Siân Gwenllian AS, Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gryfhau democratiaeth yng Nghymru. Yn dilyn llwyddiant y peilotau Cofrestru Pleidleiswyr Awtomatig a gynhaliwyd yn Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Casnewydd a Phowys y llynedd, ynghyd ag gwerthusiad gan y Comisiwn Etholiadol, rwyf heddiw wedi gosod rheoliadau ganiatáu cyflwyno cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ledled Cymru cyn etholiadau Llywodraeth Leol 2027. Fel rhan o hyn, bydd Awdurdodau Lleol yn cynnal ymarferion paru data i nodi etholwyr posibl, eu hysbysu am y broses a’u hawl i optio allan, a’u hychwanegu at y gofrestr llywodraeth leol. Yn amodol ar ewyllys y Senedd, bydd y rheoliadau hyn yn dod i rym yn yr hydref.
Hoffwn ddiolch i’r Comisiwn Etholiadol, Cymdeithas Gweinyddwyr Etholiadol, a Swyddogion Cofrestru Etholiadol a’u timau am eu cymorth hyd yma wrth ddatblygu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yng Nghymru. Rwy’n ddiolchgar ymlaen llaw am eu cydweithrediad parhaus wrth i ni baratoi i’w weithredu ar draws holl awdurdodau lleol Cymru.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r gymuned etholiadol ac yn darparu’r gefnogaeth angenrheidiol iddi wrth i’r gwaith hwn fynd yn ei flaen ar gyflymder, er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni’n ofalus ac yn effeithiol. Byddwn hefyd yn parhau â thrafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch ei chynlluniau i symud tuag at gofrestru heb gais, gan geisio lleihau unrhyw wahaniaethau lle bynnag y bo modd.
Mae Cymru yn arwain y ffordd o ran cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn y DU. Bydd y rheoliadau hyn yn helpu i wella cywirdeb a chyflawnder y gofrestr etholiadol llywodraeth leol, gan fod yn gam pwysig tuag at gryfhau ein democratiaeth.
