Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw pwrpas y Pecyn cymorth hwn?

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (y Ddeddf ADYTA), Cod anghenion dysgu ychwanegol statudol Cymru 2021 (y Cod) a’r rheoliadau ategol yn amlinellu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer diwallu anghenion dysgu ychwanegol (ADY) plant a phobl ifanc 25 oed neu iau yng Nghymru. Rydyn ni’n galw'r fframwaith cyfreithiol yn system ADY.

Pwrpas y pecyn cymorth hwn yw eich helpu chi, fel rhiant (mae hyn hefyd yn golygu unrhyw un sy'n gofalu am y plentyn neu sydd â chyfrifoldeb rhiant) i blentyn neu berson ifanc, i ddeall sut mae'r system ADY yng Nghymru yn gweithio a'r cymorth sydd ar gael os bernir bod gan eich plentyn ADY. Mae'n egluro'r ddeddfwriaeth, a dogfennau eraill sy'n ffurfio'r system ADY.

Gallwch ddysgu mwy am yr egwyddorion a'r gwerthoedd allweddol sy'n arwain y system ADY ym Mhennod 3 o'r Cod.

Chi sy'n nabod eich plentyn orau a gallwch chi helpu i ddeall eu hanghenion a sut i'w cefnogi yn y ffordd fwyaf effeithiol. 

Nod y pecyn cymorth yw eich helpu i ddeall a chael mynediad at y gwasanaethau sydd ar gael i blant a phobl ifanc sydd ag ADY.

Mae’r system ADY a'n holl ddiwygiadau addysg wedi’u cynllunio i greu addysg gynhwysol lle mae gan pob plentyn a pherson ifanc y cyfle i lwyddo drwy roi mynediad iddynt at addysg sy'n diwallu eu hanghenion ac yn eu helpu i fwynhau Dysgu.

Mae'r system anghenion dysgu ychwanegol yn gweithredu ar sail pum egwyddor allweddol:

1. Dull sy’n seiliedig ar hawliau

Lle mae dymuniadau a theimladau plant, pobl ifanc a’u rhieni yn ganolog a’u bod yn cymryd rhan weithredol yn y broses o gynllunio a gwneud penderfyniadau. 

2. Cydweithio ac integreiddio

 Lle mae gwasanaethau’n cydweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y cymorth cywir ar waith i helpu plant a phobl ifanc i lwyddo.

3. Addysg Gynhwysol

Lle gall y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc sydd ag ADY gael eu cefnogi i gymryd rhan lawn mewn ysgolion a cholegau prif ffrwd, gyda’r ysgol gyfan yn cydweithio i ddiwallu eu hanghenion. 

4. Adnabod yn gynnar, nodi ac ymyrraeth

Lle mae anghenion yn cael eu hadnabod yn gynnar a chymorth yn cael ei roi ar waith cyn gynted â phosibl. 

5. System ddwyieithog

Lle mae camau rhesymol yn cael eu cymryd i ddarparu darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg i blant a phobl ifanc sydd ei angen

Cefnogi anawsterau dysgu

Mae pawb yn datblygu ac yn dysgu yn eu ffordd eu hunain ac ar eu cyflymder eu hunain. Mae'n debygol y bydd llawer o blant a phobl ifanc yn gweld dysgu yn anodd ar rai adegau yn ystod eu taith ddysgu. Gallai hyn fod oherwydd eu bod wedi colli’r ysgol oherwydd salwch, neu eu bod yn ymdopi â rhywbeth fel profedigaeth neu drawma. Yn y sefyllfaoedd hyn, gall meithrinfeydd, ysgolion a cholegau ddarparu cymorth ychwanegol i'w helpu i gadw i fyny â'u dysgu ac i fynd yn ôl ar y trywydd iawn.

Nid yw'r sefyllfaoedd hyn o reidrwydd yn golygu bod gan blentyn neu berson ifanc ADY. Fodd bynnag, maent yn adegau ac yn ddangosyddion pwysig pan allai fod angen cymorth ychwanegol ar blant neu bobl ifanc ac arweiniad ar beth i'w wneud os bydd anawsterau'n parhau.

Gyda rhai plant a phobl ifanc, efallai na fydd ganddynt anhawster dysgu, ond efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt i'w helpu i gyrraedd eu potensial. Dylid darparu ar gyfer hynny fel rhan o ddysgu ac addysgu gwahaniaethol, sy'n golygu addasu gwersi i gyd-fynd â gwahanol arddulliau ac anghenion dysgu. Gallai hyn olygu defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu, deunyddiau neu lefelau o gymorth i helpu pob plentyn a pherson ifanc i ddeall ac i wneud cynnydd.

Gall rhai plant a phobl ifanc brofi anawsterau dysgu o ganlyniad i anabledd, cyflwr meddygol hirdymor, neu angen dysgu mwy sylweddol neu gymhleth. Efallai na fydd y rhain bob amser yn weladwy ar unwaith ond gallant gael effaith barhaol ar sut mae plentyn neu berson ifanc yn cael mynediad at addysg.

Mae'n bwysig cydnabod y gall anawsterau dysgu amrywio'n fawr o ran cymhlethdod, cyfnod ac achos, a dylai'r cymorth cywir adlewyrchu hynny.

Nid oes angen diagnosis meddygol arnoch er mwyn i'ch plentyn allu cael eu hadnabod fel plentyn sydd ag ADY. Mae penderfyniadau ynghylch y cymorth y gall fod ei angen arnynt yn seiliedig ar arwyddocâd yr angen, nid ar asesiad meddygol.

Mae yna ystod eang o anawsterau neu anableddau dysgu, ond gellir eu dosbarthu'n fras i'r pedwar maes canlynol:

1. Cyfathrebu a rhyngweithio 

2. Ymddygiad, datblygiad emosiynol a chymdeithasol 

3. Anghenion synhwyraidd a (neu) gorfforol 

4. Gwybyddiaeth a dysgu

Ble i fynd am gymorth

Os oes gennych bryderon ynghylch ymddygiad eich plentyn neu sut maent yn dysgu, neu os ydych yn credu bod ganddynt ADY, dylech siarad â’r feithrinfa, yr ysgol, y coleg neu’r lleoliad arall mae’ch plentyn yn mynd iddo.

Mae'n bwysig iawn eich bod yn trafod eich pryderon gyda'r feithrinfa, yr ysgol, y coleg neu’r lleoliad arall fel cam cyntaf. Byddan nhw’n trafod unrhyw bryderon sydd gennych, yn dweud wrthych beth maen nhw’n ei feddwl ac yn egluro wrthych beth fydd yn digwydd nesaf.

Nid oes angen atgyfeiriad gan weithiwr proffesiynol arnoch, ac nid oes angen diagnosis ffurfiol ar eich plentyn. Yr hyn sydd bwysicaf yw deall ac adnabod y cymorth cywir y gallai fod ei angen ar eich plentyn er mwyn cyrraedd eu llawn botensial.

Gall y plentyn neu'r person ifanc hefyd godi unrhyw bryder ynghylch ADY posibl. Yn yr un modd, gall y feithrinfa, yr ysgol neu'r coleg gysylltu â chi os ydyn nhw'n credu bod angen cymorth ychwanegol ar eich plentyn.

I rieni a phlant a phobl ifanc berthnasol, mae'n ddefnyddiol ymgyfarwyddo â'r diffiniadau a'r derminoleg sy'n gysylltiedig ag ADY. Fe welwch eirfa yn y pecyn cymorth hwn.(Add hyperlink to the glossary )

Mae ffynonellau gwybodaeth eraill a allai fod yn ddefnyddiol i chi, gan gynnwys canolfan gwybodaeth, cyngor a chymorth eich awdurdod lleol. Cael help gydag anghenion dysgu ychwanegol gan eich awdurdod lleol | LLYW.CYMRU, eich meddyg, gwasanaethau iechyd plant lleol neu elusennau perthnasol.

Am ddolenni defnyddiol, gan gynnwys ble i ddod o hyd i gymorth, edrychwch ar adran ‘ddolenni defnyddiol’ ar y pecyn cymorth hwn.

