Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad i wres o’r ddaear

Bwriad y nodyn cyngor hwn yw cefnogi rheolwyr ynni'r sector cyhoeddus yng Nghymru i werthuso'n feirniadol a allai eu hystad elwa ar bympiau gwres o’r ddaear (GSHPs) a thechnolegau geothermol eraill. Bydd y ddogfen yn eich helpu i gyflawni’r canlynol:

  • dod yn gyfarwydd â thermau technegol, cysyniadau a chamdybiaethau cyffredin
  • archwilio manteision ac anfanteision systemau GSHP
  • asesu a allai gwres o’r ddaear fod yn ffynhonnell wres amgen hyfyw ar gyfer eich safle

Mae pympiau gwres yn ddyfeisiau cymharol syml sy'n trosglwyddo gwres o un amgylchedd i'r llall. Yn dibynnu ar y dechnoleg, gallant dynnu gwres o aer amgylchynol, pridd, creigwelyau, afonydd, llynnoedd, y môr, a hyd yn oed gweithfeydd mwyngloddio dan ddŵr. Bydd yr arbedion CO2e yn dibynnu ar y math o danwydd y mae’r pwmp gwres yn ei ddisodli (e.e. nwy neu olew) a dwysedd carbon y trydan a ddefnyddir i'w weithredu. Mae'r trydan a gyflenwir trwy'r Grid Cenedlaethol wedi bod yn datgarboneiddio'n raddol, gyda chyfran gynyddol yn cael ei gynhyrchu o ffynonellau carbon isel fel gwynt, solar, niwclear, a thrydan wedi'i fewnforio trwy rhyng-gysylltwyr. Wrth i'r grid barhau i ddatgarboneiddio, bydd manteision carbon pympiau gwres yn parhau i wella dros amser.

  • mae'r arbedion CO2e mwyaf yn cael eu cyflawni wrth ddisodli boeleri tanwydd ffosil (e.e. nwy, olew, LPG) gyda phympiau gwres
  • gellir gwireddu arbedion CO2e cymedrol hefyd wrth newid o foeleri biomas neu wresogi trydan uniongyrchol, yn dibynnu ar ffynhonnell y tanwydd, perfformiad y system a thymheredd gweithredu
  • gall systemau mwy o faint a mwy cymhleth, megis rhwydweithiau gwresogi cymunedol neu ardal, eiddo ag anghenion gwresogi ac oeri ar yr un pryd, neu safleoedd sy'n defnyddio gweithfeydd gwres a phŵer cyfunedig (CHPs) ar hyn o bryd, hefyd elwa ar integreiddio pympiau gwres i wella effeithlonrwydd a lleihau allyriadau

Tra bod pympiau gwres o’r aer (ASHPs) yn tynnu gwres o'r aer allanol, mae GSHPs yn tynnu gwres o'r ddaear. Mae GSHPs yn gyffredinol yn fwy effeithlon ac yn rhatach i'w rhedeg oherwydd bod tymheredd y ddaear yn parhau i fod yn uwch ac yn fwy sefydlog na thymheredd yr aer trwy gydol y tymor gwresogi. O ganlyniad, mae'n rhaid i’r uned gywasgu’r pwmp gwres wneud llai o waith i godi'r dŵr gwresogi i'r tymheredd sydd ei angen, sy'n golygu bod y system yn defnyddio llai o drydan i ddarparu'r un faint o wres. Yn gyffredinol, mae GSHPs yn dawel, yn ddibynadwy ac yn ddiogel. Nid ydynt yn cynhyrchu llygredd aer lleol ac nid oes angen pibellau ffliw nwy neu simneiau arnynt (ac eithrio pympiau gwres sy’n amsugno nwy, nad ydynt wedi'u cynnwys yma). 

Noder bod cyfernod perfformiad (COP) o 4 (COP nodweddiadol ar gyfer system GSHP wedi'i chynllunio'n dda) yn golygu ar gyfer pob uned o drydan (kWhe) a ddefnyddir gan y pwmp gwres, cynhyrchir pedair uned o ynni y gellir eu defnyddio (kWhth). Nid yw pympiau gwres yn 'creu gwres' ond yn hytrach yn codi gwres gradd isel o'r amgylchedd (h.y. 10°C) i dymheredd y gellir ei ddefnyddio (h.y. 60°C), sy'n gofyn am waith mecanyddol gan uned gywasgu drydanol y pwmp gwres.

Yn wahanol i ASHPs, nid oes angen unedau allanol ar GSHPs sydd angen lle yn yr awyr agored neu ar ben to, sy’n eu gwneud yn ddewis effeithlon a heb fod yn amlwg iawn yn weledol. Nid ydynt ychwaith yn cynhyrchu unrhyw sŵn allanol, a all fod yn fantais mewn safleoedd sensitif neu ardaloedd dwys o ran adeiladau. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Strategaeth Gwres i Gymru (Gorffennaf 2024), sy'n nodi sut y bydd Cymru'n cyflawni gwres Sero Net ar draws pob sector erbyn 2050. Mae'r strategaeth yn cwmpasu cartrefi, busnesau, diwydiant a gwasanaethau cyhoeddus, ac yn amlinellu'r polisïau a'r rhaglenni sydd eu hangen i drawsnewid systemau gwresogi a gwella effeithlonrwydd ynni. Mae'n cynnwys pwyslais mawr ar bympiau gwres, gydag uchelgais i osod 580,000 erbyn 2035, ochr yn ochr â chamau gweithredu i fynd i'r afael â rhwystrau fel cost, sgiliau, capasiti cadwyn gyflenwi, a chynllunio. Mae'r strategaeth hefyd yn tynnu sylw at swyddogaeth cynllunio ynni lleol, ehangu rhwydweithiau gwres, a manteision cymdeithasol ac economaidd ehangach yn sgil datgarboneiddio gwres. 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi datgarboneiddio gwres drwy ystod o gynlluniau grant cyfalaf a chyllid refeniw ar gyfer datblygu prosiectau. Mae'r mecanweithiau cymorth hyn a mecanweithiau cymorth eraill ar gael drwy Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.

Mathau o unedau adfer gwres o'r ddaear

Mae gan Gymru gyfansoddiad daearegol amrywiol, ond mewn llawer o ardaloedd mae'r creigwelyau a'r lefel trwythiad yn gymharol agos at yr wyneb. O ganlyniad, gellir defnyddio pympiau gwres o’r ddaear yn y rhan fwyaf o leoliadau. Mae gwres geothermol bas yn cael ei gydnabod yn eang fel un o'r ffynonellau gwres mwyaf sefydlog a dibynadwy ar gyfer pympiau gwres. Y rheswm dros hyn yw bod tymheredd y ddaear yn newid yn llawer arafach na thymheredd aer, gan greu "oedi" tymhorol y gall systemau GSHP fanteisio arno i gynnal effeithlonrwydd uwch a mwy cyson trwy gydol y tymor gwresogi. 

