Elin Jones AS, y Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Mae Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 yn cael ei chyhoeddi heddiw.
Mae'r gyllideb atodol hon yn darparu nifer o ddyraniadau wedi'u targedu, sy'n adlewyrchu newidiadau a wnaed i'r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2026-27 fel y'i cymeradwywyd gan y Senedd ym mis Ionawr. Mae'n unioni nifer o drosglwyddiadau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn cynnwys addasiadau i gyllideb Cymru i adlewyrchu effaith digwyddiadau cyllidol Llywodraeth y DU.
Mae hefyd yn cyflwyno ailddatganiad o Gyllideb Derfynol 2026-27 yn unol â'r portffolios Gweinidogol newydd ac yn ailddosbarthu cyllidebau blaenorol, sef cyllidebau adnoddau anghyllidol wedi'u clustnodi, i’w gwneud yn Wariant a Reolir yn Flynyddol. Gwneir hyn yn dilyn newid technegol gan Drysorlys Ei Fawrhydi i ddosbarthiad cyllidebau.
Cynhelir dadl ar y Gyllideb Atodol yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 14 Gorffennaf.