Beth yw anghenion dysgu ychwanegol (ADY)?

Defnyddir y talfyriad ADY ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r Ddeddf ADYTA yn cynnwys y diffiniad o ADY y mae'n rhaid i feithrinfeydd, ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol ei ddefnyddio wrth benderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY.

Mae gan blentyn neu berson ifanc ADY os oes ganddynt anhawster dysgu neu anabledd sy'n ei gwneud hi'n anoddach iddynt ddysgu na'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc o'r un oedran. Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol neu wahanol ar y plant a'r bobl ifanc hyn o gymharu â'r hyn a roddir i eraill.

Mae'r broses hon ar gyfer pennu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY wedi'i chrynhoi yn y siart llif mewn Ychwanegiad A. Mae'r broses yn wahanol i blentyn sydd o dan oedran ysgol gorfodol. (Yng Nghymru, mae oedran ysgol gorfodol yn cyfeirio at blant rhwng 5 ac 16 oed.)

Pan fo plentyn neu berson ifanc yn cael eu haddysgu (neu’n mynd i gael eu haddysgu) mewn iaith sy’n wahanol i’r un a ddefnyddir gartref, nid yw’r ffaith honno ynddi’i hun yn golygu bod ganddynt anhawster dysgu neu anabledd.

Oes gan eich plentyn ADY?

Nod y siart llif mewn ychwanegiad A (Link to annex a flowchart) yw rhoi arwydd cychwynnol ynghylch a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY (oni bai bod y plentyn o dan oedran ysgol gorfodol). Os ydych chi'n credu y gallai fod gan eich plentyn ADY, dylech siarad â gweithiwr proffesiynol perthnasol.

Mae hefyd yn bosibl i blentyn neu berson ifanc fod ag ADY o dan y Ddeddf ADYTA os oes ganddyn nhw anabledd sy'n bodloni'r prawf yn ogystal ag anhawster dysgu sy'n bodloni'r prawf

Mae rhagor o wybodaeth am sut i adnabod anawsterau dysgu a phryd y gallant ddod yn anghenion dysgu ychwanegol ar gael ym Mhennod 2 y Cod.

Sut mae'r anhawster dysgu neu'r anabledd hwn yn effeithio ar y plentyn neu'r person ifanc?

Ystyrir bod gan blentyn sydd o oedran ysgol gorfodol neu berson sydd dros yr oedran hwnnw anhawster neu anabledd dysgu os ydynt:

  • yn cael llawer mwy o anhawster wrth ddysgu na'r rhan fwyaf o bobl eraill sydd yr un oedran 
  • os oes ganddynt anabledd sy'n eu hatal neu'n eu rhwystro rhag defnyddio'r cyfleusterau addysgol neu hyfforddi a ddarperir yn gyffredinol i eraill o'r un oedran mewn colegau neu ysgolion prif ffrwd a gynhelir. (Rhaid iddo fod yn anabledd sy'n cyd-fynd â'r diffiniad yn Neddf Cydraddoldeb 2010 – hynny yw, bod yr anabledd yn cael effaith negyddol 'sylweddol' a 'hirdymor' ar allu'r unigolyn i wneud gweithgareddau bob dydd arferol)

Ystyrir bod gan blentyn o dan oedran ysgol gorfodol anhawster neu anabledd dysgu os yw’n debygol, heb gymorth ychwanegol, y byddant yn dod o fewn un o'r disgrifiadau yn y ddau bwynt bwled uchod, neu’r ddau ohonynt, pan fyddant yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol.

Oes gan eich plentyn sydd o dan oedran ysgol gorfodol (yng Nghymru, mae oedran ysgol gorfodol yn cyfeirio at blant rhwng 5 ac 16 oed) ADY?

Weithiau mae'n anodd gwybod a oes gan blentyn sydd o dan oedran ysgol gorfodol ADY gan nad ydyn nhw wedi dechrau addysg ffurfiol eto a’u bod yn dal i ddatblygu llawer o'r sgiliau sylfaenol y bydd eu hangen arnynt i ddod yn ddysgwr llwyddiannus pan fyddan nhw'n dechrau yn yr ysgol.

Fodd bynnag, os oes gan blentyn o dan oedran ysgol gorfodol anabledd a allai effeithio ar ddysgu, neu os yw'n ymddangos eu bod yn datblygu ar gyfradd arafach na phlant eraill o'r un oedran mewn rhyw ffordd, y ffordd o asesu a oes gan y plentyn ADY yw gweithio allan pa anawsterau dysgu (os o gwbl) sydd gan y plentyn neu a fyddai'n debygol o fod arnynt erbyn iddynt ddechrau yn yr ysgol pan fyddant o oedran ysgol gorfodol.

Mae hyn yn golygu ystyried a yw'r plentyn, pan fyddant yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol:

  • yn debygol o gael llawer mwy o anhawster wrth ddysgu na'r rhan fwyaf o blant eraill a fyddai hefyd newydd ddechrau yn yr ysgol (neu’n debygol o gael llawer mwy o anhawster wrth ddysgu pe na bai dim cymorth yn cael ei roi iddynt)
  • yn debygol o fod ag anabledd a fydd yn eu hatal neu'n eu rhwystro rhag gwneud defnydd o'r cyfleusterau addysgol a ddarperir yn gyffredinol i blant eraill sydd newydd ddechrau yn yr ysgol (neu'n debygol o fod â'r math hwnnw o anabledd pe na bai dim cymorth yn cael ei roi iddynt)

Os yw'r ateb yn gadarnhaol i'r naill gwestiwn neu'r llall, neu i’r ddau, yna bernir bod gan y plentyn anhawster dysgu neu anabledd o dan y Ddeddf ADYTA , ar yr adeg y cânt eu hasesu.

Rhaid iddo fod yn anabledd sy'n cyd-fynd â'r diffiniad yn Neddf Cydraddoldeb 2010 – hynny yw, bod yr anabledd yn cael effaith negyddol 'sylweddol' a 'hirdymor' ar allu'r plentyn i wneud gweithgareddau bob dydd arferol.

Os bernir bod gan y plentyn anhawster dysgu neu anabledd o dan y Ddeddf ADYTA, y cam olaf yw penderfynu a yw'r anhawster dysgu neu'r anabledd yn ei gwneud yn ofynnol i'r plentyn gael darpariaeth ddysgu ychwanegol ar adeg yr asesiad – mae darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer plentyn o dan dair oed yn golygu darpariaeth addysgol o unrhyw fath.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i adnabod anawsterau dysgu a phryd y gallant ddod yn ADY ar gael ym Mhennod 2 y Cod.

Beth yw darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY neu ALP)?

Weithiau defnyddir y talfyriad DDdY neu ALP ar gyfer darpariaeth ddysgu ychwanegol. Mae’n cyfeirio at y cymorth sy'n ychwanegol at, neu'n wahanol i, yr hyn a ddarperir yn gyffredinol i blant neu bobl eraill o'r un oedran mewn meithrinfeydd, ysgolion prif ffrwd neu golegau. Diffinnir unrhyw gymorth addysgol i blentyn o dan dair oed fel darpariaeth ddysgu ychwanegol.

Bydd yr ADY a'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael eu disgrifio yng nghynllun datblygu unigol (CDU) plentyn neu berson ifanc.

Beth yw cynllun datblygu unigol (CDU)?

Os caiff plentyn neu berson ifanc eu nodi fel rhywun sydd ag ADY, rhaid paratoi a chynnal cynllun datblygu unigol (CDU) ar eu cyfer. Mae'r CDU yn disgrifio pa ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y bernir ei bod yn angenrheidiol i gefnogi'r plentyn neu'r person ifanc, ac mae'n cael ei adolygu'n gyson i wneud yn siŵr bod y CDU yn parhau’n berthnasol.

