Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Atodol Gyntaf, gan ddyrannu £294m ar draws ei blaenoriaethau allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Mae'r gyllideb heddiw yn cadarnhau cyllid newydd o £20m i roi hwb i'r cyflenwad o dai cymdeithasol, £40m i wella adeiladau ysgol a £5m ar gyfer cyfleusterau cymunedol y mae pobl ledled Cymru yn dibynnu arnynt. Mae hefyd yn cynnwys £10m i sicrhau bod teithio ar fysiau a choetsys yn parhau'n fforddiadwy i bobl ifanc ac i gynyddu gwasanaethau, £2m ar gyfer y taliad plant Cynnal a £2m i roi cyfle i fwy o blant ddysgu nofio.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones:
"Cafodd y Llywodraeth hon ei hethol gyda mandad clir ac mae'n ei ar waith yn gyfrifol ac yn gyflym. Mae'r gyllideb atodol hon yn dangos yr ymrwymiad hwnnw - gwario gyda phwrpas, fel bod pob punt yn gweithio'n galetach dros Gymru.
"Ry'n ni wedi etifeddu pwysau sylweddol - yn yr NHS, mewn gofal plant, ac ar draws gwasanaethau cyhoeddus - ac mae'n rhaid i ni fod yn dryloyw am hynny.
"Mae'r Gyllideb Atodol hon yn canolbwyntio adnoddau ar ein blaenoriaethau mwyaf amlwg: lleihau amseroedd aros yr NHS, ehangu gofal plant, ymestyn prydau ysgol am ddim, a lleddfu pwysau costau byw i deuluoedd."
Mae'r gyllideb yn adeiladu ar gyfres o gyhoeddiadau a wnaed yr wythnos diwethaf. Ar 16 Mehefin, cadarnhawyd buddsoddiad o £55m i helpu cannoedd yn fwy o deuluoedd i gael mynediad at ofal plant a ariennir i'w plant dwy oed.
Ar 18 Mehefin, cadarnhaodd y Llywodraeth hwb o £145m i'r GIG i helpu cleifion i gael eu gweld yn gyflymach, gan gynnwys £25m ar gyfer hybiau llawfeddygol a diagnostig newydd i gyflymu profion canser a diagnostig a £20m ar gyfer gwaith cynnal a chadw hirddisgwyliedig mewn ysbytai a meddygfeydd.
Yn ogystal, ar 22 Mehefin, cyhoeddwyd £15m fel y gall mwy o ddisgyblion ysgol uwchradd o deuluoedd ar Gredyd Cynhwysol gael prydau ysgol am ddim, a hynny mewn pryd ar gyfer y tymor newydd.
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Nid cyllid newydd yn unig sydd dan sylw fan hyn - mae e'n ymwneud hefyd â dechrau ailsiapio'r ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio, ar ôl 27 mlynedd o lywodraeth flaenorol.
"Bydd y Llywodraeth newydd hon yn sicrhau bod pob punt yn cyflawni canlyniadau gwell – gwell gofal plant, gwell gofal iechyd a gwell gwasanaethau cyhoeddus i bobl Cymru."
Mae'r Gyllideb yn cael ei chyhoeddi heddiw a bydd dadl a phleidlais yn cael ei chynnal arni ar 14 Gorffennaf.
