Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £15m i ehangu darpariaeth prydau ysgol am ddim i fwy o ddysgwyr ysgolion uwchradd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i ehangu prydau ysgol am ddim i ddysgwyr ysgolion uwchradd mewn aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol drwy ddileu’r trothwy incwm. Ar hyn o bryd, dim ond os yw eu teulu’n derbyn Credyd Cynhwysol ac os yw incwm y cartref yn is na £7,400 y gall dysgwyr ysgolion uwchradd gael prydau ysgol am ddim, heb gynnwys budd-daliadau.

Mae'r cyllid ychwanegol yn rhan o gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, 2026 i 2027, gyda chynlluniau i ddechrau gweithredu’r polisi o fis Medi ymlaen.

Bydd y cymorth ariannol yn cael ei rannu'n £10m o gyllid cyfalaf i fuddsoddi mewn ceginau ac ardaloedd bwyta ysgolion, a £5m o gyllid refeniw i weithredu'r cynllun, gan ehangu’r cyllid presennol ar gyfer darpariaeth prydau ysgol am ddim.

Bwriedir i rieni plant Blynyddoedd 7 ac 8 allu gwneud cais am y cynllun newydd o fis Medi, a fydd yn cefnogi myfyrwyr ysgolion uwchradd mewn aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, beth bynnag yw incwm eu cartref.

Fel rhan o'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru rhwng 2021 a 2024, ehangodd Llywodraeth Cymru brydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgol gynradd yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan: 

Mae'r cyllid hwn yn nodi'r cam cyntaf yn ein hymrwymiad i estyn prydau ysgol am ddim i fwy o ddysgwyr ysgolion uwchradd, gan sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y teuluoedd sydd ei angen fwyaf. Drwy ddechrau buddsoddi, rydyn ni'n gosod y sylfeini ar gyfer ehangu teg a chynaliadwy a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau bob dydd disgyblion.

Mae’r gwaith hwn yn ymwneud â dileu rhwystrau i ddysgu a gwella lles. Gwyddom fod bwyd maethlon yn gwella canolbwyntio, cyrhaeddiad ac iechyd cyffredinol. Gan adeiladu ar lwyddiant prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, byddwn ni’n sicrhau bod y rhai sydd ei angen fwyaf yn parhau i gael y cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu.

Rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid ar gynlluniau i gyflawni hyn yn effeithiol ac yn gyflym, gan sicrhau’r budd mwyaf posibl o bob punt i bobl Cymru. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.

Dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth: 

Mae ehangu’r hawl i gael prydau ysgol am ddim i fwy o deuluoedd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn gam pwysig yn ein hymdrechion ehangach i fynd i’r afael â thlodi plant a lleihau anghydraddoldebau ledled Cymru.  

Mae dechrau’r gwaith hwn yn rhan allweddol o’n Cynllun Can Diwrnod a thu hwnt – gan gymryd camau ymarferol i roi arian yn ôl ym mhocedi teuluoedd a sicrhau bod pob person ifanc yn cael cyfle i lwyddo, waeth beth fo’u cefndir.