Mae tymheredd y ddaear tua 100 metr o dan yr wyneb yng Nghymru fel arfer yn amrywio o 9 i 15°C drwy gydol y flwyddyn, ac mae'n amrywio'n bennaf yn ôl yr uchder: yn gynhesach o amgylch yr arfordir ac yn oerach yn ardaloedd yr ucheldir. Mae gan greigiau a phridd fantais dros aer ar gyfer storio gwres oherwydd dŵr daear. Mae gan ddŵr gapasiti gwres uwch o lawer nag aer, sy'n golygu y gall storio llawer mwy o ynni ym mhob uned o gyfaint.

Image
Mae’r llun hwn yn dangos diagram o systemau gwresogi ac oeri o’r ddaear sy’n gymharol fas ar y chwith o gymharu â systemau gwres a phŵer geothermol dyfnach ar y dde.  Mae’n dangos sut mae pob un yn defnyddio lefelau a thymereddau dŵr daear mewn ffyrdd gwahanol.  Mae systemau mwy bas yn cynnwys pympiau gwres o’r ddaear (GSHP), GSHP dolen gaeëdig ac ynni o ddŵr mwyngloddiau.  Mae systemau dyfnach yn cynnwys systemau hydrothermol (sy’n cynhyrchu gwres a ddefnyddir yn uniongyrchol) a systemau petrothermol
Ffigur 1: Systemau gwresogi ac oeri gyda’r ddaear yn ffynhonnell o'u cymharu â systemau gwres a phŵer geothermol.

Mae pelydrau’r haul yn cynhesu'r ddaear yn gyson, ac mae dŵr glaw 'cynnes' yn treiddio i lawr yn ystod y misoedd cynhesach, gan ychwanegu at y cyflenwad o wres o’r ddaear. Mae yna hefyd gyfran fach o wres oddi tano, a gynhyrchir gan ddadfeiliad ymbelydrol rhai mwynau yn ddwfn y tu mewn i gramen y Ddaear, sy'n llawer mwy perthnasol i echdynnu gwres geothermol dwfn. Er nad oes gan y DU adnoddau geothermol dwfn gradd uchel ger yr wyneb (yn wahanol i ardaloedd folcanig fel Gwlad yr Iâ), mae ganddi adnoddau gwres 'gradd isel' o 10-20°C bron ym mhobman, sy'n addas iawn ar gyfer systemau GSHP.  

Yn y DU, mae tymheredd y ddaear fel arfer yn cynyddu tua 2.8°C fesul 100 metr o ddyfnder. Yng Nghaerdydd, er enghraifft, mae gan ddŵr daear sy'n gorwedd 10 metr o dan yr wyneb dymheredd cyson o 13°C trwy gydol y flwyddyn, gan gynyddu i oddeutu 14°C ar ddyfnderoedd o ~200 metr. Mae'r amgylchedd sefydlog, cymedrol gynnes hwn yn gwneud y ddaear a'r dŵr bas yn ffynonellau dibynadwy o wres gradd isel ar gyfer pympiau gwres ac, mewn rhai achosion, gall hefyd ddarparu cyfleoedd ar gyfer storio ynni thermol o fewn y tymor (h.y. hirdymor).

Mewn cymhariaeth, nid yw ASHPs, er eu bod fel arfer dwy i dair gwaith yn fwy effeithlon o ran ynni na boeleri nwy, yn elwa ar dymheredd ffynhonnell mor sefydlog. Mae tymheredd yr aer allanol yn amrywio trwy gydol y flwyddyn, gyda'r tymheredd isaf yn digwydd yn y gaeaf pan fydd y galw am wresogi ar ei uchaf. Po isaf yw tymheredd y ffynhonnell, y mwyaf o waith y mae'n rhaid i uned gywasgu pwmp gwres ei wneud, a'r mwyaf yw'r swm o ynni trydanol sydd ei angen i gynhyrchu (neu 'uwchraddio') un uned o wres. Dyma pam y mae ASHPs yn gyffredinol yn cyflawni effeithlonrwydd tymhorol is na systemau gwres o’r ddaear.

Achos arbennig: gwres a phŵer geothermol dwfn

Mae ynni geothermol dwfn yn cyfeirio at adnoddau tymheredd uwch (>120°C) ar sawl cilomedr o ddyfnder ac ni ddylid eu cymysgu ag adnoddau geothermol bas neu amgylchynol, sef yr hyn y mae pympiau gwres o’r ddaear fel arfer yn manteisio arnynt.  

Gall drilio i ddyfnderoedd o 3,000 – 5,000m yng Nghymru ganfod tymheredd y ddaear sy'n fwy na 100°C, sy'n ddigon i gynhyrchu trydan adnewyddadwy gan ddefnyddio tyrbinau sy'n cael eu pweru gan stêm neu systemau Cylch Rankine Organig (ORC). Fodd bynnag, nid yw cynhyrchu pŵer geothermol dwfn wedi'i brofi yng Nghymru hyd yn hyn. Mae prosiectau treialu ar waith ar safleoedd yn Lloegr ar hyn o bryd, gyda mentrau tebyg wedi'u cynllunio ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae gweithfeydd cynhyrchu gwres a phŵer geothermol dwfn, hydrothermol a petrothermol masnachol wedi'u sefydlu yn Ffrainc, sy'n rhannu agweddau ar ei daeareg gyda'r DU.

Achos diofyn: dolen agored a chaeedig gyda’r ddaear yn ffynhonnell, tyllau turio ac araeau daear

Gellir gosod unedau gwres o’r ddaear, gyda thyllau turio wedi'u drilio i ddyfnderoedd o hyd at 300 metr, yn y rhan fwyaf o leoliadau ledled Cymru. Mae'r systemau hyn wedi'u sefydlu'n dda ar raddfa ddomestig, clystyrau o gartrefi ac ar gyfer adeiladau cyhoeddus a masnachol mwy o faint.

Gellir integreiddio pympiau gwres hefyd â rhwydweithiau gwresogi ac oeri tymheredd isel 4ydd a 5ed genhedlaeth. Yn y systemau hyn, gall tyllau turio weithredu fel storfeydd thermol, gan amsugno gwres sydd dros ben (neu oerni) a'i ryddhau yn ôl i'r rhwydwaith pan fo angen ar adeg wahanol neu hyd yn oed mewn tymor gwahanol. 

