Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y cyllid sylweddol o gyllideb atodol Llywodraeth Cymru yn allweddol wrth fynd i'r afael â rhestrau aros ac amseroedd aros y GIG.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • £100 miliwn i helpu i leihau rhestrau aros ac amseroedd aros y GIG. £25 miliwn ar gyfer canolfannau llawfeddygol a diagnostig newydd. £20 miliwn ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol ar draws ystad y GIG.
  • mae ffigurau newydd yn dangos bod y rhestrau aros a'r amseroedd aros wedi cynyddu ym mis Ebrill, cyn i Lywodraeth newydd Cymru gael ei rhoi ar waith. Dywed y Gweinidog Iechyd bod cynlluniau i gyflawni gostyngiadau parhaol.
  • mae angen newid y ffordd mae'r GIG yn gweithio - gwneud yn siŵr bod cleifion yn symud drwy'r system yn fwy llyfn, o'u hatgyfeiriad cyntaf yr holl ffordd i'w triniaeth.

Bydd y cyllid sylweddol o gyllideb atodol Llywodraeth Cymru yn allweddol wrth fynd i'r afael â rhestrau aros ac amseroedd aros y GIG, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor.

Bydd £100 miliwn  yn cefnogi'r GIG i leihau'r rhestrau aros a'r amseroedd aros, ac mae £25 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn canolfannau llawfeddygol a diagnostig newydd. Mae £20 miliwn arall yn cael ei fuddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw hanfodol ar draws ystad y GIG.

Mae ystadegau diweddaraf y GIG a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod y rhestrau aros am driniaeth y GIG a'r amseroedd aros hiraf wedi cynyddu ym mis Ebrill, cyn i Lywodraeth newydd Cymru ddod i rym.

Roedd ychydig dros 680,000 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth ym mis Ebrill, ac roedd ychydig yn llai na 3,700 o lwybrau yn aros mwy na 2 flynedd. Roedd 12,900 o lwybrau cleifion yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf.

Yr amser cyfartalog yr oedd cleifion wedi bod yn aros am driniaeth ddiwedd mis Ebrill oedd ychydig o dan 15 wythnos, sef y ffigur isaf ers mis Mawrth 2020.

Cyrhaeddwyd y targed o ran amseroedd ymateb ambiwlansys ar gyfer y categori porffor, pobl sy'n profi ataliad y galon neu ataliad anadlol ac sydd angen ambiwlans ar unwaith, ond gostyngodd perfformiad mewn adrannau achosion brys.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor:

Mae'r ystadegau heddiw yn dangos unwaith eto bod gormod o bobl yn aros yn rhy hir am driniaeth. Dw i hefyd yn siomedig nad ydy perfformiad gofal argyfwng eto ar y safon y mae cleifion a staff yn ei disgwyl yn briodol, ac rydyn ni'n glir bod angen i fyrddau iechyd a phartneriaid sicrhau gwelliannau yn gynt.

Mae ein ffocws yn glir - lleihau amseroedd aros, rhoi blaenoriaeth i'r rhai sydd wedi bod yn aros hiraf, gwella mynediad at wasanaethau, ac adeiladu Gwasanaeth Iechyd sy'n gallu cadw i fyny â'r galw yn y tymor hir.

Roedd cyllid Llywodraeth flaenorol Cymru ar gyfer rhestrau aros wedi'i gyfyngu o ran amser hyd at fis Mawrth. Roedd e'n cael ei ddefnyddio i brynu gweithgarwch ychwanegol ac allanol, yn hytrach na'i fuddsoddi yn y gwaith o gryfhau'r capasiti hirdymor sydd ei angen ar gyfer gofal wedi'i gynllunio. Er mwyn lleihau amseroedd aros a'u cadw i lawr, mae angen i ni newid y ffordd mae'r Gwasanaeth Iechyd yn gweithio. Mae hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr bod cleifion yn symud drwy'r system yn fwy llyfn, o'u hatgyfeiriad cyntaf yr holl ffordd i'w triniaeth.

Mae gennym gynllun i wneud hyn, sy'n cynnwys gweithio gyda staff gwych y Gwasanaeth Iechyd ledled Cymru. Mi fydd y £145 miliwn rydyn ni'n ei gyhoeddi heddiw yn bwysig wrth fynd i'r afael â'r rhestrau aros a'r amseroedd aros, a helpu pobl i gael eu gweld yn gynt.