Neidio i'r prif gynnwy

Llyr Gruffydd AS, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o gyhoeddi lansiad yr ymgynghoriad ar y Datganiad Egwyddorion Amgylcheddol ac Integreiddio Diogelu'r Amgylchedd drafft heddiw. 

Mae'r Datganiad yn ofyniad yn Neddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026 ("Deddf Llywodraethu'r Amgylchedd") a dderbyniodd y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ebrill 2026. Croesewais y cyfle i graffu ar y Ddeddf fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith. 

Diolchaf i'r Aelodau a'r rhanddeiliaid a rannodd eu barn yn ystod y broses o basio Deddf Llywodraethu'r Amgylchedd, gan helpu i lywio'r Datganiad Egwyddorion Amgylcheddol ac Integreiddio Diogelu'r Amgylchedd drafft. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i ymgysylltu a chydweithio yn ystod y broses ymgynghori. 

Mae Rhan 1 o Ddeddf Llywodraethu'r Amgylchedd yn nodi amcan amgylcheddol ac egwyddorion amgylcheddol. Bwriad y dyletswyddau hyn yw helpu i sicrhau bod diogelu'r amgylchedd, a'r angen i wella'r amgylchedd, wrth wraidd gwaith llunio polisïau ac asesu amgylcheddol strategol yng Nghymru. Bydd hyn yn cefnogi ein huchelgais ar gyfer sero net erbyn 2040 ac adfer natur yn sylweddol erbyn 2050. 

Bydd y Datganiad yn offeryn hanfodol i'r rhai sy'n llunio polisïau ac yn gwneud penderfyniadau yng Nghymru, gan wneud egwyddorion amgylcheddol a gydnabyddir yn rhyngwladol yn ganolog i waith diogelu a gwella'r amgylchedd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys yr egwyddor o atal, yr egwyddor ragofalus, yr egwyddor o gywiro yn y ffynhonnell, a'r egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu. 

Mae Deddf Llywodraethu'r Amgylchedd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth lunio polisi, a rhai awdurdodau cyhoeddus eraill, wrth gynnal asesiad amgylcheddol strategol, gymhwyso'r pedair egwyddor amgylcheddol ac integreiddio diogelu'r amgylchedd yn eu gwaith. 

Rwy'n annog ymatebion i'r ymgynghoriad.  Bydd yr adborth a geir yn helpu i lunio'r Datganiad terfynol a sut y caiff y dyletswyddau pwysig hyn eu rhoi ar waith.