Datganiad ar ystadegau'r Farchnad Lafur ar gyfer Mehefin 2026
Dywedodd Llywodraeth Cymru:
Fel Llywodraeth newydd rydym wedi ymrwymo i ysgogi buddsoddiad, arloesedd a chynhyrchiant uwch ledled Cymru.
"Rydyn ni wedi cyhoeddi Nod Cynhyrchiant Cenedlaethol i gau'r bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU, a helpu i ryddhau potensial llawn economi Cymru.
"Drwy ganolbwyntio ar gynhyrchiant, byddwn ni'n sicrhau mwy o swyddi, cyflogau uwch, busnesau cryfach a chymunedau ffyniannus.
"Bydd y nod hwn yn rhoi cyfeiriad i'n hasiantaeth arloesi a datblygu newydd yng Nghymru, gan lunio'r ffordd rydyn ni'n cefnogi busnesau, datblygu sgiliau a buddsoddi yn sylfeini economi gryfach a mwy cystadleuol yng Nghymru.
"Mae tystiolaeth o ystod o ffynonellau yn awgrymu bod y farchnad lafur yng Nghymru yn dilyn tuedd debyg i'r DU gyfan.
"Yng nghanol ymyriadau parhaus gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i gynyddu ansawdd data'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS), rydym yn parhau i argymell defnyddio data'r LFS ochr yn ochr â'r tueddiadau mewn mesurau eraill o'r farchnad lafur i gael darlun cliriach o farchnad lafur Cymru.
"Mae ffigurau diweddaraf yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl 16 oed a throsodd yng Nghymru yn 4.5% o'i gymharu â chyfradd y DU o 4.4%. Mae hefyd yn dangos bod cyfradd cyflogaeth Cymru yn gymharol agos at yr uchaf erioed.
"Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price, yn awyddus i gwrdd â'r SYG i drafod dibynadwyedd data'r Farchnad Lafur ar gyfer Cymru."