Mae storio gwres yn y ddaear yn osgoi'r gost uchel, defnyddio tir, a chyfyngiadau cynllunio sy'n gysylltiedig â thanciau storio uwchben y ddaear.

Mae chwe phrif ffordd i gasglu gwres o'r ddaear:

  • dolen agored: echdynnu dŵr daear o ddyfrhaen a'i ail-chwistrellu ar ôl ei ddefnyddio (Ffigur 3). 
  • dolen gaeedig: naill ai ffosydd bas llorweddol hir, neu dyllau turio dyfnach fertigol sy'n cynnwys dolenni pibellau (Ffigur 2). 
  • dŵr mwynglawdd: tynnu gwres o hen weithfeydd glo dan ddŵr. 
  • geoadeileddau ynni: integreiddio systemau cyfnewid gwres o fewn sylfeini adeiladau, waliau cynnal. 
  • dŵr agored: gellir defnyddio llynnoedd mawr, afonydd a'r môr hefyd i dynnu gwres amgylchynol, a elwir yn Bympiau Gwres o Ddŵr. 
  • adfer gwres gwastraff o seilwaith tanddaearol: tynnu gwres o seilweithiau tanddaearol fel rheilffyrdd, systemau carthffosiaeth, twneli gwasanaeth a dwythellau cebl foltedd uchel. 

Achos arbennig: gwres dŵr mwynglawdd

Mae gwres dŵr mwynglawdd yn cyfeirio at y gwres sy'n cael ei storio mewn dŵr daear sydd wedi'i ddal mewn hen fwyngloddiau glo a metel. Pan gaewyd y mwyngloddiau, roedd y pympiau mawr sy'n eu cadw'n sych ar gyfer gweithwyr yn aml yn cael eu diffodd, gan ganiatáu i'r dŵr ddychwelyd i'w lefel naturiol. Ym meysydd glo Cymru, cofnodwyd tymheredd o hyd at 21°C mewn dŵr pwll glo ar ddyfnderoedd o tua 200 metr, sy'n golygu bod hwn yn adnodd gwres carbon isel arbennig o ddeniadol ar ddyfnderoedd gweddol fas.

Mae hen luniau o lowyr Cymreig yn gweithio yn y mwyngloddiau dyfnach yn awgrymu nad oedd angen llawer o ddillad arnynt, gan ei bod hi'n anghyfforddus o boeth i lawr yno, gan adlewyrchu graddiant geothermol a phriodweddau inswleiddio'r graig o'u hamgylch. Er nad yw tymereddau dŵr mwynglawdd fel arfer yn ddigon uchel ar gyfer gwresogi lle yn uniongyrchol, maent yn paru'n eithriadol o dda â phympiau gwres, gan alluogi cynhyrchu dŵr poeth yn effeithlon ar dymheredd system wresogi nodweddiadol.

Mae rhai awdurdodau lleol yng Nghymru wedi’u lleoli uwchben hen ardaloedd mwyngloddio. Gellir gofyn am gyngor cynnar ar gyfleoedd dŵr mwyngloddiau gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, sydd wedi cyhoeddi Mapiau Cyfleoedd Gwres Dŵr Mwynglawdd Cymru yn ddiweddar i helpu i nodi lleoliadau addas.

Dolen gaeedig 

Mewn ardaloedd trefol, lle mae mynediad i dir neu le wedi'i gyfyngu neu wedi'i gadw ar gyfer datblygiad yn y dyfodol, y dull mwyaf cyffredin yw drilio tyllau turio dolen gaeedig fertigol neu ar ffurf ffan. Mae'r rhain fel arfer yn amrywio o 100 i 200 metr o ddyfnder ac yn cynnwys pibell blastig siâp U sengl neu ddwbl (a elwir hefyd yn 'chwiliedyddion' neu 'araeau daear').  

Gall pob cyfnewidydd gwres turio fel arfer ddarparu rhwng 3 ac 8 kW o bŵer gwresogi, yn dibynnu ar gyfansoddiad y pridd a'r creigiau, dyfnder y lefel trwythiad, a chyfraddau llif dŵr daear. Mae mwy o dyllau turio yn cael eu hychwanegu neu eu dyfnhau nes bod y llwyth gwresogi gofynnol wedi'i fodloni. 

Mae'r ail ddull gweithredu a elwir yn ddolen gaeedig lorweddol yn cael ei dewis yn aml mewn ardaloedd gwledig lle mae digon o dir agored y mae’n annhebygol y bydd yn cael ei aflonyddu neu ei ddatblygu yn y dyfodol agos. Mae'r dull hwn yn cynnwys cloddio ffosydd bas, fel arfer 1.5-2 metr o ddyfnder, a gosod sawl 100 metr o bibellau plastig (a elwir hefyd yn 'slinkies'). Mae'r pibellau hyn yn cysylltu yn ôl â manifold canolog, yna i'r uned pwmp gwres sydd wedi'i lleoli mewn ystafell beiriannau. 

Noder, nid yw gwresogi gyda gwres o’r ddaear yng Nghymru yn newydd, gyda dros 500 o systemau domestig wedi'u gosod hyd yn hyn. Mae Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru yng Nghaernarfon, er enghraifft, yn defnyddio technoleg GSHP twll turio dolen gaeedig i ddarparu gwres. Hefyd, mae system pwmp gwres dŵr daear dolen agored wedi'i gosod mewn dyfrhaen graean bas sydd wedi ei threialu wedi llwyddo i ddarparu gwres i ysgol yng Nghaerdydd ers 2015.

Dolen agored  

Pan fo dyfrhaen addas, haen danddaearol o graig neu waddod sy'n dal symiau defnyddiol o ddŵr, yn bodoli o dan safle, gall system pwmp gwres dolen agored neu ddŵr daear fod yn opsiwn. Mae'r systemau hyn fel arfer yn cynnwys adeiladu un neu fwy o barau o ffynhonnau dŵr, gydag un ffynnon wedi'i chysylltu â phwmp tanddwr a'r llall yn cael ei defnyddio i chwistrellu dŵr gwres-ddisgynedig yn ôl i'r ddyfrhaen i gynnal pwysedd dŵr. Dangosir y ffynhonnau tynnu a chwistrellu yn Ffigur 3.  

Mae dyfnderoedd ffynhonnau yn amrywio yn dibynnu ar amodau lleol, megis dyfnder y lefel trwythiad, nodweddion dyfrhaen, a chyfaint y dŵr sydd ei angen i ateb y galw o ran gwresogi. Yn nodweddiadol, mae dyfnderoedd ffynhonnau tua 20 metr, ond gall fod yn ddyfnach mewn rhai lleoliadau.

