Anna Brychan AS, Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg
Heddiw rwy'n cyhoeddi £15m ychwanegol i ddechrau galluogi mwy o ddisgyblion uwchradd mewn ysgolion a gynhelir i dderbyn prydau ysgol am ddim.
Ar hyn o bryd, dim ond os yw eu teulu'n derbyn Credyd Cynhwysol a bod eu hincwm net blynyddol yn llai na £7,400, heb gynnwys budd-daliadau, y gall dysgwyr ysgol uwchradd dderbyn prydau ysgol am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ehangu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgol uwchradd mewn aelwydydd sy'n derbyn Credyd Cynhwysol trwy ddileu'r terfyn incwm.
Bydd y cyllid yn cael ei rannu'n £10m o gyllid cyfalaf, i fuddsoddi mewn ceginau ysgol ac ardaloedd bwyta, a £5m o gyllid refeniw ar gyfer cyflwyno'r cynllun, gan ehangu'r cyllid presennol ar gyfer darpariaeth prydau ysgol am ddim. Mae'n rhan o gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 ac mae'n nodi'r cam cyntaf yn ein hymrwymiad i ymestyn prydau ysgol am ddim i fwy o ddisgyblion uwchradd, gan sicrhau bod cymorth yn cyrraedd teuluoedd sydd ei angen fwyaf. Trwy ddechrau buddsoddi, rydym yn gosod y sylfaen ar gyfer ehangiad teg a chynaliadwy o brydau ysgol am ddim a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau beunyddiol disgyblion.
Bwriedir i rieni plant Blynyddoedd 7 ac 8 allu gwneud cais am y cynllun newydd o fis Medi, a fydd yn cefnogi myfyrwyr ysgolion uwchradd mewn aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, beth bynnag yw incwm eu cartref.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar gynlluniau i gyflawni hyn yn effeithiol ac yn ddi-oed gan sicrhau bod pob punt yn darparu'r budd mwyaf posibl i bobl Cymru. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.
