Rheoliadau Drafft Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Apelau ac Ad-dalu Costau) (Cymru) a chanllawiau cysylltiedig ar gyfer y Person Penodedig
Hoffem gael eich barn ar Reoliadau Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Apelau ac Ad-dalu Treuliau) (Cymru) drafft, sy'n nodi'r weithdrefn ar gyfer penderfynu apeliadau a cheisiadau, a'r canllawiau cysylltiedig.
Ar y dudalen hon
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2026
Camau gweithredu gofynnol: Ymatebion erbyn 14 Medi 2026
Trosolwg
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar Reoliadau Drafft Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Apelau ac Ad-dalu Costau) (Cymru) (y “Rheoliadau Drafft”) sy’n nodi’r gweithdrefnau ar gyfer penderfynu ar geisiadau a wneir o dan adrannau 38 a 43 o Ddeddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 (y “Ddeddf”) ac ar y canllawiau drafft ar gyfer y person a benodir gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar y ceisiadau hynny (y “Person Penodedig”). Mae'r ymgynghoriad yn ymdrin â sut y gellir cyflwyno ceisiadau a phenderfynu arnynt. Mae'r sail dros wneud cais wedi'i nodi yn y Ddeddf. Mae Gorchmynion Cyfrannu, apelau yn erbyn archiadau am gostau neu anghydfodau mewn perthynas â digollediad o dan y Ddeddf yn faterion i'r Llys ac nid ydynt yn rhan o'r ymgynghoriad hwn. Mae'r Rheoliadau Drafft yn berthnasol i Gymru yn unig.
Cyfnod ymgynghori
Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer y Bil a ddaeth yn Ddeddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 drwy'r Papur Gwyn Fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru yn 2022. Derbyniodd yr ymgynghoriad hwnnw 44 o ymatebion gan unigolion, sefydliadau, awdurdodau lleol, a chyrff proffesiynol, a phrofwyd y fframwaith polisi ymhellach drwy ymgysylltu’n barhaus â rhanddeiliaid a gwaith craffu gan y Senedd yn ystod datblygiad y Bil. Mae'r Ddeddf yn adlewyrchu'r cynigion hynny'n fras.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn dechnegol ei natur. Mae'n canolbwyntio ar y Rheoliadau Drafft a'r Canllawiau Drafft sy'n nodi'r gweithdrefnau y mae'n rhaid i'r Person Penodedig eu dilyn wrth benderfynu ar geisiadau o dan adrannau 38 a 43 o'r Ddeddf.
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn para am 12 wythnos. Mae'r dull hwn yn cefnogi proses weithredu amserol, gan alluogi'r fframwaith apelau i fod yn weithredol erbyn 1 Ebrill 2027, ac yn rhoi cyfle rhesymol i gael ymatebion gwybodus i'r ymgynghoriad yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru ac Egwyddorion Gunning.
Sut i ymateb
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau am faterion y byddem yn gwerthfawrogi cael eich barn arnynt. Ceir rhestr lawn o'r cwestiynau yn Atodiad A. Fodd bynnag, gallwch roi adborth ar unrhyw agwedd ar y Rheoliadau Drafft a'r Canllawiau Drafft.
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 14 Medi 2026 a gallwch ymateb gan ddefnyddio unrhyw un o'r dulliau canlynol:
E-bost: Cwblhewch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad a'i hanfon i:
DisusedTipsConsultations@gov.wales
YmgyngoriadauTommeniNasDefnyddir@llyw.cymru
Dylech gynnwys ‘Rheoliadau Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Apelau ac Ad-dalu Costau) (Cymru) 2027–WG53579’ yn y llinell destun.
Post: Cwblhewch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad a'i hanfon i:
Ymgynghoriad ar Reoliadau Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Apelau ac Ad-dalu Costau) (Cymru) 2027
Yr Is-Adran Gwaddol Mwyngloddio, Dŵr a Llifogydd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Wrth ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu a ydych yn cynrychioli barn sefydliad. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad mwy, nodwch yn glir pwy mae'r sefydliad yn ei gynrychioli ac, os yw'n berthnasol, sut y casglwyd y safbwyntiau.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Mae fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill ar gael ar gais.
