Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfu Gweinidog newydd Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ynni â myfyrwyr o ogledd Cymru mewn cynhadledd fawr gwynt ar y môr ym Manceinion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bu Adam Price, Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, yn gwrando ar ddisgyblion Ysgol Maes Garmon wrth iddynt drafod eu profiad yn nigwyddiad Global Offshore Wind 2026.

Gweithiodd Llywodraeth Cymru gyda RenewableUK – a gynhaliodd y gynhadledd mewn partneriaeth â'r Cyngor Ynni Gwynt Byd-eang – er mwyn i'r myfyrwyr o Sir y Fflint fynychu'r gynhadledd.

Trefnwyd yr ymweliad i helpu myfyrwyr Blwyddyn 12 i ddeall sbectrwm y cyfleoedd gwynt ar y môr, gan gynnwys y rhai sy'n agos atynt yn yr Wyddgrug. Mwynhaodd y disgyblion ddiwrnod llawn o weithgareddau gan gynnwys ymweliad â stondin Llywodraeth Cymru lle bu'r disgyblion yn siarad ag arddangoswyr.

Wrth annerch y gynhadledd, dywedodd y Gweinidog:

Rwy'n credu fod potensial gan y sector gwynt ar y môr i ddarparu cyfleoedd ar gyfer gyrfa gynaliadwy o ansawdd uchel i bobl yng Nghymru, sy'n cyd-fynd yn uniongyrchol â'n cenhadaeth o ran cynhyrchiant a chadw gwerth i Gymru.

Mewn ychydig flynyddoedd gobeithio y gallai'r myfyrwyr hyn fod ymhlith y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant newydd cyffrous hwn.

Mae gan y sector gwynt ar y môr rôl allweddol i'w chwarae wrth adfywio cymunedau arfordirol yng ngogledd a de Cymru.

Ein rôl yw cael gwared ar y rhwystrau sy'n wynebu'r sector - boed hynny wrth gynllunio, sicrhau mynediad at gyllid neu seilwaith. Byddwn yn canolbwyntio ar wneud pethau yn gyflym a gweithio ar y cyd â'r sefydliadau perthnasol i wneud i bethau ddigwydd.

Dywedodd Bronwen Hughes, Pennaeth Ysgol Maes Garmon:

Roedd staff a disgyblion Ysgol Maes Garmon wedi cael eu hysbrydoli gan y digwyddiad. Mae’r ystod eang o gyflwyniadau a’r cyfleoedd i drafod â chyflogwyr wedi helpu ein disgyblion i ddeall pwysigrwydd datblygiadau yn y sector hwn a’r llwybrau at gyflogaeth sydd ar gael iddynt yn y dyfodol.

Rwy’n falch iawn bod ein disgyblion wedi gallu bod yn bresennol. Dychwelodd yr holl staff a dysgwyr i’r ysgol ar ôl cael diwrnod buddiol iawn.