Pan fydd yn ymddangos bod gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol 

Mae pob plentyn neu berson ifanc yn dysgu yn eu ffordd eu hunain ac ar eu cyflymder eu hunain. Disgwylir i feithrinfeydd, ysgolion a cholegau ddefnyddio addysgu gwahaniaethol, sy'n golygu addasu gwersi i gyd-fynd â gwahanol arddulliau ac anghenion dysgu. Gallai hyn olygu defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu, deunyddiau neu lefelau o gymorth i helpu pob plentyn a pherson ifanc i ddeall ac i wneud cynnydd.

Bydd pobl sydd wedi’u hyfforddi ac sy’n fedrus mewn swyddogaeth benodol, er enghraifft athrawon, yn gwirio’n rheolaidd sut mae’ch plentyn yn gwneud. Os yw eu datblygiad yn llawer arafach nag eraill, neu'n arafach na'u datblygiad blaenorol eu hunain er gwaetha’r cymorth ychwanegol drwy ddysgu ac addysgu gwahaniaethol, yna efallai bod gan eich plentyn ADY.

Os bydd meithrinfa, ysgol, coleg neu awdurdod lleol eich plentyn yn credu y gallai fod gan eich plentyn ADY, neu os bydd rhywun yn tynnu eu sylw at y posibilrwydd hwnnw, mae dyletswydd gyfreithiol arnynt i ymchwilio i'r mater.

Deall y broses o wneud penderfyniadau wrth nodi ADY

Pan ddaw meithrinfa a gynhelir ysgol neu goleg yn ymwybodol y gallai fod gan blentyn neu berson ifanc ADY, rhaid iddynt benderfynu a yw hynny’n gywir.

Efallai y dônt yn ymwybodol y gallai fod gan blentyn neu berson ifanc ADY mewn gwahanol ffyrdd. Efallai y bydd y plentyn neu'r person ifanc yn dweud rhywbeth, efallai y byddwch chi fel rhiant neu aelod o'r teulu yn codi’r mater, neu efallai y bydd gweithiwr proffesiynol neu sefydliad yn ei grybwyll.

Mae lleoliadau nas cynhelir yn cynnwys meithrinfeydd preifat, meithrinfeydd gwirfoddol, cylchoedd chwarae, gwarchodwyr plant, ysgolion preifat annibynnol neu ofal gartref gyda rhiant neu ofalwr. Nid nhw sy'n gwneud y penderfyniad ffurfiol hwn, ond maent yn dal i fod yn gyfrifol am gefnogi plant y mae arnynt angen cymorth ychwanegol.

Sut bynnag mae'r feithrinfa a gynhelir, ysgol neu goleg, yn dod yn ymwybodol o'r posibilrwydd, unwaith y bydd wedi gwneud hynny, mae gan y feithrinfa, ysgol neu goleg ddyletswydd i benderfynu a oes gan y plentyn neu'r person ifanc ADY, oni bai bod CDU eisoes ar waith.

  • Bod meithrinfa, ysgol neu goleg wedi edrych ar y sefyllfa o'r blaen, ac nad oes dim byd sylweddol wedi newid. 
  • Bod y penderfyniad yn ymwneud â pherson ifanc, ond nad yw'r person ifanc yn cydsynio i'r penderfyniad gael ei wneud. 
  • Bod y plentyn neu'r person ifanc wedi'u cofrestru mewn dwy ysgol neu ddau goleg, ac mai’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y CDU. 
  • Bod awdurdod lleol yn Lloegr yn cynnal Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal (EHCP) ar gyfer y plentyn neu'r person ifanc.

Paratoi CDU

Os caiff ADY eu nodi, bydd gan y plentyn neu'r person ifanc hawl i gael CDU. Mae hon yn ddogfen gyfreithiol, a bydd CDU yn cael ei baratoi.

Dim newid, dim angen penderfyniad newydd

Os yw'r feithrinfa, yr ysgol neu'r coleg wedi penderfynu eisoes a oes gan y plentyn neu'r person ifanc ADY, ac nad oes dim byd sylweddol wedi newid, neu nad oes dim gwybodaeth newydd wedi dod i'r amlwg, nid oes rhaid iddynt wneud penderfyniad newydd.

Pan nad oes cydsyniad wedi’i roi 

Os nad yw person ifanc yn cydsynio i benderfyniad ynghylch ADY gael ei wneud, dylai'r ysgol neu'r coleg ddal i geisio diwallu eu hanghenion drwy gymorth ychwanegol.

Gofyn am gymorth gan yr awdurdod lleol 

Weithiau mae’n bosibl y bydd angen i feithrinfa, ysgol neu goleg ofyn i'r awdurdod lleol ymyrryd. 

Mae hyn yn digwydd pan fyddant yn credu bod gan blentyn neu berson ifanc ADY, ond:

  • bod posibilrwydd bod ar y plentyn neu'r person ifanc angen darpariaeth ddysgu ychwanegol na ellir disgwyl yn rhesymol i'r feithrinfa, yr ysgol neu'r coleg ei darparu ar eu pen eu hunain, 
  • na all y feithrinfa, yr ysgol na'r coleg ddeall natur na graddfa'r ADY yn llawn, neu 
  • bod gan y plentyn neu'r person ifanc angen darpariaeth ddysgu ychwanegol na all y feithrinfa, yr ysgol neu'r coleg ei nodi'n glir 

Yn y sefyllfaoedd hyn, rhaid i'r feithrinfa, yr ysgol neu'r coleg gyfeirio'r achos at yr awdurdod lleol cyfrifol i wneud penderfyniad.

Amserlenni

  • Pan mai ysgol fydd yn penderfynu a oes gan blentyn ADY: mae ganddynt hyd at 35 diwrnod ysgol o'r adeg y daw i'w sylw y gallai fod gan y plentyn ADY i benderfynu a oes gan y plentyn ADY, ac i baratoi a chyflwyno CDU yn ysgrifenedig. 
  • Pan mai coleg fydd yn gwneud y penderfyniad: mae ganddynt 35 diwrnod yn ystod y tymor yn dechrau o'r diwrnod y mae'r person ifanc yn rhoi eu cydsyniad, i benderfynu a oes ganddynt ADY ac i baratoi a chyhoeddi CDU yn ysgrifenedig. 
  • Pan mai’r awdurdod lleol fydd yn gwneud y penderfyniad: mae ganddynt hyd at 12 wythnos o'r adeg y daw i'w sylw y gallai fod gan y plentyn neu'r person ifanc (yn amodol ar eu cydsyniad) ADY, i baratoi a chyhoeddi CDU yn ysgrifenedig. 
  • Pan fydd yr awdurdod lleol yn adolygu penderfyniad ysgol: bydd ganddynt 7 wythnos i ymateb. 

Gellir oedi'r terfynau amser hyn os yw'n amhosib casglu'r dystiolaeth, er enghraifft os nad yw'r plentyn ar gael oherwydd salwch, os yw i ffwrdd yn ystod gwyliau ysgol neu os yw'n teithio dramor.

Beth yw CDU?

Os caiff plentyn neu berson ifanc eu nodi fel rhywun sydd ag ADY, rhaid paratoi a chynnal CDU ar eu cyfer.

Caiff y rhan fwyaf o CDUau eu rheoli o fewn y lleoliad addysg, oni bai bod y cymorth angenrheidiol yn rhy gymhleth a bod y lleoliad yn methu darparu a chyflawni'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol, ac os felly fe allai’r awdurdod lleol gymryd y cyfrifoldeb.

Bydd y CDU yn disgrifio'r ADY a'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sy'n ofynnol. Cynllun cymorth yw hwn ac mae’n cael ei ddatblygu gyda'r plentyn, y person ifanc a chithau. Bwriedir iddo fod yn hyblyg a bydd yn amrywio o ran hyd a chymhlethdod yn dibynnu ar yr angen.

Rhaid adolygu'r CDU bob 12 mis. Fodd bynnag, gellir cynnal adolygiadau yn gynt os bydd angen. Gallwch chi neu'ch plentyn ofyn i leoliad eich plentyn am adolygiad cynharach, neu gall yr awdurdod lleol hefyd benderfynu adolygu CDU yn gynharach.