Mae dŵr daear wedi'i dynnu fel arfer yn cael ei basio trwy gyfnewidydd gwres dur gwrthstaen i drosglwyddo gwres i'r oerydd pwmp gwres, sydd wedyn yn cael ei ddarparu ar gyfer yr adeilad ar dymheredd uwch.

Ar ôl pasio trwy'r system, mae'r dŵr sydd wedi’i oeri, fel arfer tua 5°C, yn cael ei ail-chwistrellu yn ôl i'r ddyfrhaen, sydd fel arfer cannoedd o fetrau i ffwrdd o'r man tynnu i atal "cylched byr" thermol. Mewn rhai achosion, yn amodol ar gymeradwyaethau amgylcheddol, gall dŵr gwres-ddisgynedig gael ei ollwng i gorff dŵr wyneb cyfagos neu'r môr. Mae systemau geothermol dŵr mwyngloddiau yn gweithredu ar yr un egwyddor â systemau dolen agored, gan dynnu dŵr o weithfeydd mwyngloddio dan ddŵr yn hytrach na dyfrhaenau naturiol.

Image
Mae’r llun hwn yn dangos diagram o system pwmp gwres dolen gaeëdig o’r ddaear.   Mae’n dangos un twll turio sy’n cyfnewid gwres, wedi’i durio tua 50 metr o ddyfnder, sy’n darparu pŵer gwres i’r tŷ a ddangosir uwchlaw lefel y ddaear.
Ffigur 2: System pwmp gwres o’r ddaear dolen gaeedig. Hawlfraint BSG-UKRI (2022).
Image
Mae’r llun hwn yn dangos diagram o system pwmp gwres dolen agored o ddŵr daear.  Mae’r llun yn dangos dyfrhaen fas, tua 100 metr o ddyfnder.  Mae yna ffynnon y tynnir dŵr ohoni a ffynnon sy’n chwistrellu dŵr, wedi’u turio ochr yn ochr i mewn i’r dyfrhaen fas.  Mae’r ffynnon y tynnir dŵr ohoni yn trosglwyddo gwres i oerydd pwmp gwres a ddangosir yn y tŷ, ac mae’r llun yn dangos dŵr y defnyddiwyd y gwres ohono yn cael ei chwistrellu’n ôl i mewn i’r ddyfrhaen.
Ffigur 3: System pwmp gwres o’r ddaear dolen agored. Hawlfraint BSG-UKRI (2022).

Meddwl yn greadigol 

Ar gyfer adeiladau newydd, estyniadau, mae'n werth ystyried cynnwys tyllau turio, pentyrrau actif yn thermol, a hyd yn oed storio gwres rhwng tymhorau o'r cychwyn cyntaf. Mae meysydd parcio, tir llwyd a mannau gwyrdd yn aml yn lleoliadau addas ar gyfer drilio a gellir eu hadfer fel arfer o fewn ychydig fisoedd. Gydag ystyriaeth gynnar o ran dylunio, gellir lleoli tyllau turio hyd yn oed o dan adeiladau newydd os ystyrir hyn yn amserol adeg dylunio, gyda systemau cyfnewid gwres wedi'u hintegreiddio o fewn sylfeini.

Lle mae lle ar gyfer drilio yn gyfyng iawn, gellir drilio tyllau turio ar oleddf mewn siâp ffan o safle ffynnon sengl i dynnu gwres o dan adeiladau presennol, gan fanteisio i’r eithaf ar ddefnydd a gwerth y cyfaint tir sydd ar gael o dan yr eiddo.

A all fy safle weithio gyda gwres o’r ddaear?    

Gall, mae'r rhan fwyaf o safleoedd yng Nghymru yn gydnaws â systemau GSHP. 

Mae hyn y swnio'n addawol, ond pryd na allaf ddefnyddio gwres o’r ddaear? 

Mae GSHPs yn dod yn anymarferol lle byddai cloddio neu ddrilio yn rhy aflonyddgar, yn dechnegol annichonadwy, neu'n afresymol o ddrud. Mae enghreifftiau'n cynnwys safleoedd gyda’r canlynol: 

  • ardaloedd trefol dwys gyda mannau agored cyfyngedig
  • cyfleustodau wedi’u claddu fel piblinellau, ceblau, carthffosydd, carthbyllau a thanciau
  • hen safleoedd tirlenwi
  • ger llinellau pŵer foltedd uchel uwchben
  • twneli mewn gwasanaeth, seilwaith tanddaearol sensitif arall
  • cynefinoedd gwarchodedig neu archaeoleg y mae'n rhaid eu diogelu
  • ardaloedd sy'n dueddol o ddioddef llifogydd difrifol neu dir sydd wedi'i glustnodi ar gyfer datblygiad neu ddefnydd arbennig yn y dyfodol
  • ardaloedd o dir ansefydlog, megis tirlithriadau sylweddol, llyncdyllau, tir sy'n dueddol o erydu, neu ardaloedd o fwyngloddio bas iawn

Dylai arbenigwyr geotechnegol a daearegwyr peirianyddol werthuso amodau/peryglon y ddaear yn ofalus yn ystod y camau dichonoldeb a chynllunio. Mewn rhai achosion, gall y risgiau i'r prosiect, perfformiad hirdymor, neu atebolrwydd trydydd parti fod yn rhy sylweddol ac osgoi'r ardaloedd hynny yw'r opsiwn mwyaf diogel.

Fodd bynnag, gall tyllau turio gael eu lleoli mewn ardaloedd sy'n aml yn cael eu boddi gan lifogydd, a hyd yn oed mewn coedwigoedd, meysydd parcio neu o dan baneli solar.

Wrth ystyried tyllau turio a ffosydd, mae’n well osgoi ardaloedd lle mae pridd yn dueddol o ddioddef erydu a sgwrio dwys megis clogwyni’n erydu, traethau, twyni actif, corsydd mawn, a blaendir afonydd actif.

Gall daear gyda dŵr daear artesiaidd, lle mae dŵr o dan bwysau ac yn codi'r twll turio ar ôl treiddio, fod yn anodd ei reoli a'i selio. Mae'r amodau hyn yn aml yn cynyddu cymhlethdod a chost drilio, ac mewn rhai achosion gallant beryglu prosiect. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi safleoedd o'r fath neu fe fydd rhaid cynllunio’n ofalus a chael mewnbwn arbenigol.

Yn yr un modd, mae angen ymchwilio'n briodol i ardaloedd yr amheuir iddynt gynnwys hen weithfeydd mwyngloddio, gan ddechrau gydag astudiaeth ddesg fanwl ac adolygiad o gynllun mwynglawdd, ac ystyried yr holl opsiynau.