Mae’r ddogfen yma hefyd ar gael yn Saesneg
Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth:
Yr Is-Adran Gwaddol Mwyngloddio, Dŵr a Llifogydd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: YmgyngoriadauTommeniNasDefnyddir@llyw.cymru
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw, neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl hefyd y bydd hyn yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiadau pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni chaiff eich enw na'ch manylion cyswllt eu cynnwys. Os hoffech i'ch enw neu fanylion eraill gael ei gyhoeddi/eu cyhoeddi ochr yn ochr â'ch ymateb, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb ac y byddwn yn eu cynnwys.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gallai Llywodraeth Cymru fod o dan ymrwymiad cyfreithiol i ddatgelu rhywfaint o wybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hynny a gyhoeddir yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata eraill sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- gwrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu (o dan amgylchiadau penodol)
- gofyn i'ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk
Rhagair gan y Gweinidog
Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r ymgynghoriad hwn ar y Rheoliadau Drafft a'r Canllawiau Drafft, sy'n ymwneud â phenderfynu ar geisiadau penodol a wneir o dan y Ddeddf, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 11 Medi 2025. Mae'r Rheoliadau Drafft yn gam nesaf pwysig wrth ddatblygu'r fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer sicrhau diogelwch tomenni glo a thomenni nad ydynt yn domenni glo nas defnyddir.
Mae gan Gymru dreftadaeth fwyngloddio falch. Am genedlaethau, roedd ein cymunedau wedi pweru'r chwyldro diwydiannol a llunio'r byd modern. Ond mae'r gwaddol hwn wedi gadael miloedd o domenni nas defnyddir ar ôl, y mae rhai ohonynt yn peri bygythiad i ddiogelwch y cyhoedd, yn enwedig yn wyneb newid hinsawdd a phatrymau tywydd cynyddol anwadal.
Mae'r Ddeddf yn foment nodedig yn ein hymdrechion i amddiffyn cymunedau sydd wedi'u lleoli gerllaw tomenni nas defnyddir. Mae'n cyflawni ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gwaddol mwyngloddio a sicrhau diogelwch tomenni glo. Mae'r ddeddfwriaeth yn sefydlu Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru, corff cyhoeddus newydd sydd â phwerau i asesu, cofrestru, monitro a rheoli tomenni nas defnyddir fel nad ydynt yn peri bygythiad i les pobl.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar y broses apelio a nodir yn y Rheoliadau Drafft a'r Canllawiau Drafft. Mae'r broses hon yn fesur diogelu hanfodol i sicrhau tegwch a thryloywder mewn perthynas â phenderfynu ar geisiadau o dan adrannau 38 a 43 o'r Ddeddf. Rydym am glywed eich barn ar sut rydym wedi nodi'r trefniadau hyn yn y Rheoliadau Drafft a'r Canllawiau Drafft.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cael gwybod a yw'r gweithdrefnau arfaethedig yn cynnig eglurder, yn amddiffyn hawliau, ac yn adlewyrchu arfer gorau. Rydym am i'r Rheoliadau Drafft daro'r cydbwysedd cywir rhwng effeithlonrwydd a thegwch, gan sicrhau hygyrchedd i bawb dan sylw. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddylunio cyfundrefn sy'n glir, yn gymesur ac yn hygyrch i bawb yr effeithir arnynt.
Rwy'n eich annog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn a helpu i lunio'r broses apelio fel ei bod yn gweithio'n effeithiol.
Diolch am eich ymgysylltiad a'ch cymorth parhaus.
