Mark Hooper AS, Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth
Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd bellach wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol (Saesneg yn unig) ar y gwrthdrawiad rhwng dau drên i deithwyr ger Talerddig ar 21 Hydref 2024.
Mae fy meddyliau gyda theulu David Tudor Evans, a gollodd ei fywyd, yn ogystal â'r teithwyr a anafwyd a staff y rheilffordd yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad.
Hoffwn ddiolch i'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd am eu diwydrwydd a'u hymroddiad wrth gynnal eu hymchwiliad manwl a thrwyadl i'r digwyddiad hwn.
Mae'r adroddiad yn nodi naw argymhelliad clir ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd, gan gynnwys ar gyfer Trafnidiaeth Cymru a Network Rail. Rwy'n disgwyl i'r diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru ystyried yr argymhellion yn ofalus, ystyried yr adroddiad ei hun yn fanwl, a chydweithio i gymryd y camau angenrheidiol i helpu i atal unrhyw ddigwyddiad tebyg rhag digwydd yn y dyfodol. Rwyf wedi gofyn i'r diwydiant rheilffyrdd fy hysbysu am y camau maen nhw'n eu cymryd i sicrhau mai diogelwch teithwyr a staff y rheilffordd yw'r flaenoriaeth uchaf bob amser.
Mae digwyddiadau fel hyn yn brin iawn ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Mae'n bwysig ein bod yn cymryd amser i ystyried yr effaith y mae'r digwyddiad hwn wedi'i chael ar deulu David Tudor Evans ac ar y teithwyr a staff y rheilffordd oedd ar y ddau drên dan sylw.
