Mae Gweinidog newydd Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ynni wedi dweud bod Cymru ar agor i fusnes o ran gwynt ar y môr a'i botensial i fod yn gatalydd ar gyfer twf economaidd a ffyniant.
Dywedodd Adam Price, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, hefyd fod Llywodraeth newydd Cymru yn awyddus i ddatblygu perthynas agored a chydweithredol gyda'r sector gwynt ar y môr a phartneriaid allweddol eraill fel Llywodraeth y DU ac Ystâd y Goron.
Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod Cymru'n cyflawni ei chenhadaeth economaidd newydd i haneru’r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a'r DU o fewn 10 mlynedd.
Wrth siarad yng nghynhadledd Global Offshore Wind 2026, a gynhaliwyd gan RenewableUK mewn partneriaeth â'r Cyngor Ynni Gwynt Byd-eang, dywedodd y Gweinidog:
"Rwy'n credu fod y potensial gan y sector gwynt ar y môr i ddarparu cyfleoedd gyrfa cynaliadwy o ansawdd uchel i bobl yng Nghymru, sy'n cyd-fynd yn uniongyrchol â'n cenhadaeth o ran cynhyrchiant a chadw gwerth i Gymru.
"Mae rôl allweddol gan y sector gwynt ar y môr i'w chwarae wrth adfywio cymunedau arfordirol yng ngogledd a de Cymru.
"Ein rôl yw cael gwared ar y rhwystrau sy'n wynebu'r sector - boed hynny wrth gynllunio, sicrhau mynediad at gyllid neu seilwaith. Byddwn yn canolbwyntio ar wneud pethau yn gyflym a gweithio ar y cyd â'r sefydliadau perthnasol i wneud i bethau ddigwydd."
Ar hyn o bryd mae gan Gymru dair fferm wynt ar y môr sy'n cynhyrchu 726MW o drydan, gyda'r Gweinidog heddiw yn cynnal y cyntaf mewn cyfres o gyfarfodydd bord gron, a fydd yn bwydo i'r Strategaeth Ynni Genedlaethol. Bydd cyfarfodydd bord gron pellach yn ymdrin â thechnolegau adnewyddadwy ar y tir ac ar y môr.
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Mae Porthladd Mostyn yn un o lwyddiannau mwyaf sector gwynt ar y môr yng Nghymru gyda phrofiad ar raddfa fasnachol. Mae wedi cyfrannu at adeiladu saith prosiect gwynt ar y môr â gwaelod sefydlog ac wedi creu 240 o swyddi medrus iawn i Gymru.
"Rydym hefyd yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU o hyd at £64 miliwn i gefnogi datblygiad Port Talbot fel y porthladd cyntaf yn y Môr Celtaidd i ddarparu gwynt arnofiol ar y môr.
"Bydd gweithio mewn partneriaeth agos â Llywodraeth y DU, Ystâd y Goron, NESO a Great British Energy yn hanfodol i ddatgloi'r rhwystrau i fuddsoddi a darparu amodau'r farchnad er mwyn i hyn weithio i Gymru a'r DU ehangach."
Dywedodd Jessica Hooper, cyfarwyddwr RenewableUK Cymru:
"Gwynt ar y môr yw cyfle diwydiannol mawr nesaf Cymru – o borthladdoedd a llinellau cynhyrchu, yn pweru ton newydd o ddiwydiant Cymreig a allai fod werth bron i £5 biliwn i fusnesau Cymru dros y degawd nesaf, a chreu mwy na 3,000 o swyddi diogel, hirdymor.
“Mae llywodraeth newydd Plaid Cymru wedi’i gwneud yn glir fod ynni adnewyddadwy yn ganolog i adnewyddiad economaidd ac annibyniaeth ynni Cymru. Er mwyn datgloi’r cyfle hwn i’r graddau y mae Cymru’n ei haeddu, mae angen gweithredu’n benderfynol ac yn gydlynol, buddsoddi mewn seilwaith hanfodol, llwybrau cynllunio cyflym, ac amgylchedd busnes sy’n rhoi’r hyder i fusnesau Cymru dyfu, gan sefydlu swyddi a gwaddol ddiwydiannol hirdymor mewn cymunedau.
“Edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth â llywodraeth newydd Cymru, a sicrhau’r amodau cywir fel y gall Cymru fanteisio ar ei chryfderau – a chwarae rhan arweiniol ym mhennod gyffrous nesaf datblygiad gwynt ar y môr.”