Llyr Gruffydd
Y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Llywodraeth Cymru
Crynodeb
Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer cyfundrefn reoleiddio newydd ar gyfer tomenni glo a thomenni nad ydynt yn domenni glo nas defnyddir yng Nghymru, gan ddarparu dull cyson o arolygu, asesu, cofrestru, monitro, cynnal a chadw a goruchwylio tomenni nas defnyddir. Mae'n dileu swyddogaethau a roddwyd ar awdurdodau lleol yng Nghymru gan Ddeddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969 (“Deddf 1969”) i sicrhau nad yw tomenni nas defnyddir yn peri perygl i aelodau’r cyhoedd. Mae hyn, i bob pwrpas, yn datgymhwyso Rhan 2 o Ddeddf 1969 i raddau helaeth mewn perthynas â Chymru.
Mae'r Ddeddf yn sefydlu corff newydd i oruchwylio a gweithredu'r gyfundrefn, sef Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru (yr “Awdurdod”), y mae'n rhaid iddo arfer ei swyddogaethau gyda'r bwriad o sicrhau nad yw tomenni nas defnyddir yn bygwth lles pobl oherwydd eu hansefydlogrwydd. Mae'r Ddeddf yn rhoi'r pŵer i'r Awdurdod ei gwneud yn ofynnol i berchennog tir gynnal gweithrediadau a'r pŵer i gynnal gweithrediadau ar dir ei hun er mwyn atal bygythiadau i sefydlogrwydd tomen nas defnyddir neu ymdrin â'r bygythiadau hynny, neu sefydlogi tomen nas defnyddir neu atal tomen nas defnyddir rhag mynd yn fwy ansefydlog, er mwyn osgoi neu leihau bygythiadau i les pobl. Mae hefyd yn gwneud darpariaethau at ddibenion cysylltiedig.
Wrth greu'r Awdurdod, bydd yn bwysig sicrhau bod rhwystrau a gwrthbwysau annibynnol yn cael hymgorffori yn y gyfundrefn i sicrhau tegwch a chydraddoldeb. Unwaith y bydd yr Awdurdod wedi'i sefydlu, disgwylir iddo feithrin perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol, ac yn benodol, â pherchnogion tomenni nas defnyddir. Bydd ffocws ar feithrin perthnasoedd yn helpu i leihau'r angen am apelau a hysbysiadau. Yn y rhan fwyaf o achosion, gall materion sy'n achosi dadl neu anghytundeb gael eu datrys drwy waith ymgysylltu a thrafod rhwng yr Awdurdod, perchnogion y tomenni a phersonau â buddiant. Fodd bynnag, efallai na fydd cytundeb a phenderfyniad sy'n dderbyniol i bob ochr yn bosibl ym mhob achos, felly, mae'r Ddeddf yn rhoi hawliau i berchnogion a phartïon â buddiant apelio yn erbyn hysbysiad adran 35 ac i berchnogion wneud cais am ad-daliad treuliau pan gaiff hysbysiad adran 35 ei ganslo. Mae'r Ddeddf yn gosod gofyniad ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau am y weithdrefn i'w dilyn wrth benderfynu ar y canlynol:
- apelau sy'n ymwneud â hysbysiadau adran 35, lle mae perchnogion tir neu bartïon â buddiant yn gwneud cais i amrywio neu ganslo hysbysiad a roddwyd gan yr Awdurdod,
- ceisiadau o dan adran 43, lle mae perchnogion tir yn gwneud cais i gael ad-daliad treuliau ar ôl i hysbysiad adran 35 gael ei ganslo.