Mae templed gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y CDU. Mae'r arddull a sut mae pethau wedi’u gosod allan yn agored i newid, ond mae'r penawdau'n orfodol a rhaid iddynt ymddangos yn y drefn gywir. Gallwch weld y templedi yn atodiadau'r Cod.

Gellir paratoi a chynnal CDU a'i adolygu'n gyson gan feithrinfeydd a gynhelir, ysgolion, colegau neu awdurdodau lleol. Nid yw’n bwysig pwy sy'n cynnal y CDU, mae'n ddogfen gyfreithiol. Mae hyn yn golygu bod gan blant a phobl ifanc hawl gyfreithiol i gwestiynu penderfyniadau a wneir ynghylch ADY a'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Mae hyn yn golygu hefyd bod rhaid i ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd wedi'i nodi yn y CDU gael ei ddarparu.

Mae Pennod 23 o'r Cod yn darparu gwybodaeth fanylach am baratoi a chynnal CDU.

Pwy sy’n cynnal y CDU fel arfer?

Yn y rhan fwyaf o achosion, yr ysgol neu'r coleg y mae'r plentyn neu'r person ifanc yn ei fynychu fydd yn cynnal y CDU. 

Fodd bynnag, mewn rhai achosion gall yr awdurdod lleol gynnal y CDU os yw’r plentyn neu’r person ifanc: 

  • ddim yn mynychu meithrinfa a gynhelir, ysgol neu goleg 
  • wedi'u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad addysgol 
  • ag ADY sydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol na fyddai'n rhesymol disgwyl i feithrinfa a gynhelir, ysgol neu goleg ei sicrhau 
  • yn blentyn sy'n derbyn gofal ag ADY 
  • os caiff y plentyn neu'r person ifanc ei gadw yn y ddalfa 
  • os nad yw plentyn neu berson ifanc mewn ysgol neu goleg brif ffrwd er enghraifft, os ydynt yn cael addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS), os nad ydynt wedi’u cofrestru gydag ysgol neu os ydynt wedi'u rhoi mewn ysgol breifat / annibynnol gan yr awdurdod lleol

Ailystyriaethau a chymryd cyfrifoldeb am CDUau

Mae'r system ADY yn rhoi hawl i blant a phobl ifanc ofyn am i benderfyniadau gael eu hailystyried. 

Gallwch:

Ofyn i'r awdurdod lleol adolygu penderfyniadau'r ysgol:

  • Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad y mae'r feithrinfa a gynhelir, ysgol neu goleg, wedi'i wneud ynglŷn â'ch plentyn, neu os yw'r ysgol neu'r coleg wedi gwrthod gwneud y penderfyniad, gallwch ofyn i'r awdurdod lleol wneud eu penderfyniad eu hunain.

Gofyn i CDU eich plentyn gael ei adolygu:

  • Os yw'r ysgol neu'r coleg yn cynnal CDU eich plentyn a’ch bod chi'n credu bod angen ei newid ac na allwch ddod i gytundeb â'r ysgol neu'r coleg; gallwch ofyn i'r awdurdod lleol ei adolygu a phenderfynu a ddylid ei addasu.

Gofyn i'r awdurdod lleol gymryd cyfrifoldeb am CDU eich plentyn:

  • Weithiau mae’n bosibl yr hoffech i'r awdurdod lleol gymryd cyfrifoldeb am CDU eich plentyn yn lle'r ysgol neu'r coleg. Gallwch chi, eich plentyn, yr ysgol, neu'r coleg ofyn am hyn. Yna bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu a ddylent gymryd cyfrifoldeb am reoli'r CDU. Pan fydd yr awdurdod lleol yn adolygu penderfyniad ysgol neu goleg, mae ganddynt saith wythnos i ymateb.

Gwybodaeth, cyngor a chymorth

Rhaid i bob awdurdod lleol, yn ôl y gyfraith, ddarparu gwybodaeth a chyngor diduedd am ADY a'r system ADY.

Mae hyn yn cynnwys sut i osgoi a datrys anghytundebau a sut i gael mynediad at wasanaethau eiriolaeth annibynnol. Rhaid iddynt sicrhau bod yr wybodaeth hon yn hawdd i chi ei chanfod, ei deall a'i defnyddio. Mae gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth ym mhob ardal awdurdod lleol. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wybodaeth, cyngor a chymorth ym Mhennod 6 o'r Cod ADY.

Osgoi a datrys anghytundeb

Weithiau mae anghytundebau’n digwydd. Fe'ch anogir i gydweithio â'r feithrinfa, yr ysgol, y coleg neu'r awdurdod lleol i drafod y sefyllfa a dod o hyd i ateb. Os ydych chi'n anhapus, mae rhannu eich barn yn gynnar yn ddefnyddiol.

Rhaid i awdurdodau lleol fod â systemau ar waith i weithio gyda theuluoedd er mwyn osgoi anghytundebau rhag digwydd ac i'w datrys os byddant yn digwydd. Rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynnig mynediad at Wasanaeth Datrys Anghydfodau. Mae'r gwasanaeth hwn yn helpu pawb sydd ynghlwm i drafod y mater a chydweithio i ddod o hyd i ateb. 

Mae gwasanaethau datrys anghydfodau yn cynnig cymorth clir, diduedd a chyfrinachol wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein. Gallant eich helpu i baratoi ar gyfer cyfarfodydd, i rannu’ch teimladau, ac i gymryd rhan mewn penderfyniadau am eich plentyn. Gallant hefyd eich cefnogi gyda chwynion ac apeliadau.

Mae'r gwasanaeth hwn yn lleihau'r angen i gyflwyno anghydfodau i Dribiwnlys Addysg Cymru ac fel arfer mae'n arwain at ddatrys anghytundeb yn gyflym.

Nid yw defnyddio'r gwasanaeth yn eich atal rhag gwneud apêl, a hyd yn oed os ydych wedi gwneud apêl, gallwch dal siarad â'r awdurdod lleol i geisio dod i gytundeb.

Gyda phwy i siarad os bydd angen cyngor ychwanegol arnoch

Dylai'r awdurdod lleol hefyd roi gwybod i blant neu bobl ifanc a rhieni ble gallant ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth eraill yn lleol ac yn genedlaethol a'u hatgoffa bod gwasanaethau eiriolaeth ar gael. 

Gall eiriolaeth helpu plant a phobl ifanc i ddeall beth sy'n digwydd ac i rannu eu barn.

Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw gwneud plant, pobl ifanc a rhieni’n ymwybodol o’u hawl i eiriolaeth annibynnol. Gall y cyrff canlynol roi cyngor annibynnol ar unrhyw bryderon: 

GIG Cymru: cwynion a phryderon 

Enw’r broses ar gyfer codi pryderon neu gwynion yn y gwasanaeth iechyd, GIG Cymru, yw Gwrando ar Bobl.

Os oes gennych bryderon am ofal neu driniaeth yn y GIG, mae'n well siarad â'r staff dan sylw cyn gynted â phosibl. Byddan nhw’n ceisio datrys eich pryderon ar unwaith. Os nad yw hyn o gymorth, neu os nad ydych yn teimlo'n gyfforddus yn siarad â'r staff, gallwch gysylltu â thîm cwynion y bwrdd iechyd neu'r ymddiriedolaeth.

Eiriolwyr

Mae'n bwysig gwybod bod pobl ar gael i gynghori, helpu a siarad dros blant a phobl ifanc os bydd anghytundeb. Gelwir y bobl hyn yn eiriolwyr. 

Byddan nhw'n egluro wrth eraill sut mae'r plentyn yn teimlo mewn gwirionedd a beth mae modd ei wneud i'w helpu. Gall plant a phobl ifanc bob amser ofyn i'r awdurdod lleol am eiriolwr.

Bydd awdurdodau lleol yn sôn wrth rieni, plant a phobl ifanc am eiriolwyr. Nid oes cost am eu gwasanaethau. 

