Neidio i'r prif gynnwy

Bydd ffermwyr yng Nghymru yn cael dweud eu dweud ar fiwrocratiaeth, wrth i'r Gweinidog dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llŷr Gruffydd, benodi cadeirydd annibynnol i arwain adolygiad i'r baich biwrocrataidd ar ffermydd teuluol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r cyntaf o'i hymrwymiadau yn ei maniffesto 100 diwrnod i'r sector ffermio
  • Lansio adolygiad annibynnol i archwilio'r baich biwrocrataidd ar fusnesau fferm Cymru.
  • Penodi’r ffermwr profiadol a chyn-Lywydd NFU Cymru, John Davies, i arwain y gwaith

Bydd John Davies, ffermwr cig eidion a defaid o gyffiniau Aberhonddu a chyn-Lywydd NFU Cymru, yn arwain yr adolygiad naw mis o hyd. Bydd yn siarad yn uniongyrchol â'r rhai sy'n llenwi ffurflenni - ffermwyr ac asiantiaid sydd â phrofiad bywyd o ofynion ar ffermydd. Bydd yr adolygiad yn asesu effaith gronnol gofynion ar fusnesau fferm ac yn archwilio lle mae posibilrwydd o newid, a’r angen amdano.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru yr adolygiad hwn yn un o'i brif ymrwymiadau 100 diwrnod. Dywedodd Llŷr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: 

"Wrth ffurfio'r Llywodraeth fe wnaethon ni ddweud y byddai gan ffermwyr Weinidog ar eu hochr nhw. Dyma ni'n rhoi geiriau hynny ar waith. Rydyn ni'n deall mai ffermio yw blaenoriaeth ffermwr. Mae rheoleiddio yn rhan angenrheidiol o gynnal ein safonau o'r radd flaenaf, ond rhaid i ofynion fod yn gymesur, ac ni ddylent rwystro'r broses o reoli tir a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Er y gall rhai newidiadau gymryd amser, rydw i wedi gofyn i John nodi llwyddiannau cyflym lle bynnag y bo modd, er mwyn inni ddechrau gwneud newidiadau cyn gynted ag y gallwn."

Wrth ymgymryd â'r rôl, dywedodd John Davies: 

"Rwy'n croesawu'r cyfle i arwain yr adolygiad hwn ac edrychaf ymlaen at ddechrau arni. Rwy'n gwybod o brofiad am y pwysau y mae ffermwyr yn ei wynebu wrth ddelio â gofynion rheoleiddio, archwiliadau a gweinyddu. Byddaf yn gweithio'n agos gyda'r rhai ar lawr gwlad yn y sector er mwyn deall ble y gellir gwneud gwelliannau. Mae hyn yn golygu dod o hyd i ffyrdd ymarferol o wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n ffermwyr."