Cyd-destun cyfreithiol
O dan adran 35 o'r Ddeddf, caiff yr Awdurdod roi hysbysiad i berchennog tir yn ei gwneud yn ofynnol iddo gynnal gweithrediadau sy'n angenrheidiol yn ei farn ef i atal bygythiadau i sefydlogrwydd tomen nas defnyddir neu ymdrin â'r bygythiadau hynny, neu i sefydlogi tomen nas defnyddir neu atal tomen nas defnyddir rhag mynd yn fwy ansefydlog, er mwyn osgoi neu leihau bygythiadau i les pobl. Mae Adran 38 yn galluogi perchnogion a rhai partïon â buddiant i wneud cais i Weinidogion Cymru i amrywio neu ganslo hysbysiad adran 35. Mae Adran 43 yn galluogi perchennog, ar ôl i hysbysiad adran 35 gael ei ganslo, i wneud cais i Weinidogion Cymru am ad-daliad ar gyfer treuliau yr aed iddynt o ganlyniad i'r hysbysiad. Mae'r Rheoliadau Drafft yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer penderfynu ar y ceisiadau hyn, ac mae'r Canllawiau Drafft yn cefnogi ymarfer cyson gan y person a benodir i benderfynu ar y ceisiadau.
Diben yr ymgynghoriad
Rheoliadau Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Apelau ac Ad-dalu Costau) (Cymru) (y “Rheoliadau Drafft”)
Mae'r Rheoliadau Drafft a'r Canllawiau Drafft yn nodi proses deg, gymesur a thryloyw ar gyfer penderfyniadau sy'n ymwneud ag apelau yn erbyn hysbysiadau adran 35 a cheisiadau am ad-daliad treuliau lle mae'r Awdurdod yn canslo hysbysiad adran 35.
Nod Llywodraeth Cymru yw:
- casglu barn ar y Rheoliadau Drafft a'r Canllawiau Drafft ar gyfer y person a benodir gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar geisiadau o dan adrannau 38 a 43;
- profi a yw'r gweithdrefnau arfaethedig yn cefnogi prosesau gwneud penderfyniadau cyson sy'n trin pob parti yn deg;
- nodi unrhyw effeithiau neu ganlyniadau anfwriadol, heriau gweithredu neu fylchau lle mae angen eglurder pellach.
Canllawiau Drafft ar gyfer y Person Penodedig
Ochr yn ochr â'r Rheoliadau Drafft, rydym yn ymgynghori ar Ganllawiau Drafft i’r person a benodir i benderfynu ar geisiadau o dan adrannau 38 a 43. Mae canllawiau o'r fath yn ofynnol o dan adran 74(4) o'r Ddeddf. Mae'r Canllawiau Drafft yn egluro, yn ymarferol, sut y dylid cymhwyso'r gweithdrefnau yn y Rheoliadau Drafft wrth benderfynu ar geisiadau o dan adrannau 38 a 43, er enghraifft, pennu disgwyliadau ar gyfer rheoli achosion, cyfathrebu â phartïon, trin sylwadaethau ysgrifenedig, gwrandawiadau ac ymchwiliadau. Rydym yn croesawu barn ar eglurder, defnyddioldeb a hyfywedd gweithredol y Canllawiau Drafft (gan gynnwys lle byddai enghreifftiau neu ddiffiniadau pellach yn ddefnyddiol). Defnyddir adborth i fireinio'r canllawiau terfynol, fel eu bod yn cefnogi penderfyniadau cyson, tryloyw a chymesur, gan ategu (ond heb newid) y gweithdrefnau a nodir yn y Rheoliadau Drafft.
Penderfynu ar apelau
Mae'r Ddeddf yn nodi bod ceisiadau o dan adrannau 38 a 43 i'w penderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru (y cyfeirir ato yma ac yn y Rheoliadau Drafft fel y Person Penodedig). Nid yw'r Ddeddf yn rhagnodi pwy ddylai gyflawni rôl y Person Penodedig. Mae'r hyblygrwydd hwn yn fwriadol. Er y disgwylir y bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) yn gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru i reoli'r broses a phenderfynu ar geisiadau yn y rhan fwyaf o achosion, gall Gweinidogion Cymru benodi person arall i benderfynu ar geisiadau.
Un o Asiantaethau Llywodraeth Cymru yw Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW). Prif waith y corff yw prosesu apelau cynllunio a gorfodi a chynnal ymchwiliadau i gynlluniau datblygu lleol. Mae hefyd yn delio ag amrywiaeth eang o waith achos arall sy'n ymwneud ag apelau gan gynnwys apelau Amgylcheddol a Gorchmynion Hawliau Tramwy.