Gall eiriolwr: 

  • siarad drostyn nhw wrth ddefnyddio gwasanaethau datrys anghydfodau 
  • eu cynorthwyo gydag apêl bosibl i Dribiwnlys Addysg Cymru 
  • siarad drostyn nhw mewn apêl

Hawliau o dan y system anghenion dysgu ychwanegol

Mae gan blant hawliau o dan y system ADY. Mae'r rhan fwyaf o'r hawliau hefyd yn berthnasol i rieni. Mae hyn yn newid pan fydd y plentyn yn dod yn berson ifanc dros oedran ysgol gorfodol a hyd at 25 oed. Ar y cam hwnnw, mae'r hawliau'n berthnasol i'r person ifanc, ond nid i'r rhieni. 

Mae gan unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd ag ADY hawl i CDU, sef dogfen gyfreithiol y mae'n rhaid ei dilyn. Mae gan blant, pobl ifanc a rhieni hawl i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru.

Gwneud apêl i Dribiwnlys Addysg Cymru

Gall plant, eu rhieni a phobl ifanc apelio yn erbyn rhai penderfyniadau a wneir gan eu hawdurdod lleol neu eu coleg.

Gellir gwneud apêl ynghylch y canlynol: 

  • penderfyniad gan goleg neu awdurdod lleol ynghylch a oes gan eich plentyn neu berson ifanc ADY 
  • a oes angen CDU ar berson ifanc 
  • beth mae'r CDU yn ei ddweud am anghenion eich plentyn, y cymorth neu’r dyddiadau adolygu 
  • os yw'r cymorth (y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol) sydd yn y CDU ar goll neu ddim yn gywir 
  • os yw'r CDU yn dweud y dylid rhoi cymorth yn Gymraeg 
  • pa ysgol neu goleg sydd wedi'i enwi yn y CDU 
  • os yw'r awdurdod lleol yn gwrthod newid neu gymryd cyfrifoldeb am CDU 
  • os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu atal y CDU 
  • os ydyn nhw'n gwrthod ailedrych ar rywbeth gan eu bod yn dweud nad oes dim wedi newid

Ni ellir apelio yn erbyn penderfyniadau ADY a wneir gan meithrinfeydd a gynhelir neu ysgolion . Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch gofyn i'r awdurdod lleol adolygu penderfyniadau ysgolion yn adran 6 o'r Cod ADY.

Cyfeillion achos

Mae rhai plant angen cymorth ychwanegol i ddeall eu hawliau o dan y system ADY. Cyfaill achos yw rhywun sy’n gallu cefnogi eich plentyn gyda hyn. 

Os bydd plentyn neu berson ifanc yn ei chael hi'n anodd deall, gall cyfaill achos: 

  • siarad dros y plentyn neu'r person ifanc 
  • eu cefnogi o ran gwneud penderfyniadau 
  • eu helpu i ddeall gwybodaeth am ADY
  • gwneud apêl i Dribiwnlys Addysg Cymru ar eu rhan Gallwch chi neu'ch plentyn ofyn i Dribiwnlys Addysg Cymru benodi cyfaill achos

Cynllunio ar gyfer newid a helpu eich plentyn drwy gyfnodau pontio

Mae pob plentyn a pherson ifanc yn profi newidiadau yn ystod eu haddysg. Gall cyfnodau pontio fel symud rhwng dosbarthiadau, newid grwpiau blwyddyn, neu ddechrau ysgol neu goleg newydd fod yn heriol.

I blant a phobl ifanc sydd ag ADY, mae newidiadau’n gallu bod yn anoddach nag i eraill. Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnyn nhw i wneud yn siŵr nad oes effaith ar eu dysgu a’r cymorth maent yn ei gael yn ystod yr amseroedd hyn. Mae cynllunio ymlaen llaw yn helpu i wneud y cyfnodau pontio hyn yn llyfnach; yn cefnogi eu lles ac yn gallu gwella eu dysgu a'u datblygiad cymdeithasol. 

Cynnwys eich plentyn a gweithwyr proffesiynol eraill

Mae cynllunio ar gyfer pontio yn gweithio'n well pan fydd yn cynnwys barn eich plentyn a’ch barn chi fel rhiant. Gall trafod newidiadau sydd ar y gweill eu helpu i deimlo'n fwy parod. 

Weithiau mae'n ddefnyddiol cynnwys gweithwyr proffesiynol eraill i egluro, fel Gyrfa CymruPathfinders Cymru, sy'n cynnig arweiniad ac adnoddau i bobl ifanc sydd ag ADY a'u teuluoedd. 

Canllawiau ymarferol ar gyfer rheoli cyfnodau pontio 

Gall newidiadau achosi pryder neilltuol i rai plant neu bobl ifanc. 

Gallwch eu cefnogi drwy: 

  • eu hannog i drafod eu pryderon a gofyn cwestiynau
  • esbonio'r newid mewn ffyrdd y byddan nhw'n eu deall
  • rhannu adnoddau ymarferol, fel mapiau ysgol, amserlenni, blychau pryder, neu eitemau cysur
  • meddwl am anghenion synhwyraidd - gall rhai plant elwa o arogleuon cyfarwydd, sbectol haul, neu blygiau clustiau. Rhaid i ysgolion a cholegau wneud addasiadau rhesymol i helpu plant i deimlo'n gyfforddus
  • ymweld â'r ysgol neu'r coleg newydd gyda'ch gilydd, cwrdd â staff allweddol, a chreu llyfr lluniau neu ganllaw y gall eich plentyn gyfeirio ato. Efallai y byddwch hefyd yn gallu trefnu iddynt ddechrau’n raddol

Cydweithio i gefnogi’ch plentyn

Mae’n bwysig bod llais eich plentyn yn cael ei glywed, fel bod eu barn a'u profiadau yn rhan o’r gwaith o gynllunio'r cymorth sydd ei angen arnynt. Rydych chi'n rhan o dîm ehangach, sy'n cynnwys yr ysgol neu'r coleg a gweithwyr proffesiynol eraill. Mae ganddyn nhw gyfrifoldebau cyfreithiol hefyd y mae'n rhaid eu cynnal.

Meithrin perthnasoedd cadarnhaol 

Pan fydd rhieni, meithrinfeydd, ysgolion, colegau a gweithwyr proffesiynol yn cydweithio, mae hynny o fudd i'ch plentyn. Mae datblygu perthynas gref gyda'ch meithrinfa, eich ysgol neu’ch coleg yn eich helpu i rannu gwybodaeth, codi cwestiynau, a chynllunio gyda'ch gilydd sut bydd eich plentyn yn cael eu cefnogi. 

Canllawiau ymarferol i rieni 

  • Rhannwch wybodaeth yn gynnar. Os oes gennych bryderon ynghylch dysgu, datblygiad neu les eich plentyn, mae’n ddefnyddiol rhoi gwybod i'r feithrinfa, yr ysgol neu'r coleg cyn gynted â phosibl. Bydd eich dealltwriaeth chi’n helpu'r gweithwyr proffesiynol i ddeall y ffordd orau o'u cefnogi. Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol cadw dyddiadur o ddigwyddiadau, neu bethau rydych chi'n sylwi arnyn nhw am eich plentyn, yn enwedig os oes angen tystiolaeth i gefnogi CDU neu geisiadau am wasanaethau a chymorth ychwanegol. 
  • Gweithiwch gyda'r feithrinfa/ysgol/coleg. Bydd meithrinfeydd, ysgolion, colegau a lleoliadau addysgol eraill yn gweithio gyda chi i ddeall anghenion eich plentyn ac i gytuno ar y cymorth sy’n cael ei gynllunio. Disgwylir iddynt eich cynnwys chi ym mhob cam o'r broses ADY, a dylech chithau chwarae rhan ystyrlon o ran creu neu adolygu eu CDU. 
  • Ewch i gyfarfodydd ac adolygiadau. Mae'ch llais chi’n cyfri. Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfodydd; er enghraifft, cyfarfodydd am gynnydd eich plentyn, cyfarfodydd am ADY a chyfarfodydd i adolygu CDU. Mae cyfarfodydd yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau a rhannu beth sy'n gweithio (neu ddim) gartref. Mae’r cyfarfodydd yn rhai sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac maen nhw’n gallu cynnwys amrywiaeth o bobl i wneud yn siŵr bod pawb yn gweithio gyda'i gilydd ac yn edrych ar y darlun cyfan o ran anghenion eich plentyn; mae'r rhain yn bobl fel staff meithrinfa, ysgol neu goleg, staff awdurdod lleol, gweithwyr iechyd proffesiynol neu bobl eraill sy’n rhoi cymorth fel eiriolwr.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn aros yn wybodus a gofynnwch gwestiynau. Mae gennych hawl i ddeall yn llawn y cymorth mae eich plentyn yn ei gael. Gallwch holi am y cymorth sy'n cael ei ddarparu, y bobl sy'n rhan o hynny a sut mae cynnydd yn cael ei wneud. Os oes unrhyw beth yn aneglur, gallwch ofyn am esboniad pellach.
  • Defnyddiwch gymorth ac arweiniad. Os oes angen cymorth arnoch i ddeall y broses, mae cyngor a chymorth ar gael i chi. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ddiduedd, eiriolaeth a llwybrau i apelio os ydych chi'n anghytuno â'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud.