Mewn rhai achosion, os yw hen siafftiau mwyngloddiau neu weithfeydd yn cael eu nodi a'u harolygu yn gynnar yn y cam dichonoldeb, gan ddefnyddio ymchwiliadau geoffisegol, arolygon cyflwr, a thurio, gellir mapio'r nodweddion hyn yn gywir. Mae hyn yn galluogi osgoi ardaloedd anaddas, neu, lle bo hynny'n briodol, sicrhau bod mesurau gwella tir yn cael eu hymgorffori yn y prif ddatblygiad. Mewn rhai achosion, efallai y bydd hyd yn oed yn bosibl integreiddio hen siafftiau a gweithfeydd mwyngloddiau i'r prosiect i arbed costau drilio. Byddai arolygon tir a phyllau archwilio cyn drilio yn cael eu cynnal er mwyn osgoi gwasanaethau wedi’u claddu ac i nodi problemau gyda sefydlogrwydd y ddaear, ordnans heb ei ffrwydro, a llygredd tir neu ddŵr.

Mae'r ymchwiliadau hyn hefyd yn helpu i sicrhau y diogelir nodweddion dŵr, cynefinoedd sensitif, ac ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol neu archeolegol arbennig.

A oes angen trwydded arnaf? 

Ar gyfer systemau dolen gaeedig, yn gyffredinol, nac oes. Systemau dolen gaeedig yw'r math mwyaf cyffredin yn y DU ac nid oes angen trwyddedau arnynt ar hyn o bryd ond gallant ddod o dan Reolau Rhwymo Cyffredinol penodol. Mae Rheolau Rhwymo Cyffredinol (GBRs) yn set o reolau diogelu'r amgylchedd wedi'u diffinio ymlaen llaw a gyhoeddir gan reoleiddwyr (yng Nghymru, Cyfoeth Naturiol Cymru – CNC) sy'n caniatáu i weithgareddau risg isel fynd rhagddynt heb fod angen trwydded, cyn belled â bod y gweithgaredd yn cydymffurfio'n llawn â'r amodau rhagnodedig.

Mae'n arfer da cofrestru tyllau turio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a rhoi gwybod i Arolwg Daearegol Prydain (BGS) drwy anfon copïau atynt o gyfesurynnau’r lleoliad, logiau drilio strata, a gwybodaeth am unrhyw brofion pwmp neu ymateb thermol a gynhaliwyd. Mae cyflwyno’r wybodaeth hon yn orfodol ar gyfer prosiectau'r sector cyhoeddus o dan y rheolau a nodir yn Llawlyfr y Llywodraeth ar gyfer unrhyw ymchwiliad tir.

Mewn ardaloedd sydd â hanes o fwyngloddio glo tanddaearol, rhaid hysbysu'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio i gael cytundeb mynediad i fwyngloddiau.

Nid oes unrhyw un yn berchen ar y gwres sy'n cael ei storio yn y ddaear, dim ond yr hawl i gael mynediad iddo trwy'r tir. Felly, mae'n synhwyrol ystyried defnyddwyr presennol a dyfodol a chynllunio cynlluniau mewn cydweithrediad â thirfeddianwyr cyfagos i sicrhau bod rhanddeiliaid yn derbyn eu cyfran deg.

Ar gyfer systemau dolen agored, oes. Os bwriedir pwmpio mwy na 20m3 o ddŵr y dydd o ddyfrhaen, yna, yn ôl y gyfraith, mae angen gwneud cais i CNC am ganiatâd i ymchwilio i ffynhonnell dŵr daear, a fydd yn ystyried y canlynol: 

  • ble fydd dŵr yn cael ei ollwng yn ystod prawf pwmpio dŵr
  • arolwg nodweddion dŵr (astudiaeth ddesg ac arolwg maes)
  • asesiad risg i asesu'r effeithiau ar ddefnyddwyr presennol, megis deiliaid trwyddedau tynnu dŵr neu gynefinoedd cyfagos

Ar adeg ysgrifennu, nid oes ffi yn gysylltiedig â'r drwydded. Mae'r broses fel arfer yn cymryd tua 45 diwrnod gwaith ond gall gymryd mwy o amser ar gyfer safleoedd cymhleth. Gall cynghorydd hydroddaearegol proffesiynol awgrymu ble orau i ddatblygu ffynhonnell, neu a yw'n werth ei wneud o gwbl.

Mae'r gwasanaeth GeoReports Arolwg Daearegol Prydain (BGS) yn darparu adroddiadau twll turio dŵr hydrolegol i ddefnyddwyr sy'n bwriadu echdynnu > 20m³/dydd (h.y. defnydd masnachol). Mae'n cynnwys gwerthusiad o'r ffurfiannau daearegol o dan y safle o ran potensial dyfrhaen, gan gynnwys cyfaint dŵr daear disgwyliedig, lefelau dŵr ac ansawdd dŵr daear. 

Capasiti trydan

Mae’r rhan fwyaf o bympiau gwres trydan masnachol (allbwn >45 kW) yn defnyddio cyflenwadau trydan teirgwedd gydag effaith sylweddol ar y galw am drydan. Felly, mae ymgysylltu cynnar â Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu (DNOs) yn bwysig er mwyn sicrhau bod digon o bŵer ar gael ar gyfer y pympiau gwres a'r perifferolion cysylltiedig. 

Darperir asesiadau tebyg hefyd gan ymgynghorwyr hydroddaearegol. Gallant hefyd ddylunio a goruchwylio profion pwmpio a chynhyrchu'r asesiad effaith dŵr daear angenrheidiol. Os cadarnheir y llif a'r ansawdd dŵr a ragwelir ac mae'r prosiect yn parhau i fod yn hyfyw, rhaid gwneud cais am drwydded tynnu gan CNC i barhau i dynnu dŵr daear. Nid yw trwyddedau tynnu wedi'u gwarantu'n awtomatig, hyd yn oed os profir bod y ffynhonnell yn darparu digon o ddŵr daear.

Er mwyn dychwelyd y dŵr gwres-ddisgynedig i'r ddaear, rhaid cyflwyno cais ar wahân i CNC (trwydded amgylcheddol ac o bosibl eithriad i ollwng i dwll turio neu gwrs dŵr arall os dymunir hynny). Mae gan CNC dîm trwyddedu pwrpasol i'ch tywys drwy'r broses. Mae'r Gwasanaeth Ynni a BGS ar gael i gefnogi'r broses hon. Argymhellir ymgysylltu'n gynnar â CNC gan y gall y broses gyfan gymryd sawl mis.