Strwythur y Rheoliadau Drafft
Mae'r Rheoliadau Drafft yn fanwl ac yn dechnegol. Er mwyn helpu ymgyngoreion i fynd drwy'r ddogfen a sicrhau ffocws i'w hadborth, rydym wedi rhoi crynodeb lefel uchel o bob Rhan isod.
Mae'r trosolwg hwn yn egluro diben a chwmpas pob Rhan heb atgynhyrchu'r testun cyfreithiol llawn, gan ei gwneud hi'n haws ichi ddeall sut mae'r Rheoliadau Drafft wedi'u trefnu a ble y bydd eich sylwadau fwyaf perthnasol. Rydym yn eich annog i ddarllen y Rheoliadau Drafft a’r Canllawiau Drafft yn llawn ochr yn ochr â'r crynodeb hwn er mwyn sicrhau eich bod yn gwbl wybodus wrth roi eich adborth.
Mae'r Rheoliadau Drafft wedi'u rhannu'n bedair Rhan. Isod mae crynodeb o'r hyn y mae pob Rhan yn ei gynnwys. Mae'r Canllawiau Drafft yn egluro sut y dylid gweithredu'r Rheoliadau Drafft yn ymarferol ac yn darparu manylion ar faterion megis dyddiadau cau, sylwadaethau, tystiolaeth ac ati.
Rhan 1: Cyflwyniad
Mae'r Rhan hon yn nodi teitl, dyddiad cychwyn (1 Ebrill 2027) a chymhwysiad y Rheoliadau Drafft. Mae hefyd yn cynnwys diffiniadau allweddol fel “person penodedig,” “yr Awdurdod,” “sail yr apêl,” a thermau eraill a ddefnyddir drwy'r Rheoliadau Drafft. Mae'r darpariaethau hyn yn sicrhau eglurder a chysondeb o ran y ffordd y caiff y Rheoliadau Drafft eu cymhwyso.
Rhan 2: Ceisiadau o dan adran 38 o’r Ddeddf
Mae Rhan 2 yn ymwneud â'r broses o benderfynu ar geisiadau a wneir o dan adran 38 o'r Ddeddf, lle mae perchennog tir neu barti â buddiant yn gwneud cais i amrywio neu ganslo hysbysiad a roddwyd o dan adran 35 o'r Ddeddf. Mae'n cynnwys:
- yr hyn y mae'n rhaid ei gynnwys mewn cais a pha ddogfennau y mae'n rhaid eu cynnwys gyda chais
- gweithdrefn – rhaid i’r Person Penodedig benderfynu a fydd y cais yn cael ei benderfynu drwy sylwadaethau ysgrifenedig, gwrandawiad, neu ymchwiliad (neu gyfuniad o’r gweithdrefnau hyn) a rhaid iddo hysbysu’r ceisydd a’r Awdurdod.
- rheolau gweithdrefnol manwl – gan gynnwys terfynau amser ar gyfer cyflwyno sylwadaethau, trefniadau ar gyfer gwrandawiadau (gan gynnwys fformatau o bell neu hybrid) neu ymchwiliadau, a rheolau sy'n ymwneud â rhoi tystiolaeth.
Rhan 3: Ceisiadau o dan adran 43 o’r Ddeddf
Mae'r Rhan hon yn ymwneud â'r broses o benderfynu ar geisiadau a wneir o dan adran 43 o'r Ddeddf, i gael ad-daliad ar gyfer treuliau yr aed iddynt gan berchennog tir ar ôl i hysbysiad adran 35 gael ei ganslo. Mae'n nodi'r canlynol:
- yr hyn y mae'n rhaid ei gynnwys mewn cais – gan gynnwys tystiolaeth o wariant.
- terfynau amser – rhaid i geisiadau ddod i law o fewn chwe mis i’r hysbysiad canslo.