Pobl allweddol sy'n helpu yn y system ADY Mae llawer o bobl yn cefnogi plant a phobl ifanc mewn addysg, gan gynnwys drwy'r system ADY. 

Os ydych chi'n ansicr pwy sy'n rhan o'r broses neu beth maen nhw'n ei wneud, gallwch ofyn i'r feithrinfa, yr ysgol, y coleg neu'r awdurdod lleol esbonio sut mae cymorth eich plentyn yn cael ei drefnu. 

Mae'r swyddogaethau canlynol yn ofynnol yn ôl y gyfraith i sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd ag ADY yn cael y cymorth cywir: 

Swyddog arweiniol anghenion dysgu ychwanegol y blynyddoedd cynnar 

Mae swyddog arweiniol anghenion dysgu ychwanegol y blynyddoedd cynnar yn gweithio gyda rhieni, meithrinfeydd, ysgolion, gwasanaethau plant a gweithwyr iechyd proffesiynol i godi ymwybyddiaeth o ADY ac i hyrwyddo ymyrraeth gynnar pan fo angen.

P'un a yw'ch plentyn yn mynd i leoliad dechrau'n deg, meithrinfa breifat neu wirfoddol, cylch chwarae, neu eu bod gartref gyda chi, swyddog arweiniol anghenion dysgu ychwanegol y blynyddoedd cynnar sy’n cydlynu cyfrifoldeb yr awdurdod lleol i blant o dan oedran ysgol gorfodol. 

Maen nhw'n gweithio gydag ysgolion a lleoliadau eraill i helpu i nodi ADY ac i sicrhau bod y cymorth cywir ar waith. 

Y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CADY) 

Mae gan bob ysgol neu goleg prif ffrwd yng Nghymru unigolyn sy'n cydlynu cymorth i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Gelwir y person hwn yn gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol neu'r CADY. Maent yn gweithio ochr yn ochr ag athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill fel seicolegwyr addysg neu therapyddion iaith a lleferydd i gynnig cyngor ac arweiniad. Mae'r CADY yn helpu i sicrhau bod pethau'n gweithio'n dda. 

Mae'r CADY yn helpu i sicrhau bod anghenion eich plentyn yn cael eu diwallu a bod ganddyn nhw CDU os oes angen. Maen nhw hefyd yn helpu i drefnu cymorth gan arbenigwyr y tu allan i'r ysgol neu'r coleg, fel therapyddion iaith a lleferydd, seicolegwyr addysg, neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol. 

Rhan allweddol o swyddogaeth y CADY yw sicrhau y gall plant a phobl ifanc gymryd rhan lawn yng ngweithgareddau'r ysgol a defnyddio'r holl gyfleusterau sydd ar gael, gan ystyried teimladau'r plentyn neu'r person ifanc a'u teulu bob amser. 

Maen nhw hefyd yn cefnogi athrawon drwy awgrymu ffyrdd o addasu’r dysgu ac addysgu i ddiwallu anghenion eich plentyn, ac maen nhw’n helpu i hyfforddi staff cymorth dysgu. Mae gwaith y CADY yn cwmpasu pob cam o ddysgu, gan gynnwys cyfnodau o newid fel symud i grŵp blwyddyn neu ysgol newydd (sy’n cael ei alw weithiau'n gyfnod pontio), a chynllunio ar gyfer bywyd ar ôl ysgol, fel coleg, hyfforddiant, neu waith. 

Swyddog arweiniol clinigol dynodedig addysg 

Mae gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru swyddog arweiniol clinigol dynodedig addysg. Maen nhw’n cysylltu iechyd ac addysg ac yn chwarae rhan hanfodol i sicrhau bod gweithwyr iechyd proffesiynol (megis therapyddion iaith a lleferydd ac ymarferwyr gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc) a lleoliadau addysg fel meithrinfeydd, ysgolion neu golegau, yn cydweithio â’i gilydd.

Mae'r swyddog arweiniol clinigol dynodedig addysg yn helpu gweithwyr proffesiynol y gwasanaeth iechyd i ddeall eu dyletswyddau cyfreithiol o dan y Ddeddf ADYTA ac yn sicrhau bod yna brosesau clir er mwyn iddynt gyflawni’r dyletswyddau hynny. Mae gweithwyr proffesiynol y GIG yn cydweithio â meithrinfeydd, ysgolion a cholegau drwy: 

  • rannu gwybodaeth gyda rhieni ac adran addysg yr awdurdod lleol cyn gynted â phosibl ar gyfer plant cyn oed ysgol pan nodir bod anghenion yn dod i'r amlwg. 
  • darparu gwybodaeth i gefnogi gwaith cynllunio a gwneud penderfyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag ADY. Pwrpas hyn yw sicrhau bod CDU yn gywir ac yn effeithiol. 
  • darparu triniaethau neu wasanaethau perthnasol gan y GIG a allai fod o fudd o ran mynd i'r afael â’r hyn sy’n rhwystro plentyn neu berson ifanc rhag dysgu. 

Mae swyddogion arweiniol clinigol dynodedig addysg hefyd yn cefnogi Byrddau Iechyd i ymdrin â chwynion, anghydfodau, neu apeliadau i gymorth iechyd o dan y ddeddf ADYTA. 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn y mae gwahanol weithwyr proffesiynol yn ei wneud yn y system ADY ym Mhenodau 8, 9 a 10 o'r Cod.

Gwasanaethau iechyd

Nid y gwasanaethau iechyd sy’n penderfynu a oes gan blentyn ADY, ond maen nhw’n chwarae rhan bwysig. Maen nhw’n rhannu gwybodaeth a chyngor gyda meithrinfeydd, ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol ac maen nhw’n gallu cyfrannu at CDUau pan fydd angen. Os oes angen cymorth sy'n gysylltiedig â iechyd ar blentyn neu berson ifanc (er enghraifft therapi iaith a lleferydd), dylid cynnwys hyn yn y CDU. 

Meithrinfeydd

Mae meithrinfeydd yn helpu plant ifanc i ddysgu, chwarae a thyfu mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Maen nhw'n dod i adnabod pob plentyn ac yn gallu sylwi os bydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol ar blentyn o bosibl gyda'u dysgu neu eu datblygiad. 

Os yw'ch plentyn yn mynd i feithrinfa ysgol sy’n cael ei rhedeg gan yr awdurdod lleol, mae dyletswydd gyfreithiol ar yr ysgol i benderfynu a oes gan eich plentyn ADY. 

Os yw'ch plentyn yn mynd i feithrinfa nas cynhelir (er enghraifft, meithrinfa breifat neu wirfoddol, cylch chwarae, neu gyda gwarchodwr plant) i gael eu haddysg, nid yw’r feithrinfa yn gallu gwneud y penderfyniad ffurfiol hwn, ond maen nhw’n gallu trafod unrhyw bryderon gyda chi a'ch helpu i gysylltu â'r awdurdod lleol fel bod modd i chi archwilio posibiliadau o ran cymorth gyda'ch gilydd. Yna bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu a oes gan eich plentyn ADY ac, os oes angen, yn paratoi CDU i wneud yn siŵr bod y cymorth cywir ar waith. 