Camau asesiadau dichonoldeb pympiau gwres o’r ddaear

Yn gyntaf oll: peidiwch â chael eich siomi 

Mae gan y rhan fwyaf o gynlluniau cyllid datgarboneiddio y sector cyhoeddus amserlenni tynn. Gall hyn atal peirianwyr gwasanaeth adeiladu rhag ystyried atebion technoleg gwres o’r ddaear yn llawn oherwydd bydd angen costau cynllunio ychwanegol a chostau ymlaen llaw ar gyfer ymchwilio, profi, drilio a thrwyddedu.

Fodd bynnag, dylid trafod y pryderon hyn gyda'r Gwasanaeth Ynni, cyllidwyr, neu arbenigwyr pympiau gwres. Efallai y byddant yn gallu helpu i drafod rhywfaint o hyblygrwydd yn gyfnewid am yr enillion effeithlonrwydd ynni uwch a mwy o arbedion carbon a gyflawnir trwy ddefnyddio dulliau gwresogi ac oeri o’r ddaear.

Budd ychwanegol buddsoddiad hirdymor 

Oherwydd nad yw unedau pwmp gwres o’r ddaear a thanciau cysylltiedig yn cynnwys llawer o rannau symudol fel ffaniau ASHPs, ac maent wedi'u lleoli y tu mewn, i ffwrdd o dywydd mawr, maent yn tueddu i bara hyd at ddwywaith oes ASHPs (h.y. +20 mlynedd). Mae rhannau tanddaearol y system, gan gynnwys tyllau turio’r cyfnewidydd gwres a'r pibellau cysylltu wedi'u cynllunio i bara o leiaf 50 mlynedd, os ydynt wedi'u lleoli’n bell i ffwrdd o dir ansefydlog neu halogedig a gwreiddiau coed er mwyn osgoi difrod. Bydd angen ailosod pympiau cylchrediad o bryd i'w gilydd fel gydag unrhyw system wresogi arall. Felly, gellir ystyried y seilwaith parhaol (tyllau turio a phibellau) yn fuddsoddiad parhaol y dylid ei amlygu yn yr arfarniad.  

Nid oes unrhyw reolau sefydlog ynghylch sut y dylid mynd i'r afael â phrosiect GSHP. Mae'r Gwasanaeth Ynni yn awgrymu rhannu'r gwaith o asesu dichonoldeb GSHP yn dri cham gwahanol, gyda'r opsiwn i optio allan ar ôl pob cam:

Cam 1: gwiriad baner goch / cysyniad 

Adolygiad lefel uchel o ofynion ynni'r adeilad ac unrhyw gyfyngiadau amlwg ar y safle.

Cam 2: dichonoldeb cychwynnol 

Mae angen ymchwiliad manylach i amodau'r ddaear i asesu hyfywedd technegol. Er enghraifft, ymchwiliwch i weld a oes yna ddyfrhaen yn bresennol, asesu a all y ddaear gynnal llwyfannau drilio, ac ati. 

Cam 3: dichonoldeb manwl / dyluniad

Pan fo ateb GSHP addas wedi'i deilwra i’r galw am wres yn yr adeilad, cynllun y safle, yn ogystal â'r amodau daearegol a hydrodaearegol penodol, dylai allbwn y cam hwn fod yn ddigon manwl i lywio achos busnes cadarn a pharatoi manyleb dechnegol ar gyfer caffael.

Cam 1: gwiriad baner goch / cysyniad

Dadansoddiad o ddefnydd adeiladau

Monitro defnydd ynni adeiladau neu ddadansoddi data defnydd diweddar i nodi llwythi gwresogi (ac oeri) brig adeiladau a thymheredd llif gofynnol neu ddyluniad. Mae pympiau gwres yn gweithredu yn fwy effeithlon gyda systemau gwresogi tymheredd is (e.e. tymheredd llif a dychwelyd 35/30°C fel yn achos gwresogi o dan y llawr), gydag allyrwyr gwres digon mawr ac adeiladau wedi'u hinswleiddio'n dda sy'n gofyn am dymheredd aer mewnol sefydlog. Fodd bynnag, gall GSHPs dolen gaeedig modern gyflawni perfformiad da wrth gyflenwi dŵr poeth domestig neu systemau tymheredd uwch. Mae tymheredd llif o tua 60°C yn nodweddiadol, a gall rhai cyfluniadau arbenigol ddarparu tymheredd uwchlaw 80°C trwy raeadru pympiau gwres lluosog mewn cyfres. 

Dadansoddiad o ffynhonnell gwres

Ystyriwch faint o'r llwyth gwresogi y gellid ei gwmpasu gan ffynhonnell o’r ddaear ac a oes llwyth oeri y gellid ei integreiddio - nawr neu yn y dyfodol. Gall pympiau gwres fodiwleiddio a gweithredu wedi’u llwytho’n rhannol neu gellir eu cynorthwyo gyda ffynonellau gwres eraill yn ystod galw brig. Weithiau mae boeleri presennol yn cael eu cadw ar gyfer gwytnwch neu i ddarparu capasiti brig fel rhan o strategaeth drosiannol tra bod allyrwyr gwres yn cael eu huwchraddio a gwelliannau i ddeunydd adeiladu yn cael eu gweithredu. Fodd bynnag, dylid osgoi llosgi tanwydd ffosil ar gyfer gwresogi'r adeiladau hyn, a dylai cynlluniau datgarboneiddio amlinellu sut mae'r defnydd o ffynonellau gwres eraill yn cael ei leihau a'i ddileu yn y pen draw.  

Unwaith y bydd y galw am wres yn hysbys, gellir cyfrifo'r gyfradd echdynnu o’r ddaear sy’n angenrheidiol, ynghyd â nifer a dyfnder y tyllau turio dolen agored neu gaeedig sydd eu hangen i gwrdd â'r galw hwnnw. Ar gyfer dolen agored, byddai pâr nodweddiadol o ffynhonnau dŵr diamedr 6 modfedd, wedi'u gwahanu 200m oddi wrth ei gilydd, yn cynhyrchu 10l/s (864 m3/dydd) o ddŵr daear 13°C ac ail-chwistrellu ar 5°C (ΔTgw 8 K) yn darparu tua 67kW o bŵer thermol. Gall hydroddaearegydd y prosiect (neu BGS) helpu i benderfynu a yw hyn yn debygol o fod yn ymarferol ac asesu'r siawns o lwyddiant. 

Dadansoddiad cyflenwad pŵer

Adolygu'r galw am bŵer sydd ei angen i weithredu'r pwmp gwres ac ymgynghori â'r DNO i benderfynu a fydd angen uwchraddio cyflenwad trydan, beth fyddai'r goblygiadau o ran cost, a'r amserlenni dan sylw. Fel rheol, y capasiti trydan brig sydd ei angen ar GSHP yw'r galw am wres brig wedi'i rannu â'r COP disgwyliedig isaf, e.e. mae galw gwres 90kWth a COP o 3.0 yn cyfateb i alw brig ychwanegol o 30kWel. Mae'r cyfrifiad gwirioneddol yn fwy cymhleth ac yn dibynnu ar lawer o ffactorau ychwanegol, megis manylebau cynnyrch, storio thermol, a ffynonellau gwres amgen, ond mae'n darparu arwydd digon da o ba un a allai'r cyflenwad trydan fod yn bryder / baner goch. 