- y broses benderfynu – gan gynnwys hysbysu am y dyddiad cychwyn a rheolau gweithdrefnol mewn perthynas â sylwadaethau ysgrifenedig.
Rhan 4: Darpariaethau Atodol
Mae Rhan 4 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol sy'n berthnasol i bob apêl, gan gynnwys:
- Cyflenwi dogfennau – gan gynnwys y gofyniad bod yn rhaid cyflenwi dogfennau y mae'n ofynnol neu y caniateir eu cyflenwi o dan y Rheoliadau Drafft yn ysgrifenedig a bod modd eu cyflenwi'n electronig. Pryd mae'n rhaid cyflwyno copïau dyblyg o ddogfennau;
- Ymestyn terfynau amser a gofyn am ragor o wybodaeth – pwerau’r Person Penodedig i reoli’r broses;
- Arolygiadau safle – sut a phryd y gall y rhain ddigwydd;
- Tynnu ceisiadau yn ôl – y broses ar gyfer tynnu apêl yn ôl cyn penderfyniad;
- Hysbysu am y canlyniad – pwy y mae'n rhaid ei hysbysu am benderfyniad y Person Penodedig.
Pwy y bydd y cynigion hyn yn effeithio arnynt?
Er bod y Rheoliadau Drafft yn nodi'r gweithdrefnau i'w dilyn gan y Person Penodedig, bydd yr ymgynghoriad hwn o fudd i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru ac unrhyw bersonau eraill a all gael eu penodi gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar geisiadau a wneir o dan adrannau 38 a 43 o'r Ddeddf, perchnogion tir lle mae tomen nas defnyddir wedi'i lleoli, perchnogion tir gerllaw tomen, personau sydd â buddiant mewn hysbysiad adran 35 (fel y'i diffinnir yn adran 37(2) o'r Ddeddf), ac unrhyw bersonau a all gefnogi ceiswyr yn ystod y broses gwneud cais neu benderfynu.
Y Camau Nesaf
Bydd yr ymgynghoriad technegol hwn ar y Rheoliadau Drafft a'r Canllawiau Drafft yn para am 12 wythnos. Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, bydd yr holl ymatebion yn cael eu dadansoddi'n ofalus a bydd unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i'r Rheoliadau Drafft a'r Canllawiau Drafft yn cael eu gwneud. Y bwriad yw y bydd Rheoliadau Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Apelau ac Ad-dalu Costau) (Cymru) yn cael eu gosod gerbron y Senedd maes o law, gyda’r Rheoliadau’n dod i rym ar 1 Ebrill 2027.
Cyfle i rannu eich barn
Mae'r ymgynghoriad yn ceisio adborth ar eglurder, terfynau amser, dulliau cyfathrebu a thegwch y gweithdrefnau arfaethedig. Mae cwestiynau'r ymgynghoriad wedi'u nodi yn Atodiad A. Os oes unrhyw faterion eraill yr hoffech wneud sylwadau arnynt wrth ystyried yr ymgynghoriad hwn, byddem yn croesawu eich barn.
Atodiad A: Cwestiynau’r ymgynghoriad
Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad er mwyn ymateb i'r cwestiynau isod.
Barn gyffredinol ar y Rheoliadau drafft
C1 Pa mor ymarferol yw'r gweithdrefnau a nodir yn y Rheoliadau Drafft i'r Person Penodedig wrth benderfynu ar geisiadau, yn eich barn chi?
Rhowch sylwadau, gan gynnwys unrhyw feysydd y gellid eu hegluro.
C2 Ydych chi'n credu bod unrhyw gamau yn y gweithdrefnau y gellid eu symleiddio gan gynnal tegwch a thryloywder?
- Ydw/ydyn
- Nac ydw/nac ydym
Os mai ydw/ydyn oedd eich ateb, rhowch fanylion.