Ysgolion

Mae ysgolion yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc bob dydd i'w helpu i ddysgu a llwyddo. Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn rhoi hyblygrwydd i athrawon addasu eu haddysgu fel ei fod yn diwallu anghenion pob plentyn neu berson ifanc. Mae hyn yn golygu y gall ysgolion roi'r cymorth cywir ar waith i helpu pob plentyn i wneud cynnydd.

Weithiau gallai ysgol deimlo bod angen cymorth ychwanegol er mwyn i blentyn neu berson ifanc gyrraedd eu llawn botensial. Os ydyn nhw'n credu y gallai fod gan blentyn neu berson ifanc ADY, byddan nhw'n ymchwilio i hyn. Os oes CDU eisoes ar waith, yr ysgol sy'n gyfrifol am ei gadw'n gyfredol. 

Colegau 

Mae colegau’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi pobl ifanc sydd ag ADY ar ôl iddyn nhw adael yr ysgol. Maen nhw’n gweithio'n agos gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i wneud symud o'r ysgol i'r coleg mor esmwyth â phosibl. 

Maen nhw’n helpu i nodi pa gymorth sydd ei angen ar blentyn neu berson ifanc ac yn paratoi CDU i wneud yn siŵr bod y cymorth hwnnw ar waith. 

Awdurdodau lleol 

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am addysg plant a phobl ifanc yn eu hardal. Mae dyletswydd gyfreithiol arnynt i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfle i gyrraedd eu potensial addysgol. 

Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd ag ADY yn cael y cymorth cywir. Gall hyn gynnwys creu ac adolygu CDU mewn rhai achosion, gweithio'n agos gyda theuluoedd, meithrinfeydd, ysgolion, a cholegau, byrddau iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill, a sicrhau bod gwasanaethau ar waith ac yn gweithio'n dda. 

Os yw eich plentyn yn cael addysg feithrin sy'n cael ei hariannu gan awdurdod lleol mewn lleoliad preifat neu wirfoddol (nad yw'n cael ei redeg gan yr awdurdod lleol), dylai'r lleoliad hwnnw helpu'r awdurdod lleol i gefnogi ADY eich plentyn os gofynnir iddynt wneud hynny.

Plant a phobl ifanc mewn amgylchiadau penodol 

Mae'n rhaid trin rhai plant a phobl ifanc sydd ag ADY yn wahanol a gall trefniadau amrywio. Maent yn cynnwys plant a phobl ifanc: 

  • y'n derbyn addysg y tu allan i ardal yr awdurdod lleol 
  • o oedran ysgol gorfodol sy'n cael addysg mewn amgylchedd heblaw ysgol • sy’n cael addysg gartref 
  • sydd yn yr ysbyty 
  • sy’n blant i aelodau o’r lluoedd arfog

Os yw eich plentyn yn un o’r sefyllfaoedd hyn, gallwch gysylltu â’ch awdurdod lleol i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael.

Camsyniadau cyffredin

Mae angen diagnosis meddygol i'ch plentyn dderbyn CDU

Ddim yn wir. 

Nid oes angen diagnosis meddygol i'ch plentyn allu cael eu hadnabod fel plentyn sydd ag ADY neu i gael CDU. 

Gall plentyn neu berson ifanc fod ag ADY heb ddiagnosis, ac nid yw penderfyniadau ar ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn dibynnu ar asesiad meddygol. 

Gellir rhoi CDU i blentyn neu berson ifanc heb aros am ddiagnosis, ac ni ddylid gohirio cymorth oherwydd amseroedd aros y GIG. 

Dim ond i blant neu bobl ifanc sydd ag anghenion difrifol y mae cymorth ADY yn berthnasol

Ddim yn wir. 

Gall fod yn berthnasol i ystod eang o anghenion, lle mae gan y plentyn neu'r person ifanc anhawster dysgu llawer mwy o gymharu â mwyafrif y plant eraill o'r un oedran a/neu anabledd sy'n eu hatal neu'n eu rhwystro rhag defnyddio'r cyfleusterau addysgol neu hyfforddi a ddarperir yn gyffredinol i blant neu bobl eraill o'r un oedran mewn colegau neu ysgolion prif ffrwd a gynhelir. Gall hyn gynnwys gwybyddiaeth a dysgu, cyfathrebu a rhyngweithio, yn ogystal ag anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol a datblygiad ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol.

Mae CDU yn gwarantu cymorth un-i-un

Ddim yn wir.

Mae CDU yn amlinellu'r cymorth angenrheidiol, sy’n gallu bod ar sawl ffurf. Mae hyn yn cynnwys addasu’r dysgu a’r addysgu, gwaith grŵp neu fewnbwn arbenigol. Gallai gynnwys cymorth un-i-un pan fo hynny'n briodol er mwyn diwallu anghenion. Mae'n allweddol siarad â'r feithrinfa, yr ysgol neu'r coleg am y cymorth sydd ei angen ar eich plentyn a chytuno ar ffordd ymlaen gyda'ch gilydd.

Allwch chi ddim gwneud cais am CDU; rhaid i'r feithrinfa, yr ysgol neu'r coleg wneud hynny 

Ddim yn wir. 

Gallwch godi pryderon a thrafod cymorth ychwanegol gyda meithrinfa, ysgol neu goleg eich plentyn. Gallwch ofyn i'r feithrinfa, yr ysgol, y coleg neu'r awdurdod lleol ystyried a oes gan eich plentyn ADY sy'n golygu bod angen CDU. Os ydyn nhw'n gwrthod, gallwch herio'r penderfyniad hwnnw.

Yr awdurdod lleol sy'n gwneud yr holl benderfyniadau

Ddim yn wir. 

Caiff y rhan fwyaf o CDUau eu rheoli gan feithrinfeydd, ysgolion neu golegau oni bai bod gan y plentyn neu'r person ifanc anghenion cymhleth neu amgylchiadau arbennig sy'n gofyn am gynnwys yr awdurdod lleol. Os ydych chi neu'ch plentyn yn anghytuno ag unrhyw benderfyniad a wneir gan yr awdurdod lleol, gallwch ddefnyddio gwasanaethau datrys anghydfodau neu apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru.

Mae cymorth ADY yn dod i ben ar ôl yr ysgol gynradd

Ddim yn wir. 

Mae'r system yn cwmpasu pob plentyn a pherson ifanc hyd at 25 oed. Gall pontio rhwng ysgolion a cholegau olygu bod angen cymorth ychwanegol. Pan fydd person ifanc yn gadael addysg, gall cynllunio ar gyfer pontio helpu gyda'r heriau emosiynol ac ymarferol sydd i ddod.

Mae angen i fi dalu cyfreithiwr i'n cynrychioli ni

Ddim yn wir. 

Bydd yr awdurdod lleol yn eich annog i ddefnyddio gwasanaethau eiriolaeth annibynnol. Darperir gwasanaethau o’r fath yn rhad ac am ddim.

Os oes gan eich plentyn ADY, rhaid iddynt symud i ysgol arbennig

Ddim yn wir.

Mae'r system ADY wedi'i hadeiladu ar sail egwyddor prif ffrwd yn gyntaf, sy'n golygu y dylid cefnogi plant a phobl ifanc i ddysgu mewn lleoliadau prif ffrwd (meithrinfa, ysgol neu goleg) pryd bynnag y bo modd. Pan fo hynny'n briodol, dylent hefyd gael mynediad at leoliad yn agos at eu cartref, yn eu cymuned eu hunain, fel y gallant barhau gyda chymorth, cyfeillion ac arferion sy’n gyfarwydd. Mae'r dull hwn yn helpu i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc sydd ag ADY ymdeimlad o berthyn yn yr ysgol ac yn eu cymuned ehangach. Dylid ystyried dymuniadau'r plentyn neu'r person ifanc yn gyntaf bob amser.