Gwiriad synnwyr terfynol

Ystyriwch a fyddai unrhyw gyfyngiadau sylweddol yn gwneud drilio neu gloddio yn anymarferol neu'n annymunol ar y safle. Gall baneri coch posibl gynnwys: 

  • tirweddau sensitif neu ardaloedd ecolegol gwarchodedig
  • adeiladau rhestredig
  • twneli, isloriau
  • cyfleustodau wedi’u claddu fel piblinellau nwy neu danwydd, ceblau foltedd uchel, carthffosydd neu danciau storio
  • mwyngloddiau gweithredol neu segur
  • llethrau serth, tomenni sporion, tirlithriadau actif, llyncdyllau, neu dir sy'n erydu
  • safleoedd tirlenwi neu dir halogedig
  • beddau neu archeoleg warchodedig
  • ardaloedd sydd â datblygiadau wedi'u cynllunio, hawliau mwynau/gweithfeydd neu chwareli wedi'u cynllunio
  • meysydd o sensitifrwydd amgylcheddol eraill neu goed gwarchodedig

Cam 2: dichonoldeb cychwynnol 

Nodwch rannau o dir addas ar gyfer drilio neu greu ffosydd, daeareg a drilio a pheryglon peirianneg daear. Ar yr adeg hon, gallwch ddechrau penderfynu a yw gwres o’r ddaear dolen agored neu gaeedig, neu hyd yn oed gwres o’r dŵr, yn bosibilrwydd. Mae'n debygol y bydd angen cymorth arbenigol ar y cam hwn.

Fel cam cychwynnol, gellir ymgynghori â CNC, BGS, a'r awdurdod lleol i benderfynu a yw cynlluniau tebyg wedi'u gweithredu'n llwyddiannus yn yr ardal dan sylw ac a yw defnyddwyr eraill yn tynnu dŵr daear ar gyfer cyflenwad cyhoeddus neu breifat yn y cyffiniau. Os nad oes gwybodaeth ddibynadwy ar gael, dylai daearegwr geothermol neu hydroddaearegydd gynnal astudiaeth ddesg lefel dichonoldeb i asesu'r amodau daear tebygol a'r prif gyfleoedd GSHP.

  • Os nad oes dyfrhaen, mae'n debygol mai tyllau turio dolen gaeedig fydd yr opsiwn diofyn, a dylid ymchwilio i hyn ymhellach trwy ymgynghori â gweithwyr proffesiynol GSHP cymwys a phrofiadol addas. Mae rhestr o gwmnïau sy'n cynnig gwasanaethau o'r fath ar wefan GSHPA ac ar gael drwy'r Ffederasiwn Pympiau Gwres.
  • Nodwch barseli tir y gellid eu defnyddio ar gyfer drilio tyllau turio, gan ganiatáu ar gyfer maniffoldau a ffosydd yn arwain yn ôl i’r ystafell beiriannau, croesfannau ffyrdd ac afonydd, neu ardal fwy ar gyfer creu ffosydd ar gyfer dolen lorweddol. Fel arfer, tybir niferoedd a hyd tyllau turio nodweddiadol yn y camau dichonoldeb, gan dybio allbwn o 3 kW i 8 kW fesul twll turio 100 metr (5 kW fel arfer) neu 30-50 W/m o dwll turio, yn dibynnu ar yr haenau ar ddyfnder. Mae tyllau turio dolen gaeedig fel arfer wedi'u gwahanu 5-10 metr oddi wrth ei gilydd a gellir eu trefnu mewn llinellau neu ffurfiannau grid mwy cymhleth i ffitio o fewn y tir sydd ar gael.  
  • Aseswch ansawdd a chyfyngiadau'r ddaear: Ystyriwch a yw amodau'r ddaear yn addas ar gyfer drilio. Gall problemau gynnwys tir meddal neu ansefydlog iawn na all gynnal llwyfannau drilio trwm, priddoedd llawn dŵr, neu halogiad pridd neu ddŵr daear hysbys/a amheuir. Ymgynghorwch â mapiau daeareg ar-lein BGS a haenau data eraill fel GeoIndex. Gellir mapio'r nodweddion/ffactorau hyn a'u troshaenu â chynlluniau adeiladu mewn CAD (Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur) neu GIS (System Gwybodaeth Ddaearyddol) i greu delweddau er mwyn osgoi tir problemus, datblygu atebion peirianneg, ac unrhyw gyfleoedd annisgwyl, megis gwaith mwynglawdd o dan ddŵr, ac yna eu hymgorffori yn y cynlluniau a'r cysyniadau.
  • Nodi ardaloedd neu barthau drilio a ffefrir mor agos â phosibl at ganolfannau gwres wedi'u cynllunio i leihau costau ffosydd a chanolbwyntio trafodaethau cychwynnol a datblygu cysyniadau gyda dylunwyr a pheirianwyr gwasanaeth adeiladu.

Canllaw cyffredinol ar gyfer gofynion tir GSHP

  • Boreholes: Most vertical boreholes should be around 10 metres apart, so for 100 kW of heat, that requires between 13-20 boreholes, require ~1200 m2 of space. 
  • Slinkies: The ~1 metre deep trenches need to be around 2 metres wide and 5 metres apart from centre to centre of the trench. 10 metres of trench provide roughly 1 kW of heat. 
  • Open loop: The extraction well should be located far upstream to the point of reinjection, ideally +100 metres. In some circumstances, the regulator (e.g., NRW) may allow for surface/river injection.

Cam 3: dyluniad dichonoldeb manwl

Mae dichonoldeb manwl yn golygu cynnal arolygon topograffig, ymchwiliadau daear, ac arolygon gwasanaethau wedi’u claddu (fel arfer yn cynnwys radar treiddio i'r ddaear (GPR)), ochr yn ochr â thyllau turio/ffosydd treialu. Yn ddelfrydol, mae'r cam hwn hefyd yn cynnwys profion ymateb thermol (TRT) i ganfod beth yw nodweddion thermol y ddaear yn gywir.

Fel arfer, bydd gan ffynhonnau wedi'u cwblhau orchudd tyllau caead safonol a gallant fod ar yr un lefel a’r ddaear, wedi’u suddo neu wedi’u codi yn ôl yr angen.