Ceisiadau: gofynion o ran cynnwys a gwiriadau cychwynnol
C3 Ydych chi'n credu bod y gofynion ar gyfer cynnwys ceisiadau o dan adran 38 (Rheoliad 4) ac adran 43 (Rheoliad 21) yn nodi'r wybodaeth sydd ei hangen i benderfynu ar geisiadau?
- Ydw/ydyn
- Nac ydw/nac ydym
Os mai Nac ydw/Nac ydym oedd eich ateb, rhowch sylwadau.
C4. Ydych chi'n credu y dylai'r Rheoliadau Drafft gynnwys cyfnod penodol o amser i'r person penodedig benderfynu a yw cais yn bodloni'r gofynion o ran cynnwys (Rheoliad 4 a Rheoliad 21)?
- Ydw/ydyn
- Nac ydw/nac ydym
Rhowch unrhyw sylwadau
Gweithdrefnau ar gyfer ceisiadau adran 38 ac adran 43
C5. Pa mor deg a chymesur yw'r gweithdrefnau arfaethedig ar gyfer penderfynu ar geisiadau adran 38 (i amrywio neu ganslo hysbysiadau a roddwyd o dan adran 35), yn eich barn chi?
Rhowch sylwadau.
C6. Ydych chi'n credu y dylai ceiswyr adran 43 gael cyfle i ymateb i sylwadaethau'r Awdurdod, ac os felly, pa amserlen fyddai'n ymarferol?
- Ydw/ydyn
- Nac ydw/nac ydym
Os mai Ydw/ydyn oedd eich ateb, rhowch sylwadau.
Terfynau amser a rheoli achosion
C7. Ydych chi'n credu bod y terfynau amser arfaethedig o 4 wythnos ar gyfer sylwadaethau a 2 wythnos ar gyfer sylwadau ar geisiadau adran 38 yn cynnig amserlen resymol ar gyfer ymateb?
- Ydw/ydyn
- Nac ydw/nac ydym
Rhowch sylwadau
Dyfarnu costau
O dan rai cyfundrefnau apelio eraill, gall partïon wneud cais am ddyfarniad costau. Gall dyfarniadau costau fodoli i fynd i'r afael â sefyllfaoedd lle mae un parti wedi ymddwyn yn afresymol ac wedi achosi i barti arall fynd i gostau diangen neu wastraffus o ganlyniad.
C8. Ydych chi'n credu y dylai'r Rheoliadau Drafft gynnwys darpariaeth sy'n caniatáu i'r Person Penodedig ddyfarnu costau mewn gwrandawiadau ac ymchwiliadau lle mae ymddygiad afresymol wedi achosi i barti arall fynd i gostau diangen neu wastraffus o ganlyniad?
- Ydw/ydyn
- Nac ydw/nac ydym
Rhowch sylwadau
Tryloywder hysbysiadau
C9. Ydych chi'n credu y bydd yr ystod o hysbysiadau a roddir gan y Person Penodedig (megis dyddiad cychwyn yr apêl a newidiadau yn y weithdrefn) yn galluogi pob parti i ddeall beth sy'n digwydd a phryd?
- Ydw/ydyn
- Nac ydw/nac ydym
Os mai Nac ydw/Nac ydym oedd eich ateb, rhowch sylwadau.
Canllawiau drafft: eglurder a defnyddioldeb
C10. A oes gennych chi awgrymiadau ar gyfer gwella'r canllawiau drafft (megis newid y strwythur, esboniad ychwanegol neu enghreifftiau ychwanegol)?
Rhowch sylwadau.
Unrhyw sylwadau pellach
C11. A oes unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud ynghylch y Rheoliadau Drafft neu'r Canllawiau Drafft?
Os felly, gallwch eu nodi yma
Y Gymraeg
C12. Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y Rheoliadau Drafft ar yr iaith Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
- Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
- Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?
Sylwadau ategol:
C13. Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y Rheoliadau Drafft er mwyn gwneud y canlynol:
- cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
- liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
C14. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych sylwadau ar unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi.
