfle i gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr helpu i lywio'r diwygiadau a ddaw. Mae hwn yn waith gwirioneddol gydweithredol, a dw i wrth fy modd yn cael rhannu ein cynnydd gyda Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru heddiw."

Croesawodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â darparwyr hyfforddiant, cyflogwyr a phartneriaid i lunio dyfodol hyfforddiant galwedigaethol yng Nghymru. Dywedodd:

“Mae’r cyhoeddiad hwn heddiw yn gam pwysig tuag at adeiladu system sgiliau yng Nghymru sy’n uchelgeisiol, yn ymatebol ac yn canolbwyntio ar y dyfodol. Mae gan brentisiaethau rôl hanfodol i’w chwarae wrth ddarparu’r gweithlu medrus sydd ei angen ar ein heconomi.

“Mae’r archwiliad sgiliau ac Uwchgynhadledd Sgiliau’r Dyfodol yn darparu cyfle gwerthfawr i sicrhau bod prentisiaethau yn parhau i ddatblygu, yn parhau i fod yn berthnasol i anghenion cyflogwyr, ac yn creu llwybrau clir i gyflogaeth gynaliadwy o ansawdd uchel.”