Mae defnyddio syniad y fawd ar gyfer amcangyfrif y niferoedd gofynnol o dyllau turio yn iawn ar gyfer achosion busnes cychwynnol a chostau dangosol. Fodd bynnag, ar gyfer prosiectau sy'n gofyn am 10 neu fwy o dyllau turio, dylai dyluniad manwl fod yn seiliedig ar dymheredd y ddaear mesuredig a phriodweddau thermol a geir o TRTs ar y safle. Mae'r profion hyn fel arfer yn cymryd 4-5 diwrnod ac yn costio tua £4,000 i 6,000 yn dibynnu ar y lleoliad a’r math o brawf. Gall TRTs leihau costau drilio 10-20% a chefnogi'r broses o optimeiddio perfformiad system, gan eu gwneud yn fuddsoddiad gwerth chweil. Mae TRTs fel arfer yn cael eu cynnal ar y twll turio cyntaf yn yr arae, ac mae'r wybodaeth hon yn caniatáu i'r dylunydd arae GSHP addasu nifer terfynol y tyllau turio ac optimeiddio dyluniadau’r ffynhonnau ar gyfer yr amodau daearegol lleol. Gellir defnyddio'r data a gasglwyd wedyn i gaffael y gwaith gwirioneddol ac i nodi'r cydrannau a'r gwasanaethau peirianyddol sydd eu hangen.

Mae sawl system GSHP yn gweithredu'n ddiogel ac yn ddibynadwy ledled Cymru, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u gosod yn Senedd Cymru ac yn Ysgol Optometreg Prifysgol Caerdydd. Ymgysylltwch â'r Gwasanaeth Ynni neu BGS i ddysgu mwy. 

Ffynhonnell ddŵr, dewis arall sy'n aml yn cael ei anghofio

Beth am ddefnyddio dŵr wyneb fel ffynhonnell wres? Mae gan Gymru adnoddau afonydd ac arfordirol helaeth, ac mae llawer ohonynt yn cynnig tymereddau ffafriol ar gyfer gweithredu pwmp gwres. Fodd bynnag, bydd trwyddedu'r systemau hyn yn golygu gofynion mwy cymhleth, ac mae'n rhaid i gyfnewidwyr gwres fodloni safonau llym ar gyfer diogelwch, rheoli baeddu, a chynnal a chadw.

Enghraifft nodedig yw gosodiad pwmp gwres o ddŵr (WSHP) yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Afon Menai yng Ngogledd Cymru. Os yw cynllun WSHP yn cael ei ystyried, mae ymgysylltu'n gynnar â CNC a phan fo'n berthnasol, Ystad y Goron yn hanfodol. Gall Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ddarparu cymorth drwy'r broses hon.

Darllen ychwanegol

Mae nifer o ganllawiau a llawlyfrau gwneud cais ar gael gan CIBSE (Sefydliad Siartredig Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu) gydag enghreifftiau go iawn o sut i integreiddio pympiau gwres i mewn i adeiladau sector cyhoeddus mwy o faint[i] ac adeiladau amlbreswyl. Mae'r rhain yn cynnwys:

AM17 (2022) AM17 Heat pump installations for large non-domestic buildings | CIBSE 

AM16 (2021): AM16: Heat pump installations for multi-unit residential buildings | CIBSE

TM51 (2023): TM51: Ground Source Heat Pumps | CIBSE

CP1 (2021): CP1 Heat networks: Code of Practice for the UK (2020) (pdf) | CIBSE 

CP2 (2016): CP2 Surface water source heat pumps: Code of Practice for the UK

CP3 (2019): Code of Practice 3: Open-loop groundwater source heat pumps: Code of Practice for the UK (2019) | CIBSE

Cyhoeddodd MCS nifer o ganllawiau megis rhai ar gyfer drilio tyllau turio

Adroddiadau cyfleoedd gwres dŵr mwynglawdd yng Nghymru Yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio

Yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio

Enghraifft o bwmp gwres o ddŵr morol yng Ngogledd Cymru

Enghraifft o bwmp gwres o’r ddaear yng Ngogledd Cymru

Mae gan Arolwg Daearegol Prydain (BGS) nifer o ffynonellau megis:

BGS Geology map viewer

BGS GeoReports

Adnoddau Cyflenwyr a Diwydiant: Home - HPA UK

Strategaeth Gwres i Gymru

Gwres Carbon Isel yn y Sector Cyhoeddus: Cyflwyniad i Dechnoleg a’r Hyn a Ddysgwyd o’r Prosiect

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am grantiau gweithredol, astudiaethau achos a chyngor perthnasol arall.

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ("WGES") yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda'r nod o ddatblygu prosiectau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy sy'n cyfrannu at ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus a thargedau ynni cenedlaethol. Mae'r WGES yn cael ei gyflawni gan yr Ymddiriedolaeth Garbon, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a Phartneriaethau Lleol (y "Partneriaid Cyflawni"). Mae'r Adroddiad hwn (yr "Adroddiad") wedi'i gynhyrchu gan y Partneriaid Cyflawni ac, er bod y safbwyntiau a fynegir ynddo yn cael eu rhoi’n ddidwyll yn seiliedig ar wybodaeth sydd ar gael ar ddyddiad yr Adroddiad hwn:- (i) nid yw'r safbwyntiau hyn o reidrwydd yn adlewyrchu barn Llywodraeth Cymru, nad yw'n derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddatganiad neu farn a fynegir yn yr Adroddiad; (ii) bwriad yr Adroddiad yw darparu canllawiau cyffredinol yn unig, yn hytrach na chyngor ariannol, cyfreithiol neu dechnegol at ddibenion unrhyw brosiect penodol neu fater arall, ac ni ddylai unrhyw un sy'n derbyn yr Adroddiad ddibynnu arno yn lle cael eu cyngor eu hunain gan gynghorydd trydydd parti priodol; a (iii) dylai unrhyw berson sy'n derbyn yr Adroddiad hwn felly sicrhau ei fod yn cael cyngor ariannol, cyfreithiol, technegol a/neu broffesiynol perthnasol arall ei hun i'r graddau y mae angen canllawiau penodol arno ar ba gamau (os o gwbl) i'w cymryd, neu ymatal rhag eu cymryd, mewn perthynas ag unrhyw brosiect, menter, cynnig, ymwneud ag unrhyw bartneriaeth neu fater arall y gall gwybodaeth a gynhwysir yn yr Adroddiad fod yn berthnasol iddo; a (iv) nid yw'r Partneriaid Cyflawni yn derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â'r Adroddiad, nac am unrhyw ddatganiad yn yr Adroddiad a/neu unrhyw gamgymeriad neu hepgoriad sy'n ymwneud â'r Adroddiad.