Dolenni defnyddiol

Cyngor ADY

Mae tudalen anghenion dysgu ychwanegol Llywodraeth Cymru yn esbonio'r system ADY yng Nghymru, gan amlinellu sut mae plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu, neu blant a phobl ifanc anabl, yn cael eu cefnogi mewn addysg, ac mae wedi'i hanelu at rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

SNAP Cymru

Mae SNAP Cymru yn elusen yng Nghymru sy'n cynnig cyngor a chymorth annibynnol am ddim i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol ar ADY, gan gynnwys eiriolaeth a datrys anghydfodau.

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 

Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn darparu gwybodaeth a chyngor diduedd am ddim i helpu teuluoedd gael mynediad at ofal plant, addysg blynyddoedd cynnar, a gwasanaethau cymorth ledled Cymru.

Comisiynydd Plant Cymru 

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn eiriolwr annibynnol, sy'n darparu cyngor a chymorth i blant a phobl ifanc, yn hyrwyddo pwysigrwydd hawliau plant, ac yn craffu ar sut mae penderfyniadau cyrff cyhoeddus yn effeithio ar yr hawliau hynny. 

Niwrowahaniaeth Cymru

Mae Niwrowahaniaeth Cymru yn darparu gwybodaeth, adnoddau a chymorth cymunedol i bobl niwrowahanol a'u teuluoedd yng Nghymru, gan gynnwys arweiniad ar addysg, cyflogaeth a lles.

Tribiwnlys Addysg Cymru

Mae Tribiwnlys Addysg Cymru yn penderfynu ar apeliadau sy'n ymwneud â phenderfyniadau ar anghenion dysgu ychwanegol a honiadau o wahaniaethu sy'n gysylltiedig ag anabledd mewn ysgolion yng Nghymru. Yn darparu arweiniad ac adnoddau i deuluoedd sy’n ceisio gwneud eu ffordd drwy broses y tribiwnlys.

Awtistiaeth Cymru: Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru 

Mae cangen Cymru y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn darparu ystod eang o adnoddau, cymorth ac arweiniad i bobl awtistig a'u teuluoedd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cyngor penodol i ysgolion, grwpiau cymorth gan gyfoedion, gwybodaeth ddiagnostig, ymgyrchoedd a diweddariadau polisi. 

Cymorth Ôl-16 

Gyrfa Cymru 

Mae Gyrfa Cymru yn cynnig adnoddau a chyngor i bobl ifanc a theuluoedd sy'n ymwneud ag addysg, hyfforddiant a gyrfaoedd ôl-16, gan gynnwys cymorth i'r rhai sydd ag ADY. 

Colegau Cymru 

Mae Colegau Cymru yn cynrychioli colegau addysg bellach yng Nghymru. Mae'n cefnogi colegau i ddiwallu anghenion pobl ifanc sydd ag ADY drwy wella hyfforddiant staff, cymorth pontio, a mynediad at ddysgu, a drwy well cynllunio ar gyfer pontio. 

Braenaru ADY 

Mae’r Braenaru ADY yn cefnogi pobl ifanc sydd ag ADY a'u teuluoedd i gynllunio'r pontio o'r ysgol i addysg bellach, gan gynnig arweiniad, fideos ac offer ymarferol. 

Anabledd Dysgu Cymru 

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn hyrwyddo pwysigrwydd addysg ôl-16 hygyrch a chynhwysol i ddysgwyr sydd ag anghenion cymhleth, gan godi pryderon ynghylch rhwystrau yn y broses ddiwygio bresennol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.

NATSPEC

Mae NATSPEC yn cynrychioli colegau arbenigol ac yn darparu arweiniad ar opsiynau ôl-ysgol i ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol cymhleth, gan godi pryderon ynghylch mynediad teg o dan system anghenion dysgu ychwanegol newydd Cymru.

Blynyddoedd Cynnar 

Blynyddoedd Cynnar Cymru / Cwlwm 

Sefydliad ymbarél arbenigol yw Blynyddoedd Cynnar Cymru, sy'n ymroddedig i gefnogi datblygiad ac addysg plant cyn-ysgol yng Nghymru drwy annog rhieni i ddeall a darparu ar gyfer eu hanghenion drwy ddarpariaeth cyn-ysgol a gofal plant o ansawdd uchel. 

Mudiad Meithrin 

Mudiad Meithrin yn sefydliad arbenigol sy'n ymroddedig i gefnogi datblygiad ac addysg plant cyn-ysgol drwy ddarpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg. Mae'n gweithio er mwyn hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg o'r oedran cynharaf drwy annog teuluoedd i ymgysylltu â lleoliadau gofal plant ac addysg gynnar cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel, gan gynnwys mewn Cylchoedd Meithrin a grwpiau Ti a Fi. 

Geirfa

Mae'r eirfa isod yn rhoi ystyr geiriau ac ymadroddion, gan gynnwys talfyriadau, sy’n cael eu defnyddio yn y pecyn cymorth hwn.

  • ‘Anghenion dysgu ychwanegol (ADY)' myn golygu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu neu anableddau sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu.
  • ‘Y Ddeddf ADYTA’ yn cyfeirio at Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
  • 'Darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY neu ALP)' yw'r enw ar y cymorth ychwanegol a roddir i blant a phobl ifanc ag ADY.
  • ‘Plentyn’ yn golygu person nad yw dros oedran ysgol gorfodol (daw’r ystyr o ystyr ‘child’ yn Adran 8 Deddf Addysg 1996)
  • ‘Y Cod’ yn cyfeirio at ‘Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021’.
  • ‘Lleoliad addysg’ yn golygu unrhyw le lle darperir addysg, gan gynnwys meithrinfeydd, ysgolion, colegau, unedau cyfeirio disgyblion, neu drefniadau eraill fel addysg heblaw yn yr ysgol.
  • 'Cynllun datblygu unigol (CDU)' yw'r cynllun ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY. Mae'n egluro eu ADY a'r darpariaeth dysgu ychwanegol sydd ei angen arnynt.
  • ‘Meithrinfa a gynhelir’ yw meithrinfa sy’n cael ei rhedeg gan yr awdurdod lleol. Gallai fod yn ddosbarth meithrin mewn ysgol gynradd neu'n ysgol feithrin ar wahân.
  • ‘Meithrinfa nas cynhelir’ Meithrinfa nad yw’n cael ei rhedeg gan yr awdurdod lleol. Mae hyn yn cynnwys meithrinfeydd preifat, meithrinfeydd gwirfoddol, cylchoedd chwarae, gwarchodwyr plant, neu ofal gartref gyda rhiant neu ofalwr.
  • ‘Oedran ysgol gorfodol’ n cyfeirio at blant rhwng 5 ac 16 oed yng Nghymru.
  • ‘Addysgu gwahaniaethol’ yn golygu dysgu ac addysgu sydd wedi’u hadeiladu o gwmpas anghenion a sefyllfa eich plentyn.
  • ‘Coleg’ yn golygu sefydliad sy’n dod o dan Adran 91(3) Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
  • ‘Awdurdod lleol’ yn golygu cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru, ac eithrio lle cyfeirir yn benodol at awdurdod lleol yn Lloegr (a gweler Adran 579(1) Deddf Addysg 1996 am ystyr hynny).
  • ‘Rhiant’ yn cael yr ystyr a roddir i ‘parent’ yn Adran 576 Deddf Addysg 1996. Mae'r diffiniad hwnnw’n cynnwys unrhyw berson nad yw'n rhiant ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, ac unrhyw berson sydd â gofal am y plentyn.
  • ‘Person ifanc’ yn golygu person sydd dros oedran ysgol gorfodol, ond o dan 25 oed. 
  • ‘Plentyn sy’n derbyn gofal’ yw plentyn sydd yng ngofal yr awdurdod lleol, er enghraifft yn byw mewn gofal maeth neu mewn gofal preswyl. 
  • ‘Addysg heblaw yn yr ysgol’ sy’n cyfeirio at y trefniadau a wneir gan yr awdurdod lleol i blentyn neu berson ifanc gael addysg y tu allan i ysgol brif ffrwd neu ysgol arbennig. 
  • Mae geirfa fwy cynhwysfawr o dermau ar gael ym Mhennod 1 y Cod.